Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU ac rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais.
Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun hwn yw dydd Mercher, 30 Mehefin 2021.
Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig ystod o gymorth am ddim i helpu dinasyddion yr UE i fyw a gweithio yng Nghymru. Mae hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor am ddim i helpu i ddiogelu statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog.
Mae’r pecyn cymorth parhaus hwn yn cynnwys:
- Cymorth digidol ar gyfer ceisiadau am statws preswylydd sefydlog neu help ag ymholiadau cyffredinol ynghylch pwy sy’n gymwys gan Gyngor ar Bopeth
- Cyngor ar faterion llesiant cymdeithasol a hawliau yn y gweithle
- Cyngor arbenigol am ddim ar fewnfudo i bobl ag anghenion cymhleth, gan y cwmni cyfreithiol Newfields Law, sy’n arbenigo mewn cyfraith fewnfudo
- Gwasanaethau allgymorth ar gyfer grwpiau anodd eu cyrraedd ac agored i niwed.
Yn ddiweddar, mae’r ddarpariaeth gyllid wedi’i hymestyn i sicrhau bod modd i Newfields Law, Settled a Chyngor ar Bopeth barhau i roi cyngor i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn benodol i grwpiau agored i niwed y gall y broses o ymgeisio am statws preswylwyr sefydlog fod yn heriol iddynt.
Bydd gan holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yr hawl i fyw a gweithio yn y DU, ynghyd â’r hawl i wasanaethau fel gofal iechyd, tai, addysg a’r hawl i bleidleisio hyd nes y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Mae’n rhaid i ddinasyddion yr UE gyflwyno cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn 30 Mehefin er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n breswylwyr cyfreithiol yn y DU a’u bod yn parhau i gael mynediad at eu holl hawliau.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a’n cymdeithas – mae croeso yma i chi.
Gan fod llai na 30 diwrnod ar ôl i wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog, rwy’n annog yn gryf unrhyw un sydd heb ymgeisio eto i wneud hynny. Mae llawer o gymorth am ddim ar gael i’ch helpu, ni waeth beth yw eich amgylchiadau na lle yng Nghymru rydych chi’n byw.
Rydyn ni’n parhau’n bryderus am y nifer o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n hŷn neu’n agored i niwed sydd heb ymgeisio eto. Os oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu sydd angen ymgeisio, helpwch nhw i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt.
Mae’r sefydliad Settled yn un o’r nifer sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnig cymorth am ddim i ddinasyddion yr UE wrth gyflwyno’u ceisiadau.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Settled, Kate Smart:
Bob wythnos, mae miloedd o bobl yn cysylltu â Settled i gael cymorth â’u ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog. Mae hyn yn cynnwys nifer sydd wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers degawdau, ac sydd ond newydd sylwi bod yn rhaid iddyn nhw ymgeisio o dan y cynllun hefyd.
Mae gan nifer mawr o’r preswylwyr hirdymor hyn yn y Deyrnas Unedig gerdyn preswylydd parhaol ac maen nhw’n poeni’n arw.
Mae ein neges yn syml; peidiwch â chymryd yn ganiataol nad yw’r cynllun hwn yn berthnasol i chi – gwiriwch fod eich statws yn ddilys. Mae Settled yma i helpu pawb sydd wedi cael anawsterau â’u cais i’r Cynllun hwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau Paratoi Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.