Cyfarfod, Dogfennu
Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Cyfarfod y Grŵp Rhanddeiliaid Arbenigol: 27 Tachwedd 2020
Cofnodion o’r cyfarfod rhithwir a gynhaliwyd 27 Tachwedd 2020.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 106 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Agenda / Materion a drafodwyd
1. Rhannu gwybodaeth am Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys
2. Diweddariad ar y Ddeddf:
- Cyffredinol
- Rhaglen weithredu
- Cyfathrebu ac adborth ynghylch yr hysbysebion teledu
3. Diweddariad gan randdeiliaid ar weithgarwch sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf
4. Camau nesaf a gorffen
Camau gweithredu / Penderfyniadau
- Bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu’r ddolen gyswllt â’r Memorandwm Esboniadol - Mae gwybodaeth am ddatrysiadau y tu allan i’r llys i’w gweld ar dudalennau 77-78
- Dylai aelodau’r grŵp hysbysu Llywodraeth Cymru os ydynt yn dymuno bod yn rhan o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Weithrediadau, Canllawiau a Hyfforddiant
- Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu Adroddiad Blynyddoedd Cynnar y Sefydliad Brenhinol – Crynodeb Gweithredol / Adroddiad llawn
- Bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu’r cynllun gwaith ar gyfer gweithredu ar lefel uchel
- Bydd yr NSPCC yn rhannu’r papur briffio ynghylch camdriniaeth gorfforol: https://learning.nspcc.org.uk/research-resources/2020/coronavirus-insight-briefing-physical-abuse
- Bydd yr NSPCC yn rhannu erthygl Children & Young People Now: https://www.cypnow.co.uk/blogs/article/calls-for-english-smacking-ban
- Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu Siarad gyda fi, y cynllun cyflawni ar gyfer lleferydd ac iaith: https://llyw.cymru/lleferydd-iaith-chyfathrebu-cynllun-cyflawni-2020-i-2021
- Dylai aelodau’r grŵp rannu unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer cyflwyniadau rhagarweiniol yn y canolbarth / gorllewin / gogledd
- Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu erthygl Nursery World
- Bydd arweinydd polisi rhianta Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag Achub y Plant i drafod adborth am ofynion ymarferwyr ynghylch Magu Plant. Rhowch amser iddo
- Roedd y grŵp yn fodlon â’r cysyniadau creadigol ar gyfer y ddwy hysbyseb deledu