Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rydym yn ailddechrau cyhoeddi diweddariadau ffeithiol rheolaidd ar ein Rhaglen Frechu COVID-19, ar ôl saib ar ddechrau’r cyfnod cyn-etholiadol.
Mae pawb sydd ynghlwm wrth ein Rhaglen Frechu COVID-19 wedi parhau i weithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf ac o ganlyniad i’r gwaith caled hwnnw gwnaethom gyrraedd ail garreg filltir ein rhaglen ar 4 Ebrill, yn gynt na’r dyddiad a nodwyd yn ein Strategaeth Frechu. Golyga hyn ein bod wedi cynnig brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9. Mae byrddau iechyd ledled Cymru yn cynnig brechlyn i bobl 40 mlwydd oed a hŷn. Mae rhai eisoes wedi cyrraedd y trothwy o 50% sy’n eu galluogi i gynnig brechlyn i’r grŵp oedran nesaf felly mae pobl yn eu 30au hefyd yn cael eu gwahodd.
Mae’r ffaith ein bod yn cynnal y gyfradd frechu orau ar gyfer dos cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn dyst i waith caled ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phawb sy’n gweithio ar y rhaglen frechu. Mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Roeddem yn drydydd yn y byd yr wythnos ddiwethaf– y tu ôl i’r Emiraethau Arabaidd Unedig ac Israel.
Mae mwy na dau o bob tri o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf. Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod ein timau brechu rhagorol nawr wedi darparu 1,699,092 o ddosau cyntaf a 610,882 o ail ddosau. Golyga hyn eu bod wedi darparu cyfanswm o 2,309,974 o frechiadau.
Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu. Dylai unrhyw rai yng ngrwpiau 1-9 sydd heb eto glywed am eu hapwyntiad gysylltu â’u bwrdd iechyd. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae ail gam y rhaglen yn mynd rhagddi’n dda ac mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (‘y Cyd-bwyllgor’) wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar gyfer y cam hwn o’r rhaglen. Mae’r cyngor yn cadarnhau mai'r ffordd gyflymaf o frechu pawb yw parhau â’r dull seiliedig ar oedran ar gyfer gweddill y boblogaeth, gan ddechrau gyda'r oedolion hynaf yn gyntaf. Ar yr un pryd, dylid parhau i geisio estyn y cwmpas i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9. Byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor hwn yng Nghymru.
Cyflenwad yw’r ffactor sy’n cyfyngu ar ein rhaglen. Rydym yn ymwybodol o ostyngiad disgwyliedig yn y cyflenwad o’r brechlyn Moderna i’r DU. Rydym wrthi’n ystyried beth fydd hyn yn ei olygu i’n rhaglen yng Nghymru. Byddwn yn parhau i drafod y mater â Llywodraeth y DU, gan ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cyrraedd y cerrig milltir yn ein strategaeth genedlaethol.
Rydym wedi’i gwneud yn glir drwy gydol y rhaglen y bydd diogelwch pobl bob amser yn dod yn gyntaf. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn ofalus ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (‘yr Asiantaeth’), yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddiogelwch.
Mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn i fenywod beichiog yr un pryd â menywod nad ydynt yn feichiog, ar sail eu grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol. Erbyn hyn, mae tystiolaeth helaeth ar gael o’r defnydd o’r brechlynnau Pfizer a Moderna yn yr Unol Daleithiau ar ôl eu rhyddhau ar y farchnad, heb unrhyw signalau diogelwch hyd yma. Felly, y brechlynnau hyn yw’r rhai a ffefrir ar gyfer menywod beichiog. Dylai clinigwyr drafod risgiau a manteision brechu â’r fenyw, a dylid dweud wrthi am y dystiolaeth gyfyngedig, ond sy’n dod i’r amlwg, ynghylch diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd. Y cyngor i fenywod beichiog sydd wedi dechrau cael eu brechu gyda’r brechlyn AstraZeneca yw parhau â’u cwrs brechu gyda’r un brechlyn.
Mae pennod 14a y Llyfr Gwyrdd hefyd yn cadarnhau y gall menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd, sydd newydd roi geni, neu sy’n bwydo ar y fron gael eu brechu gydag unrhyw frechlyn, yn unol â’u grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol.
Mae'r Asiantaeth wedi cyhoeddi cyngor newydd sy'n nodi bod cysylltiad posibl rhwng Brechlyn COVID-19 AstraZeneca a ffurf eithriadol o brin o glotiau gwaed. Mae'r risg yn fath penodol a phrin iawn o glot gyda chyfrif platennau isel (a elwir yn thrombosytopenia). Mae manteision brechu yn parhau i fod yn fwy nag unrhyw risgiau ond mae’r Asiantaeth yn cynghori y dylid rhoi ystyriaeth ofalus i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael mathau penodol o glotiau gwaed oherwydd cyflyrau meddygol.
Mae’r Cyd-bwyllgor hefyd wedi cyhoeddi cyngor mewn perthynas â defnyddio’r brechlyn AstraZeneca yr ydym yn ei ddilyn. Maent wedi dweud y canlynol:
- Dylai'r rhai rhwng 18 a 29 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes gael brechlyn COVID-19 amgen pan fo dewis arall ar gael
- Dylai'r bobl hynny sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca barhau i gael yr ail ddos
- Dylid rhoi gwybodaeth i unigolion sy'n cael cynnig brechiad a dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod â’r wybodaeth ddiweddaraf i adlewyrchu'r ystyriaethau hyn
Rydym yn cymryd y cyngor hwn o ddifri a byddwn yn sicrhau bod y cyngor wedi'i ddiweddaru er diogelwch pobl. Bydd y GIG yng Nghymru yn rhoi’r cyngor ar waith mor effeithlon â phosibl a bydd yn sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael ar yr adeg iawn i unigolion. Bydd y rhai o dan 30 oed yn cael cynnig brechlyn amgen. Mae hwn yn fesur rhagofalus ac i’r rhan fwyaf o'r boblogaeth, ystyrir bod y brechlyn AstraZeneca yn frechlyn diogel ac effeithiol o hyd.
Dylai pobl sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca barhau i gael yr ail ddos. Rwy’n parhau i annog pawb i dderbyn eu gwahoddiad i gael brechiad ac fe fyddaf i’n cael fy ail ddos innau o’r brechlyn AstraZeneca pan gaf fy ngwahodd. Diolch i bawb sydd wedi parhau i wneud eu rhan dros Gymru ac wedi cefnogi ein rhaglen frechu genedlaethol drwy gadw eu hapwyntiadau. Mae pob un dos yn cyfrif.