Nod y gwerthusiad oedd darparu tystiolaeth annibynnol i lywio polisi a phenderfyniadau cyflenwi o bosib yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyflwynwyd y Rhaglen Beilot Bwndeli Babi o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gan roi anrheg ‘croeso i’r byd' i 200 o deuluoedd.
Nod y gwerthusiad oedd darparu tystiolaeth annibynnol i lywio polisi a phenderfyniadau cyflenwi o bosib yn y dyfodol.
Cynlluniwyd y broses weithredu'n ofalus, ac er gwaethaf yr anawsterau ychwanegol a gododd yn sgil y cyfyngiadau COVID-19, gweithredwyd y cynllun yn ddidrafferth.
Dywedodd rhieni fod y broses o glywed am y bwndeli, cofrestru ar eu cyfer a'u derbyn yn glir ac yn syml.
Yn gyffredinol, cafwyd sylwadau cadarnhaol iawn ar gynnwys y bwndel. Pe bai'r fenter yn cael ei chyflwyno ymhellach, ni fyddai angen newid cynnwys y bwndeli rhyw lawer.
Yr eitemau mwyaf defnyddiol oedd eitemau ymarferol amrywiol fel y llieiniau, padiau mamolaeth, padiau'r fron a hufen tethi.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r Rhaglen Beilot Bwndeli Babi , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 07747 248237
E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.