Mae ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd ddydd Llun 15 Chwefror, yn annog grwpiau newydd o bobl sy'n byw yng Nghymru i leisio eu barn yn yr etholiadau sydd i ddod.
Cafodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2020. Estynnodd y bleidlais yn etholiadau'r Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru. Yr etholiad cyntaf ar gyfer y grwpiau newydd hyn fydd etholiadau'r Senedd a gynlluniwyd ar gyfer mis Mai 2021.
Mae Llywodraeth Cymru’n annog pawb o bob cefndir yng Nghymru i ddefnyddio eu llais i sicrhau newid democrataidd drwy bleidleisio.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
"Mae gwir ddemocratiaeth yn golygu bod pawb yn cymryd rhan ac yn dweud eu dweud. Defnyddio eich pleidlais yw un o'r ffyrdd y gallwch leisio'ch barn.
"Mae etholiadau'r Senedd sydd ar y gweill yn gyfle cyffrous i bleidleiswyr newydd 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys ddefnyddio eu pleidlais am y tro cyntaf i lywio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i greu Cymru sy'n gweddu i anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae hefyd yn gyfle perffaith i'r rhai nad ydynt fel arfer yn defnyddio eu pleidlais i ddweud eu dweud a chyfrannu at adnewyddu democrataidd yng Nghymru. Drwy gymryd rhan yn yr etholiadau hyn ac etholiadau yn y dyfodol, bydd eich llais a'ch barn yn helpu i lywio twf a newid cadarnhaol yng Nghymru.
“Mae uchelgais Llywodraeth Cymru o adeiladu Cymru fwy cyfartal, sy'n cynrychioli anghenion pob dinesydd a phob cymuned yng Nghymru, yn dibynnu ar glywed llais pob oedran, pob grŵp cymunedol a phob rhan o’r gymdeithas yng Nghymru. Drwy gymryd rhan, gallwch ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eich ardal leol a Chymru gyfan.
“Edrychaf ymlaen at glywed eich barn a'ch lleisiau yn yr etholiadau nodedig sydd i ddod."