Swyddogion etholedig ar wahanol lefelau llywodraeth yw eich cynrychiolwyr lleol. Maen nhw’n siarad ar eich rhan chi a’r gymuned.
Gallwch gysylltu â’ch cynrychiolydd i drafod materion sy’n bwysig i chi.
Aelodau Senedd Cymru
Pobl Cymru sy’n ethol Aelodau’r Senedd (ASau). Mae Aelodau Senedd Cymru’n cynrychioli pobl sy’n byw yn yr etholaeth neu ranbarth y cawsant eu hethol i’w gwasanaethu.
Edrychwch i wybod pwy yw eich Aelod o’r Senedd a sut i gysylltu ag ef/hi.
Y Senedd sy’n gwneud deddfau ar gyfer Cymru. Mae ganddi lawer o bwerau dros feysydd gan gynnwys:
- datblygu’r economi
- trafnidiaeth
- cyllid
- llywodraeth leol
- iechyd
- tai
- y Gymraeg
- trethi Cymru
Yn y Senedd, cewch eich cynrychioli gan un Aelod Rhanbarthol ac un Aelod Etholaethol.
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw ein llywodraeth ddatganoledig ni. Fel arfer, y blaid â’r nifer uchaf o Aelodau yn Senedd Cymru fydd yn ffurfio’r llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnwys:
- Prif Weinidog Cymru
- Gweinidogion Cymru
- Y Cwnsler Cyffredinol
Mae gweision sifil yn gweithio i gefnogi’r llywodraeth yn y meysydd datganoledig, gan gynnwys iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Cynghorwyr
Cynghorwyr awdurdodau lleol
Mae cynghorwyr yn cynrychioli eich ardal leol chi o fewj eich awdurdod lleol. Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r cynghorau’n darparu llawer o wasanaethau gan gynnwys:
- cynllunio a rheoli adeiladu
- addysg
- safonau masnachu
- trwyddedu alcohol, adloniant a gamblo
- iechyd a diogelwch
- llyfrgelloedd, hamdden a thwristiaeth
- iechyd yr amgylchedd, sbwriel ac ailgylchu
- trafnidiaeth a phriffyrdd
- tai
- gwasanaethau cymdeithasol.
Dod o hyd i’ch cynghorydd lleol.
Cynghorwyr tref a chymuned
Mae 735 o gynghorau cymuned yng Nghymru, gyda dros 8,000 o gynghorwyr.
Cynghorau tref a chymuned sy’n cynrychioli’r gymuned leol ac yn darparu rhai gwasanaethau ar ran y gymuned, e.e. cynnal a chadw’r canlynol:
- neuaddau cymuned
- cysgodfeydd bws
- mannau cyhoeddus
- meysydd chwarae plant.
Cewch fanylion y cynghorau tref a chymuned lleol ar wefan eich cyngor.
Aelodau Seneddol San Steffan
Cewch gysylltu â’ch Aelod Seneddol yn Llundain am faterion y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt, fel:
- materion tramor
- amddiffyn a diogelwch cenedlaethol
- mewnfudo.
Edrychwch i weld pwy yw eich Aelod Seneddol a sut i gysylltu ag ef/hi.