Pwy ddylai wneud y profion a sut mae dehongli’r canlyniadau.
Cynnwys
Trosolwg
Mae profion llif unffordd yn cael eu defnyddio i ganfod pobl sydd â COVID-19.
Mae profion llif unffordd yn hawdd eu defnyddio ac yn rhoi canlyniadau mewn 10 i 30 munud yn ddibynnol ar ba fath o brawf sydd gennych.
Sut mae profion llif unffordd yn gweithio
Mae llif unffordd yn dechnoleg sefydledig sydd wedi’i haddasu i ganfod proteinau sy’n bresennol pan fo gan rywun COVID-19. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus o brawf llif unffordd yw’r pecyn profi beichiogrwydd gartref.
Dyfais llaw yw’r pecyn prawf sydd â phad amsugnol ar y naill ben a ffenestr ddarllen ar y llall. Y tu mewn i’r ddyfais, ceir stribed o bapur profi sy’n newid lliw os oes proteinau COVID-19 yn bresennol.
Sut i gymryd prawf llif unffordd COVID-19
Gwiriwch y dyddiad dod i ben ar y prawf cyn ei gymryd. Peidiwch â defnyddio hen brofion.
Mae canllawiau cam wrth gam ar gyfer profion COVID-19 trwyn yn unig Getein Biotech ar gael yma.
Mae’r cyfarwyddiadau hyn hefyd ar gael mewn ieithoedd gwahanol ac mewn fformatau mwy hygyrch, gan gynnwys fformat hawdd ei ddeall, sain, braille, print bras a phrint enfawr.
Os oes gennych brawf gwahanol, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y bocs.
Beth ddylech chi ei wneud gyda’ch canlyniadau
Os yw eich canlyniad yn bositif a’ch bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19, dylech roi gwybod am eich canlyniad positif gan ddefnyddio Ffurflen Hunangyfeirio Gwrthfeirol COVID-19 GIG 111 Cymru. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd gallwch roi gwybod am eich canlyniad drwy ffonio 111. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ynghylch rhoi gwybod am ganlyniadau profion a chael mynediad at driniaeth ar ein tudalennau triniaethau COVID-19.
Os nad ydych chi'n gymwys i gael triniaethau COVID-19, a bod eich canlyniad yn bositif, peidiwch â rhoi gwybod am eich canlyniad ar unrhyw un o wefannau’r llywodraeth, na’r GIG. Dylech aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill nes y byddwch yn teimlo’n well. Peidiwch ag ymweld â chartrefi gofal, ysbytai na mannau lle gwyddoch y bydd pobl sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19. Darllenwch ein canllawiau i bobl â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.