115/20: Teithio llesol a chynlluniau gwella cefnffyrdd
Mae'r nodyn cyngor hwn yn pennu canllawiau ar gyfer teithio llesol a chynlluniau gwella cefnffyrdd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfarwyddiadau ar gyfer eu defnyddio
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â phob gwelliant i gefnffyrdd yng Nghymru
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru am alluogi cymaint o bobl â phosibl i gerdded, beicio a theithio yn gyffredinol drwy ddefnyddio dulliau mwy llesol. Bydd hyn yn cynnig manteision iechyd i fwy o bobl, yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais ac yn helpu economi Cymru i dyfu drwy ddatgloi twf economaidd cynaliadwy.
Un o'r prif gamau o ran cyflawni'r nodau hyn oedd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel y Ddeddf Teithio Llesol) a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013. Creodd ddyletswyddau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Gweinidogion Cymru. Rhoddodd hefyd bwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno canllawiau ar leoliad, natur a chyflwr llwybrau a chyfleusterau teithio llesol er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'w defnyddio.
Mae gwaith ymchwil yn dangos mai pryderon am eu diogelwch yw'r prif ffactor sy'n atal llawer o bobl rhag cerdded a beicio. Mae'r pryderon hyn yn ymwneud yn bennaf â'r seilwaith presennol, megis cyffyrdd anodd. Mae dyluniad seilwaith teithio llesol yn hanfodol wrth fynd i'r afael â phryderon o ran diogelwch, boed yn bryderon gwirioneddol neu ganfyddedig, ac felly mae'n allweddol o ran cyflawni'r nod o gynyddu teithio llesol.
Mae eisoes yn ofynnol ystyried y cyngor a nodir yn y Canllawiau Teithio Llesol cyfredol cyn cynllunio a dylunio seilwaith teithio llesol newydd ar gefnffyrdd. Caiff hyn ei bwysleisio gan ofynion Atodiadau Cymru i safonau unigol y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
Mae'r PAG hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau cefnffyrdd gael eu cynllunio, eu dylunio a'u gweithredu mewn ffordd gyfannol ar draws ffiniau awdurdodau priffyrdd, gan sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at hyrwyddo teithio llesol.
Cwmpas
Mae'r PAG hwn yn berthnasol i'r gwaith o gynllunio, dylunio a gweithredu pob cynllun gwella ar gefnffyrdd yng Nghymru. Nid yw'r canllawiau yn berthnasol i waith cynnal a chadw cefnffyrdd.
Darpariaeth Teithio Llesol ar gynlluniau gwella cefnffyrdd
Cyn cynllunio, dylunio a gweithredu cynlluniau gwella cefnffyrdd, mae'n rhaid i ddylunwyr wneud y canlynol:
- Deall y dyletswyddau y mae'r Ddeddf Teithio Llesol wedi'u gosod ar Weinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau. Yn benodol:
Adran 9 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i wella'r ddarpariaeth i gerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol (gan gynnwys y gwaith o adeiladu, cynnal a chadw neu wella ffyrdd) o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (a Deddfwriaeth Briffyrdd eraill), lle y bo'n ymarferol gwneud hynny.
Adran 10 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn ffordd sydd wedi'i chynllunio i hyrwyddo teithiau teithio llesol a sicrhau llwybrau a gwasanaethau teithio llesol newydd a gwell;
- Ystyried y cyngor yn y Canllawiau Teithio Llesol cyfredol yn llawn.
Mae'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn cynrychioli'r arferion gorau o ran nodi, datblygu, arfarnu a gwerthuso ymyriadau teithio yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu drwy ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â gofyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cyflawni gwaith datblygu cynaliadwy. Gall Teithio Llesol gyfrannu at bob un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n rhaid cymhwyso proses WelTAG at bob prosiect trafnidiaeth sydd wedi'i ariannu'n rhannol neu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r rhwydwaith cefnffyrdd.
Mae'n rhaid i angen, natur a graddau unrhyw welliant i gefnffordd gael eu pennu drwy gymhwyso proses WelTAG. Bydd proses WelTAG hefyd yn helpu i sefydlu natur a graddau'r ddarpariaeth Teithio Llesol a'r trefniadau hyrwyddo ar gyfer y ddarpariaeth honno i'w cynnwys yn y gwelliant yn amodol ar gydymffurfiaeth â'r Ddeddf Teithio Llesol a pholisi a strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol.
Mae'n rhaid i ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori WelTAG gynnwys Fforymau Teithio Llesol a Mynediad Lleol ynghyd â phob partner a grŵp cyflenwi arall.
Mae'n rhaid ystyried diweddaru neu ailgynnal astudiaethau WelTAG ar gynlluniau gwella cefnffyrdd, os bydd mwy na 3 blynedd wedi mynd heibio.
Mae'n rhaid i'r holl seilwaith teithio llesol ar gynlluniau gwella cefnffyrdd gael ei ddylunio yn unol â'r Canllawiau Teithio Llesol Cyfredol.
Dylid cadw llwybr archwilio clir o'r penderfyniadau Teithio Llesol a wnaed wrth gynllunio, dylunio a gweithredu'r cynllun gwella cefnffyrdd er mwyn llywio arferion yn y dyfodol ac ysgogi gwelliant parhaus o ran datblygu a hyrwyddo Teithio Llesol. Mae'n rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth yn esbonio'n llawn pam na ddilynwyd y canllawiau, wedi'i chymeradwyo gan Brif Beiriannydd Priffyrdd Llywodraeth Cymru, ar gyfer pob achos o ddiffyg cydymffurfiaeth â'r Canllawiau Teithio Llesol. Bydd penderfyniad y Prif Beiriannydd Priffyrdd i gymeradwyo unrhyw wybodaeth o'r fath yn seiliedig ar argymhelliad gan Banel Adolygu Technegol, a fydd yn gwbl annibynnol ar dîm y prosiect ac yn cynnwys o leiaf un aelod sy'n meddu ar wybodaeth arbenigol am deithio llesol.
Yn ogystal â hyn, o fewn yr ardal ddaearyddol uniongyrchol lle mae astudiaethau WelTAG yn awgrymu y gallai'r cynllun gwella cefnffyrdd sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at wella Teithio Llesol, mae'n rhaid cymryd camau rhesymol i wneud y canlynol:
- Uwchraddio unrhyw seilwaith teithio llesol sy'n bodoli eisoes ar gefnffyrdd yn unol â safonau'r Canllawiau Teithio Llesol cyfredol;
- Gweithio gyda'r awdurdod lleol i gwblhau unrhyw lwybrau ar ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol ar y cyd â chwblhau'r cynllun gwella cefnffyrdd;
- Gweithio gyda'r awdurdod lleol i uwchraddio unrhyw seilwaith teithio llesol sy'n bodoli eisoes er mwyn cyrraedd safonau'r Canllawiau Teithio Llesol cyfredol ar y cyd â chwblhau'r cynllun gwella cefnffyrdd.
Amodau tynnu yn ôl
Bydd y PAG hwn yn parhau i fod yn weithredol hyd nes y caiff y canllawiau hyn naill ai eu disodli gan PAG arall neu y caiff y canllawiau yn y PAG eu cynnwys mewn atodiad sy'n benodol i Gymru i Safon ddiwygiedig yn y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
Cysylltiadau
Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r PAG hwn i: StandardsFeedbackandEnquiries@llyw.cymru