Gwybodaeth reoli ddiweddaraf am stoc a dosbarthiad y brechlynnau coronafeirws ar 28 Ionawr 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhaglen frechu COVID-19 (stoc a dosbarthiad)
Ystadegau ynglŷn rhaglen frechu COVID-19 (stoc a dosbarthiad):
- Dosau COVID-19 nad oeddent yn addas i'w defnyddio, yn ôl y math o frechlyn
Mae'r data hyn wedi cael eu cyhoeddi er mwyn darparu crynodeb wythnosol ar raglen frechu coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.
Defnyddir data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer unrhyw ddosau o frechlyn nad ydynt yn addas i'w defnyddio.
Gwybodaeth reoli yw'r data a chânt eu diwygio'n rheolaidd. Nid ydynt wedi cael eu dilysu yr un modd â datganiadau ystadegol swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn er mwyn darparu crynodeb wythnosol o’r rhaglen frechu yng Nghymru.
Nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys ystadegau am y bobl sydd wedi cael eu brechu. Caiff data ar y brechiadau a roddir eu cyhoeddi bob dydd a phob wythnos, a hynny ar Ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r data wythnosol yn rhoi dadansoddiadau manylach.
Mewn datganiadau yn y dyfodol, rydym yn bwriadu cynnwys data ar ddosau sydd wedi’u dyrannu i Gymru yn ogystal â gwastraff. Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i ni beidio cyhoeddi data stoc brechlyn oherwydd sensitifrwydd masnachol cyfredol. Rydym yn gweithio ar draws y 4 gwlad i gytuno dull ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth stoc a byddwn yn diweddaru pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Rhaglen frechu COVID-19 (stoc a dosbarthiad), ar 28 Ionawr 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.