Dadansoddiad meintiol o ddata a gasglwyd gan fusnesau bach a chanolig ar eu barn ar ardrethi annomestig, gan ganolbwyntio ar ryddhad ardrethi i fusnesau bach.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ymwybyddiaeth o’r cynlluniau ardrethi annomestig a’r farn amdanynt
Prin oedd yr ymwybyddiaeth o’r cynlluniau ardrethi annomestig. Gallai hynny fod yn arwydd o ddefnyddioldeb yr ymgyrch gyfathrebu am ardrethi annomestig. Y cynllun mwyaf adnabyddus oedd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Mynegwyd sawl barn ynghylch pam na fyddai busnes wedi cael yr help cywir gyda’i ardrethi, gan awgrymu mai un o nifer o feini tramgwydd yw ymwybyddiaeth.
Roedd y mwyafrif a holwyd am ryddhad ardrethi busnes yn credu bod cynlluniau rhyddhad ardrethi yn:
- helpu busnesau bach i oroesi
- yn galluogi busnesau bach i oroesi mewn cymunedau gwledig diarffordd
- cynnig help i fusnesau bach i oroesi mewn cymunedau difreintiedig
Busnesau sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach
Roedd busnesau sy’n cyflogi nifer fach o weithwyr yn fwy tebygol o gael rhyddhad ardrethi busnesau bach na busnesau sy’n cyflogi mwy o weithwyr. Roedd busnesau oedd o dan straen yn fwy tebygol o beidio â chael rhyddhad ardrethi. Teimlwyd bod rhyddhad ardrethi yn bwysig ac yn effeithio ar wahanol agweddau ar fasnachu mewn amrywiaeth o fusnesau gwahanol.
Gweithgareddau busnes: busnesau sy’n derbyn rhyddhad ardrethi busnes
Cafwyd mwy o ymateb gan fusnesau 'cyfanwerthu, manwerthu' a 'Gwestai, gwasanaethau eraill' na mathau eraill o fusnesau. Roedd rhai busnesau 'cyfanwerthu, manwerthu’ oedd yn cael rhyw fath o help yn teimlo eu bod o dan straen. Gallai hyn awgrymu nad yw’r cymorth presennol yn ddigon i rai busnesau.
Gallai canfyddiadau gwahanol ynghylch cynnydd mewn gorbenion fod yn arwydd mai busnesau ‘cyfanwerthu, manwerthu’ a ‘gwestai, gwasanaethau eraill’ sy’n teimlo’r straen fwyaf. Fodd bynnag, mae maint y sampl ar gyfer rhai mathau o fusnesau yn fach. Felly, mae casgliadau felly ond yn dangos tueddiadau posibl o ran barn a phrofiadau busnesau bach yng Nghymru.
Adroddiadau
Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach: dadansoddiad o arolwg , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Ellie Brodie
Rhif ffôn: 0300 062 2126
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.