Eluned Morgan, Y Gweinidog Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Hoffwn dynnu sylw Aelodau at adroddiad Effaith Covid-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg – canfyddiadau arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar sut rydym yn ymwneud â phobl eraill yn ein cymunedau. Mae hefyd wedi gwneud i ni feddwl am sut y gallai hyn effeithio ar grwpiau cymunedol Cymraeg, sy'n allweddol o ran galluogi pobl i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.
Sefydlais Is-grŵp Cynyddu Defnydd y Gymraeg, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, o dan gadeiryddiaeth y Dr Simon Brooks, i gynnal adolygiad o effaith Covid-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd gan yr Is-grŵp fel rhan o'u hadolygiad, sy’n ein helpu i ddeall sut mae grwpiau cymunedol Cymraeg wedi ymateb ers dechrau’r argyfwng.
Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Simon am ei arweiniad, i aelodau’r Is-grŵp ac i’r Mentrau Iaith am eu gwaith trylwyr a chyflym i gyflawni’r gwaith pwysig hwn.