Yn y canllaw hwn
3. Byw ar ben eich hun
Mae oedolion sy’n byw ar ben eu hunain yn cael disgownt ar y Dreth Gyngor. Mae disgownt ar gael hefyd pan fo un oedolyn yn byw gyda rhai grwpiau o bobl:
- Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo cewch ddisgownt o 25% ar eich Treth Gyngor
- Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo a’ch bod yn un o’r categorïau isod, gallech gael disgownt o 50%
- Os taw chi yw’r unig oedolyn sy’n byw gydag un neu fwy o bobl yn un o’r categorïau isod, cewch ddisgownt o 25%
- Os ydych yn byw gydag un neu fwy o bobl sydd yn un o’r categorïau isod a’ch bod chi hefyd yn un o’r categorïau, gallech gael 50% o ddisgownt.
Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.