Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Tymor hir

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Gronfa Rheoli Heintiau gwerth £600m ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ar 15 Mai. Nod y gronfa hon yw lleihau lledaeniad COVID-19 mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill. Mae Cymru wedi cael cyllid, a'r bwriad yw darparu cymorth ariannol i weithwyr gofal i ddileu unrhyw gymhelliant ariannol i staff barhau i weithio lle gallant achosi risg o haint. Bydd y cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn ychwanegu at dâl gweithwyr gofal a fyddai fel arall yn cael tâl salwch statudol yn unig hyd at lefel eu cyflog llawn pan fyddant yn absennol o'r gwaith am resymau'n ymwneud â COVID-19.

Yn y tymor canolig a'r tymor hwy, mae cefnogi tâl ychwanegol at dâl salwch statudol yn ystod COVID-19 yn cyd-fynd â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r agenda Gwaith Teg. Mae'r Fforwm Gofal Cymdeithasol bellach ar waith a'i nod yw gwella cyflog ac amodau ym maes gofal cymdeithasol.

Mae heriau recriwtio a chadw staff hirsefydlog ym maes gofal cymdeithasol ac yn enwedig ym maes gofal preswyl a gofal cartref, lle targedir y cynllun hwn. Gall y cynllun hwn wella morâl y gweithlu drwy ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried eu cyflog a'u hamodau a chydnabod yr effaith ar eu hincwm oherwydd yr hyn a allai fod yn fwy nag un cyfnod o hunanynysu oherwydd COVID-19.

Gallai peidio â gweithredu'r cynllun hwn olygu nad yw gweithwyr gofal yn cydymffurfio â’r angen i hunanynysu ac yn mynd i’r gwaith tra'n heintus. Gallai peidio â gweithredu'r cynllun hwn olygu bod gweithwyr gofal yn gadael eu swyddi oherwydd effaith absenoldebau ar eu hincwm. Gallai'r golled hon, yn enwedig colli staff hyfforddedig a phrofiadol, gael effaith hirdymor ar lefelau sgiliau a chyfraddau swyddi gwag mewn gofal cymdeithasol.

Atal

Cynsail y cynllun hwn yw rhoi cymorth ariannol i staff gofal cymwys i sicrhau eu bod yn aros i ffwrdd o'r gwaith:

  • pan fydd ganddynt symptomau COVID-19 neu yn amau bod ganddynt y symptomau hynny
  • pan fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu oherwydd cyswllt ag aelod o'u haelwyd neu aelwyd estynedig
  • pan fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu oherwydd bod y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu wedi cysylltu â nhw
  • pan fyddant wedi cael prawf COVID-19 positif

Nid yw 90 % o'r gweithlu gofal annibynnol yn cael tâl salwch galwedigaethol ac mae eu hincwm yn gostwng i dâl salwch statudol (£95.85) pan fydd angen iddynt gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith am y rhesymau a amlinellwyd. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol i weithwyr mewn sector sy'n cael ei gydnabod fel un â chyflog isel. Yn y cyd-destun hwn, nod y cynllun yw dileu'r anghymhelliad ariannol i weithwyr cymwys aros i ffwrdd o'r gwaith oherwydd COVID-19.

Mae peth ymchwil sydd wedi ystyried y cysylltiadau rhwng lefelau tâl salwch ac i ba raddau y mae hyn yn dylanwadu ar ymddygiad gweithwyr a'r effaith ar reoli heintiau. Er enghraifft:

  • Canfu ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Caint (gyda sampl o 2,600 o weithwyr gofal cymdeithasol yn Lloegr fod y diffyg darpariaeth tâl salwch galwedigaethol yn dylanwadu ar ymddygiad, gan fod pobl yn credu na allent fforddio i roi'r gorau i weithio. Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod hyn yn risg fawr i iechyd y cyhoedd ac wedi cyfrannu at ledaeniad COVID-19.
  • nododd astudiaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cartrefi gofal yn Lloegr lle mae staff yn cael tâl salwch galwedigaethol yn llai tebygol o fod â phreswylwyr â COVID-19, o’i gymharu â chartrefi gofal lle mae staff yn cael tâl salwch statudol. 

Diben canolog y cynllun hwn yw atal h.y. bydd cefnogi gweithwyr gofal cymwys drwy ychwanegu at eu tâl salwch hyd at lefel eu cyflog llawn yn lleihau trosglwyddiad yr haint i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed mewn rhai lleoliadau gofal.

Integreiddio

Mae'r polisi hwn yn cysylltu ac yn cyfrannu at yr agenda polisi cyhoeddus ac iechyd cyhoeddus cyffredinol o leihau lledaeniad ac effaith COVID-19. Mae hefyd yn cysylltu ag amcanion polisi ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant yn ymwneud â hybu iechyd a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a chymryd camau sydd fwyaf tebygol o ganiatáu i unigolion gyflawni canlyniadau cadarnhaol, gan fod lleihau'r risg o ddal COVID-19 yn gymesur â'r amcanion hyn.

Cydweithio

Rydym wedi cynnull gweithgor o randdeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr). Mae hyn wedi cynnwys cynrychiolwyr o GMB, Unsain, RCN, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC). Rydym hefyd wedi cynnwys cynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Thrysorwyr Awdurdodau Lleol Cymru.

Cyfranogiad

Oherwydd y brys am y cynllun, gan ei fod yn ymwneud â COVID-19 a rheoli heintiau sy'n gysylltiedig â'n dinasyddion mwyaf agored i niwed sy’n byw mewn cartrefi gofal neu’n derbyn gofal cartref, nid ydym wedi ymgynghori'n uniongyrchol â gweithwyr gofal cymdeithasol unigol gan ddefnyddio ein prosesau arferol ar gyfer gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'r undebau llafur sy'n cynrychioli llawer o staff gofal (GMB, Unsain a RCN) wedi bod yn rhan o'n cyfarfodydd gweithgorau.

Effaith

Prif ddiben y polisi yw lleihau lledaeniad haint COVID-19 i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ac sy'n derbyn gofal cartref (a gofal a ddarperir gan Gynorthwywyr Personol). Oherwydd natur eu gwaith, efallai y bydd yn ofynnol i weithwyr gofal hunanynysu ar sawl achlysur a byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar eu hincwm dros nifer o fisoedd. Gall hyn effeithio ar incwm y cartref ac o bosibl y ddarpariaeth ar gyfer eu plant.

Y prif heriau o ran y cynnig hwn yw na ellir ei ymestyn i bob gweithiwr ar gyflog is, o'r sector gofal a thu hwnt, y mae ei incwm yn cael ei leihau i dâl salwch statudol pan fydd yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd COVID-19. Gallai gweithwyr gofal a gweithwyr cymorth eraill wrthwynebu i'r meini prawf cymhwysedd os cânt eu heithrio, ond bod eu gwaith yn dod â hwy i gysylltiad rheolaidd â phobl sy'n agored i niwed a lle nad ydynt bob amser yn gallu cadw pellter cymdeithasol.

Mae'r effaith ar weithwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei lliniaru gan y potensial i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun taliadau cymorth hunanynysu.

Costau ac Arbedion 

Nid yw'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i leihau costau. Mae'r cynnig yn cydnabod bod gweithwyr gofal cymdeithasol cymwys yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn incwm pan fyddant yn absennol am reswm cysylltiedig â COVID-19. 

Mae'n anodd iawn cyfrifo cost y cynllun yn fanwl gywir, oherwydd diffyg data ynglŷn â'r sector gofal cymdeithasol annibynnol, er bod costau rhagamcanol wedi'u rhoi gerbron Gweinidogion. Derbyniwyd cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU o'r Gronfa Rheoli Heintiau a’i ychwanegu at gronfa ymateb COVID-19. 

Bydd arbediad cyffredinol i iechyd a gofal cymdeithasol yn deillio o reoli heintiau'n well a llai o bobl â salwch difrifol a/neu barhaus o ganlyniad i COVID-19.

Mecanwaith

Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer y cynnig hwn.

Adran 7: Casgliad

7.1 Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys  yn y gwaith o'i ddatblygu?

Rydym wedi cynnull gweithgor o randdeiliaid allanol sy'n cynrychioli gweithwyr gofal, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol (comisiynwyr). Mae hyn wedi cynnwys cynrychiolwyr o GMB, Unsain, RCN, Fforwm Gofal Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Rydym hefyd wedi cynnwys cynrychiolydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Thrysorwyr Awdurdodau Lleol Cymru.

Rydym wedi cyfarfod i drafod a datblygu manylion y cynnig. Oherwydd yr angen i ddatblygu'r cynllun hwn yn gyflym gan ei fod yn ymwneud â rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal, nid ydym wedi ymgymryd â phroses ymgynghori ffurfiol sy'n agored i weithwyr gofal unigol.

7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bwriad y cynllun yw dileu unrhyw anghymhelliad ariannol i staff gofal mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref i aros i ffwrdd o'r gwaith lle gallant achosi risg o haint. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i ychwanegu at incwm y gweithwyr gofal hynny yn y sector annibynnol y mae eu hincwm yn gostwng i dâl salwch statudol pan fyddant yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith am reswm sy'n ymwneud â COVID-19. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr gofal yn y sector annibynnol yn cael tâl salwch statudol yn unig pan fyddant yn sâl neu pan fydd angen iddynt hunanynysu.

Bydd y cynllun yn rhoi budd ariannol i'r gweithwyr gofal hynny sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn, gan y byddant yn cael cyflog llawn pan fyddant yn absennol o'r gwaith oherwydd COVID-19.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant;  a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd y cynllun yn gwneud y mwyaf o’i effaith gadarnhaol a'i amcanion llesiant lle mae'n gweithredu'n effeithlon ac yn gyson ar draws Cymru. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth ariannol i weithwyr gofal cymwys gan sicrhau cyflog llawn pan fydd angen iddynt gymryd amser i ffwrdd o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Bwriad y cynllun yw y bydd helpu staff i wneud y peth iawn yn lleihau'r risg o haint mewn cartrefi gofal ac ymhlith y rhai sy'n derbyn gofal cartref neu sy'n cyflogi Cynorthwyydd Personol. Dylai hyn hyrwyddo nodau llesiant y rhai sy'n derbyn gofal yn uniongyrchol.

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?   

Mae Gweinidogion wedi gofyn inni adolygu'r cynllun ar ôl 3 mis.

Mae nifer yr achosion o COVID-19 mewn cartrefi gofal (preswylwyr a staff) yn destun trefniadau profi a monitro rheolaidd. Mae hyn yn fwy heriol o ran gofal cartref a Chynorthwywyr Personol, lle gallai cyfraddau mynychder fod yn fwy tebygol o gael eu cynnwys mewn data poblogaeth cyffredinol. Byddwn yn ystyried gohebiaeth a mathau eraill o gyfathrebu a gwybodaeth a dderbynnir gan awdurdodau lleol a chydweithwyr yn Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.