Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio am gymorth gyda chostau gofal iechyd os oes gennych incwm isel.
Dogfennau
Hawlio am gymorth gyda chostau iechyd (HC1W) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 699 KB
Nodion ar gyfer y ffurflen HC1W , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 732 KB
Manylion
Mae’r cynllun incwm isel yn helpu pobl i dalu am gostau iechyd. Os oes gennych hawl i gael triniaeth y GIG a’ch bod yn bodloni amodau penodol, gallech gael cymorth gyda chostau:
- triniaeth ddeintyddol y GIG
- profion llygaid
- sbectolau a lensys cyffwrdd
- teithio angenrheidiol i ac o’r ysbyty am driniaeth y GIG o dan ofal ymgynghorydd ysbyty
Os hoffech ddarganfod a all y cynllun eich helpu chi, ewch i’r gwiriwr ar-lein y GIG.
Gallwch wneud cais am gopi papur o’r ffurflen hon dros e-bost neu drwy ffonio’r llinell archebu cyhoeddiadau ar 0345 603 1108 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg).