Darganfyddwch a oes angen ichi dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG a faint y gallech orfod ei dalu.
Cynnwys
Hawl i gael archwiliad a thriniaeth ddeintyddol y GIG am ddim
Cewch archwiliadau deintyddol am ddim os ydych:
- o dan 25 oed
- yn 60 oed neu’n hŷn
Bydd rhaid talu am unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch ar ôl yr archwiliad fel pelydr-X.
Cewch driniaeth ddeintyddol y GIG yn rhad ac am ddim os ydych, pan fydd y driniaeth yn dechrau:
- o dan 18 oed
- yn 18 oed ac mewn addysg amser llawn
- yn feichiog neu wedi cael babi o fewn 12 mis cyn i’r driniaeth ddechrau
- yn glaf mewnol i'r GIG a’r driniaeth yn cael ei rhoi gan un o ddeintyddion yr ysbyty
- yn glaf allanol i Wasanaeth Deintyddol Ysbytai’r GIG (efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint am ddannedd gosod a phontydd)
Mae gennych hefyd hawl i gael triniaeth ddeintyddol am ddim os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir pan fydd y driniaeth yn dechrau, neu pan godir tâl arnoch:
- rydych chi neu’ch partner yn cael rhai budd-daliadau
- rydych chi ar incwm isel. Darllenwch y Cynllun Incwm Isel
- mae gennych hawl i gael, neu wedi eich enwi ar, dystysgrif eithrio credydau treth dilys y GIG
Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i weld a oes gennych hawl i gael cymorth.
Ffioedd deintyddol y GIG
Os ydych chi fel arfer yn talu am driniaeth ddeintyddol y GIG, bydd tair ffi safonol.
Bydd y swm y bydd rhaid ichi ei dalu yn dibynnu ar y driniaeth sy’n angenrheidiol i gadw eich dannedd a’ch deintgig yn iach.
Bydd rhaid ichi dalu un o’r tair ffi isod:
Band | Triniaeth | Ffi |
---|---|---|
1 | Mae’r ffi hon yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd hyn yn cynnwys:
| £20.00 |
2 | Mae’r ffi hon yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn y ffi o £20.00 yn ogystal â:
| £60.00 |
3 | Mae’r ffi hon yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol sydd wedi’u cynnwys yn y ffioedd £20.00 a £60.00 yn ogystal â thriniaethau mwy cymhleth fel:
Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi ei thalu hyd yn oed os oes rhaid ichi ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth. | £260.00 |
Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi ei thalu hyd yn oed os oes rhaid ichi ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth.
Os ydych chi’n cael eich atgyfeirio at ddeintydd arall, un ffi fyddwch chi’n ei thalu o hyd (i’r deintydd sy’n eich atgyfeirio).
Os byddwch angen rhagor o driniaeth ar yr un lefel ffi (e.e. llenwad ychwanegol) o fewn dau fis i weld eich deintydd, bydd y driniaeth hon am ddim.
Bydd cleifion nad oes angen cwrs llawn o driniaeth arnynt, ond sydd angen gofal brys yn hytrach, yn talu un taliad o £30.00. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd yn cynnwys pelydrau-X ac unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch i atal y cyflwr dan sylw rhag dirywio’n sylweddol neu i drin poen difrifol.
Nodwch: Dylech ofyn i’ch deintydd beth fydd cost eich cynllun triniaeth unigol. Efallai y bydd y practis deintyddol yn gofyn ichi dalu cyn dechrau derbyn y driniaeth.
Ni chodir tâl os bydd deintydd yn asesu bod angen rhoi presgripsiwn yn unig, neu os yw’n tynnu pwythau yn dilyn triniaeth flaenorol.
Dylai eich deintydd arddangos poster am ffioedd y GIG yn yr ystafell aros.
Hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol y GIG
Defnyddiwch yffurflen hon i hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol os oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau gofal iechyd. Defnyddiwch y gwiriwr ar-lein i weld a ydych yn gymwys.