Defnyddiwch y ffurflen hon i ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad.
Dogfennau
Yhwanegu defnyddwyr eraill , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB
Manylion
Ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein
Dylai gweinyddwr y cyfrif ar-lein ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn:
- ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad neu enwebu gweinyddwyr eraill er mwyn iddyn nhw gymeradwyo defnyddwyr eraill hefyd.
- tynnu defnyddwyr a gweinyddwyr (er enghraifft os bydd rhywun yn gadael eich sefydliad).
Mae angen i’r defnyddwyr eraill greu eu cyfrif ar-lein eu hunain i gael mynediad i ddangosfwrdd eich sefydliad gan ddefnyddio rhif cofrestru eich sefydliad, sydd wedi’i gynnwys yn y llythyr at weinyddwr y cyfrif ar-lein.
Ewch i: Ychwanegu defnyddwyr eraill
Am resymau diogelwch, dylech gadw’r ffurflen hon a’i hanfon at cymorthdefnyddwyr@acc.llyw.cymru o gyfrif e-bost un o weinyddwyr y sefydliad.
Bydd angen i chi gynnwys:
- eich enw
- enw eich sefydliad
- rhif cofrestru eich sefydliad
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.
Drwy ddarparu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cydsynio i’r Awdurdod ohebu â chi drwy e-bost.
Gweler cysylltu ag ACC drwy e-bost.