Os ydych dros 16 oed, yn byw yng Nghymru ac os nad ydych mewn addysg amser llawn, yna gallwch ymgeisio am brentisiaeth.
Cynnwys
Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudiaethau. Fel prentis, byddwch yn:
- gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
- cael sgiliau sy’n benodol i’r swydd
- cael cymhwyster
- ennill cyflog a thâl gwyliau
- amser i astudio (diwrnod yr wythnos gan amlaf)
Mae prentisiaethau yn cymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau, gan ddibynnu ar lefel y brentisiaeth.
Pwy all wneud cais
Mae prentisiaethau yng Nghymru ar gael i unrhyw un sydd dros 16 oed.
Lefelau prentisiaeth
Enw |
Lefel |
Lefelau cyfwerth mewn addysg |
Prentisiaeth Sylfaen |
NVQ Lefel 2 |
5 TGAU da |
Prentisiaeth |
NVQ lefel 3 |
2 gymhwyster Safon Uwch |
Prentisiaeth Uwch |
NVQ lefel 4 neu uwch |
cyfwerth â HNC/HND neu radd lefel sylfaen ac uwch |
Prentisiaeth Radd |
NVQ lefel 6 |
Byddwch yn cyfuno gwaith ag astudio’n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg ac yn cael gradd baglor. |
Mae Prentisiaethau Gradd yn cael eu cynnig mewn galwedigaethau TGCh / Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch ar hyn o bryd.
Mae prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn caniatáu i chi hyfforddi yn eich dewis iaith.
Prentisiaethau i bobl anabl
Gellir sicrhau bod bron pob prentisiaeth yn hygyrch i bobl ag anableddau, cyflyrau iechyd neu anawsterau dysgu. Bydd eich cyflogwr yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael cymorth wedi'i deilwra i ddiwallu eich anghenion er mwyn i chi allu gweithio'n hyderus.
Sut i ymgeisio
Gallwch chwilio am brentisiaeth ar Dod o hyd i Brentisiaeth. Ceir manylion am sut i wneud cais yn yr hysbyseb ar gyfer prentisiaeth wag.
Gall Gyrfa Cymru roi cyngor i chi ar sut i lunio cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad.