Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Fedi 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau achosion tân ac achub
Gwybodaeth am y gyfres:
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 6,383 o danau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 23%.
- Roedd 2,243 o brif danau yng Nghymru, gostyngiad o 10%.
- Roedd 4,062 o danau eilaidd yng Nghymru, gostyngiad o 29%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
- Roedd 1,703 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 49%.
Anafusion
- Roedd 7 o farwolaethau tân yng Nghymru, 3 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 96 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 3 yn llai na yn y flwyddyn flaenorol.
- Derbyniodd 123 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 32%.
Galwadau ffug
- Roedd 7,502 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 4% yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 202 o alwadau ffug maleisus, 9% yn fwy na'r adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.