Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gweldig
Bu Cynhadledd y Partïon i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP25) bron peidio digwydd eleni. O fewn ychydig wythnosau, dewiswyd lleoliad newydd, gyda seilwaith a dirprwyaethau ategol. Mae'r cymhelliant a'r penderfyniad i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn tanlinellu pa mor bwysig yw parhau â’r ddeialog ryngwladol ar y newid yn yr hinsawdd. Cafodd digwyddiad COP25 eleni cael ei gynnal ym Madrid.
Roeddwn i’n bresennol fel rhan o grŵp a oedd yn cynrychioli’r DU. Efallai mai dim ond gwlad fach yw Cymru, ond roedd ein presenoldeb yno yn tystio i’n huchelgais fawr mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd ac yn dangos ein bod yn barod i chwarae’n rhan, gan gydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang.
Cefais gyfle yn ystod y digwyddiad i fynd i gyfarfod Cynulliad Cyffredinol y Gynghrair Dan2, lle gwnaethom groesawu aelodau newydd o bedwar ban byd. Mae'r gynghrair yn cynnwys mwy na 220 o Lywodraethau sy'n cynrychioli dros 1.3 biliwn o bobl a 43% o'r economi fyd-eang. Ar adegau o adfyd a newid byd-eang, mae rôl llywodraethau gwladol a rhanbarthol hyd yn oed yn bwysicach gan fod cymaint o'r newid sydd ei angen ar y lefel leol.
Bûm yn siarad yng nghyfarfod y Gynghrair am gyfraniad ac ymrwymiad Cymru i Gronfa’r Dyfodol, sy’n galluogi economïau sy’n datblygu i ddatgarboneiddio mewn ffordd sy’n sicrhau Cyfiawnder Hinsoddol. Mae'n enghraifft wirioneddol o ddatblygiad cynaliadwy ymarferol, sydd â manteision iechyd ac economaidd-gymdeithasol ar y lefel leol, lle mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo. Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar ein gwaith Cymru ar gyfer Affrica, lle gwnaethom blannu ein 10 miliwnfed goeden eleni.
Bûm yn siarad hefyd yn y digwyddiad am bwysigrwydd COP26 y flwyddyn nesaf, a fydd yn allweddol wrth fwrw ymlaen â Chytundeb Paris. Y DU fydd yn llywyddu yn ystod COP26 y flwyddyn nesaf, a fydd yn cael ei gynnal yn Glasgow. Bydd y digwyddiad hwn yn fwy pwysig oherwydd mae angen datrys rhai rhwystrau allweddol dros y 12 mis nesaf. Mae hynny’n meddwl bydd COP26 yn ddigwyddiad hanfodol am symud y byd ymlaen trwy weithredu.
Rhaid inni fod yn barod i fynd â neges glir i COP i ddangos bod Cymru yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, lle mae pawb yn barod i chwarae eu rhan. A ninnau’n wlad a oedd ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol diwethaf, mae gennym yr uchelgais a'r dyfeisgarwch i fod yn yn un o arweinwyr y chwyldro carbon isel.
Rydym eisoes wedi cymryd camau sylweddol i sicrhau bod Cymru yn arwain trwy esiampl at ddyfodol carbon isel. Cyhoeddwyd ein cynllun Cyflenwi Carbon Isel cyntaf, sy’n nodi 100 o bolisïau a chynigion ar draws holl feysydd yr economi. Gan gydnabod bod angen inni hefyd addasu yn wyneb effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, rydym wedi cyhoeddi’n cynllun trawslywodraethol ar sut rydym yn mynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, sef Ffyniant i bawb - Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd.
Rydym wedi buddsoddi mewn meysydd allweddol fel teithio llesol, busnes, tai, prosiectau ledled Cymru i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a chydnerthedd ehangach yr ecosystem, a phlannu coed. Mae data eleni ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn dangos eu bod wedi gostwng i 25% o gymharu ag allyriadau’r flwyddyn sylfaen[1]. Yn ogystal, rydym, trwy ffynonellau adnewyddadwy, yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu hanner anghenion Cymru yn 2018, tra rhagwelir y bydd y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud trwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn arbed tua £250 miliwn ac 857,000 tunnell o CO2 i'r Sector Cyhoeddus dros oes y prosiectau.
Rydym wedi dangos ein bod o ddifrif ac mae angen bellach i eraill ddilyn. Ym mis Ebrill 2019, gwnaethom ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd er mwyn symbylu gweithredu gartref ac yn rhyngwladol, gan gymunedau, byd busnes a'r sector cyhoeddus. Ym mis Hydref, gwnaethom gynnal cynhadledd lle’r oedd dros 300 o bobl yn cynrychioli sefydliadau busnes, y sector cyhoeddus a’r Trydydd Sector yn bresennol, gan gydnabod eu bod i gyd yn asiantau dros newid. Fel rhan o'r gynhadledd, gwnaethom ofyn i'r sefydliadau hynny addo gweithredu gyda ni er mwyn i ni allu datblygu Cynllun Cymru Gyfan yn 2021 ac er mwyn inni fedru dweud wrth y byd bod Cymru yn barod i chwarae’i rhan.
O ganlyniad i ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd, rydym wedi bod yn fwy uchelgeisiol, gan gydnabod bod yn rhaid i nwyon tŷ gwydr ostwng 95% dros y 30 mlynedd nesaf os ydym am wneud ein cyfraniad teg i’r ymrwymiadau a waned gan y DU yng Nghytundeb Paris. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi pennu uchelgais i fynd ymhellach ac i gyflawni allyriadau Sero-Net. Rwy'n falch o'r nod uchel y mae Cymru wedi'i osod ac yn gobeithio bod hynny’n annog ac yn ysbrydoli cenhedloedd eraill ledled y byd i ysgwyddo’r dasg o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd mewn ffordd deg a chyfiawn.
Y flwyddyn nesaf, byddwn yn pennu uchelgais hyd yn oed yn uwch. Byddwn yn diweddaru’n targed ar gyfer 2050 a byddwn yn ailedrych ar ein llwybr datgarboneiddio o ran ein targedau dros dro a'n cyllidebau carbon. Rwyf wedi gofyn i’n corff cynghori annibynnol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, am gyngor ar y llwybr diwygiedig hwn, gan ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Er mwyn helpu i lywio a datblygu eu cyngor, mae UKCCC bellach wedi lansio Galwad am Dystiolaeth, a fydd hefyd yn bwydo i mewn i'r gwaith ar chweched gyllideb carbon Llywodraeth y DU. Mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yng Nghymru yn cyfrannu at y broses hon ac rwy’n disgwyl i'r UKCCC gynnal digwyddiadau yng Nghymru ym mis Ionawr. Byddwn yn ystyried y cyngor y flwyddyn nesaf ac yn dod â thargedau a chyllidebau diwygiedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn COP26.
Mae her newid yn yr hinsawdd yn golygu bod angen i bawb weithredu. Mae'n bwysig ein bod yn cydweithio'n barhaus i ysgogi gweithredu yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at COP26 a bod pawb yn chwarae’u rhan yn y gwaith o ddatblygu’n Cynllun nesaf ar gyfer Cymru Gyfan.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
[1] Dyma’r blynyddoedd sylfaen ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU: 1990 ar gyfer carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd; 1995 ar gyfer nwyon wedi’u fflworeiddio.