Sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at seilwaith digidol cyflym a dibynadwy.
Cynnwys
Estyn darpariaeth band eang ffeibr
Trawsnewidiodd ein darpariaeth ffeibr a ariennir gan y cyhoedd gydag Openreach dirwedd ddigidol Cymru. Helpodd buddsoddiad y sector cyhoeddus o dros £250 miliwn i:
- darpariaeth band eang cyflym iawn ledled y wlad hyd at 97%
- darpariaeth band eang gigabit i fwy na 55%
Mae lleiafrif bach o bobl yng Nghymru yn parhau heb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.
Er nad yw telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, rydym yn cefnogi'r rheini heb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Rydym yn archwilio opsiynau i ddefnyddio arian o'r ddarpariaeth band eang cyflym iawn i wella cysylltedd digidol.
Ariannu datrysiadau cysylltedd
Mae technolegau sy’n gallu dod â band eang cyflym i ardaloedd sydd hebddo ar hyn o bryd. I eiddo nad yw wedi’i gynnwys mewn unrhyw ddarpariaeth band eang ffeibr, gallwn gyllido cysylltedd i unigolion, busnesau a chymunedau drwy ein cynlluniau grant. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael drwy ein Cronfa Band eang Lleol i gefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i ddarparu prosiectau band eang yn lleol.
Cysylltu'r sector cyhoeddus
Mae ein rhwydwaith band eang sector cyhoeddus yn cysylltu sefydliadau sector cyhoeddus. Mae'n darparu seilwaith digidol cost effeithiol i helpu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwych.
Cymryd camau i wella darpariaeth ffonau symudol
Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ffonau symudol. Dyma sut y byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant ffonau symudol ac Ofcom i ddarparu cysyllted i fodloni anghenion pobl a busnesau Cymru.
Edrych tua'r dyfodol
Rydym am gysylltu Cymru â gweddill y byd drwy dechnolegau newydd o’r radd flaenaf.
Rydym yn buddsoddi mewn gweithgarwch sy’n helpu i adeiladu rhwydwaith ffeibr pellgyrhaeddol ar draws Cymru. Mae rhwydwaith mwy ffisegol yn creu mwy o gystadleuaeth, gan ddarparu mwy o ddewis a chyflenwad rhyngrwyd cadarn.
Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn elwa ar dechnolegau newydd ac arloesol megis 5G a’r rhyngrwyd pethau.
Codi llais Cymru
Nid yw polisi telegyfathrebu wedi ei ddatganoli i Gymru. Rydym yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, gweithredwyr telegyfathrebu ac Ofcom. Mae hyn yn ein helpu i ddeall cynlluniau'r farchnad, dylanwadu ar bolisi'r DU a chymryd camau sy'n iawn i Gymru.