Neidio i'r prif gynnwy

Cronfa i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg o’r Gronfa Band Eang Lleol

Rydym wedi sicrhau bod cyllid ar gael i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol. Dyma un rhan o’n gwaith i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar seilwaith digidol cyflym a dibynadwy.

Roedd y gronfa yn caniatáu i awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol ddarparu atebion band eang arloesol i gymunedau a rhannau o Gymru nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu manteisio ar gyflymderau band eang o 30Mbps.

Yr hyn ddylech ei wneud os ydych yn breswylydd neu’n fusnes

Gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol i wybod a oes ganddynt gynlluniau i gyflwyno band eang yn eich ardal drwy ein Cronfa 

Band Eang Lleol. Mae gan rai awdurdodau lleol swyddogion band eang penodol a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau o ran cysylltedd. Yr awdurdodau lleol hynny yw:

Os nad yw eich awdurdod lleol wedi’i restru uchod, cysylltwch â’ch awdurdod yn uniongyrchol.

Os nad oes unrhyw gynlluniau lleol ar gyfer eich ardal, mae’n bosibl y bydd opsiynau eraill ar gael ichi ar gyfer band eang cyflymach. Ewch i’n tudalen ‘Cael cyllid ar gyfer band eang cyflymach’.