Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mewn ymateb i gais gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU i ailasesu targed allyriadau hirdymor y DU, cyhoeddodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ‘Net Zero – The UK’s contribution to stopping global warming’ ar 2 Mai. Prif argymhelliad y Pwyllgor yw y dylid mabwysiadu targed o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU i sero net erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, y cyngor y mae’n ei roi yn yr argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu targed o leihau allyriadau o 95% erbyn 2050, o'i gymharu â llinell sylfaen 1990.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi pennu targed o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 'o leiaf 80%' yn 2050. Mae'r targed hwnnw, a bennwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), yn un sy'n ein rhwymo mewn cyfraith. Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn ei gwneud yn glir yn ei gyngor fod y cynnydd o 80% i 95% yn newid mawr a bod gofyn mynd ati o ddifrif i ailwampio polisïau er mwyn cyrraedd y nod.
Ar 2 Mai, rhyddheais Ddatganiad Ysgrifenedig yn croesawu adroddiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, gan ymrwymo i ailedrych ar ein targed ar gyfer 2050 ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn pennu'r drydedd gyllideb garbon erbyn diwedd 2020.
Yn ddiweddar, cyhoeddais ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn argyfwng hinsawdd. Rwyf heddiw yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor yn ffurfiol er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau'r gostyngiad sydd ei angen mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn inni fedru gwneud ein cyfraniad ni at gyrraedd targed o sero net ar gyfer y DU. Yn unol â chyngor y Pwyllgor, rwyf yn bwriadu cyflwyno rheoliadau gerbron y Cynulliad y flwyddyn nesaf i ddiwygio'r targed presennol ar gyfer 2050. Ar yr un pryd, byddaf yn cyflwyno rheoliadau i bennu'n trydedd gyllideb garbon ac i ddiwygio'n targedau interim a'n cyllidebau presennol yn ôl y gofyn.
O gyrraedd y targedau hyn, byddai cyfraniad y DU at gynhesu byd-eang yn dod i ben ymhen 30 mlynedd a byddem yn gwireddu'n hymrwymiadau o dan Gytundeb Paris. Rydym yn credu y gall mynd ati'n fuan fel hyn i gymryd camau pendant fod yn fodd i ysbrydoli eraill i gymryd y camau sydd eu hangen er mwyn osgoi effeithiau mwyaf trychinebus y newid yn yr hinsawdd.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, sy'n cynnwys proffiliau manwl o allyriadau fesul sector a 100 o bolisïau a chynigion i sicrhau Cymru carbon isel. Mae'r cynllun yn nodi'n safbwynt yn gwbl glir – rydym yn credu bod yn rhaid inni fod yn fwyfwy uchelgeisiol er mwyn ymateb i her y newid yn yr hinsawdd ac er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf posibl i lesiant Cymru drwy newid i economi carbon isel.
O gofio hynny a hefyd y ffaith inni ddatgan, ar ôl i'r cynllun gael ei gyhoeddi, ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd, ac er ein bod yn derbyn cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, credwn fod yn rhaid inni fynd ymhellach. Felly, ar ran Llywodraeth Cymru, rwyf yn datgan heddiw mai ein huchelgais yw cyflwyno targed lle bydd gofyn i Gymru gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 fan hwyraf. Er mwyn nodi cyfleoedd i fynd ati i ddatgarboneiddio hyd yn oed yn gynt yng Nghymru, byddaf yn gweithio'n agos â'r Pwyllgor Newid Hinsawdd a chyda rhanddeiliaid eraill, fel y disgrifir yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn ei gwneud yn glir fod maint y newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd targed o sero net yn fwy nag unrhyw newid economaidd wedi'i gynllunio a welwyd yn yr oes hon, a bod angen hefyd i'r newid hwnnw ddigwydd yn gynt nag unrhyw un o'r newidiadau economaidd hynny. Eto i gyd, mae cyfleoedd hefyd inni wneud Cymru yn wlad iachach, yn wlad sydd ag amgylchedd mwy cydnerth ac sy'n fwy llewyrchus.
Mae’r costau sy’n gysylltiedig â pheidio â gweithredu yn rhai anfesuradwy. Hyd yn oed os gwireddir yr holl ymrwymiadau a wnaed yng Nghytundeb Paris, mae perygl mawr o hyd y bydd cynhesu byd-eang yn cyrraedd lefelau yn y ganrif hon a fydd yn achosi difrod trychinebus ac anadferadwy i ecosystemau'r Ddaear, ar draul aruthrol i'n cymdeithas. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldebau byd-eang Cymru o ddifrif calon ac felly, mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu.