Mae 29 o weithwyr addysg proffesiynol o Gymru wedi’u henwi ar restr fer rownd derfynol y gwobrau cenedlaethol.
Heddiw (8 Ebrill), mae 29 o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru wedi’u henwi ar restr fer rownd derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
Crëwyd y gwobrau tair mlynedd yn ôl, i ddathlu ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru. Derbyniwyd dros gant o enwebiadau gan ddisgyblion, cydweithwyr a rhieni a nawr mae’r gorau oll wedi’u cynnwys ar restr fer am wobr.
Cyhoeddir yr enillwyr o bob un o’r deg categori, gan gynnwys Athro Newydd Eithriadol a Phennaeth y Flwyddyn, mewn seremoni arbennig yn Neuadd Sychdyn ym mis Mai.
Bydd y wobr Athro Newydd Eithriadol yn cydnabod athro sy’n arddangos brwdfrydedd a rhagoriaeth yn yr ystafell ddosbarth, gan hefyd ddangos sgiliau arwain cynnar a datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd gwobr Pennaeth y Flwyddyn yn mynd i unigolyn sy’n rhagorol yn ei swydd, ac sy’n dangos y gallu i gysylltu’r ysgol â’r gymuned ehangach a gwneud gwahaniaeth go iawn i bob disgybl.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae safon yr enwebiadau bob amser yn arbennig, ac mae’r grŵp sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn ysbrydoledig ac wedi creu cryn argraff arnaf.
“Rhan o’n cenhadaeth genedlaethol yw i godi safonau addysg a gwneud pawb yn falch o astudio yng Nghymru. Wrth wraidd y system mae’r gweithwyr addysgu proffesiynol.
“Bob dydd mae athrawon, staff cymorth a staff busnes yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein pobl ifanc ac mae’n hanfodol ein bod yn eu cydnabod am eu cyfraniadau.
“Mae’r unigolion sydd yn y rownd derfynol yn glod i’r proffesiwn. Dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o’i hun ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phawb ym mis Mai i ddathlu eu gwaith caled.”
I fod y cyntaf i wybod pwy sydd wedi ennill ddydd Sul 19 Mai gwyliwch ar Facebook ‘Live’ neu ewch i llyw.cymru/gwobrau-addysgu-proffesiynol-cymru a chadw llygad ar sianeli cymdeithasol Addysg Cymru @LlC_Addysg
Ymunwch yn y sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru
Rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2019
Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
Jack Branford, Ysgol Gynradd St. Helen, Abertawe
Emma Gray, Ysgol Basaleg, Casnewydd
Shaun Pearson, Ysgol John Bright, Llandudno
Defnydd Gorau o Ddysgu Digidol
Matt James, Ysgol Ferched Lewis, Caerffili
Phil Meredith, Ysgol Gyfun Caerllion, Caerllion
Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg
Nia Williams, Ysgol Alun, Sir y Fflint
Catrin Phillips – Cyngor Sir Penfro, Hwlffordd
Mark Morgan, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful
Hyrwyddo Cydweithio i Wella Canlyniadau Dysgu
Richard Watkins, GwE, Conwy
Leanne Pownall, Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, Llanilltud Fawr
Gemma Carr Evans, Coleg Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr
Hyrwyddo Lles, Cynhwysiant a Pherthnasau gyda’r Gymuned
Fiona Thomas, Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, Castell-nedd
Ysgol Gymunedol Doc Pendro, Penfro
Ysgol Gynradd Tregatwg, Y Barri
Pennaeth y Flwyddyn
Tracy Jones, Ysgol Merllyn, Sir y Fflint
Rhian Morgan Ellis, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Y Porth
Ceri Parry, Ysgol Gymraeg Casnewydd, Casnewydd
Athro Newydd Rhagorol
Lucio Nocivelli, Ysgol Gynradd Eveswell, Casnewydd
Hannah Cogbill, Ysgol Gynradd Tregatwg, Y Barri
Gruff Arfon, Ysgol Tryfan, Bangor
Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol
Gillian Stevenson, Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
Anna Hughes, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr, Rhaeadr
Gwyn Jones, Ysgol Eirias, Conwy
Athro’r Flwyddyn
Robert Aldridge, Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog, Caerdydd
Allison Pope, Ysgol Gynradd Cwm, Glynebwy
Cheryl Roberts, Ysgol Tryfan, Bangor
Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion
David Charles, Ysgol Cil-y-coed, Sir Fynwy
Amy Bolderson, Ysgol Uwchradd Pontypridd, Pontypridd
Gweithwyr Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, Glynebwy