Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch a oes angen i chi dalu Treth Trafodiadau Tir (TTT) pan fyddwch yn prynu neu'n prydlesu eiddo neu dir yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Disodlodd TTT Dreth Tir y Dreth Stamp (SDLT) yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r dreth ar ran Llywodraeth Cymru.

Defnyddiwch y canllaw hwn i wirio a oes angen i chi dalu TTT, faint y byddwch chi’n ei dalu a sut i dalu.

Pwy sy'n gorfod talu

Rhaid i chi dalu TTT os ydych yn prynu eiddo neu dir dros drothwy pris penodol yng Nghymru. Y trothwy yw pan fydd y dreth yn dechrau bod yn berthnasol.

Ar hyn o bryd, y trothwy TTT yw:

  • £180,000 ar gyfer eiddo preswyl (os nad ydych yn berchen ar eiddo arall)
  • £225,000 ar gyfer tir ac eiddo amhreswyl

Yn seiliedig ar gyfraddau a bandiau TTT a osodir gan Lywodraeth Cymru.

Mae rheolau gwahanol os ydych eisoes yn berchen ar un eiddo preswyl neu fwy, ac efallai y bydd angen i chi dalu'r cyfraddau preswyl uwch. Fodd bynnag, os ydych yn disodli eich prif breswylfa, efallai na fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol. Gweler ein canllawiau cyfraddau uwch.

Rydych yn talu'r dreth pan:

  • fyddwch yn prynu eiddo rhydd-ddaliadol
  • fyddwch yn prynu lesddaliad newydd neu un sy'n bodoli eisoes
  • mae tir neu eiddo yn cael ei drosglwyddo i chi yn gyfnewid am daliad, er enghraifft, rydych yn cymryd morgais neu'n prynu cyfran mewn tŷ

Mae TTT yn dreth a hunanasesir. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw cwblhau a chyflwyno ffurflen dreth gywir a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Rhaid i chi anfon ffurflen TTT hyd yn oed os nad oes dim i'w dalu, ac eithrio rhai trafodiadau nad oes angen ffurflen dreth.

Faint fyddwch chi’n ei dalu

Mae faint rydych chi'n ei dalu yn dibynnu a yw'r eiddo'n breswyl neu amhreswyl.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i'ch helpu i weld faint y byddwch yn ei dalu.

Gallai'r swm rydych chi'n ei dalu gael ei effeithio os ydych chi'n prynu:

  • eiddo pan fyddwch eisoes yn berchen ar un
  • mwy nag un eiddo
  • eiddo sydd y ddwy ochr i’r ffin

Gallwch ddefnyddio ein gwiriwr i ddarganfod a yw cod post yng Nghymru ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Rhyddhadau

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu cael rhyddhad sy'n lleihau swm y dreth y byddwch yn ei thalu. Gall cyfreithiwr neu drawsgludydd eich helpu i hawlio unrhyw ryddhad rydych yn gymwys i'w gael.

Nid oes rhyddhad i brynwyr tro cyntaf yng Nghymru.

Mae rhyddhadau penodol ar gyfer:

  • prynu mwy nag un eiddo (anheddau lluosog)
  • symud eiddo o amgylch strwythur grŵp
  • elusennau sy'n prynu eiddo

I weld y rhestr lawn ewch i’n canllawiau technegol ar ryddhadau.

Sut a phryd i ffeilio ffurflen a thalu

O 3 Gorffennaf 2023, os ydych yn gyfreithiwr neu'n drawsgludydd, dim ond ar lein y byddwch chi’n gallu ffeilio TTT.

Os ydych yn drethdalwr sydd ddim â chyfreithiwr neu drawsgludydd, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael ffurflen TTT bapur ar ôl 3 Gorffennaf 2023.

Rhaid i chi anfon ffurflen TTT at ACC a thalu'r dreth o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl cwblhau (neu 'ddyddiad dod i rym' arall y trafodiad).

Bydd yn dal yn rhaid i chi anfon ffurflen hyd yn oed os nad oes treth TTT yn ddyledus gennych oni bai bod eithriad penodol yn berthnasol.

Os oes gennych gyfreithiwr neu drawsgludydd, gallwch ofyn iddynt ffeilio eich ffurflen ar-lein a thalu'r dreth ar eich rhan. Byddant fel arfer yn ychwanegu'r swm at y swm rydych yn ei dalu iddyn nhw.

Os nad ydych yn defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludydd, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen bapur a thalu'r dreth eich hun.

I gael ffurflen bapur, e-bostiwch cyswllt@acc.llyw.cymru neu ddefnyddio ffyrdd eraill o gysylltu â ni. Er mwyn anfon y ffurflenni cywir, dywedwch wrthym os oes:

  • mwy na 2 brynwyr
  • mwy na 2 werthwr
  • mwy nag un darn o dir

Rhowch eich dewis iaith pan fyddwch yn cysylltu.

Efallai y codir cosbau a llog arnoch os na fyddwch yn ffeilio'ch ffurflen dreth ac yn gwneud eich taliad yn brydlon.

Yr adegau nad oes angen i chi ffeilio ffurflen

Nid oes rhaid i chi ffeilio ffurflen dreth a thalu TTT os:

  • yw eiddo’n cael ei adael i chi mewn ewyllys ac nad ydych yn gwneud unrhyw daliad am ei drosglwyddo
  • yw eiddo'n cael ei drosglwyddo oherwydd ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil
  • ydych yn prynu eiddo rhydd-ddaliadol am lai na £40,000

Ar gyfer trafodiadau lesddaliadol, nid oes rhaid i chi ffeilio a thalu TTT os ydych yn prynu:

  • les newydd neu les wedi'i haseinio am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy, cyn belled â bod:
    • y premiwm yn llai na £40,000 a’r
    • rhent blynyddol yn llai na £1,000
  • les newydd neu les wedi'i haseinio am gyfnod o lai na 7 mlynedd, cyn belled â bod y swm yr ydych yn ei thalu’n llai na throthwy cyfradd sero TTT preswyl neu amhreswyl

Mwy o wybodaeth

Ar gyfer achosion cymhleth, neu os ydych yn ansicr sut mae'r dreth yn berthnasol: