Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae cysylltedd digidol yn dod yn fwyfwy pwysig i bobl ledled Cymru er mwyn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, gweithio gartref neu gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus. Pan fydd cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, rydym am wneud yn siŵr bod cysylltedd yn gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol. I gefnogi’r uchelgais hwn, bydd y cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn yn diwygio rheoliadau adeiladu i fynnu bod datblygwyr yn sicrhau:

  1. bod gan bob cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau, sy’n angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau;
  2. bod cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei osod mewn cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd yn amodol ar gap cost o £2,000 ar gyfer pob annedd;
  3. neu pan na fydd cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei osod, bydd y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf yn cael ei osod heb fod yn fwy na’r cap cost o £2,000

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich adborth ar ein dull gweithredu i wneud yn siŵr ei fod yn gymesur ac y gellir ei gyflawni ac y bydd yn bodloni ein huchelgeisiau.

Rhagair y gweinidog

Nid oes amheuaeth nad yw mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i breswylwyr, gan agor mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes, helpu i fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, darparu mynediad at wasanaethau cyhoeddus, galluogi gweithio gartref a dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang. Yn ddiau, mae’r pandemig hefyd wedi dod â’r angen am gysylltedd da sy’n addas ar gyfer y dyfodol yn fwy penodol.

Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, symudwyd o gysylltiad deialu i fand eang ac yna i fand eang cyflym iawn. Wrth i’r posibiliadau dyfu ac wrth fanteisio ar gyfleoedd newydd, mae galw cynyddol i fand eang cyflym eu darparu. Wrth i dechnolegau barhau i ddatblygu bydd band eang sy’n gallu delio â gigadidau (sy’n gallu darparu cyflymderau llwytho i lawr o 1000Mbps (1Gbps)) yn darparu’r safon aur i fod yn sail i’n hanghenion nawr ac yn y dyfodol.

Nid yw polisi telegyfathrebiadau wedi’i ddatganoli i Gymru; fodd bynnag, mae’r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru yn nodi sut byddwn yn parhau i gymryd camau i wella cysylltedd digidol ledled y wlad.

Rydym yn buddsoddi £56 miliwn i sicrhau cysylltedd ffeibr llawn i tua 39,000 o gartrefi. Mae ein grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) yn parhau i ddarparu cyllid i gartrefi a busnesau allu cysylltu, ac mae ein Cronfa Band Eang Lleol (LBF) yn cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gysylltu cymunedau cyfan. Mae ein hymyriad yn mynd ymhellach na chyllido cysylltedd yn uniongyrchol, rydym hefyd yn gweithio i greu’r amodau cywir i ddarparwyr telegyfathrebiadau fuddsoddi yng Nghymru.

Mae datblygwyr tai bellach yn cydnabod pwysigrwydd darparu band eang cyflym a dibynadwy ar eu datblygiadau ac maent yn gwarchod eu stoc dai newydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y cysylltedd hwn yn cael ei ddarparu’n gyson ledled Cymru er mwyn i breswylwyr gael band eang sy’n addas ar gyfer y dyfodol yn eu cartrefi newydd.

Er mwyn helpu i gyflawni ein strategaeth mae'r ddogfen hon yn nodi cynigion ar gyfer newid rheoliadau adeiladu er mwyn sicrhau cysondeb cysylltedd i gartrefi newydd ac yn gofyn am eich adborth ar ein dull o wneud yn siŵr ei fod yn gyfrannol, y gellir ei gyflawni ac y bydd yn bodloni ein huchelgeisiau.

Bydd y cynigion a amlinellir gennym yn yr ymgynghoriad hwn yn diwygio rheoliadau adeiladu i fynnu bod datblygwyr yn sicrhau:

  1. bod gan bob cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau, sy’n angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau;
  2. bod cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei osod mewn cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd yn amodol ar gap cost o £2,000 ar gyfer pob annedd;
  3. neu pan na fydd cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei osod, bydd y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf yn cael ei osod heb fod yn fwy na’r cap cost o £2,000

Rydym yn croesawu safbwyntiau gan bawb sydd â diddordeb mewn darparu cysylltedd sy’n addas ar gyfer y dyfodol mewn cartrefi newydd ledled y wlad.

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyflwyniad

Cefndir

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi telegyfathrebiadau a chysylltedd digidol. Mae’r rhain yn faterion a gedwir yn ôl nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac nad yw'n derbyn unrhyw gyllid datganoledig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gamu i’r adwy drwy’r rhaglen Lywodraethu sy’n tynnu sylw at yr uchelgais i uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu a thrwy’r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru.

Mae amrywiaeth o gynlluniau eisoes ar waith i wella mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys: prosiect Cyflymu Cymru a oedd yn darparu mynediad at fand eang cyflym iawn i 733,000 o adeiladau yng Nghymru, prosiect olynol Cyflymu Cymru a fydd yn darparu band eang ffeibr sy’n gallu delio â gigdidau i tua 39,000 o adeiladau am gost o £56 miliwn, y Gronfa Band Eang Lleol gwerth £20 miliwn sy’n cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gysylltu cymunedau cyfan a chynllun Allwedd Band Eang Cymru sy’n targedu eiddo unigol.

Yn ogystal ag ymyrryd yn uniongyrchol i wella cysylltedd ffeibr, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo drwy’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ddefnyddio pwerau datganoledig i greu’r amodau iawn ar gyfer buddsoddi ac arloesi mewn band eang. Mae tasglu chwalu rhwystrau hefyd wedi nodi rhwystrau ac atebion i gyflwyno seilwaith symudol a band eang.

Fel maes polisi sydd heb ei ddatganoli, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu nifer o ymyriadau i wella cysylltedd digidol, gan gynnwys y Cynllun Talebau Band Eang Gigadid (GBVS), y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) a’r Prosiect Gigadid sydd, wrth ei gyfuno ag ymyriadau sy’n cael eu harwain yn fasnachol, yn ceisio sicrhau mynediad i 85 y cant o adeiladau yn y DU at fand eang sy’n gallu delio â gigadidau erbyn 2025.

Mae’r cwmnïau telegyfathrebiadau hefyd yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn cyflwyno band eang sy’n gallu delio â gigadidau ledled y DU.

Band Eang mewn Cartrefi Newydd

Yn ôl gwasanaeth newyddion Thinkbroadband yn 2021, mae gan 90.8 y cant o eiddo newydd yng Nghymru fynediad at gysylltedd ffeibr llawn ac mae gan 93.4 y cant fynediad at wasanaeth band eang gwibgyswllt o 100Mbps o leiaf. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2022 yn dangos bod gan 93.4 y cant o adeiladau newydd fynediad at fand eang ffeibr llawn a bod gan 99.6% o adeiladau newydd fynediad at fand eang gwibgyswllt o leiaf.  Mae’r cynnydd hwn o un flwyddyn i’r llall yn adlewyrchu’r sefyllfa yn y DU gyfan ac mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae un nodyn o rybudd bod ffigurau Thinkbroadband yn seiliedig ar oddeutu 4,000 o adeiladau yn 2021 a dim ond tua 1,100 o adeiladau yn 2022. Mae ffigurau o Stats Cymru yn awgrymu bod rhwng 5,000 a 6,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn ar gyfartaledd yng Nghymru. Nid yw statws band eang yr adeiladau hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y data gan Thinkbroadband yn glir.

Ar hyn o bryd nid oes gofynion deddfwriaethol ar gyfer cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd yn ymwneud â seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid neu gysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau. Mae’r gofynion presennol (gweler Rhan R o Atodlen 1) wedi’u cyfyngu i ‘seilwaith ffisegol sy’n galluogi ceblau copr neu ffeibr optig neu ddyfeisiau diwifr sy’n gallu darparu cyflymderau band eang sy’n gyflymach na 30 Mb yr eiliad’. Dim ond y seilwaith ffisegol mewnol angenrheidiol y mae hyn yn ei gynrychioli. Yn yr un modd, nid yw’r darpariaethau’n cynnwys gofyniad i’r offer a osodir ddarparu cysylltiad drwy weithredwr rhwydwaith.

Datblygu’r cynigion hyn

Yn unol â’n rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Adeiladu 1984, gofynnwyd am adborth gan Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) ar y bwriad i ddefnyddio’r Rheoliadau Adeiladu i weithredu gofynion ar gyfer seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid. Edrychwn ymlaen at dderbyn ymatebion ac ymgysylltiad gan bawb sydd â diddordeb i helpu gyda’r cynigion terfynol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy yn bodloni llawer o’r ymrwymiadau o dan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol. Yn yr achos hwn, mae band eang cyflym a dibynadwy mewn cartrefi newydd yn cefnogi llawer o’r nodau Llesiant. Yn benodol, mae’n cefnogi Cymru o gymunedau cydlynus drwy helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd gan leihau ynysigrwydd cymdeithasol a galluogi mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn cyflawni yn erbyn Cymru fwy cyfartal drwy alluogi mynediad at gyfleoedd addysgol a chyfranogiad dinesig ar-lein.

Datblygwyd y cynigion hyn gan ddefnyddio’r pum ffordd o weithio sy’n sail i’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Maent yn canolbwyntio ar y tymor hir drwy ddarparu cysylltedd sy’n addas ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu anghenion dinasyddion dros y degawd nesaf a thu hwnt. Fe’u datblygwyd ar y cyd drwy ymgynghori â BRACW. Drwy annog buddsoddiad nawr, bydd yn atal yr angen i ailedrych ar ddatblygiadau tai newydd yn y blynyddoedd i lunio atebion cysylltedd ôl-osod a fyddai’n arwain at gost ac adnoddau ychwanegol. Bydd cysylltedd cyflym yn cael effaith gadarnhaol ar gyrff cyhoeddus eraill a fydd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau ar-lein (Integreiddio). Mae natur dechnegol y cynigion wedi cyfyngu ar y cyfle i gynnwys y cyhoedd yn ehangach cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru

Mae Cymru’r Dyfodol yn fframwaith cenedlaethol ar gyfer datblygu yng Nghymru i 2040. Mae’n gynllun datblygu ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy’r system gynllunio. Mae Polisi 13 – Cefnogi Cyfathrebu Digidol yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a seilwaith cyfathrebu digidol ledled Cymru. Mae’r polisi’n datgan y dylai datblygiadau newydd gynnwys darparu seilwaith band eang sy’n gallu delio â Gigadid o’r dechrau. Mae hyn fel arfer yn berthnasol i dai, adeiladau busnes a masnachol newydd, ac adeiladau cyhoeddus. Dylai cynlluniau datblygu lleol gynnwys polisïau i helpu i gyflawni hyn.

Bydd ‘gallu gigadid’, ar y cyfan, yn ffibr a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr osod pibellau tanddaearol er mwyn gallu gwneud cysylltiadau ag adeiladau.

Rhaglen

Mae rheoliadau adeiladu yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Felly, bydd y gwelliannau deddfwriaethol i Reoliadau Adeiladu 2010 yn berthnasol i gartrefi sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd yng Nghymru yn unig.

Trefniant pontio

Mae’n debyg y daw’r gofynion newydd i rym dri mis ar ôl llunio’r ddeddfwriaeth, gan roi cyfnod priodol i’r diwydiant ymgyfarwyddo â’r gofynion newydd. Amcangyfrifir dyddiad dod i rym yn ystod yr haf/hydref 2023 a chynigir cyfnod darpariaeth pontio o 12 mis ar gyfer ceisiadau rheoliadau adeiladu a gyflwynir cyn y dyddiad dod i rym o’r newidiadau deddfwriaethol. 

Amseru a gweithredu

Daw’r ymgynghoriad technegol i ben ar 28 Ebrill 2023. Byddwn yn ceisio cyhoeddi’r ymateb i’r ymgynghoriad ac, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, dechrau datblygu'r ddeddfwriaeth weithredu cyn gynted wedi hynny ag y mae amser yn caniatáu, gyda’r newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym cyn gynted ag y bo modd ar ôl ei osod.

Adran 1: polisi presennol

Rhan R gyfredol o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010

Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 yn cynnwys rhestr o ofynion swyddogaethol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth wneud gwaith adeiladu. Mae’r gofynion presennol sy’n ymwneud â gosod seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig cyflym mewn adeiladau (band eang cyflym iawn) wedi’u cynnwys yn Rhan R o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010.

Dywed Rhan R:

  1. Rhaid gwneud gwaith adeiladu er mwyn sicrhau bod gan yr adeilad seilwaith ffisegol mewnol ar gyflymder uchel parod, hyd at bwynt terfyn rhwydwaith ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym.
  2. Pan fo’r gwaith yn ymwneud ag adeilad sy’n cynnwys mwy nag un annedd, rhaid gwneud y gwaith er mwyn sicrhau bod gan yr adeilad gyfarpar addas, yn ogystal â phwynt mynediad cyffredin ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym.

Mae Gofyniad R1 yn berthnasol i waith adeiladu sy’n cynnwys:

  • codi adeilad
  • gwaith adnewyddu mawr i adeilad.

Dogfen Gymeradwy Gyfredol R

Cefnogir y gofynion yn Rhan R o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 gan Ddogfen Gymeradwy R a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2017. Mae Dogfennau Cymeradwy yn ganllawiau statudol sy’n rhoi arweiniad cyffredinol ar y perfformiad a ddisgwylir gan ddeunyddiau ac maent yn cynnwys gwaith adeiladu er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010 ac enghreifftiau ac atebion ymarferol ar sut i sicrhau cydymffurfiad ar gyfer rhai o’r sefyllfaoedd adeiladu mwyaf cyffredin. Er nad oes sicrwydd y bydd datblygwr yn dilyn y canllawiau sydd wedi’u nodi mewn Dogfen Gymeradwy, mae rhagdybiaeth o gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau. I grynhoi, mae Dogfen Gymeradwy R:

  • yn darparu arweiniad technegol lefel uchel cyfyngedig sy’n seiliedig ar berfformiad. Nid oes unrhyw fanylebau wedi’u darparu ar gyfer y seilwaith ffisegol ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i fabwysiadu unrhyw awgrym penodol yn y Ddogfen Gymeradwy.
  • yn nodi bod y gofyniad i ddarparu seilwaith ffisegol mewn adeilad ym mharagraff R1 yn ei le i alluogi ceblau ffeibr optig neu gopr neu ddyfeisiau diwifr sy’n gallu darparu cyflymderau band eang sy’n fwy na 30 Mb yr eiliad i gael eu gosod
  • yn cadarnhau bod y gofyniad yn berthnasol yng Nghymru i adeiladau newydd ac i adeiladau presennol sy’n destun gwaith adnewyddu mawr lle bo hynny’n gymesur, ac yn berthnasol i anheddau (adeiladau sengl ac aml-annedd sy’n darparu enghreifftiau sgematig) ac i adeiladau ar wahân i anheddau
  • yn egluro y dylai dyluniad seilwaith ffisegol mewnol ystyried technolegau’r dyfodol
  • yn nodi eithriadau cyfyngedig gan gynnwys:
    • adeiladau mewn ardaloedd anghysbell lle mae’r posibilrwydd o gysylltiad cyflymder uchel yn cael ei ystyried yn rhy bell i gyfiawnhau rhoi seilwaith ffisegol cyflym neu bwynt mynediad parod i’r adeilad
    • adeiladau rhestredig (yn unol ag adran 1 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990) ac adeiladau mewn ardal gadwraeth (yn unol ag adran 69 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990) lle byddai'r gofynion yn newid eu cymeriad neu eu hymddangosiad mewn modd annerbyniol
    • adeiladau a gaiff eu meddiannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu gan luoedd arfog y Goron, neu a gaiff eu meddiannu fel arall at ddibenion sy'n gysylltiedig â diogelwch gwladol
    • gwaith adnewyddu mawr mewn achosion lle byddai cost cydymffurfio yn anghymesur â'r budd a gafwyd
  • yn nodi bod Rhan R bresennol yn berthnasol i adeiladau preswyl a dibreswyl

Bydd darpariaethau’r Rhan R bresennol a chynnwys Dogfen Gymeradwy R yn cael eu cadw ar gyfer adeiladau dibreswyl newydd ac adeiladau preswyl a dibreswyl presennol sy’n destun gwaith adnewyddu mawr.

Adran 2: polisi arfaethedig

Y camau tuag at osod band eang sy'n gallu delio â gigadidau mewn cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd

Mae’r union broses ar gyfer gosod band eang sy'n gallu delio â gigadidau mewn cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd yn dibynnu ar ba weithredwr rhwydwaith sydd wedi'i gysylltu. Fodd bynnag, mae’r camau cyffredinol yn aros yr un fath ar gyfer pob datblygiad.

Camau gosod band eang sy’n gallu delio â gigadidau:

  • Datblygwr (neu gontractwr sy'n gweithio ar ei ran) yn cysylltu â gweithredwr y rhwydwaith.
  • Dyfynbrisiau gweithredwr rhwydwaith.
  • Wedi cytuno ar gytundeb a’i lofnodi.
  • Gosod seilwaith mewn adeiladau sy’n barod ar gyfer gigadidau (pwynt mynediad ar gyfer anheddau, sy’n gallu bod yn bwynt mynediad cyffredin mewn adeiladau sy’n anheddau niferus, wedi’i gysylltu â’r pwynt terfynu rhwydwaith gofynnol ar gyfer pob annedd).
  • Seilwaith allanol angenrheidiol sy’n barod ar gyfer gigadidau wedi’i osod o bwynt terfynu’r rhwydwaith i’r pwynt dosbarthu rhwydwaith agosaf (mae gwahanol ddulliau’n cael eu defnyddio). Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fesul cam ar gyfer datblygiadau ond fel arfer byddai’n cynnwys pibelli, siambrau a phwyntiau terfynu ar y safle.
  • Cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau i’r pwynt dosbarthu rhwydwaith sydd wedi’i osod (mewn rhai achosion bydd hyn yn golygu ehangu’r rhwydwaith), sy’n cynnwys cebl ffeibr optig neu gyfarpar arall y bydd cysylltiad o’r fath yn cael ei ddarparu.
  • Contractau defnyddwyr gyda darparwr gwasanaeth rhyngrwyd perthnasol sy’n rhoi’r cysylltiad rhwydwaith gigadid ar waith.

Mae’r gofynion newydd arfaethedig wedi’u dylunio i gyd-fynd â’r holl arferion a’r camau presennol hyn er mwyn peidio â gosod arferion newydd ond ategu arferion presennol. Bydd hyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd y camau angenrheidiol i arfogi cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd â seilwaith sy’n barod ar gyfer gigadid a chysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau, gan leihau’r beichiau.

Rheoli adeiladu

Bydd y gofynion ar gyfer datblygwyr yn sicrhau bod gan gartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd gysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau drwy osod:

  • y seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid sy’n angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau (sy’n cynnwys seilwaith gan gynnwys pibellau, siambrau a phwyntiau terfynu) hyd at bwynt dosbarthu rhwydwaith oddi ar y safle pan fo hynny’n rhesymol ymarferol;
  • yn amodol ar gap cost o £2,000 am bob annedd, cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau (wedi’i wneud o gyfarpar fel cebl ffeibr optig, ceblau neu weirio arall, neu gysylltiad diwifr a fydd yn darparu band eang sy’n gallu delio â gigadidau pe bai Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn darparu gwasanaeth o’r fath)

Pan na fydd datblygwr yn gallu bodloni’r ail ofyniad a sicrhau cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau, er enghraifft oherwydd bod costau’r datblygwr ar ôl unrhyw gyfraniad gan weithredwr rhwydwaith yn fwy na’r cap costau neu os bydd eithriad arall yn berthnasol, bydd yn rhaid i ddatblygwr osod y cysylltiadau technoleg gorau nesaf sydd ar gael oni bai fod y dyfynbris ar gyfer y gosodiad hwnnw hefyd yn fwy na’r cap costau. Yn y lle cyntaf, dylai hyn fod yn gysylltiad cyflym iawn 30 Mbps o leiaf, gan fethu cael cysylltiad band eang yn unol â chyflymder llwytho i lawr y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang, fel y nodir yng Ngorchymyn Gwasanaeth Cyffredinol 2018 (Cyfathrebiadau Electronig (Gwasanaeth Cyffredinol) (Band Eang) 2018 – SI 2018/445). Mae hwn yn gysylltiad sy’n darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mb yr eiliad o leiaf ar hyn o bryd (ynghyd â pharamedrau ansawdd eraill sydd wedi’u diffinio). Pan fydd newidiadau yn y dyfodol i ofyniad cyflymder llwytho i lawr 10 Mbps Gorchymyn Gwasanaeth Cyffredinol 2018 yn cael eu gwneud, bydd angen adolygu’r gofyniad am gartrefi newydd.

Lle na ellir sicrhau cysylltiad heb ragori ar y cap costau, bydd y gofyniad cyntaf i osod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau yn sicrhau bod y cartref sydd wedi’i adeiladu o’r newydd yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn barod ar gyfer cysylltedd gigadid oni bai fod unrhyw eithriad pellach yn seiliedig ar ba mor bell yw’r eiddo’n briodol. Yn absenoldeb cysylltiad band eang, yn unol â chysylltiad Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang, bydd defnyddiwr fel arfer yn gallu gwneud cais am gysylltiad Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol neu wneud cais i gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru yng Nghymru.

Mae’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang (2018 Rhif 445) yn fesur ledled y DU a fwriedir fel ‘rhwyd ddiogelwch’ i ddarparu band eang i’r adeiladau hynny nad oes ganddynt fynediad at gysylltiad teilwng a fforddiadwy. Mae hyn yn cael ei ddiffinio ar hyn o bryd fel cysylltiad sy’n darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mb yr eiliad o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mb yr eiliad (ynghyd â pharamedrau ansawdd eraill sydd wedi’u diffinio). Mae Ofcom wedi diffinio cysylltiad fforddiadwy fel un sy’n costio dim mwy na £46.40 y mis. Mae’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang yn rhoi hawl gyfreithiol i ddefnyddwyr ofyn am gysylltiad band eang, hyd at drothwy cost o £3,400 ar yr amod bod meini prawf cymhwysedd yn cael eu bodloni, a dull i gyfrannu dros y trothwy hwn i sicrhau cysylltiad o fewn cyfnod penodol.

Gofyniad 1: seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer Gigadid

Bydd gofyniad y datblygwr i osod y seilwaith ffisegol parod ar gyfer gigadid sy’n angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau yn gofyn am waith adeiladu i sicrhau bod pob annedd (gan gynnwys pob annedd unigol mewn adeiladau sy’n gallu delio â gigadidau) yn cael y seilwaith angenrheidiol i gynnal o leiaf un cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau. Mae hyn yn cynnwys seilwaith mewnol ac allanol. Gellir lleoli seilwaith yn unrhyw le o fewn y safle, fel yn y llwybr troed, y dreif neu’r ardal gyffredin sy’n arwain o’r adeilad.

Seilwaith ffisegol mewn adeiladau

Er mwyn i’r datblygwr fodloni’r gofyniad i osod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid, bydd angen i’r cartref newydd gael pwynt terfynu rhwydwaith. Dyma’r pwynt ffisegol lle mae’r meddiannydd yn cael mynediad i’r rhwydwaith (fel arfer y tu mewn i’r cartref ond gall hyn fod y tu allan). Bydd hyn yn cysylltu’n fewnol yn yr adeilad â phwynt mynediad (pwynt ffisegol, y tu mewn neu’r tu allan i’r adeilad, sy’n hygyrch i weithredwr y rhwydwaith). Mae angen pwynt mynediad cyffredin ar gyfer cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau hefyd pan fydd yr adeilad yn cynnwys mwy nag un cartref.

Seilwaith allanol

Er mwyn i’r datblygwr fodloni’r gofyniad i osod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid, bydd angen i’r cartref newydd hefyd gael seilwaith y tu allan i’r adeilad. Gall hyn amrywio ar draws datblygiadau ond bydd fel arfer yn cynnwys gosod pibellau, siambrau, cabinetau, tyrau a pholion sy’n arwain o bwynt terfynu arferol y rhwydwaith adeiladu mewnol drwy bwynt mynediad.

Bydd angen i’r seilwaith ffisegol hwn sy’n barod ar gyfer gigadidau ymestyn i un o’r pwyntiau canlynol yn nhrefn blaenoriaeth:

  • pwynt dosbarthu rhwydwaith gweithredwr rhwydwaith ar gyfer cysylltiadau gigadid, a allai fod oddi ar y safle, neu
  • pan nad oes gan y datblygwr hawl i osod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau ar dir yn y canol lle byddai’n rhaid ei osod i gyrraedd pwynt dosbarthu’r rhwydwaith, pwynt mor agos ag sy’n rhesymol ymarferol at bwynt dosbarthu’r rhwydwaith, neu
  • pan nad oes gan y datblygwr hawl i osod seilwaith o’r fath mewn tir y tu hwnt i’r adeilad, pwynt mynediad neu bwynt mynediad cyffredin cyfatebol pwynt terfynu’r rhwydwaith
  • Mae’r dull fesul cam hwn wedi’i ddylunio i sicrhau nad yw’r gofyniad yn ymestyn i osod seilwaith ar dir parti arall neu drosto lle nad oes gan y datblygwr yr hawliau mynediad.

Bydd pwynt dosbarthu rhwydwaith yn amrywio ar sail y rhwydwaith dan sylw a gall fel arfer gynnwys cabinetau, blychau wedi’u gosod ar waliau neu bolion ffôn. Dyma’r pwynt pan fydd sylfaen neu rwydwaith craidd gweithredwr y rhwydwaith yn dod i ben. Er mwyn hwyluso cysylltiad, rhaid i sylfaen neu rwydwaith craidd gweithredwr y rhwydwaith gael ei fodloni gan seilwaith ffisegol sy’n arwain o bwynt terfynu rhwydwaith yr annedd, drwy bwynt mynediad.

Pan na fydd datblygwyr yn gallu gosod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid ar bwynt dosbarthu rhwydwaith oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at dir trydydd parti sy’n ymyrryd i wneud hynny, efallai y bydd gweithredwr rhwydwaith yn gallu cael mynediad at y tir trydydd parti yn y cyfamser, gan gynnwys drwy bwerau Cod Cyfathrebiadau Electronig (‘y Cod’). Y Cod yw’r fframwaith cyfreithiol sy’n sail i hawliau gweithredwyr rhwydweithiau i osod a chadw cyfarpar cyfathrebiadau electronig ar dir cyhoeddus a phreifat, ac i gynnal gweithgareddau eraill sydd eu hangen i ddarparu rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig. Pwrpas y Cod yw darparu fframwaith rheoleiddio sy’n cefnogi ac yn annog gosod a chynnal rhwydweithiau cyfathrebu digidol cadarn yn effeithlon ac yn gost-effeithiol.

Gan y bydd lleoliadau rhwydweithiau a phwyntiau dosbarthu gweithredwyr rhwydwaith yn amrywio ar draws datblygiadau, rydym yn annog datblygwyr i weithio gyda gweithredwyr rhwydwaith cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y seilwaith sydd wedi’i osod yn gallu cynnal offer cysylltu sy’n gallu delio â gigadidau er mwyn sefydlu cysylltiad rhwydwaith byw yn y pen draw. Dylai’r gwaith hwn sicrhau bod y defnydd o seilwaith sydd wedi’i gynllunio yn cyfateb i bwynt dosbarthu rhwydwaith arfaethedig neu leoliad gweithredwr rhwydwaith. Bydd y canllawiau statudol (Dogfen Gymeradwy R) yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gellir bodloni’r gofyniad hwn.

Perfformiad a manylebau seilwaith

Bydd gosod y seilwaith ffisegol parod ar gyfer gigadid sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei ddiffinio mewn ffordd debyg i’r trefniadau presennol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig cyflymder uchel yn y Rhan R bresennol, wedi’i diweddaru ar gyfer cysylltedd gigadid. Yn benodol, bydd yn cynnwys unrhyw seilwaith neu osodiad y bwriedir iddo gynnal elfennau, neu alluogi darparu, rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyhoeddus gwifrog neu ddiwifr sy’n gallu delio â gigadidau ac sy’n gallu darparu gwasanaeth mynediad band eang ar gyflymder llwytho i lawr o 1,000 Mbps o leiaf.

Ni fydd y gofynion yn nodi pa seilwaith y dylid ei ddefnyddio. Bydd angen iddo allu cynnal elfennau neu alluogi darparu rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig â gwifr neu ddi-wifr sy’n gallu delio â gigadidau. Mae rhestr anghyflawn o fathau o seilwaith y gellid eu defnyddio yn cynnwys pibellau ar y safle, mastiau, pibellau, siambrau, tyllau archwilio, adeiladau neu fynedfeydd i adeiladau, gosodiadau antena, tyrau, polion a phwyntiau terfynu. Nid yw’r gofyniad seilwaith ffisegol yn cynnwys ffibr optig neu geblau neu offer weirio arall a fydd yn darparu’r cysylltiad band eang sy’n gysylltiedig â’r ail ofyniad a gosod cysylltiad.

Ni fydd y gofynion seilwaith ffisegol hyn yn destun cap costau o ystyried y costau isel sy’n gysylltiedig â datblygwyr a’r angen i breswylwyr allu cael cysylltiad gigadid. Yn y rhan fwyaf o ddatblygiadau adeiladu newydd, bydd gwaith tir yn cael ei wneud yn gynnar er mwyn gallu cysylltu â chyfleustodau eraill, a ddylai hefyd helpu i gynnwys y seilwaith ffisegol.

Seilwaith ffisegol a’r cysylltiadau technoleg gorau nesaf

Ac eithrio lle mae eithriad yn berthnasol (gweler yr eithriad seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer Gigadid isod) bydd y gofyniad seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid yn berthnasol i bob cartref sydd wedi’i adeiladu o’r newydd. Rydym yn rhagweld, mewn rhai achosion, y bydd datblygwr yn:

  • peidio â gallu gosod cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau o fewn y cap costau, felly bydd dyletswydd arno i osod cysylltiad technoleg gorau nesaf (gweler Y cysylltiadau technoleg gorau nesaf) a gorfod gosod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau, ond
  • ni fydd yn gallu defnyddio seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau sy’n gallu cynnal cysylltiad technoleg gorau nesaf (er enghraifft, cysylltiad rhwydwaith cyfathrebiadau electronig cyflymder uchel) a chysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn gyfochrog

Yn y sefyllfa hon, os nad yw datblygwr yn gallu bodloni’r gofyniad i osod cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau (h.y. ffibr optig, ceblau neu wifrau neu gysylltiad offer di-wifr a fydd yn darparu band eang sy’n gallu delio â gigadidau), bydd yn rhaid iddo osod dwy set o seilwaith ffisegol.

Fodd bynnag, mewn llawer o achosion rydym yn rhagweld y bydd y seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau hefyd yn cefnogi cysylltiad rhwydwaith cyfathrebiadau electronig cyflym os nad oes angen cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau.

Eithriad seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer Gigadidau

Fel y nodir uchod, mae’r gofyniad i osod y seilwaith ffisegol parod ar gyfer gigadidau sy’n angenrheidiol i gynnal cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau yn bodoli hyd yn oed pan fydd gosod y cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn fwy na’r cap cost neu pan na fydd cysylltiad technoleg gorau nesaf yn gallu defnyddio seilwaith ffisegol sy’n gallu delio â gigadidau (gweler Seilwaith ffisegol a’r cysylltiadau technoleg gorau nesaf uchod). Mae hyn yn golygu, pan fydd cysylltiad band eang sy’n gallu delio â gigadidau yn fwy na’r cap cost adeg adeiladu neu pan fydd cysylltiad amgen yn cael ei osod, bydd cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd yn dal i gael eu hadeiladu gyda’r seilwaith priodol i gefnogi cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn y dyfodol.

Gellir cyflawni’r rhwymedigaeth hon mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, ond yn y rhan fwyaf o achosion byddai hyn yn golygu bod gan y cartref newydd y seilwaith ffisegol angenrheidiol i gefnogi cysylltiad ffeibr llawn sy’n gallu delio â gigadidau. Gellir lleoli’r seilwaith hwn yn unrhyw le o fewn y safle, fel yn y llwybr troed, y dreif neu ran gyffredin y safle lle mae’r annedd, wal allanol yr annedd a’r tu mewn i’r annedd.

Pan fydd datblygwr a gweithredwr rhwydwaith yn gallu nodi opsiwn rhwydwaith i gefnogi cysylltedd gigadid, bydd modd canfod sut a ble y dylid gosod y seilwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd nifer fach o achosion lle nad yw’n amlwg pa fath o seilwaith y dylid ei osod neu lle y dylid defnyddio’r seilwaith hwn i gyrraedd pwynt dosbarthu rhwydwaith.

O’r herwydd, rydym yn awyddus i geisio barn am unrhyw anawsterau ymarferol a ragwelir o ran cymhwyso’r gofyniad hwn yn gyffredinol ac a fyddai unrhyw eithriad yn briodol. Gallai hyn gynnwys ymestyn yr eithriad presennol ar gyfer gofynion Rhan R (rheoliad 44BI o Reoliadau Adeiladu 2010) fel a ganlyn, wedi’i addasu ar gyfer cysylltedd gigadid:

  • adeiladau mewn ardaloedd anghysbell lle mae’r posibilrwydd o gysylltiad cyflym iawn yn cael ei ystyried yn rhy bell i gyfiawnhau rhoi seilwaith ffisegol neu bwynt mynediad parod ar gyfer yr adeilad

Cwestiynau

C1: A yw costau darparu’r elfen seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid yn rhesymol neu a fyddant yn atal buddsoddi mewn tai newydd yng Nghymru?

C2. A fydd y cynigion yn helpu i sicrhau bod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid yn cael ei roi yn y lleoliad gorau i gysylltu â phwynt dosbarthu rhwydwaith? Os na fydd, esboniwch pam.

C3. Pa mor gyffredin yw hi i faterion tir trydydd parti atal cysylltedd â chartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd a sut mae’r materion hyn yn cael eu datrys?

C4. A oes amgylchiadau lle byddai’n anodd bodloni’r gofynion seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid, ac a fyddai angen eithrio’r rhain?

C5. Ydych chi’n rhagweld unrhyw broblemau gyda’r dull fesul cam o ymdrin â’r gofynion seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid, sy’n ymestyn i’r pwynt dosbarthu rhwydwaith? Rhowch unrhyw sylwadau/rhesymau dros eich safbwynt.

Gofyniad 2: cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau

Yr ail ofyniad yw gosod yr offer penodol sy’n gallu cynnal cysylltiad band eang, ar yr amod y gellir sicrhau hyn heb fwy na £2,000 o gap cost i bob annedd. Er bod modd ystyried unrhyw dechnoleg sy’n gallu darparu cysylltiadau gigadid, yn ymarferol, mae’r rhan fwyaf o gysylltiadau o dan y gofyniad yn debygol o ddefnyddio ffeibr i’r adeilad.

Byddai’r cyfarpar hwn yn cynnwys ffibr optig neu geblau, gwifrau neu dechnoleg ddi-wifr arall a ddarperir gan weithredwr rhwydwaith i hwyluso cysylltiad. Dylai hyn gefnogi cysylltiad band eang ar gyfer darparu gwasanaeth gan o leiaf un darparwr gwasanaeth rhyngrwyd drwy gysylltiad â seilwaith gweithredwr y rhwydwaith. Nid yw’r gofyniad yn ymestyn i wneud y cysylltiad yn ‘fyw’. Dim ond unwaith y bydd defnyddiwr yn contractio gyda darparwr gwasanaeth rhyngrwyd y bydd hyn yn digwydd.

Yn y lle cyntaf, dylai’r offer allu darparu gwasanaeth band eang ar gyflymder llwytho i lawr o 1,000 Mbps o leiaf. Bydd y diffiniad hwn yn golygu bod modd bodloni’r ail ofyniad drwy unrhyw fath o dechnoleg â gwifren neu ddi-wifr sy’n bodoli’n barod neu yn y dyfodol, gan gynnwys ffeibr i’r adeilad (FTTP), mynediad di-wifr sefydlog (FWA) a cheblau eraill (e.e. DOCSIS 3.1) neu loeren. Bydd y diffiniad hwn a’r dull gweithredu sy’n niwtral o ran technoleg yn cael eu cefnogi yn y canllawiau statudol sy’n ategu’r darpariaethau newydd yn Atodlen 1 Rheoliadau Adeiladu 2010 (gweler Darpariaethau newydd a chanllawiau statudol) gan nodi ffurfiau o dechnoleg bresennol (fel y cyfeirir atynt yn Adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd Ofcom (Connected Nations and infrastructure reports) a allai fod yn addas ar gyfer bodloni’r gofynion.

Y cysylltiad technoleg gorau nesaf

Fel y nodir uchod, os eir y tu hwnt i’r terfyn cost, bydd gofyniad ‘cysylltiad technoleg gorau nesaf’ yn berthnasol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr geisio cael dyfynbris ar gyfer gosod y cysylltiad cyflymaf posibl sydd ar gael heb fod yn fwy na’r cap cost o £2,000 ar gyfer pob annedd. Yn y lle cyntaf, dylai hyn fod yn rhwydwaith cyfathrebiadau electronig cyflym o leiaf, sy’n gallu darparu gwasanaethau mynediad band eang ar gyflymder o 30 Mbps o leiaf (band eang cyflym iawn).

Os nad yw datblygwr yn gallu sicrhau cysylltiad cyflym iawn o fewn y cap costau, byddai angen i’r datblygwr wedyn sicrhau cysylltiad band eang â chyflymder llwytho i lawr fel y caiff ei ddiffinio yn y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang (The Electronic Communications (Universal Service) (Broadband) Order 2018) neu ddarparu tystiolaeth na ellid sicrhau hyn heb fynd dros y cap cost o £2,000. Mae cysylltiad safonol o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang ar hyn o bryd yn cynnwys cysylltiad sy’n gallu darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mb yr eiliad o leiaf.

Ar gyfer cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd lle nad yw’r datblygwr wedi gallu cael cysylltiad band eang â chyflymder llwytho i lawr o 10 Mbps o leiaf heb fynd dros y cap cost, gallai defnyddiwr sy’n symud i’r cartref newydd geisio cael cysylltiad band eang o dan Orchymyn Gwasanaeth Cyffredinol 2018, yn amodol ar yr amodau cymhwysedd arferol neu wneud cais i gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru yng Nghymru.

Bydd y gofynion cysylltiadau technoleg gorau nesaf yn cael eu hadolygu’n gyson a phe bai diwygiadau’n cael eu gwneud i’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang (The Electronic Communications (Universal Service) (Broadband) Order 2018) gellir addasu neu ddileu’r gofynion cysylltu fel y bo’n briodol.

Ni fydd y trefniadau ar gyfer cael dyfynbrisiau gan weithredwyr rhwydwaith yn cael eu rhagnodi. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ymarferol i ddatblygwr ymgysylltu â gweithredwr y rhwydwaith i bennu faint fyddai’r dyfynbris hefyd ar gyfer cysylltiad cyflymder uchel a/neu gysylltiad Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang, os na fyddai cysylltiad gigadid yn cael ei ddarparu oherwydd bod y gost yn uwch na’r cap cost. Gallai hyn osgoi’r angen i’r datblygwr ofyn am ddyfynbrisiau dro ar ôl tro gan weithredwr y rhwydwaith.

Mewn rhai achosion, ond nid y cyfan o bosibl, bydd y seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid a osodir ar gyfer cysylltiad technoleg gorau nesaf hefyd yn gallu cynnal cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau. Er enghraifft, byddai defnyddio pibellau ar gyfer cysylltiad rhwydwaith cyfathrebu electronig cyflymder uchel sy’n gallu cynnal cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau yn cyfrannu at fodloni’r gofynion seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau. Fodd bynnag, fel y nodir yn yr eithriad seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer Gigadidau, ni fydd hyn yn digwydd bob tro. Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yn rhaid i ddatblygwyr osod seilwaith ffisegol ychwanegol sy’n barod ar gyfer gigadid ochr yn ochr â’r seilwaith ffisegol sydd ei angen ar gyfer y cysylltiad technoleg gorau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod costau a heriau ychwanegol defnyddio mewn ardaloedd gwledig ac efallai na fydd rhai cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd yn yr ardaloedd hyn yn cael cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau. Felly, mae’r cynigion hyn wedi cael eu dylunio i weithio ar y cyd â rhaglenni eraill sydd â’r nod o hybu cysylltedd gwledig. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffeibr llawn Llywodraeth Cymru, grant Allwedd Band Eang Cymru, y Gronfa Band Eang Lleol a Phrosiect Gigadid Llywodraeth y DU.

Cap costau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd costau gosod cysylltiadau mewn rhai achosion yn afresymol. Gan fod llawer o’r costau sy’n gysylltiedig â chysylltedd yn ymwneud â chysylltu annedd â rhwydwaith gweithredwr (yn unol â’r ail ofyniad), bydd cap cost o £2,000 yn cael ei roi ar gyfer y gofyniad hwn. Bydd datblygwr yn cael ei eithrio o’r gofyniad cysylltedd, os nad yw’r datblygwr, ar ôl cyflogi dau weithredwr rhwydwaith addas, wedi gallu sicrhau bod cysylltiad yn cael ei ddarparu heb fod yn fwy na chap cost o £2,000 i bob annedd.

Os bydd costau cysylltiad gigadid neu gysylltiad technoleg gorau nesaf yn fwy na’r cap, bydd dal angen i ddatblygwr sicrhau bod y gofyniad cyntaf (h.y. gosod y seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau) yn cael ei fodloni).

Cwmpas y gofynion newydd: cartrefi newydd

Cynigir y bydd y gofynion newydd yn Atodlen 1 Rheoliadau Adeiladu 2010 yn berthnasol i gartrefi newydd, hynny yw, adeiladu adeilad hunangynhwysol neu ran o adeilad i’w ddefnyddio fel annedd breswyl newydd. Mae hyn yn cynnwys y mathau canlynol o adeiladau:

  • preswyl
  • defnydd cymysg (gan gymhwyso at y rhan o’r datblygiad defnydd cymysg a ddefnyddir fel annedd breswyl)

Bydd y gofynion yn berthnasol i gartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd oherwydd byddant yn berthnasol i bob annedd neu adeilad sy’n cynnwys un annedd neu fwy y mae cynllun adeilad, hysbysiad neu hysbysiad cychwynnol wedi’i gyflwyno ar eu cyfer, ond heb gynnwys adeiladau preswyl presennol sy’n destun newidiadau sylweddol o ran defnydd neu waith adnewyddu mawr.

Bydd unrhyw rai o’r mathau hyn o ddatblygiadau tai newydd mewn ardaloedd cadwraeth hefyd yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y cynigion. Nid oes cyfyngiad awtomatig ar osod seilwaith band eang mewn adeiladau newydd neu wedi’u haddasu mewn ardaloedd cadwraeth dynodedig (a bennir yn unol ag adrannau 69 a 70 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990) ac mae cyfyngiadau mewn ardaloedd o’r fath yn agored i amrywiadau enfawr ac yn cael eu hystyried gan awdurdodau cynllunio lleol fesul achos. Felly, byddai cael eithriad cyffredinol ar gyfer cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd mewn ardaloedd cadwraeth yn golygu na fyddai’n rhaid i rai cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd gael seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid.

Nid yw anheddau sy’n destun gwaith adnewyddu mawr o fewn y cwmpas, nac ysgolion na gwestai. Bydd adeiladau sy’n cael eu meddiannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu luoedd arfog y Goron, neu sydd fel arall yn cael eu meddiannu at ddibenion sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, yn cael eu heithrio’n benodol o gwmpas y gofynion.

Newid defnydd sylweddol neu ‘drawsnewidiad’ sy’n arwain at annedd

Yn y cyd-destun hwn, mae newid defnydd neu ‘drawsnewidiad’ sylweddol at ddibenion y gofynion Rhan R presennol yn golygu creu cyfeiriad preswyl newydd, neu annedd neu fflat, lle’r arferai’r adeilad (neu’r rhan honno o’r adeilad) gael ei ddefnyddio at ddibenion amhreswyl. (Ni fyddai’r gofynion newydd yn ymestyn i fathau eraill o ‘drawsnewidiad’ fel rhai dibreswyl). Mae hefyd yn cynnwys lle mae mwy neu lai o anheddau’n cael eu creu mewn adeilad presennol, fel lle mae tŷ’n cael ei droi’n fwy nag un fflat neu floc o fflatiau wedi’i droi’n dŷ sengl. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o ddatblygiadau gan gynnwys mathau amrywiol o adeiladau presennol fel adeiladau masnachol a blociau swyddfa, adeiladau diwydiannol segur, ysguboriau a thai wedi’u troi’n anheddau sengl neu luosog. Rydym yn deall bod y mathau hyn o waith yn cael eu gwneud gan amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig a chwmnïau datblygu mawr.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i addasiadau o’r fath gydymffurfio â set benodol o ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010, ond nid yw hyn yn cynnwys y gofynion presennol ar gyfer gosod seilwaith ffisegol mewnol ar gyfer cyfathrebiadau electronig cyflym yn Rhan R. Mae gwybodaeth gyfyngedig ar gael ar hyn o bryd i gynnal asesiad o effaith bosibl cyflwyno gofynion ar gyfer anheddau sy’n cael eu creu drwy newid defnydd sylweddol, yn enwedig yng nghyswllt ardaloedd gwledig. Yn absenoldeb yr effaith bosibl ar gostau, mae’r effaith ar hyfywedd ymgymryd â’r addasiadau hyn yn anhysbys ac felly rydym yn cynnig na fydd anheddau newydd sy’n cael eu creu drwy newid defnydd neu drawsnewid sylweddol yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y gofynion newydd.

Cwestiynau

C6: A yw’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol yn bwynt cyfeirio priodol ar gyfer gwasanaethau cyflymder is?

C7: Nid yw’r cynigion yn darparu unrhyw eithriadau ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth. Ydych chi’n cytuno â hyn ac a oes unrhyw enghreifftiau eraill lle dylid ystyried eithriadau ac os felly, beth yw’r cyfiawnhad dros yr eithriadau hyn?

C8: Ydych chi’n cytuno na ddylid cynnwys newid sylweddol yn y defnydd neu’r ‘trawsnewid’ yng nghwmpas y cynigion? Os na, pam ddim?

Gweithredwyr rhwydwaith addas

Dim ond os bydd y datblygwr, ar ôl cysylltu â dau weithredwr rhwydwaith addas ar gyfer dyfynbrisiau, yn gwrthod cysylltiad heb fynd dros y cap y bydd y cap ar gostau yn berthnasol. Bydd yr hyn sy’n cael ei ystyried yn weithredwr rhwydwaith addas yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau’r datblygiad, ond bydd angen i ddatblygwr ystyried pa weithredwyr rhwydwaith sy’n ymddangos ymysg y rheini sy’n fwy tebygol o allu darparu cysylltiad. Mae enghreifftiau o ffactorau i’w hystyried yn cynnwys:

  • lleoliad y datblygiad
  • gallu gweithredwr rhwydwaith i ddarparu cysylltiad addas yn y lleoliad
  • gweithredwyr rhwydwaith presennol yn y lleoliad
  • cynlluniau datblygu gweithredwyr rhwydwaith
  • gweithredwyr rhwydwaith eraill a allai leoli yn yr ardal

Lle nad yw gweithredwr rhwydwaith yn gweithredu yn y lleoliad ar hyn o bryd neu’n agos iddo, ac nad oes ganddo gynlluniau i’w ddefnyddio yn y lleoliad, mae’n llai tebygol o allu darparu cysylltiad. Os na fydd gweithredwr rhwydwaith addas yn ymateb i ddatblygwr o fewn amser rhesymol, bydd hyn yn golygu bod y cysylltiad yn cael ei wrthod. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn weithredwr rhwydwaith priodol ar gael yn y Ddogfen Gymeradwy. Bydd rhagor o gymorth yn cael ei ddarparu i randdeiliaid, i’w helpu gyda’r hyn sy’n cael ei ystyried yn weithredwr rhwydwaith addas.

Ymrwymiadau gweithredwyr rhwydwaith

Er mwyn sicrhau bod y costau ar gyfer datblygwyr yn fach iawn ac nad ydynt yn fwy na’r cap ar gostau, mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau ymrwymiadau gan weithredwyr rhwydwaith a fydd yn cyfrannu at y costau sy’n codi o dan y cap. Mae’r ymrwymiadau hyn (Correspondence: New Build Developments: Delivering gigabit-capable connections) yn cynnwys, yn amodol ar ofynion penodol:

  • cyfraniad Virgin Media o £500 o leiaf, gan godi i fwy na £1,000 yn achos rhai safleoedd
  • cyfraniad cyfun gan Openreach a datblygwr o £3,400, gyda chyfraniad uchaf gan ddatblygwyr fesul plot o £2,000
  • ar ben hynny, mae Openreach wedi ymrwymo, pan na ellir darparu cysylltiad gigadid i gartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd o fewn y cap cost a’r cyfraniad, y bydd yn dibynnu ar gynnig y dewis amgen gorau nesaf, yn dibynnu ar y seilwaith sydd ar gael
  • mae Openreach wedi cyhoeddi strwythur prisiau sy’n lleihau’r costau mae datblygwyr yn eu talu am gysylltu dau ddatblygiad eiddo o £3,100 i £2,000 fesul adeilad, gan ddod â phob datblygiad o ddau adeilad neu ragor o fewn ein cap costau arfaethedig
  • roedd Openreach hefyd wedi ymrwymo i gysylltu seilwaith ffeibr llawn heb gyfraniadau gan ddatblygwyr ar gyfer pob safle datblygu newydd o 20 neu ragor o adeiladau, gan leihau hyn o’i gynnig blaenorol o 30 neu ragor o adeiladau.
  • cyfraniad Gigaclear o hyd at £1,000 am bob eiddo sydd wedi’i adeiladu o’r newydd (ar yr amod bod Gigaclear yn gallu gwneud gwaith seilwaith ar y cam priodol)

Er bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU a chan nad yw telathrebu yn faes polisi sydd wedi’i ddatganoli, byddem yn disgwyl i’r ymrwymiadau fod yr un mor berthnasol yng Nghymru.

Cyfrifo’r cap costau

Wrth asesu a fydd y cap cost yn uwch, bydd datblygwr yn ystyried y costau a ddyfynnwyd gan weithredwr rhwydwaith heb unrhyw gyfraniad ariannol gan weithredwr y rhwydwaith. Y cyfrifiad o’r gost i’r datblygwr yw cynnwys treth ar werth ond ni fydd yn cynnwys:

  • cost gosod seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid
  • gwariant gweinyddol y datblygwr
  • y gost i ddefnyddwyr am ddarparu gwasanaeth

Cwestiynau

C9: Ydych chi’n rhagweld unrhyw broblemau gyda’r gofyniad i gysylltu â dau weithredwr rhwydwaith addas ar gyfer dyfynbrisiau a’r meini prawf ar gyfer gweithredwr rhwydwaith addas?

C10: Ai £2,000 yw’r swm cywir ar gyfer y cap ar gostau ac ystyried y costau uwch o ddarparu band eang sy’n gallu delio â gigadidau yng Nghymru?

C11: Ydych chi’n cytuno â’r meini prawf ar gyfer cyfrifo’r cap costau? Os nad ydych, darparwch dystiolaeth.

Y broses a’r weithdrefn

Nod y polisi newydd yw sicrhau bod y broses o osod band eang sy’n gallu delio â gigadidau mor syml â phosibl i ddatblygwyr, gan adlewyrchu’r broses i ddangos ei bod yn cydymffurfio â gofynion eraill Rheoliadau Adeiladu 2010.

Er mwyn sicrhau bod modd bodloni’r gofynion, mae datblygwyr yn cael eu hannog i ymgysylltu â gweithredwyr rhwydwaith cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod modd darparu cysylltiad effeithlon ar gyfer datblygiad cartrefi newydd. Bydd yr ymgysylltu cynnar hwn â gweithredwyr rhwydwaith priodol hefyd yn golygu bod modd cadarnhau’r manylion sy’n ymwneud â chysylltedd a chydymffurfio ar gyfer rheoli adeiladu.

At ddibenion rheoli adeiladu, bydd yn ofynnol i ddatblygwr gyflwyno 'cynllun cyswllt' gyda cheisiadau cynllun llawn, hysbysiadau cychwynnol neu hysbysiadau diwygio a ddarperir i awdurdod lleol (naill ai'n uniongyrchol neu drwy AI). Er mwyn sicrhau bod cysylltedd yn cael ei ystyried ar gyfer pob cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd, bydd y ddeddfwriaeth yn ymestyn gofynion y cynllun cysylltedd i hysbysiadau cychwynnol a hysbysiadau diwygio.

Mae cynllun cysylltedd enghreifftiol wedi’i gynnwys yng Nghyfrol 1 Atodiad B y Ddogfen Gymeradwy sy’n cefnogi’r darpariaethau newydd yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010. Mae’r wybodaeth y bydd angen ei darparu yn cynnwys:

  • y dyfynbrisiau a gafwyd gan weithredwyr rhwydwaith i ddarparu cysylltiadau, a thystiolaeth bod gweithredwr rhwydwaith yn cael ei gontractio i ddarparu cysylltiadau i’r anheddau dan sylw
  • bod y seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadidau sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau yn cael ei osod
  • bod y gwaith o osod cysylltiad addas sy’n gallu delio â gigadidau wedi cael ei drefnu gyda gweithredwr rhwydwaith a natur y rhwydwaith i’w ddefnyddio
  • yn absenoldeb cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau, unrhyw eithriad neu eithriad y dibynnir arno, gan ddarparu tystiolaeth i’w gymhwyso
  • yn absenoldeb cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau, ffurf y cysylltiad technoleg gorau nesaf sy’n cael ei osod o fewn y cap costau.

Cynlluniau rheoli adeiladu a chysylltedd

Yn unol â’r arferion presennol, yn dilyn datrys unrhyw faterion a nodwyd gyda cheisiadau am gynlluniau llawn adeiladu, hysbysiadau cychwynnol neu hysbysiadau diwygio a chymeradwyaeth rheoli adeiladu derfynol, bydd gwaith adeiladu a wneir gan ddatblygwyr yn cael ei fonitro yn unol â holl ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010. Bydd cydymffurfiaeth yn cael ei hardystio yn y pen draw ar ôl cwblhau gwaith adeiladu ar yr amod bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010, gan gynnwys y gofynion gigadid newydd i’w hychwanegu at Atodlen 1.

Nid yw’r gofynion newydd yn effeithio ar y trefniadau rhwng datblygwyr a gweithredwyr rhwydwaith, fodd bynnag, os na fydd gweithredwr rhwydwaith yn bodloni telerau trefniant gyda datblygwr, bydd hyn yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer rheoli adeiladu ac asesu yn erbyn cydymffurfio â’r gofynion lle byddant yn gallu arfer disgresiwn ynghylch ardystio.

Monitro, ardystio a gorfodi rheolaeth adeiladu

Am y tro cyntaf, bydd gofynion cysylltedd yn golygu bod yn rhaid archwilio elfennau seilwaith ffisegol y tu hwnt i’r seilwaith mewnol, sef y seilwaith rhwng yr annedd a’r pwynt dosbarthu rhwydwaith. Rydym yn ymwybodol bod hwn yn gyfrifoldeb newydd dros reoli adeiladu ac felly bydd angen ei gefnogi. O’r herwydd, byddwn yn darparu rhagor o gymorth i helpu gyda phrosesau rheoli adeiladu a gwybodaeth bellach ynghylch arolygu’r elfennau.

Bydd y gofynion newydd ar gyfer datblygwyr yn cael eu gorfodi gan ddefnyddio trefn orfodi bresennol Rheoliadau Adeiladu 2010. Mae’r system hon wedi hen ennill ei phlwyf ac yn ddigonol ar gyfer y gofynion newydd.

Bydd y pwerau presennol a roddir i Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol i hepgor neu lacio gofynion yn Rheoliadau Adeiladu 2010 (o dan adran 8 o Ddeddf Adeiladu 1984) hefyd yn cael eu cymhwyso yn yr achos hwn i sicrhau, mewn amgylchiadau penodol, lle na fyddai’n briodol gorfodi gofynion, y gellir eu llacio yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu eraill 2010.

Cwestiynau

C12: Oes gennych chi unrhyw bryderon am gynnwys y cynllun cysylltedd, gan gynnwys y gofyniad i gysylltu â dau weithredwr rhwydwaith addas ar gyfer dyfynbrisiau ac addasrwydd y gweithredwyr rhwydwaith, neu argymhellion ar gyfer ychwanegiadau?

C13: A oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch ymestyn y gofyniad am gynllun cysylltedd i hysbysiadau cychwynnol a hysbysiadau diwygio, yn ogystal â chynlluniau?

C14: Oes gennych chi farn ynghylch sut y dylid archwilio’r elfennau seilwaith ffisegol newydd y tu hwnt i’r seilwaith mewnol i bwynt dosbarthu rhwydwaith?

Canllawiau statudol arfaethedig (dogfen gymeradwy R)

Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 yn cynnwys rhestr o ofynion swyddogaethol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth wneud gwaith adeiladu. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Dogfennau Cymeradwy, o dan bwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Adeiladu 1984 (gweler adrannau 6 a 7).

I gyd-fynd â’n diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Adeiladu 2010, rydym yn bwriadu cyhoeddi argraffiad wedi’i ddiweddaru o Ddogfen Gymeradwy R. Pwrpas yr argraffiad diwygiedig hwn o Ddogfen Gymeradwy R yw darparu dwy gyfrol. Mae’r cyntaf yn darparu canllawiau ar sut mae cydymffurfio â’r gofynion newydd arfaethedig ar gyfer seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid a chysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau ar gyfer cartrefi sydd wedi’u hadeiladu o’r newydd, yr ail yn darparu canllawiau ar y gofynion presennol ar gyfer mathau eraill o adeiladau. Bydd y Ddogfen Gymeradwy hefyd yn helpu i fonitro a gorfodi gan LABC ac Arolygwyr Cymeradwy.

Darpariaethau newydd a chanllawiau statudol

Cynigir y bydd y darpariaethau newydd yn Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 yn cael eu rhannu ymhellach yn ofynion ar gyfer seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid, pwyntiau mynediad cyffredin ar gyfer adeiladau sy’n cynnwys mwy nag un annedd a chysylltiad â rhwydwaith cyfathrebiadau electronig sy’n gallu delio â gigadidau, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Ddogfen Gymeradwy R sydd wedi’i diweddaru.

Dylid nodi bod gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a’r canllawiau mewn Dogfennau Cymeradwy yn niwtral o ran perfformiad a thechnoleg. Byddai nodi seilwaith, offer a dulliau technoleg ar gyfer bodloni’r gofynion newydd yn rhy ragnodol ac o bosibl yn eithrio technolegau’r dyfodol. Felly, nid yw’n briodol cyfeirio at fanylebau unrhyw weithredwr rhwydwaith penodol ar gyfer seilwaith parod ar gyfer gigadid neu offer ar gyfer cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau.

Canllawiau ymarferol i ddatblygwyr

Un dull arfaethedig o fodloni’r gofyniad am seilwaith ffisegol parod ar gyfer gigadid y tu allan i adeiladau yw gosod systemau pibellau a siambr yn unol â Chanllawiau Streetworks UK (y Cyd-Grŵp Cyfleustodau Cenedlaethol (streetworks.org.uk)). Byddai angen i hyn allu cynnal o leiaf un cysylltiad gigadid i bob annedd ar ddatblygiad.

Yn yr un modd, un ffordd arfaethedig o fodloni’r gofyniad am seilwaith ffisegol sy’n barod ar gyfer gigadid mewn adeiladau sy’n cynnwys anheddau lluosog yw gosod system cefnogi pibellau neu geblau sy’n gallu cynnal o leiaf un cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau ar gyfer pob annedd unigol.

Dylid nodi bod yn rhaid iddo gydymffurfio â holl ofynion perthnasol Rheoliadau Adeiladu 2010 pan fydd gwaith adeiladu yn cael ei wneud. Bwriedir i’r argraffiad diwygiedig o Ddogfen Gymeradwy R gyfeirio’n benodol at y gofynion diogelwch tân yn Rhan B o Reoliadau Adeiladu 2010 sy’n ymwneud â lle mae pibellau neu geblau’n cael eu llwybro drwy fannau cyffredin a waliau a lloriau is-haenau, a hefyd at y gwaharddiad ar ddeunyddiau hylosgi yn waliau allanol adeiladau preswyl uchel iawn.

Bwriedir cyfeirio yn y Ddogfen Gymeradwy at Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd diweddaraf Ofcom (Cysylltu’r Gwledydd ac adroddiadau seilwaith - Ofcom) am restr o dechnolegau sy’n gallu cydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau. Mae hyn yn cynnwys FTTP, mathau eraill o geblau, a rhywfaint o FWA.

Y gofyniad arfaethedig yw sicrhau bod pob cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd yn cael cysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau. Cynigir y bydd y Ddogfen Gymeradwy yn darparu canllawiau ar gyfer darparu’r pwynt terfynu rhwydwaith ym mhob annedd unigol. Ar gyfer pwyntiau terfynu rhwydwaith, y bwriad yw y bydd argraffiad diwygiedig Dogfen Gymeradwy R yn cyfeirio at y gofynion hygyrchedd a diogelwch trydanol yn Rhannau M a P o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010. Bydd y Ddogfen Gymeradwy hefyd yn cynnwys ffactorau i’w hystyried gan ddatblygwr wrth benderfynu pa weithredwr rhwydwaith neu weithredwyr rhwydwaith i gysylltu â nhw am ddyfynbris.

Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol, bydd y Ddogfen Gymeradwy hefyd yn rhoi arweiniad ar y lleoliad sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y pwynt terfynu rhwydwaith yn yr annedd, h.y. mewn mannau agored yn hytrach nag mewn lleoliadau fel cypyrddau cyfleustodau. Mewn anheddau mwy, neu os nad yw’r pwynt terfynu wedi’i leoli mewn ardal agored, efallai na fydd dibynnu ar WiFi yn darparu cysylltiad da â phob ystafell yn yr annedd. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnig gofynion i ddarparu cysylltiadau â gwifren o fewn yr annedd unigol (er enghraifft, cyfarpar ar gyfer darpariaeth well mewn annedd). Fodd bynnag, efallai y bydd rhai datblygwyr yn penderfynu darparu cysylltiadau â gwifren gan y gall hyn fod yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy a’r bwriad yw y bydd cyfeiriad at gyngor ar arferion gorau yn cael ei gynnwys yn y Ddogfen Gymeradwy.

Cynigir hefyd bod argraffiad diwygiedig o Ddogfen Gymeradwy R yn cynnwys canllawiau ar yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun cysylltedd sydd i’w gyflwyno gyda phob cais o dan Reoliadau Adeiladu 2010. Cynigir y bydd ffurflen fodel dwy ran ar gyfer y cynllun cysylltedd yn cael ei chynnwys yn y Ddogfen Gymeradwy.

Er mwyn lleihau’r beichiau gweinyddol i’r datblygwyr hynny sy’n bwriadu gosod cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau, dim ond yr wybodaeth yn Rhan A y cynllun cysylltedd fyddai angen ei chyflwyno. Ar gyfer y rheini sy’n chwilio am eithriadau a/neu sy’n bwriadu gosod rhywbeth ar wahân i gysylltiad sy’n gallu delio â gigadidau, byddai angen cyflwyno’r wybodaeth ychwanegol a nodir yn Rhan B y cynllun cysylltedd hefyd.

Mae drafft o’r argraffiad diwygiedig arfaethedig o Ddogfen Gymeradwy R wedi’i atodi i’r dudalen ymgynghori mewn dwy gyfrol.

Cwestiynau

C15: Oes gennych chi unrhyw sylwadau penodol am gynnwys y rhifyn diwygiedig o Ddogfen Gymeradwy R, er enghraifft, cyfeiriadau at ganllawiau allanol?

C16: Ydych chi’n cytuno â chynigion i gyfeirio at ganllawiau Streetworks UK ar gyfer seilwaith ffisegol allanol sy’n barod ar gyfer gigadid yn y Ddogfen Gymeradwy?

C17: Ydych chi’n cytuno â chynigion a chanllawiau ar gyfer pwyntiau terfynu rhwydwaith a chynnwys cyngor arfer gorau i wella cysylltedd yn yr annedd unigol?

C18: Ydych chi’n cytuno â’r cynigion i gynnwys ffurflen fodel dwy ran ar gyfer y cynllun cysylltedd gyda’r Ddogfen Gymeradwy?

C19: Os oes gennych chi unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud ynghylch y cynigion, nodwch nhw yma.

C20: Rhowch unrhyw adborth sydd gennych ar yr asesiad o’r effaith yma, gan gynnwys y tybiaethau a wnaethpwyd ac asesiad o gostau a manteision posibl yr opsiynau arfaethedig rydym wedi’u gwneud.

C21: Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

C22: Eglurwch hefyd sut yr ydych yn credu y gellid llunio neu newid y cynnig er mwyn cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Termau allweddol

Allwedd Band Eang Cymru

Cynllun grant gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cyllid i breswylwyr, sefydliadau’r trydydd sector a busnesau bach a chanolig i wella cysylltedd band eang.

Cynllun cysylltedd

Templed ffurflen enghreifftiol i ddatblygwyr ddarparu gwybodaeth i gyd-fynd â phob cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu sy’n cynnwys adrannau ar gyfer gwybodaeth y mae’n ofynnol i ddatblygwyr ei darparu, gan gynnwys manylion y cysylltiad â rhwydwaith cyfathrebu electronig Cyhoeddus, ac adrannau i ddatblygwyr ddarparu rhagor o wybodaeth i helpu gyda’r broses rheoli adeiladu.

Ffeibr i’r Adeilad

Cysylltiad band eang lle mae adeilad wedi’i gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus drwy gebl ffeibr optig. Mae hefyd yn cael ei alw’n gysylltedd ffeibr llawn weithiau.

Mynediad Di-wifr Sefydlog

Cysylltiad band eang lle mae adeilad wedi’i gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus drwy dechnoleg ddi-wifr.

Cysylltiad Ffeibr Llawn

Cysylltiad band eang lle mae adeilad wedi’i gysylltu â rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus drwy gebl ffeibr optig. Mae hefyd yn cael ei alw’n ffeibr i’r adeilad weithiau.

Cynllun Talebau Band Eang Gigadid

Cynllun talebau Llywodraeth y DU sy’n darparu cyllid i ddarparwyr rhwydwaith i ddarparu prosiectau band eang gigadid i gysylltu cartrefi a busnesau.

Band eang sy’n gallu delio â gigadidau

Cysylltiad band eang sy’n gallu darparu cyflymderau llwytho i lawr o 1000Mbps o leiaf.

Cysylltiadau sy’n gallu delio â gigadidau

Cysylltiad band eang sy’n gallu darparu cyflymderau llwytho i lawr o 1000Mbps sy’n cynnwys cyfarpar fel cebl ffeibr optig, ceblau neu wifrau eraill, neu gysylltiad di-wifr.

Seilwaith Ffisegol sy’n Barod ar gyfer Gigadidau

Seilwaith ffisegol neu osodiadau, gan gynnwys elfennau o dan berchnogaeth ar y cyd, sydd â’r bwriad o gynnal rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyhoeddus â gwifren neu ddi-wifr sy’n gallu delio â gigadidau.

Cronfa Band Eang Lleol

Cynllun grant gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i ddarparu band eang i gymunedau.

Pwynt Dosbarthu Rhwydwaith

Dyma’r pwynt pan fydd sylfaen neu rwydwaith craidd gweithredwr y rhwydwaith yn dod i ben.

Gweithredwr Rhwydwaith

Darparwr rhwydwaith cyfathrebu electronig Cyhoeddus.

Pwynt Terfynu Rhwydwaith

Man ffisegol lle mae’r meddiannydd yn cael mynediad at rwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym.

Prosiect Gigadid

Mae Prosiect Gigadid yn brosiect gan Lywodraeth y DU i ddarparu mynediad at fand eang sy’n gallu delio â gigadidau i bob adeilad yn y DU.

Prosiect olynu i Cyflymu Cymru

Prosiect gan Lywodraeth Cymru i ddarparu band eang ffeibr llawn i 39,000 o adeiladau.

Band Eang Cyflym Iawn

Cysylltiad band eang sy’n gallu darparu cyflymderau llwytho i lawr o 30Mbps o leiaf.

Cyflymu Cymru

Prosiect gan Lywodraeth Cymru a gyflwynodd fand eang cyflym iawn i tua 733,000 o adeiladau.

Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol

Mae’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol yn fesur ar gyfer y DU gyfan a fwriedir fel ‘rhwyd ddiogelwch’ i ddarparu band eang i’r adeiladau hynny nad oes ganddynt fynediad at gysylltiad teilwng a fforddiadwy. Mae hyn yn cael ei ddiffinio ar hyn o bryd fel cysylltiad sy’n darparu cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbps o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbps.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 28 Ebrill 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Datblygiadau adeiladu newydd: darparu cysylltiadau galluog gigabit
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â hwy neu'n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych am i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ran o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am ddim mwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG45846

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.