Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r dull swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach.

Mae MALIC yn nodi’r ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl gwahanol fath o amddifadedd. Cyfrifir y mynegai ar sail wyth math neu faes amddifadedd, pob un wedi'i lunio ar sail amrywiaeth o wahanol ddangosyddion (neu fesurau). Gweler MALlC am fwy o wybodaeth.

Mae’r mynegai diweddaraf, MALIC 2019, yn defnyddio data o 47 o ddangosyddion, ond mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar bedwar dangosydd sy'n darparu gwybodaeth benodol am blant ifanc hyd at saith mlwydd oed mewn amddifadedd. Mae'r pedwar dangosydd hyn yn cwmpasu meysydd incwm, iechyd ac addysg ac fe'u disgrifir isod:

  • Amddifadedd incwm (plant 0 i 4 oed sy'n byw ar aelwydydd sy'n ddifreintiedig o ran incwm), 2016-2017
  • Pwysau geni isel (genedigaethau sengl byw llai na 2.5kg), cyfartaledd 2009-2018
  • Plant 4 i 5 oed (oedran derbyn) sy'n ordew, cyfartaledd o 2012-13 hyd at 2017-18
  • Sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen ar gyfer plant oed 6 i 7, cyfartaledd Tair Blynedd Academaidd 2015/16 i 2017/18

Gweler ein Hadroddiad technegol MALlC 2019 ar llyw.cymru am ragor o wybodaeth ar y dangosyddion hon.

Yma, rydym yn cyflwyno detholiad bach o'r dadansoddiad y gellir ei wneud gan ddefnyddio data MALlC, ond mae llawer mwy yn bosibl. Ceir rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach yn yr erthygl yma yn yr adran ar ble i ddod o hyd i ddata, dadansoddiadau a chanllawiau MALlC.

Beth sy'n bwysig i'w wybod?

Er bod MALlC wedi'i adeiladu o ddata lefel ardal fach (ACEHI), mae llawer o'r gwaith dadansoddi dangosyddion a gyflwynir yn yr erthygl hon ar lefel yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) mwy, neu lefel Awdurdod Lleol.  

Mae nifer y plant ifanc mewn llawer o ACEHI yn fach iawn, sy'n gwneud canlyniadau eithafol yn fwy tebygol.

Mae gan bob ACEHI boblogaeth tua'r un mor gyfartal rhwng 1,000 a 3,000 o bobl, tra bod gan bob ACEHG, a adeiladwyd o grwpiau o ACEHI, boblogaeth tua’r un mor gyfartal rhwng 5,000 a 15,000 o bobl.

Mae'r data ar gyfer gwahanol ddangosyddion yn seiliedig ar wahanol flynyddoedd gyda'r rhan fwyaf yn cael eu cyflwyno fel cyfartaleddau aml-flwyddyn, oherwydd niferoedd bach yn yr ardal fach lefel (ACEHI).

Mae'r holl waith dadansoddi yn yr erthygl hon yn seiliedig ar ddata a gasglwyd cyn pandemig covid-19 ac felly nid yw'n dangos effeithiau'r pandemig inni.

Fodd bynnag, gall y gwaith dadansoddi a gyflwynir yma roi gwybodaeth inni am gymunedau a oedd yn agored i niwed cyn y pandemig a'r rhai a allai wedi bod yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y pandemig.

Mae'r holl ddata a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad yn yr erthygl hon wedi'u cyhoeddi StatsCymru.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd 48,000 o blant ifanc rhwng 0 a 4 oed yng Nghymru yn byw mewn amddifadedd incwm yn 2016-17. Mae hyn yn 28% o'r holl blant yn y grŵp oedran hwn.
  • Plant 0 i 4 oed oedd fwyaf tebygol o fyw mewn amddifadedd incwm i’w gymharu â grwpiau oedran eraill o blant ac oedolion.
  • Gostyngodd cyfran y plant ifanc mewn amddifadedd incwm yng Nghymru o flwyddyn i flwyddyn o 30% yn 2012-13 i 27% yn 2015-16, ond ers hynny mae'r gyfradd amddifadedd wedi cynyddu ychydig i 28% yn 2016-17.
  • Roedd plant oedran derbyn yn y ddegfed ran o ardaloedd lleol a oedd fwyaf difreintiedig o ran incwm 76% yn fwy tebygol o fod yn ordew na'r rhai yn y ddegfed ran o ardaloedd a oedd leiaf difreintiedig o ran incwm.
  • Roedd ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd o ran un dangosydd yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd mewn perthynas â rhai eraill hefyd, gyda gordewdra, pwysau geni isel ac amddifadedd addysg cyfnod sylfaen yn amlwg yn gysylltiedig ag amddifadedd incwm.
  • Roedd y cyfraddau amddifadedd uchaf ar gyfer gwahanol ddangosyddion wedi'u gwasgaru ar draws gwahanol awdurdodau lleol.
    • Ym Mlaenau Gwent yr oedd amddifadedd incwm i blant 0 i 4 oed fwyaf cyffredin.
    • Yn Rhondda Cynon Taf yr oedd cyfraddau pwysau geni isel ar eu huchaf.
    • Ym Merthyr Tudful yr oedd gordewdra oedran derbyn fwyaf cyffredin.
    • Yng Nghastell-nedd Port Talbot yr oedd amddifadedd addysg (cyfnod sylfaen) fwyaf cyffredin.

Plant ifanc rhwng 0 a 4 oed mewn amddifadedd incwm

Ledled Cymru roedd tua 48,000 o blant ifanc rhwng 0 a 4 oed yn byw mewn amddifadedd incwm yn y flwyddyn ariannol 2016-2017. Mae hyn yn cyfrif am 28% o'r holl blant yn y grŵp oedran hwn. Cyfrifir fod plant yn byw mewn amddifadedd incwm os ydynt yn blentyn dibynnol i oedolyn sy'n hawlio budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm neu sy'n geisiwr lloches sy’n derbyn cymorth. Gweler adroddiad technegol MALlC 2019 am ragor o fanylion.

Image
Cynrychiolaeth weledol o ganran y plant 0 i 4 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm; 28 allan o 100 cylch wedi'u graddliwio’n wahanol i'r gweddill.

Fel y dangosir yn Siart 2, plant ifanc 0 i 4 oed oedd y grŵp oedran a oedd fwyaf tebygol o fyw mewn amddifadedd incwm yn y flwyddyn ariannol 2016-2017. Mae’n debygol mai’r rheswm dros hyn yw fod gan y rhai sy'n gofalu am blant ifanc efallai â llai o allu i weithio ac enillion is neu gostau gofal plant uwch, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm.

Image
Siart bar llorweddol sy'n dangos cyfraddau cyfartalog pobl mewn gwahanol grwpiau oedran a oedd yn byw mewn amddifadedd incwm yn 2016 i 2017.

Ym mhle yng Nghymru mae plant ifanc mewn amddifadedd incwm yn byw?

Mae cysylltiad agos rhwng amddifadedd incwm mewn plant ifanc a graddfeydd amddifadedd cyffredinol MALlC. Yn yr 20% o ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar sail eu safle cyffredinol yn MALlC, bu 49% o blant ifanc yn byw mewn amddifadedd incwm. Mae cyfran y plant ifanc difreintiedig o ran incwm yn gostwng yn y grwpiau MALlC llai difreintiedig, ond hyd yn oed yn yr 20% o ACEHI lleiaf difreintiedig, mae 9% o blant ifanc (2,700 o blant ifanc) yn dal i fyw mewn amddifadedd incwm.

Mae cyfraddau plant ifanc yn byw mewn amddifadedd incwm hefyd yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Fel y dangosir yn siart 3, nid yw'r Awdurdodau Lleol sydd â'r cyfrannau uchaf o blant ifanc sy'n byw mewn amddifadedd incwm bob amser yr un fath â'r ardaloedd â'r nifer fwyaf o blant ifanc sy'n byw yn yr amgylchiadau hyn. Y rheswm am hyn yw niferoedd anghyfartal o blant ym mhob ardal leol. Gan ddibynnu ar yr hyn y mae'r data'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, mae'n bwysig ystyried y ddau fesur hwn. Mae hyn hefyd yn wir ynghylch ardaloedd daearyddol llai fel ACEHI.

Cyfrifwyd yr amcangyfrifon o amddifadedd incwm a ddarparwyd yn yr erthygl hon gan ddefnyddio data dangosyddion amddifadedd incwm ardaloedd bach a gyhoeddwyd, wedi'u rhannu yn ôl oedran ac amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer canol 2016.

Cyhoeddir yr amcangyfrifon lleol hyn ar StatsCymru ynghyd â manylion y dull a ddefnyddiwyd, felly gellir defnyddio’r un dull o gyfrif gydag amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer gwahanol flynyddoedd os oes angen.

Image
Siart bar sy'n dangos nifer y plant 0 i 4 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm ar gyfer pob Awdurdod Lleol yn ôl trefn ddisgynnol y cyfraddau o blant 0 i 4 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm.

Yr awdurdod lleol sydd â'r gyfradd uchaf o amddifadedd incwm ymhlith plant ifanc oedd Blaenau Gwent, lle mae 37% o'r rhai 0-4 oed oedd yn byw mewn amddifadedd incwm. Mae hyn yn cyfateb i tua 1,400 o blant ifanc.

Yr awdurdod lleol sydd â'r nifer fwyaf o blant ifanc sy'n byw mewn amddifadedd incwm oedd Caerdydd, lle oedd 6,600 o blant yn byw yn yr amgylchiadau hyn. Roedd cyfradd amddifadedd Caerdydd o 29% ar gyfer y grŵp oedran hwn ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 28%. Roedd gan Rhondda Cynon Taf gyfradd amddifadedd gymharol uchel o 32% ynghyd â’r nifer ail uchaf o blant ifanc oedd yn byw yn yr amgylchiadau hyn o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill Cymru. Roedd tua 4,500 o blant 0 i 4 oed difreintiedig o ran incwm yn byw yn Rhondda Cynon Taf rhwng 2016-2017.

Roedd y cyfraddau isaf o amddifadedd incwm ar gyfer plant ifanc ym Mhowys a Sir Fynwy lle bu 17% o blant yn byw mewn amddifadedd incwm, er bod hyn yn dal i olygu bod dros 1,000 o blant ifanc ym Mhowys, a tua 750 yn Sir Fynwy yn byw yn yr amgylchiadau hyn.

Dosbarthiad amddifadedd incwm ymhlith plant ifanc mewn ardaloedd bach

Ar draws pob ACEHI, mae cyfrannau plant ifanc mewn amddifadedd incwm yn amrywio o 0% i 94%. Fodd bynnag, mae angen cymryd gofal wrth ddehongli canlyniadau ACEHI gan fod llawer o ardaloedd bach yn cynnwys nifer fach o blant (cyn ised ag 8 o blant mewn un ACEHI). Mae hyn yn golygu bod canlyniadau eithafol yn fwy tebygol.

Gan gymryd yr her a ddisgrifir uchod i ystyriaeth, dadansoddwyd amddifadedd incwm ymhlith plant ifanc ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yma. Mae ACEHG yn fwy nag ACEHI ac yng Nghymru maent yn cynnwys o leiaf 160 o blant rhwng 0 a 4 oed yn 2016 (cyflwynir y cyfnod cyfeirio ar gyfer data amddifadedd incwm yma).

Yn 2016-17, roedd amddifadedd incwm ymhlith plant ifanc yn amrywio rhwng ACEHG o 3% i 67%. Mae Siart 4 yn dangos dosbarthiad amddifadedd rhwng Awdurdodau Lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner canol yr ACEHG ym mhob Awdurdod Lleol, gyda'r llinell lorweddol ganolog yn dangos y gyfradd amddifadedd incwm ganolrifol. Mae'r llinellau fertigol yn dangos yr ystod lawn o gyfraddau mewn ACEHG ar gyfer pob awdurdod lleol. Dynodir ardaloedd sy'n wahanol iawn i weddill yr ACEHG mewn awdurdod lleol (a elwir yn allanolion) fel dotiau.

Image
Plotiau blwch o gyfraddau plant ifanc mewn ACEHG sy'n byw mewn amddifadedd incwm ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Roedd cryn amrywiaeth yng nghyfran y plant ifanc sy'n byw mewn amddifadedd incwm ar draws ACEHG ac Awdurdodau Lleol. Yn enwedig:

  • Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol sydd â'r gyfradd gyffredinol uchaf o amddifadedd incwm ymhlith plant 0 i 4 oed, sef 37%.
    • Blaenau Gwent oedd â'r amrywiad lleiaf ar draws pob ACEHG hefyd, sy'n awgrymu bod amddifadedd wedi'i ddosbarthu'n eithaf cyfartal ledled yr Awdurdod Lleol.
  • Roedd cyfraddau plant ifanc sy'n byw mewn amddifadedd incwm yn amrywio'n fawr yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys yr ACEHG mwyaf difreintiedig o ran incwm a'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer plant 0 i 4 oed.
    • Roedd 67% o blant ifanc yn ardal Dwyrain Trelái ('Caerdydd 039') yn byw mewn amddifadedd incwm, o'i gymharu ag ychydig o dan 3% yn yr ardal o amgylch Rhiwbeina a Phant-mawr ('Caerdydd 004’).
  • Nodir tri ACEHG fel allanolion. Ym mhob un o'r achosion hyn mae gan yr ardal lefel anarferol o uchel o amddifadedd o gymharu â gweddill yr ACEHG yn yr Awdurdod Lleol hwnnw.
    • Yn Wrecsam, oedd 59% o blant ifanc yn yr ardal o amgylch Parc Caia ('Wrecsam 010') yn byw mewn amddifadedd incwm. Mae hyn yn sylweddol uwch na'r ardal ail fwyaf difreintiedig yn yr awdurdod lleol hwnnw, oedd â chyfradd amddifadedd o 35%. Roedd tri o'r pum ACEHI yn Wrecsam 010 ymhlith y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran incwm ar gyfer plant ifanc yng Nghymru, sef Queensway 1 a 2, a Wynnstay.
    • Yn gogledd-ddwyrain y Barri ym Mro Morgannwg, oedd gan ardal Gibbonsdown ('Bro Morgannwg 007') gyfradd amddifadedd incwm o 47% ar gyfer plant ifanc, o'i gymharu â 33% yn ei ACEHG ail fwyaf difreintiedig.
    • Yng Ngwynedd, oedd 41% o blant ifanc yn byw mewn amddifadedd incwm yn ardal Dwyrain Caernarfon ('Gwynedd 006'), o'i gymharu â 28% yn ei hardal ail fwyaf difreintiedig.

Newid dros amser

Mae Tabl 1 yn dangos cyfran y plant ifanc mewn amddifadedd incwm ym mhob awdurdod lleol o 2012-2013 (a gynhwysir yn y diweddariad llawn i fynegai MALlC yn 2014) hyd at 2016-2017 (a gynhwysir yn y diweddariad llawn o MALlC yn 2019). Mae amddifadedd incwm wedi'i fesur yn yr un ffordd ers datblygu MALlC gyntaf, ac ystyrir bod modd cymharu'r data’n fras dros amser. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli'r rhesymau y tu ôl i unrhyw newidiadau dros amser. Gan fod amddifadedd incwm ym MALlC yn seiliedig ar nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau penodol, gallai'r cyfraddau gael eu effeithio gan y ffordd y caiff rheolau budd-daliadau eu cymhwyso'n ymarferol (er enghraifft, gall newidiadau bach i'r system les effeithio ar drothwyon a meini prawf cymhwysedd). Gweler adroddiad technegol MALlC 2019 am ragor o wybodaeth.

Yn Nhabl 1, yn y colofn olaf, mae 'blwyddyn diweddariad  dangosyddion MALlC' yn cyfeirio at y flwyddyn y cyhoeddwyd data'r dangosyddion (yn hytrach na chyfnod cyfeirio'r data) ac mae'n cyfateb i'r dimensiwn 'Blwyddyn' a nodir yn nhablau MALlC StatsCymru. Sylwer mai dim ond yn 2014 a 2019 y cyfrifwyd mynegai MALlC a’r safleoedd o fewn meysydd yn llawn. Fodd bynnag, diweddarwyd rhywfaint o ddata sylfaenol y dangosyddion, gan gynnwys data amddifadedd incwm, yn y cyfamser. Er eglurder, bydd y dadansoddiad yn yr adran hon o'r erthygl yn cyfeirio at flynyddoedd y data yn hytrach na blynyddoedd diweddariad dangosyddion MALlC.

Tabl 1. Cyfran y plant ifanc mewn amddifadedd incwm ym mhob Awdurdod Lleol, tuedd dros amser rhwng 2012-2013 a 2016-2017
Awdurdod lleol 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017
Ynys Môn 30 27 25 26 27
Gwynedd  24 21 21 21 21
Conwy  31 30 26 25 25
Sir Ddinbych 32 31 30 28 29
Sir y Fflint 24 23 22 21 21
Wrecsam  27 26 26 25 27
Powys 20 19 18 17 17
Ceredigion  21 23 22 22 23
Sir Benfro 28 27 26 25 26
Sir Gaerfyrddin 27 27 25 25 26
Abertawe 31 29 29 29 29
Castell-nedd Port Talbot 35 34 34 32 32
Pen-y-bont ar Ogwr  35 34 31 29 29
Bro Morgannwg 27 26 24 23 23
Caerdydd 33 31 30 29 29
Rhondda Cynon Taf  35 34 33 31 32
Merthyr Tudful  38 37 35 33 33
Caerffili 32 31 30 29 29
Blaenau Gwent  41 39 37 36 37
Torfaen  35 33 31 30 30
Sir Fynwy 20 19 19 17 17
Casnewydd 35 33 33 30 30
Cymru 30 29 28 27 28
Blwyddyn dangosyddion MALlC 2014 2015 2016 2017 2019

Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), Data dangosyddion, Llywodraeth Cymru

Gostyngodd cyfran y plant ifanc mewn amddifadedd incwm yng Nghymru o flwyddyn i flwyddyn o 30% yn 2012-13 i 27% yn 2015-16, ond ers hynny mae'r gyfradd amddifadedd wedi cynyddu ychydig i 28% yn 2016-17.

Roedd pob awdurdod lleol ond un (Ceredigion) yn dilyn tuedd debyg o gyfradd ostyngol rhwng 2012-13 a 2015-16, ond cafodd y duedd hon ei gwrthdroi yn y data diweddaraf (2016-17), lle'r oedd amddifadedd naill ai'n aros ar fwy neu lai yr un lefel neu’n cynyddu ychydig yn gyffredinol. 

Cymharu 2012-13 â 2016-17:

  • Mae gan bob awdurdod lleol ond dau (Ceredigion a Wrecsam) gyfraddau is o blant ifanc mewn amddifadedd incwm yn 2016-17 o gymharu â 2012-13.
  • Gostyngodd cyfradd amddifadedd Wrecsam rhwng 2012-13 a 2015-16, ond ers hynny mae wedi cynyddu'n ôl i gyfradd yr awdurdod lleol yn 2012-13, sef 27%.
  • Cynyddodd cyfradd Ceredigion o blant ifanc mewn amddifadedd incwm o 21% i 23% rhwng 2012-13 a 2016-17.
    • Ceredigion yw'r unig awdurdod lleol a brofodd gynnydd dros y pum mlynedd hyn, er bod ei gyfradd amddifadedd yn parhau i fod yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae'r cynnydd hwn mewn amddifadedd yng Ngheredigion yn benodol i'r grŵp oedran 0 i 4. Ar gyfer plant hŷn ac oedolion yng Ngheredigion, mae amddifadedd incwm naill ai wedi aros ar fwy neu lai yr un lefel neu wedi gostwng dros amser.
  • Gwelwyd yr ostyngiad mwyaf mewn cyfraddau amddifadedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chonwy. Gwelodd y ddau ostyngiad o 6 phwynt canran rhwng 2012-13 a 2016-17.
    • Ym Mhen-y-bont ar Ogwr gostyngodd y gyfradd o 35% i 29%, ac yng Nghonwy o 31% i 25%. Digwyddodd yr holl newid hwn rhwng 2012-13 a 2015-16, gyda'r cyfrannau'n cadw’n sefydlog yn 2016-17.

Pwysau geni isel

Diffinnir pwysau geni isel ym MALlC fel genedigaeth sengl fyw lle mae'r baban yn pwyso llai na 2.5kg. Gall cael pwysau geni isel achosi problemau iechyd i blant yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mae'r data hwn yn unol â'r Dangosydd Cenedlaethol pwysau geni isel sy'n helpu i fesur cynnydd yn erbyn Nodau Llesiant allweddol yng Nghymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 (gweler adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol). Y ffigurau sydd wedi'u cynnwys ym MALIC 2019 yw’r cyfartaledd ar gyfer y ddeng mlynedd 2009-2018.

Mae’r risg o bwysau geni isel (Pwysau geni isel, Nuffield Trust) yn cysylltiedig â:

  • ysmygu tra’n feichiog
  • camddefnyddio sylweddau ac alcohol
  • iechyd a maeth beichiogrwydd
  • cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd
  • oedran ifanc y fam

Yn gyffredinol yng Nghymru, cafodd 5% o fabanod eu geni â phwysau geni isel, sy’n 1,800 o fabanod bob blwyddyn ar gyfartaledd.

Ar lefel awdurdodau lleol, Bro Morgannwg sydd â'r gyfran isaf o fabanod a anwyd â phwysau geni isel, sef 4%, tra bod gan Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ill dau gyfradd o 7%.

Mae dosbarthiad cyfraddau pwysau geni isel yn amrywio o fewn a rhwng awdurdodau lleol. Fel y dangosir yn Siart 5, oedd gan Rhondda Cynon Taf ystod arbennig o eang ar draws ei ACEHG o ran cyfraddau pwysau geni isel, o gymharu â'r awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys o gymharu â Merthyr Tudful, oedd â chyfradd ganolrif yr un mor uchel ond llawer llai o amrywiad rhwng ACEHG. Mae hyn yn golygu bod amddifadedd uchel ar y mesur hwn ym Merthyr Tudful wedi'i ddosbarthu'n gymharol gyson ar draws yr awdurdod lleol, ond yn Rhondda Cynon Taf oedd rhai ardaloedd yn profi amddifadedd uchel iawn tra bod eraill yn llai difreintiedig na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan.

Image
Plotiau blwch o gyfraddau babanod sy'n byw mewn ACEHG a gafodd eu geni â phwysau geni isel yn y 10 mlynedd rhwng 2009 a 2018, yn ôl Awdurdod Lleol, Cymru.

Mae'r crynodiad hwn o amddifadedd o fewn ardaloedd penodol yn Rhondda Cynon Taf i’w weld yn eglur wrth edrych ar yr ardaloedd bach mwyaf difreintiedig yn y wlad. Fel y dangosir yn nhabl 2, o'r deg ACEHG mwyaf difreintiedig ar gyfer pwysau geni isel rhwng 2008 a 2019, mae chwech yn sir Rhondda Cynon Taf. Oherwydd y nifer uchel o enedigaethau yn Rhondda Cynon Taf, roedd ganddynt hefyd nifer uchel o enedigaethau pwysau isel, dros 1,800, yn ail yn unig i Gaerdydd (2,100) a oedd â chyfanswm nifer llawer uwch o enedigaethau (gan gynnwys genedigaethau pwysau arferol).

Tabl 2: Y deg ACEHG yng Nghymru â'r gyfradd uchaf o fabanod a anwyd â phwysau geni isel, dros y 10 mlynedd rhwng 2008 a 2019
Safle Awdurdod lleol / ACEHG Disgrifiad o’r ACEHG (1) Cyfradd Cyfrif
1 Rhondda Cynon Taf 013 Tylorstown 11% 88
2 Wrecsam 010 Parc Caia 10% 128
3 Sir Ddinbych 004 Gogledd y Rhyl 9% 124
4 Rhondda Cynon Taf 006 Aberpennar 9% 70
5 Rhondda Cynon Taf 016 Gorllewin Tonypandy a Dyffryn Clydach 9% 70
6 Rhondda Cynon Taf 015 Glyn-coch ac Ynys-y-bwl 8% 75
7 Rhondda Cynon Taf 020 Gorllewin y Porth 8% 56
8 Rhondda Cynon Taf 008 Penrhiw-ceibr 8% 62
9 Sir Ddinbych 006 De Orllewin y Rhyl 8% 67
10 Casnewydd 014 Mynydd Stow 8% 71

Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), Data dangosyddion, Llywodraeth Cymru

(1) Cynhyrchir disgrifiadau’r ACEHG gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin ac fe'u cynhwysir yma i gynorthwyo'r gwaith dehongli.

Ar draws y 1909 ACEHI yng Nghymru, roedd cyfraddau pwysau geni isel yn amrywio o 0% i 13% gyda'r un allanolyn nodedig sef Gorllewin Aberpennar 2 yn Rhondda Cynon Taf (rhan o’r ACEHG Aberpennar sydd wedi’i gynnwys yn dabl 2), sydd â chyfradd pwysau geni isel o 15%.

Y berthynas rhwng pwysau geni isel a chyfraddau amddifadedd incwm

Ardaloedd lleol â chyfraddau uwch o amddifadedd incwm oedd hefyd â'r cyfraddau uchaf o fabanod a anwyd â phwysau geni isel. Roedd plant o’r ddegfed ran o ardaloedd lleol a oedd fwyaf difreintiedig o ran incwm bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu geni â phwysau geni isel o gymharu â babanod o’r ddegfed ran o ardaloedd a oedd leiaf difreintiedig o ran incwm.

Image
Siart bar yn dangos bod babanod sy'n byw mewn degraddau mwy difreintiedig o ran incwm yn fwy tebygol o fod wedi eu geni â phwysau geni isel.

Plant oed 4 i 5 sydd yn ordew

Gall cario gormod o bwysau cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn. Mae gordewdra mewn oedolion yn ffactor risg hysbys ar gyfer nifer o glefydau cronig difrifol ac felly mae'n achos ataliadwy o farwolaeth gynamserol. Mae plant sydd dros bwysau neu'n ordew yn debygol iawn o aros fel hynny fel oedolyn.

Gordewdra, Senedd Cymru

Ledled Cymru, oedd tua 12% o blant oedran derbyn yn ordew rhwng 2012-18, sy'n cyfateb i tua 3,800 o'r plant yn y grŵp blwyddyn mewn blwyddyn cyfartalog. Mae cyfran y plant oedran derbyn (4 a 5 oed) sy'n ordew yn seiliedig ar gyfartaledd y chwe blynedd 2012-13 i 2017-18, a gasglwyd drwy Raglen Mesur Plant Cymru.

Mae Siart 7 yn dangos ystod y cyfraddau gordewdra ar gyfer pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Y pwyntiau data ar gyfer y dadansoddiad hwn yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG). Dyma'r ardal leiaf y cyhoeddir data gordewdra oedran derbyn ar ei chyfer, oherwydd pryderon ynghylch y perygl o adnabod unigolion.

Roedd cyfraddau gordewdra ymhlith plant oedran derbyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Merthyr Tudful oedd yr  Awdurdod Lleol â’r gyfradd gordewdra uchaf ar gyfer oedran derbyn (16%).  Roedd plant ifanc ym Merthyr Tudful ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew o gymharu â'r rhai ym Mro Morgannwg lle bu'r gyfradd gyfatebol yn 8%, yr isaf ar draws yr holl awdurdodau lleol.

Image
""

Ar lefel ACEHG, oedd cyfraddau gordewdra oedran derbyn yn amrywio o 5% i 19%. Mae pedair ACEHG â'r gyfradd uchaf o 19%, dwy ohonynt ym Merthyr Tudful, un yn Rhondda Cynon Taf ac un yn Sir Gaerfyrddin. Yn gyffredinol, roedd ardaloedd â chyfraddau gordewdra uchel hefyd yn gymharol ddifreintiedig o ran incwm, ond nid yw hyn yn wir am ACEHG 'Sir Gaerfyrddin 023' (ardal Gorllewin Llanelli), oedd ag un o'r cyfraddau gordewdra oedran derbyn uchaf yng Nghymru (19%) ond mae ganddi gyfradd amddifadedd incwm is na chyfartaledd Cymru, ar gyfer plant ifanc ac yn gyffredinol.

Y berthynas rhwng gordewdra a chyfraddau amddifadedd incwm

Ar lefel ardal leol, roedd cyfraddau gordewdra ymhlith plant yn gysylltiedig ag amddifadedd incwm, gyda phlant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig o ran incwm mewn mwy o berygl o fod yn ordew. Mewn gwirionedd, oedd plant yn y ddegfed ran o ardaloedd lleol mwyaf difreintiedig o ran incwm 76% yn fwy tebygol o fod yn ordew o gymharu â phlant yn y ddegfed ran o ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er na ellir adrodd am gyfraddau gordewdra ar gyfer ACEHI unigol, mae'r dadansoddiad hwn o'r cysylltiad rhwng gordewdra ac amddifadedd incwm wedi'i gynnal gan ddefnyddio data ar lefel ACEHI, i'w wneud mor gywir â phosibl.

Fel y dangosir yn Siart 8, mae'r cysylltiad rhwng amddifadedd incwm a gordewdra yn gryfach yn hanner llai difreintiedig yr ACEHI, gyda gostyngiad o 2 bwynt canran rhwng y degradd cyntaf a’r pumed, o'i gymharu â gostyngiad o 4 pwynt canran rhwng y chweched a’r degfed degradd.

Image
Siart bar yn dangos oedd plant oed derbyn sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig o ran incwm yn fwy tebygol o fod yn ordew na'r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd llai difreintiedig o ran incwm.

Amddifadedd addysg gynnar: sgôr pwyntiau cyfartalog y Cyfnod Sylfaen

Mae MALlC yn cynnwys sawl dangosydd sy'n ymwneud â chyfranogiad a chyrhaeddiad addysgol gwahanol grwpiau oedran. Un o'r rhain yw sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen, sy'n seiliedig ar asesiad athro a wneir pan fo plant rhwng chwech a saith oed. Dyma'r grŵp oedran ieuengaf sydd wedi'i gynnwys yn nangosyddion addysg MALlC a gellir ei ddefnyddio i nodi ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd addysgol i blant ifanc. Mae'r data sydd wedi'i gynnwys ym MALlC wedi’i seilio ar godau post disgyblion, felly maent yn berthnasol i ble maent yn byw yn hytrach na ble maent yn mynd i'r ysgol.

Mae'r sgôr yn ymwneud â pherfformiad plant mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg neu Saesneg), mathemateg, a datblygiad personol a chymdeithasol. Mae uchafswm o 135 pwynt y plentyn ar gael ar draws y tri ardal o ddatblygiad, ond byddai hyn yn anarferol gan y byddai'n dangos bod y plentyn yn perfformio'n llawer uwch na'r hyn a ddisgwylir gan ei grŵp oedran ym mhob un o'r tri ardal o ddatblygiad. Byddai'r lefel perfformiad ddisgwyliedig a ddefnyddir fel dangosydd gan Lywodraeth Cymru, sef llwyddo i gyrraedd Deilliant 5 neu uwch, yn arwain at sgôr o 99.

Mae sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen a gynhwysir ym MALIC 2019 yn gyfartaledd dros dair blynedd ar gyfer blynyddoedd academaidd 2015/16, 2016/17 a 2017/18. Ar draws y blynyddoedd hyn, y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer y cyfnod sylfaen yng Nghymru oedd 104. Ar lefel awdurdodau lleol, roedd pwyntiau cyfartalog yn amrywio o 101 ar gyfer disgyblion yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, i 107 ar gyfer disgyblion sy'n byw yn Sir Fynwy.

Mae amddifadedd addysg y blynyddoedd cynnar yn gyffredin yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle'r oedd sgôr pob ACEHG ar lefel gyfartalog Cymru ar gyfer addysg y cyfnod sylfaen neu'n is na hynny. Yr ACEHG mwyaf difreintiedig yng Nghastell-nedd Port Talbot ar gyfer addysg gynnar yw ardal Glyncorrwg a Blaengwynfi (Castell-nedd Port Talbot 011), lle mae'r sgôr pwyntiau cyfartalog yn 93.

Fel y dangosir yn Nhabl 3, fodd bynnag, mae'r ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran addysg gynnar wedi'u gwasgaru ar draws nifer o awdurdodau lleol, gyda nifer o ACEHG yng Nghaerdydd ac Abertawe hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig.

Tabl 3: Y deg ACEHG fwyaf difreintiedig o ran addysg y cyfnod sylfaen
Safle Awdurdod lleol / ACEHG Disgrifiad o’r ACEHG (1) Sgôr pwyntiau cyfartalog
1 Caerdydd 032 (a) De Cathays a Pharc Bute 87
2 Castell-nedd Port Talbot Glyncorrwg a Blaengwynfi 93
3 Caerdydd 036 Adamsdown 94
4 Gwynedd 016 Abermaw a Dolgellau 97
5 Abertawe 011 Penderi 98
6 Abertawe 019 Townhill 98
7 Rhondda Cynon Taf 013 Tylorstown 98
8 Sir Gaerfyrddin 026 De Llanelli 98
9 Castell-nedd Port Talbot Cwm Dulais 98
10 Abertawe 021 St Thomas 99

Ffynhonnell y data: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD), Data dangosyddion, Llywodraeth Cymru

(1) Cynhyrchir disgrifiadau’r ACEHG gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin  ac fe'u cynhwysir yma i gynorthwyo'r gwaith dehongli.

(a) Nifer fach o ddisgyblion sydd dan sylw mewn perthynas â ffigur sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen ACEHG Caerdydd 032  o gymharu â'r ACEHG eraill yn y tabl hwn. Mae'r nifer fach hon yn golygu bod sgôr eithafol yn fwy tebygol, felly efallai nad yw’r bwlch mawr rhwng sgôr yr ardal hon a'r ardaloedd difreintiedig eraill yn arwyddocaol.

Y berthynas rhwng sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen ac amddifadedd incwm

Ar gyfartaledd, mae plant mewn ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd incwm yn sgorio llai o bwyntiau yn y cyfnod sylfaen. Yn y ddegfed ran leiaf difreintiedig o ran incwm o’r holl ACEHI, y sgôr pwyntiau cyfartalog yw 108, o'i gymharu â dim ond 101 yn y ddegfed ran fwyaf difreintiedig o ran incwm.

Image
Siart llinell yn dangos bod plant oedd yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig o ran incwm, ar gyfartaledd wedi cael sgorau pwyntiau is yn y cyfnod sylfaen.

Ble i ddod o hyd i ddata, dadansoddiadau a chanllawiau MALlC

Gellir dod o hyd i’r holl ddata dangosyddion MALlC 2019 ar gyfer StatsCymru. Gellir gweld data a gyhoeddwyd cyn 2019 yn yr adran archif gyda metadata islaw pob golwg tabl.

Isod ceir arwyddbyst o'r data sy'n cael eu dadansoddi yn yr erthygl hon. Mae data ar gyfer dangosyddion eraill MALlC a chydgrynhoad daearyddiaeth ar gael yn y lleoliadau sy'n gysylltiedig â'r paragraff uchod.

Lleoliad y data dangosyddion a ddadansoddwyd yn yr erthygl hon

Cyfraddau amddifadedd incwm ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, 2019

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • Awdurdod lleol
  • ACEHG
  • Rhanbarthau economaidd
  • Bwrdd iechyd lleol
  • Ardal etholaethol
  • Dosbarthiadau anheddu Gwledig-Trefol
  • Ardal adeiledig
  • ACEHI

StatsCymru: amddifadedd incwm yn ôl oedran

Amcangyfrifon cyfrif amddifadedd incwm (bandiau oedran 5 oed), 2019

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • ACEHI
  • Awdurdod lleol
  • Cymru

StatsCymru: data dangosyddion yn ôl oedran

Cyfraddau amddifadedd incwm ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, 2014 to 2017

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • Awdurdod lleol

StatsCymruamddifadedd incwm yn ôl oedran (archif)

Pwysau geni isel (genedigaethau sengl byw llai na 2.5kg) (%), 2019

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • ACEHI
  • Cymru

StatsCymru: Data dangosyddion, maes iechyd

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • Awdurdod lleol
  • ACEHG

StatsCymru: data dangosyddion, pob maes

Plant 4 i 5 oed sy'n ordew (%), 2019

Ni chyhoeddir data ar ordewdra ymhlith plant ar lefel ACEHI oherwydd pryderon ynghylch y posibilrwydd o gamddefnyddio data ardal lai a'r risg o adnabod unigolion.

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • Awdurdod lleol
  • ACEHG
  • Cymru

StatsCymru: data dangosyddion, pob maes

Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen, 2019

Cydgrynhoad daearyddiaeth
  • ACEHI
  • Awdurdod lleol
  • ACEHG
  • Cymru

StatsCymru: data dangosyddion, pob maes

I gael rhagor o wybodaeth am ddata dangosyddion MALlC a sut i'w ddefnyddio, cyfeiriwch at ein canllaw ar ddadansoddi data dangosyddion. Mae'r canllaw hwn yn rhoi manylion am ddata'r dangosydd, sut y gellir ac na ellir ei ddefnyddio a pha ddata y gellir eu dadansoddi dros amser. Mae hefyd yn darparu astudiaeth achos sy'n gweithio drwy enghraifft o broblem y gellir ei datrys drwy ddadansoddi data MALlC.

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu dadansoddiad eich hun o’r data dangosyddion, bydd ein edrychiadau daearyddiaeth a geir ar StatsCymru yn cefnogi hyn. Mae'r edrychiadau yn eich galluogi i gysylltu gwahanol cydgrynhoadau daearyddiaeth gyda'i gilydd (e.e. paru ACEHG ag Awdurdodau Lleol fel y gwelir yn y siartiau plot blwch yn yr erthygl hon).

Gellir gweld mwy o enghreifftiau o sut i dynnu mewnwelediadau o ddata dangosyddion MALlC yn ein hadroddiadau sleidiau. Mae'r rhain i'w gweld yn diweddariad data dangosyddion MALlC (2017) ond sylwer nad yw'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r data dangosyddion diweddaraf sydd ar gael.

Diweddariadau data yn y dyfodol

Er bod safleoedd mynegai a meysydd llawn MALlC ond yn cael eu diweddaru bob 3 i 5 mlynedd, gellir diweddaru rhai o'r dangosyddion sylfaenol yn y cyfnod interim. Nod y diweddariadau data dangosyddion yw darparu gwybodaeth fwy diweddar i'r rhai sydd â diddordeb mewn dadansoddi amddifadedd ar gyfer ardaloedd a/neu grwpiau oedran, gan ganiatáu rhywfaint o ddadansoddi dros amser a chymhariaeth rhwng ardaloedd.

Yn ystod y pandemig coronafeirws yn 2020 a 2021, nid ydym wedi darparu diweddariadau i ddata dangosyddion a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyhoeddiad mynegai MALlC 2019. Gwnaed y penderfyniad i ohirio diweddariadau data dangosyddion ar hyn o bryd wrth ystyried pa mor ddefnyddiol yw diweddariadau posibl, ansicrwydd parhaus eraill a goblygiadau o ran adnoddau (ar gyfer cyflenwyr data ac i Lywodraeth Cymru). Disgrifir y rhesymau'n llawn ar ein tudalennau MALlC.

Rydym yn parhau i gyhoeddi allbynnau dilynol ar gyfer MALlC 2019, yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth MALlC, ac yn ymgymryd â gwaith datblygu tymor hir ar ddangosyddion allweddol cyn y diweddariad mynegai nesaf (nid yw'r amseru wedi'i bennu eto).

Cyfeiriwch at ein rhestr o allbynnau MALlC 2019 ar gyfer rhestr lawn o gyhoeddiadau MALlC 2019, gan gynnwys yr hyn sydd i ddod.

Tabl cyfeirio: data dangosyddion ar gyfer plant ifanc yn ôl awdurdod lleol

Tabl 4: Cyfraddau a sgorau amddifadedd MALlC ar gyfer plant ifanc yn ôl awdurdod lleol
  Plant 0 i 4 oed mewn amddifadedd incwm (%) Pwysau geni isel (%) Plant 4 i 5 oed sy'n ordew (%) Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y Cyfnod Sylfaen
Ynys Môn 27 5.5 12.7 104
Gwynedd 21 5.0 13.0 105
Conwy 25 5.1 11.4 104
Sir Ddinbych 29 6.1 12.2 104
Sir y Fflint 21 5.4 11.2 105
Wrecsam 27 6.4 12.4 104
Powys 17 4.7 10.5 106
Ceredigion 23 4.8 10.5 106
Sir Benfro 26 5.2 12.5 103
Sir Gaerfyrddin 26 5.4 12.8 104
Abertawe 29 5.4 12.0 103
Castell-nedd Port Talbot 32 5.2 11.9 101
Pen-y-bont ar Ogwr 29 5.3 12.5 105
Bro Morgannwg 23 4.4 8.1 106
Caerdydd 29 4.8 10.2 104
Rhondda Cynon Taf 32 6.8 13.5 103
Merthyr Tudful 33 6.6 16.4 104
Caerffili 29 5.7 12.7 105
Blaenau Gwent 37 6.2 13.7 103
Torfaen 30 5.6 12.1 105
Sir Fynwy 17 4.7 8.6 107
Casnewydd 30 5.6 11.3 104
Cymru 28 5.5 11.8 104

Mae'r data ar gyfer y dangosyddion hyn yn seiliedig ar wahanol flynyddoedd gyda'r rhan fwyaf yn cael eu cyflwyno fel cyfartaleddau aml-flwyddyn. Gweler yr adran gyflwyniad ar gyfer cyfnodau cyfeirio pob dangosydd.

Gwybodaeth o ansawdd

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol  yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol yn Orffennaf 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y tro diwethaf y cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn Rhagfyr2010.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod lles ar gyfer Cymru. Mae'r rhain yn ymwneud â sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef Pwysau Geni Isel y cyfeiriwyd ato yn y ddogfen dechnegol neu'r adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Samantha Collins
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 256/2021