Neidio i'r prif gynnwy

Gall myfyrwyr o Gymru sy’n dechrau ar gwrs gradd fis Awst eleni elwa ar gymorth ariannol o hyd at £17,000 tuag at eu hastudiaethau a’u costau byw, diolch i becyn newydd, gwell o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n dechrau cwrs Meistr ôl-raddedig wedi cynyddu o £13,000 yn 2018/19, gan ei wneud yn un o’r pecynnau cyllid myfyrwyr mwyaf hael yn y DU.

Mae’r pecyn newydd yn cael ei lansio drwy ymgyrch ymwybyddiaeth i hyrwyddo’r manteision o fynd i’r brifysgol gyda chymorth mwy o gefnogaeth ariannol ar gael.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys Anghenfil Arian – sef arian wedi’i bersonoli – a’i unig nod yw atal myfyrwyr rhag mynd i’r brifysgol, ac os ydynt, mae e yno i aflonyddu ar fywydau myfyrwyr gan roi pwysau diangen arnyn nhw. Mae’r ymgyrch Anghenfil Arian yn cynnwys hysbysebion teledu, radio, awyr agored a digidol, ynghyd ag elfennau cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r cyllid yn gymysgedd o fenthyciadau a grantiau ac yn gymwys i fyfyrwyr llawn amser neu ran-amser o Gymru sy’n astudio ar gyrsiau yn unrhyw le yn y DU.

Bydd pob myfyriwr cymwys yn derbyn grant cyffredinol nad oes angen ei ad-dalu o £1,000 ynghyd â grant prawf modd o hyd at £5,885 ar gyfer myfyrwyr gydag incwm aelwyd o hyd at £18,370. Bydd benthyciad ar gael hefyd, gan olygu bod cymorth o £17,000 ar gael i gyd.

Bydd gan fyfyrwyr rhan-amser hawl i’r cymorth pro-rata cyfwerth. Er enghraifft, mae cymorth o £17,000 ar gael ar gyfer cwrs sy’n para blwyddyn, £8,500 bob blwyddyn am gyrsiau dwy flynedd a £4,250 y flwyddyn ar gyfer cyrsiau pedair blynedd.

Derbynnir taliadau mewn tri rhandaliad ar ddechrau pob tymor.
Bydd ad-daliadau ond yn cael eu gwneud ar ôl i’r myfyriwr orffen neu adael eu cwrs ac ennill dros £21,000.

Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael i fyfyrwyr gydag anabledd neu anhawster dysgu neu’r rhai â chyflwr iechyd hirdymor.

Daw’r pecyn cymorth fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad o gyllido addysg uwch dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond. Yn 2018, cyflwynwyd pecyn ariannol newydd yn raddol ar gyfer israddedigion. O 2019, bydd gwell pecyn ar gael ar gyfer myfyrwyr gradd, i sicrhau pecyn cymorth teg ar gyfer myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, aeth nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio ar gyrsiau gradd (https://www.hesa.ac.uk/news/17-01-2019/sb252-higher-education-student-statistics/numbers) yng Nghymru i fyny o 24,365 yn 2016/17 i 25,205 yn 2017/18. Roedd tua dau o bob pum myfyriwr ôl-raddedig yn astudio’n rhan-amser, o gymharu ag un o bob pum myfyriwr israddedig.

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Mae sawl rheswm dros astudio gradd Meistr – newid gyrfa, cynyddu eich potensial o ran cyflog neu awch i ddysgu.

“Mae gan gymwysterau ôl-raddedig hefyd rôl bwysig yn ein heconomi, gan gyflenwi ymchwilwyr dawnus sy’n datblygu’n arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd ac sy’n rhoi’r sbardun sydd ei angen i greu swyddi ar lefel uwch.

“Rydym ni hefyd yn gwybod mai arian yn aml yw’r rhwystr mwyaf wrth benderfynu ai mynd i’r brifysgol ai peidio. Bydd ein pecyn ariannol newydd yn ei gwneud yn haws i bawb, beth bynnag fo’u cefndir neu incwm, i ddilyn eu dyheadau ac astudio ar lefel israddedig.”

I ddechrau, doedd Megan Wiltshire, 21 oed o Benarth, ddim yn meddwl y byddai’n gallu fforddio ei gradd Meistr, ond ar ôl gweld y cwrs delfrydol, penderfynodd asesu’r opsiynau ariannol a oedd ar gael iddi hi.

Dywedodd Megan:

“Roeddwn i ym mlwyddyn olaf fy nghwrs israddedig mewn Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn i’n bwriadu graddio a chael swydd. Doeddwn i heb ystyried gwneud gradd Meistr oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i’n gallu fforddio hynny a’i fod y tu hwnt i fy nghyrraedd.

“Gwelais fod benthyciad ôl-radd gwerth £13,000 ar gael i dalu am ffioedd y cwrs a chostau byw. Rhwng hwnnw a fy incwm o weithio’n rhan amser, yn ogystal â chyllidebu gofalus, penderfynais y byddwn yn gallu fforddio ymgymryd â'r radd Meistr.”

Dechreuodd Megan ei gradd Meistr ym mis Medi 2018 a bydd yn graddio yn nes ymlaen eleni. Mae’n bwriadu dilyn gyrfa mewn cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.

Dywedodd Megan: 

“Roedd y benthyciad i fyfyrwyr ôl-raddedig yn golygu fy mod i’n gallu fforddio gwneud fy ngradd Meistr. Mae rhagor o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr newydd nawr, gan gynnwys grant, sy’n golygu ei fod yn well byth.

“Mae cost astudiaethau ôl-radd yn gallu ymddangos yn frawychus i ddechrau ond mae’n werth chweil yn y tymor hir. Dim ond pan fyddwch chi’n ennill dros £21,000 fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl, a byddwch yn ei dalu mewn rhandaliadau. Rydw i wedi cael cymaint o fudd o fy astudiaethau, ac rydw i wedi dysgu cyllidebu.

“Un peth fyddwn i’n ei ddweud, oherwydd y gost, yw y dylech chi wneud yn siŵr eich bod yn ymchwilio i’ch cwrs Meistr i wneud yn siŵr mai hwnnw yw’r un i chi. Os ydych chi’n teimlo eich bod yn buddsoddi ynoch chi eich hun, mae’n werth ei wneud heb os.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/arianmyfyrwyr