Neidio i'r prif gynnwy

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i brifysgol

Gall pob myfyriwr israddedig cymwys o Gymru sy’n dechrau ar gwrs yn y brifysgol am y tro cyntaf dderbyn cymorth gyda chostau byw, drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau.

O ran myfyrwyr y mae incwm eu hannedd yn weddol isel, bydd y rhan fwyaf o’r cymorth ar gyfer costau byw ar ffurf grant, nad oes yn rhaid ei ad-dalu.

O ran myfyrwyr amser llawn sy’n cymryd benthyciad cynhaliaeth, gallent gael hyd at £1,500 wedi’i dynnu oddi ar y balans i’w ad-dalu drwy wneud y taliad cyntaf yn unol â chynllun dileu rhannol Llywodraeth Cymru.

Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys o Gymru gael cefnogaeth debyg ar ffurf grant a benthyciad, a gall myfyrwyr sy’n gwneud doethuriaeth wneud cais am fenthyciad. Mae'r cymorth yn gyfraniad tuag at gostau.

Ymgeisiwch yn gynnar. Nid oes angen i’ch lle ar gwrs mewn prifysgol fod wedi’i gadarnhau cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr, a gallwch wneud cais drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ymgeisiwch nawr


Ar gyfer israddedigion, mae’r holl gymorth costau byw, yn ychwanegol at gymorth gyda’r ffioedd dysgu. Felly mae’n bosibl na fydd rhaid ichi dalu unrhyw beth o flaen llaw. Gall myfyrwyr rhan amser a myfyrwyr llawn amser wneud cais am fenthyciad ar wahân i dalu ffioedd dysgu – bydd rhaid ad-dalu’r benthyciad hwn  unwaith y byddant yn dechrau ennill dros y trothwy ad-daliadau.

Nawr, gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a threulio llai o amser yn poeni am gael dau ben llinyn ynghyd.

Dysgwch a ydych chi’n gymwys a sut a phryd i wneud cais.

Pam dewis addysg uwch?

Drwy fynd i addysg uwch cewch gyfle i astudio pwnc o'ch dewis a chynyddu eich gwybodaeth, ond mae yna fanteision eraill hefyd.

  • Gwella eich cyfleoedd i ennill mwy o gyflog
  • Meithrin sgiliau bywyd hanfodol
  • Dysgu bod yn annibynnol
  • Cyflawni'n bersonol