Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, bod mwy na 500 o geisiadau wedi dod i law i adfywio cartrefi gwag drwy Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, cynllun gwerth £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Lansiwyd Cam Cyntaf y fenter flwyddyn yn ôl gan y Dirprwy Weinidog a Chadeirydd Tasglu’r Cymoedd, yn dilyn llwyddiant y cynllun yn Rhondda Cynon Taf.
Mae’r cynllun yn agored i berchnogion cartrefi ar draws ardal estynedig Tasglu’r Cymoedd, sy’n estyn o Sir Gaerfyrddin yn y Gorllewin i Dorfaen yn y Dwyrain. Cafodd y ffiniau eu hestyn y llynedd i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman hefyd.
Bydd Ail Gam y cynllun, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2020, yn sicrhau bod hyd yn oed mwy o fusnesau lleol yn cael eu defnyddio i adfywio cartrefi gwag, gan gymell ymgeiswyr i ddefnyddio mesurau sy’n fwy effeithlon o ran ynni wrth adnewyddu. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon ond bydd hefyd yn sicrhau biliau ynni is i breswylwyr y dyfodol.
Bydd rhai o ymgeiswyr y cynllun yn mynd i fyw i’r eiddo a adnewyddir. Bydd rhai eraill yn cael eu prynu i’w defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
"Flwyddyn yn ôl, yn dilyn llwyddiant cynllun Rhondda Cynon Taf, cyhoeddais bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun Grant Cartrefi Gwag gwerth £10 miliwn ledled holl ardaloedd Tasglu’r Cymoedd.
“Mae’n galonogol gweld bod y cynllun yn mynd rhagddo yn dda, gyda thros 500 o geisiadau eisoes wedi dod i law, a llawer mwy i ddod gobeithio. Wrth gwrs, mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb eleni ond, er bod y pandemig wedi achosi oedi o ran y cynllun am fisoedd lawer, yn ogystal â’r llifogydd a effeithiodd ar lawer o ardaloedd y Cymoedd, rydym wedi gweld llawer o gynnydd. Mae’r awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i gyflwyno’r cynllun hwn yn eu hardaloedd ac i ddarparu’r arian cyfatebol i sicrhau ei lwyddiant. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled.
“Gyda meini prawf cryfach, a ddatblygom ar y cyd ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, mae’r cynllun hwn nid yn unig wedi adfywio eiddo gwag, ond mae hefyd wedi cefnogi sylfeini ein heconomïau lleol drwy ddarparu gwaith i fusnesau bach lleol yn y sector adeiladu. Mae’r elfen ôl-osod hon hefyd yn golygu bod y cynllun yn cefnogi ein hagenda ddatgarboneiddio, gan leihau biliau ynni ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r cynllun hwn gan Dasglu’r Cymoedd a byddaf yn gweithio’n agos gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu i lywio a datblygu cynlluniau cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan yn y dyfodol.
Ymgeisiodd Mike Roberts o Sir Gaerfyrddin ar gyfer Cam Cyntaf y cynllun. Dywedodd:
“Roedd fy nhŷ wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd ac roedd gwir angen ei adfer i safon foddhaol.
“Roedd y Cynllun Grant Cartrefi Gwag yn llawer o help ac roeddwn yn gallu gwneud llawer o waith hanfodol i gyd ar unwaith.
“Roedd proses ffurfiol ac ystod o ffurflenni i’w llenwi ond cafodd fy ngrant ei gymeradwyo ac mae’r gwaith wedi’i wneud. Dw i wrth fy modd.
I fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, rhaid i gartrefi fod wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis. Mae ymgeiswyr hefyd yn cael eu cyfyngu i un grant y person ac mewn achosion lle bydd y gwaith atgyweirio yn costio mwy na £20,000, bydd opsiwn o ymgeisio ar gyfer cynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
I wneud cais, gweler canllawiau'r Grant Cartrefi Gwag (ardaloedd Tasglu'r Cymoedd).