Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.
Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad gwerth o leiaf 15%.
Mae awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Grwpiau Cartrefi Cymunedol hefyd yn gymwys i geisio am gyllid.
Cymhwysedd
Gall unrhyw un wneud cais am grant (ar yr amod bod yr awdurdod lleol cysylltiedig wedi dewis i gymryd rhan yn y cynllun). Fodd bynnag, i fod yn gymwys:
- mae rhaid i'r cartref fod wedi'i gofrestru gydag Adran treth y Cyngor yr awdurdod fel eiddo gwag (heb ei feddiannu) ar hyn o bryd, a rhaid ei fod wedi bod yn wag o leiaf 12 mis adeg cyflwyno'r cais.
- rhaid bod yr eiddo o dan berchnogaeth yr ymgeisydd, neu ei fod yn y broses o’i brynu pan fo’r cais yn cael ei wneud; ac
- os yn llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa.
- Gall rhai awdurdodau lleol fod â meini prawf cymhwysedd ychwanegol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain ar dudalen y cais.
Awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan
Rhondda Cynon Taf
Sir Fynwy
Gwynedd*
Ynys Môn*
Caerffili
Conwy
Blaenau Gwent
Sir Gaerfyrddin
Pen-y-bont ar Ogwr
Castell-nedd Port Talbot
Powys
Abertawe*
Sir Benfro
Sir Ddinbych
Merthyr Tudful
Ceredigion*
Bro Morgannwg
*Mae meini prawf cymhwysedd ychwanegol yn gymwys. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth.
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch awdurdod lleol ar y rhestr, efallai fod yr awdurdod wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun. Yn y sefyllfa hon, anogir chi i gysylltu â’ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i drafod pa opsiynau sydd ar gael i chi yn eich ardal.
Gwneud cais
Gwneud cais am grant cartrefi gwag.
Neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflawni’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Rhif ffôn: 01443 494712
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.