Neidio i'r prif gynnwy

Bydd eich plentyn bach yn dechrau dangos beth mae e’n ei hoffi a beth dyw e ddim yn ei hoffi. Efallai y bydd yn dianc wrth i chi newid ei gewyn neu’n taflu ei fwyd i’r llawr. Mae hyn yn gwbl gyffredin – mae’ch plentyn bach yn dod yn fwy annibynnol ac yn dysgu sut mae rheoli ei emosiynau.

Am bob adeg anodd, bydd llu o adegau bendigedig. Ceisiwch fwynhau a dathlu sgiliau newydd eich plentyn bach.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn bach ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn bach yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau.

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn y llyfr Naw Mis a Mwy - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru). Mae’n cynnwys gwybodaeth am fwydo, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel hefyd. Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Rhwng 12 a 18 mis oed mae’n bosib y bydd eich plentyn bach yn:

  • Cerdded, rhedeg a dringo;
  • dechrau dweud geiriau a’u deall nhw;
  • ei chael hi’n anodd delio â’i deimladau, a gall hyn arwain at ambell stranc;
  • dechrau bwydo ei hun; 
  • mwynhau chwarae ac adeiladau gyda brics

Rhwng 18 mis a 2 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn bach yn

  • deall y gair ‘na’ ond ddim yn gallu rheoli ei fympwyon eto;
  • dechrau cicio a thaflu peli;
  • gwybod nifer o eiriau unigol ac yn dechrau eu rhoi at ei gilydd i ffurfio brawddegau;
  • mynd yn flin pan na fydd yn gallu gwneud rhywbeth dros ei hunan; a
  • dechrau mwynhau chwarae esgus fel siarad ar ffôn tegan.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn bach

  • Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chlod i’ch plentyn bach. Rhowch sylw unigol iddo pryd bynnag y gallwch chi.
  • Rhowch lawer o ganmoliaeth iddo pan fydd yn gwneud rhywbeth da 
  • Ceisiwch gadw pethau'r un fath gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn bach i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwydo, ymolchi a rhoi’ch plentyn bach i’w wely tua’r un amser bob dydd. Dewch o hyd i batrwm sy’n gweithio i’ch teulu chi.
  • Ceisiwch ddangos yr ymddygiad cymdeithasol rydych chi am i’ch plentyn bach ei ddysgu. Er enghraifft, dweud “plîs/os gwelwch yn dda” a “diolch” wrth siarad ag ef a rhoi clod iddo pan fydd yn rhannu neu’n eich helpu chi.
  • Ceisiwch osgoi gormod o deledu a theclynnau eraill fel llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn bach ond peidiwch â’u defnyddio am fwy na hanner awr bob dydd. 
  • Labelwch deimladau’ch plentyn bach pan fyddwch chi’n eu gweld, er enghraifft, pan fyddwch chi’n gweld ei fod yn hapus, yn flin, wedi siomi neu’n rhwystredig. Bydd hyn yn ei helpu i ddeall y gair am y teimlad neu’r emosiwn hwnnw fel ei fod yn gallu dysgu mynegi sut mae’n teimlo nes ymlaen.
  • Siaradwch am y pethau a welwch a’r pethau a wnewch. Ar y bws, yn y car, wrth gerdded i’r siop neu yn yr archfarchnad, pwyntiwch at y pethau rydych chi’n eu gweld. 
  • Gadewch ac anogwch eich plentyn bach i fwydo’i hun. Gallech dorri bwyd yn stribedi neu fysedd a gadael i’ch plentyn ddefnyddio’i ddwylo yn hytrach na llwy neu fforc. Yn y dyddiau cynnar o ddechrau bwyta, bydd hyn yn haws i’ch plentyn.
  • Rhowch ddewisiadau syml iddo. “Hoffet ti afal neu fanana?” “Wyt ti eisiau’r car neu’r trên?”
  • Anwybyddwch bethau bach am ei ymddygiad sy’n mynd ar eich nerfau neu ceisiwch dynnu ei sylw gyda gweithgaredd, tegan neu gêm newydd.
  • Ceisiwch beidio â gwylltio pan fydd eich plentyn yn strancio. Os ydych chi’n ddigynnwrf, bydd yn helpu’ch plentyn bach i dawelu’n gynt. Ceisiwch anwybyddu’r stranc oni bai bod eich plentyn mewn perygl.
  • Raratowch! Rhowch bethau peryglus neu unrhyw beth a allai dorri gadw. Gosodwch giât ddiogelwch ar y grisiau a chloeon ar ddroriau a chypyrddau. Bydd hyn yn cadw’ch babi’n ddiogel a fydd dim rhaid i chi ddweud ‘na’ fel tiwn gron.
  • Rhannwch lyfr (Dolen allanol). Does dim rhaid i chi ddarllen y geiriau i gyd, dim ond enwi’r lluniau. Gallwch gael syniadau ar gyfer caneuon a llyfrau yn Words for Life (Dolen allanol) a Read on. Get on (Dolen allanol) neu yn eich llyfrgell leol.
  • Cofiwch Chwarae! Rhannwch baned o de esgus gyda set de blastig neu adeiladwch dŵr gyda blociau. Rhowch deganau gyda bwlynnau a botymau i’w pwyso (bydd hyn yn arbed y teledu!). 
  • Peidiwch â disgwyl na gorfodi eich plentyn bach i rannu gyda phlant eraill oherwydd dydyn nhw ddim yn barod. Bydd eisiau amser ar eich plentyn bach i ddysgu i rannu ac mae hyn yn normal. Anogwch ef drwy ei ganmol pan fydd yn rhannu neu drwy dynnu ei sylw wrth iddo aros ei dro.
  • Mae Dad yn bwysig hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tadau’n cael dylanwad mawr ar ddatblygiad eu plentyn. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd fel gwisgo, chwarae, ymolchi a darllen yn creu llawer o gyfleoedd i annog datblygiad eich plentyn bach.

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Mynd yn flin gyda’ch plentyn bach - ychydig iawn o reolaeth dros ei hunan sydd gan eich plentyn bach hyd yma. Os byddwch chi’n ymateb yn bwyllog, byddwch yn dysgu hunanreolaeth i’ch plentyn bach. 
  • Peidiwch byth â chnoi neu daro’ch plentyn bach. Mae rhai plant bach yn cnoi neu’n taro pan fyddan nhw’n flin neu’n rhwystredig. Peidiwch â chnoi neu daro’ch plentyn bach yn ôl. Bydd yn cael dolur ac efallai y bydd yn credu ei bod hi’n iawn ymddwyn fel hyn. 
  • Peidiwch â chosbi camgymeriadau neu ddamweiniau’ch plentyn bach na’i feirniadu pan fydd yn gwneud rhywbeth o’i le. Mae’ch plentyn bach yn dysgu o hyd. Dylech ei ganmol a’i annog.
  • PEIDIWCH BYTH ag ysgwyd eich plentyn bach. Gall ysgwyd wneud niwed i ymennydd eich plentyn bach a gall yr anafiadau bara oes.

Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig neu’n flin, rhowch eich plentyn bach yn rhywle diogel am ychydig (er enghraifft, yn ei got). Cymerwch hoe nes eich bod chi wedi pwyllo. Neu rhowch eich plentyn bach yn y bygi ac ewch am dro i dawelu. Neu gofynnwch i rywun arall ofalu am eich plentyn bach am ychydig.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.  

Mae’r cysylltiadau rhwng y celloedd yn ymennydd eich plentyn bach yn datblygu drwy’r amser. Mae profiadau dysgu newydd sy’n ‘bwydo’ ymennydd eich plentyn bach yn ei helpu i dyfu.