Gwnewch amser i ganmol (addas o enedigaeth)
Mae plant yn dysgu am eu hunain drwy eu perthynas â'u rhieni a'u gofalwyr. Pan fyddi di'n canmol, rwyt ti’n dysgu dy blentyn am ei werth, sut i fod yn falch o'i hun ac yn cynyddu ei hunan-barch.
Os wyt ti’n sylwi ar yr ymddygiad a’r rhinweddau rwyt ti’n eu hoffi, yn eu caru ac eisiau eu gweld yn dy blentyn, mae’n gwybod i fod yn falch o’r rhain a’u hailadrodd.
Sylwi ar y pethau da am dy blentyn
Galli di wneud hyn drwy:
- Rhoi canmoliaeth ddiffuant i dy blentyn pan fyddi di’n falch ohono neu'n gweld ymddygiad cadarnhaol, gyda geiriau, rhannu golwg, gwên, bawd i fyny neu ystum arall, cwtsh neu gyffyrddiad cadarnhaol. Mae hyn yn helpu dy blentyn i ddysgu beth yw ymddygiad cadarnhaol.
- Dangos brwdfrydedd diffuant pan fyddi di’n rhoi canmoliaeth, yn gwenu ac yn edrych ar dy blentyn. Gall dy blentyn ddweud os nad yw’r ganmoliaeth yn ddiffuant.
- Ei gwneud yn glir i dy blentyn beth yn union rwyt ti’n ei ganmol. Bydd yn dangos dy fod yn talu sylw a dy fod di wir yn ei olygu.
- Defnyddio enw dy blentyn yn gadarnhaol. Weithiau mae rhywun yn anghofio defnyddio enwau mewn ffordd gadarnhaol a dwyt ti ddim eisiau i dy blentyn ond glywed ei enw pan fydd yn cael ei alw mewn ffordd negyddol. Gad i dy blentyn "glustfeinio" arnat ti’n siarad yn gadarnhaol amdano hefyd.
- Sylwi ar dy blentyn dim ond am fod yn bwy ydyw. Nid oes angen defnyddio canmoliaeth i annog ymddygiad penodol bob tro.
- Sylwi ar ymdrech plentyn yn ogystal â’r canlyniad a chanmol y pethau y mae’n gallu eu rheoli, newid neu wneud eto yn hytrach na phethau sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Os byddi di’n canmol ymdrech, bydd yn dysgu dy blentyn i ddal ati i ddysgu a dal ati i drio.
- Helpu dy blentyn i ddysgu a thyfu drosto’i hun, nid drwy gymharu ei hun ag eraill. Does dim angen i lwyddiant fod yn gystadleuol.
- Meddwl am dy blentyn di. Byddai’n well gan rai plant sylw neu edrychiad distaw, mae eraill yn mwynhau rhywbeth mwy croch ac amlwg – dysga beth sy’n gweithio i dy blentyn di.
Mae canmol hefyd yn dy helpu i feithrin perthynas dda gyda dy blentyn, a fydd yn dy wneud di a dy blentyn yn hapusach.
Cofia roi amser i ganmol dy hun hefyd. Pan fyddi di’n annog dy hun gyda ‘hunan-sgwrs’ cadarnhaol rwyt ti’n fwy tebygol o wneud yr un peth i dy blentyn.
Ble i gael cyngor a chefnogaeth
Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.
Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.