Neidio i'r prif gynnwy

Mae ganddo sgiliau corfforol da ond mae angen i chi ei gadw’n ddiogel. Gallwch ei helpu i ddatblygu drwy gynnig cyfleoedd (diogel) iddo chwarae, wrth i chi gadw llygad arno.

Mae’ch plentyn yn dysgu am deimladau. Mae’n gyffredin i blant yr oedran hwn strancio. Byddan nhw’n strancio pan fyddan nhw’n rhwystredig ac yn teimlo dan straen ac yn methu ymdopi â’r teimladau hyn. Mae plant yn strancio pan fyddan nhw wedi blino neu eisiau bwyd neu’n teimlo’n genfigennus, yn ofnus neu’n anhapus hefyd.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau.

Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich babi yn y Naw Mis a Mwy - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru). Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

Rhwng 2 a 3 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:

  • Rhedeg, neidio, dringo a chwarae ar geir bach a threiciau;
  • Defnyddio brawddegau hirach ac yn gofyn cwestiynau;
  • Defnyddio’r geiriau pam, na, fi ac un/rhai fi yn aml;
  • Gwerthfawrogi ei bethau ‘ef’ ac yn dweud ‘un/rhai fi’;
  • Chwarae gemau dychmygus mwy cymhleth, e.e. gwisgo i fyny;
  • Sylwi ar deimladau pobl eraill;
  • Cael ei drechu gan ei deimladau cryf a chael trafferth eu mynegi drwy eiriau;
  • Cael ofn synau uchel, anifeiliaid rhyfedd a llefydd anghyfarwydd;
  • Rhyngweithio â phlant eraill; 
  • Gallu gwneud mwy a mwy o bethau ei hun fel golchi dwylo, gwisgo, dadwisgo.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn bach

  • Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chlod i’ch plentyn bach. Rhowch sylw unigol iddo pryd bynnag y gallwch chi.
  • Ceisiwch gadw pethau'r un fath gymaint â phosib. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwydo, ymolchi a rhoi’ch plentyn i’w wely tua’r un amser bob dydd. Dewch o hyd i batrwm sy’n gweithio i’ch teulu chi.
  • Ceisiwch ddangos yr ymddygiad cymdeithasol rydych chi am i’ch plentyn bach ei ddysgu. Er enghraifft, dweud “plîs/os gwelwch yn dda” a “diolch” wrth siarad ag ef a rhoi clod iddo pan fydd yn rhannu neu’n eich helpu chi.
  • Labelwch deimladau’ch plentyn bach pan fyddwch chi’n eu gweld, er enghraifft, pan fyddwch chi’n gweld ei fod yn hapus, yn flin, wedi siomi neu’n rhwystredig. Bydd hyn yn ei helpu i ddeall y gair am y teimlad neu’r emosiwn hwnnw fel ei fod yn gallu dysgu mynegi sut mae’n teimlo nes ymlaen.
  • Siaradwch am yr hyn rydych chi’n ei wneud gyda’ch gilydd. Gofynnwch i’ch plentyn am ei farn a’i syniadau. “Beth wyt ti’n ei hoffi yn y llun?” “Pa degan yw dy ffefryn di?” Cofiwch roi amser i’ch plentyn ddewis a defnyddio’i eiriau.
  • Ceisiwch osgoi gormod o deledu a theclynnau eraill fel llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn bach ond peidiwch â’u defnyddio am fwy na hanner awr bob dydd. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol gyngor ar wneud y gorau o'r teledu  (Dolen allanol). 
  • Anogwch eich plentyn bach i fwydo a gwisgo’i hun. Bydd eich plentyn yn mwynhau eich helpu chi hefyd – rhoi dillad gadw, brwshio’r llawr neu sychu’r bwrdd.
  • Rhowch ddewisiadau syml iddo. “Hoffet ti afal neu fanana?” “Wyt ti eisiau’r car neu’r trên?”
  • Ceisiwch beidio â gwylltio pan fydd eich plentyn yn strancio. Os byddwch chi’n ddigynnwrf, bydd yn helpu’ch plentyn bach i dawelu’n gynt. Bydd gweiddi’n gwneud pethau’n waeth. Ceisiwch anwybyddu’r stranc oni bai bod eich plentyn mewn perygl.
  • Paratowch! Pan fyddwch chi’n gadael y tŷ ewch ag ambell degan bach, diod a byrbryd iach gyda chi.
  • Anwybyddwch bethau bach am ei ymddygiad sy’n mynd ar eich nerfau fel stompio neu gwyno neu ceisiwch dynnu ei sylw gyda gweithgaredd, tegan neu gêm newydd. Rhowch ddigonedd o sylw a chlod i’ch plentyn am ymddwyn yn dda.
  • Rhannwch lyfr (Dolen allanol), gân neu gêm. Os yw’ch plentyn yn gwybod llawer o ganeuon a rhigymau, bydd yn dysgu darllen yn haws. Gallwch gael syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae yn Words for Life (Dolen allanol) a Read on. Get on (Dolen allanol) neu yn eich llyfrgell leol.
  • Cofiwch Chwarae! Rhowch deganau i’ch plentyn i’w rhoi un ar ben y llall, pethau i’w tynnu’n ddarnau, blociau, jig-so syml, ceir tegan, anifeiliaid a dolis. Ceisiwch fynd i’r parc fel y gall eich plentyn gael hwyl ar yr offer. Wrth i’ch plentyn archwilio, cadwch lygad ar ddiogelwch.
  • Dysgwch eich plentyn am rannu. Peidiwch â disgwyl neu orfodi’ch plentyn i rannu. Helpwch y plentyn i ddysgu sut mae rhannu. “Tro Tomos yw hi nawr. Gelli di chwarae gyda dy gar wrth i ti aros dy dro”.

Mae Dad yn bwysig hefyd. Mae ymchwil wedi dangos bod tadau’n cael dylanwad mawr ar ddatblygiad eu plentyn. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd fel gwisgo, chwarae, ymolchi a darllen yn creu llawer o gyfleoedd i annog datblygiad eich plentyn bach.

Beth sydd ddim yn gweithio

  • Gwylltio – Mae hyn yn cynyddu’r tensiwn a gallai pethau droi’n frwydr fawr.
  • Peidiwch byth â chnoi neu daro’ch plentyn bach. Mae rhai plant bach yn cnoi neu’n taro pan fyddan nhw’n flin neu’n rhwystredig. Peidiwch â chnoi neu daro’ch plentyn bach yn ôl. Bydd yn cael dolur ac efallai y bydd yn credu ei bod hi’n iawn ymddwyn fel hyn. 
  • Peidiwch â chosbi camgymeriadau neu ddamweiniau’ch plentyn bach na’i feirniadu pan fydd yn gwneud rhywbeth o’i le. Mae’ch plentyn bach yn dysgu o hyd. Dylech ei ganmol ac annog ei ymdrechion.
  • Peidiwch â bygwth eich plentyn gyda phethau sy’n ei ddychryn. Bydd hyn yn gwneud eich plentyn yn ofidus a gallai arwain at fwy o ymddygiad nad ydych chi ei eisiau, nid llai.
  • PEIDIWCH BYTH ag ysgwyd eich plentyn bach. Gall ysgwyd wneud niwed i ymennydd eich plentyn bach a gall yr anafiadau bara am byth.

Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig neu’n flin, rhowch eich plentyn bach yn rhywle diogel am ychydig (er enghraifft, yn ei got). Cymerwch hoe nes eich bod chi wedi pwyllo. Neu rhowch eich plentyn bach yn y bygi ac ewch am dro i dawelu. Neu gofynnwch i rywun arall ofalu am eich plentyn bach am ychydig.

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Mae’r byd yn lle mawr a chymhleth i blentyn bach 2-3 oed. Ar hyn o bryd mae’n ceisio deall y ‘rheolau’ a sut mae’r cyfan yn gwneud synnwyr. Gallwch chi helpu drwy egluro pethau’n syml iddo.