Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar H5N1 ar safle sy’n cynnwys cymysgedd o wahanol ddofednod ger Crughywel, Sir Brycheiniog a Maesyfed, Powys.
Caiff ieir, hwyiaid, gwyddau, twrcwn, ffesantod, elyrch a rheaod eu cadw ar y safle.
Mae Parth Diogelu o 3km, Parth Gwyliadwriaeth o 10km a Pharth Cyfyngedig o 10km wedi'u datgan o amgylch y safle heintiedig i gyfyngu ar y risg o ledu'r clefyd.
Ystyrir bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac nid yw'r achosion hyn yn peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.
Mae achosion tebyg o ffliw adar wedi’u canfod yn y DU ac yn Ewrop.
Ddydd Llun yr wythnos hon gwnaeth Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddwyn i rym fesurau lletya newydd a gorfodol i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar.
Cynghorir yn gryf i bob ceidwad fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd megis mwy o farwolaethau neu drafferthion anadlol. Os oes gan geidwaid unrhyw bryderon am iechyd eu hadar, cânt eu hannog i ofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:
"Mae'r cadarnhad hwn o achos o ffliw adar mewn dofednod cymysg yn dystiolaeth bellach o'r angen i bob ceidwad adar sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf o fioddiogelwch.
"Mae mesurau lletya newydd wedi dod i rym i ddiogelu dofednod ac adar dof, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod hyn ar ei fwyaf effeithiol o'i gyfuno â gweithredu'r mesurau bioddiogelwch llymaf.
“Dyma’r trydydd achos o ffliw adar sydd wedi’i gadarnhau yng Nghymru hyd yma y gaeaf hwn, sy’n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod ceidwaid adar yn wyliadwrus.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o Ffliw Adar yn isel iawn ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud yn glir nad yw'n peri risg diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU.
"Rhaid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os ydych yn amau ffliw adar neu unrhyw glefyd hysbysadwy arall."
Anogir aelodau o'r cyhoedd i beidio â chodi na chyffwrdd unrhyw adar sâl neu farw ac yn hytrach gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i hysbysu’r awdurdodau a chael gwared o adar gwyllt marw ar gael ar: Adrodd a gwaredu aderyn marw
Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Prydain Fawr ar gael yma.