Peidiwch â chyffwrdd neu godi unrhyw adar sydd wedi marw neu sy’n amlwg yn sâl.
Os byddwch yn dod o hyd i
- adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau neu hwyaid)
- adar gwyllt marw eraill, megis gwylanod neu adar hela
dylech roi gwybod amdanynt i linell gymorth Defra (03459 33 55 77).
Wedyn mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar hyn a’u profi i’n helpu ni i ddeall dosbarthiad daearyddol y clefyd a’r mathau gwahanol o adar mae’r clefyd yn effeithio arnynt. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu.
Mae APHA yn cyhoeddi adroddiad (sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd) ar achosion o ffliw adar pathogenig sy’n cael eu canfod mewn adar gwyllt ac yn darparu rhagor o fanylion yn ein hasesiadau o achosion.
Pan nad oes angen adar marw at ddibenion monitro, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am gael gwared ar y carcasau mewn modd diogel.
Mae carcasau anifeiliaid gwyllt, ar wahân i adar hela, yn cael eu hesemptio o reolau sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y DU. Fodd bynnag, os amheuir bod yr anifeiliaid wedi’u heintio â chlefyd a all ledaenu i bobl neu anifeiliaid, fel ffliw adar, rhaid cael gwared ar y carcasau un unol â chategori 1 y rheolau sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Gweler ein canllawiau ar gael gwared ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Cael gwared ar adar marw a welir ar safleoedd domestig
Ar ôl cysylltu â Llinell Gymorth DEFRA (03459 33 55 77 – dewiswch opsiwn7) i adrodd am adar marw, os nad oes angen yr adar at ddibenion monitro, dilynwch y cyngor isod ynghylch cael gwared arnynt.
Gwaredu mewn gwastraff domestig neu wastraff trefol:
- os oes modd, dylid gwisgo menig diogelu untro wrth godi ac ymdrin ag adar marw gwyllt. Os nad oes menig untro ar gael, gellir defnyddio bag plastig yn lle maneg
- rhowch yr aderyn mewn bag plastig addas, yn ddelfrydol bag na fydd yn gollwng. Dylid cymryd gofal i beidio â halogi tu allan y bag
- ar ôl codi’r aderyn, gellir plygu’r bag yn ddwbl a’i glymu. Dylid wedyn roi’r bag hwn mewn bag plastig arall, clymu’r bag hwnnw a gwaredu arno yn y gwastraff domestig arferol (bin â chaead y tu allan i’r tŷ)
- clymwch y bag a’i roi mewn bag plastig arall
- tynnwch y menig drwy eu troi tu chwith allan a’u rhoi yn yr ail fag plastig
- clymwch y bag a chael gwared arno yn y bin gwastraff domestig arferol
Claddu:
- gellir claddu’r aderyn marw, ond nid mewn bag plastig
- rhaid claddu’r aderyn mewn twll sy’n ddigon dwfn i atal anifeiliaid rhag ysglyfaethu a chael o hyd iddo – argymhellir o leiaf 60cm
- ni ddylid claddu’r aderyn ar bwys unrhyw gyrsiau dŵr, neu mewn mannau sy’n debygol o halogi cyflenwadau dŵr lleol