Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r pwerau i awdurdodau lleol ddirwyo pobl sy’n parcio ar balmentydd.
Mae Gweinidogion yn cefnogi argymhellion grŵp o arbenigwyr annibynnol i roi pwerau gorfodi sifil newydd i awdurdodau lleol allu dirwyo pobl sy’n cam-barcio.
“Nid yw’r gyfraith fel ag y mae hi mor glir ag y dylai fod”, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Lee Waters AS, a sefydlodd y tasglu.
“Nid oes y fath drosedd â pharcio ar bafin, ac er bod yr heddlu yn cael defnyddio’r drosedd bresennol o ‘greu rhwystr diangen ar ran o’r briffordd’, anaml iawn y gwnân nhw hynny”, dywedodd.
Gwrthododd y Tasglu ar Barcio ar Balmentydd dilyn trywydd yr Alban o osod gwaharddiad llwyr a fydd yn cymryd pum mlynedd i’w roi ar waith, am ei fod yn rhy araf a chymhleth. Yn lle mae hynny, mae am roi’r arfau i awdurdodau lleol allu gweithredu o Orffennaf 2022. Newydd ddechrau ymgynghori ar y mater y mae Llywodraeth y DU ar gyfer taclo’r broblem yn Lloegr.
“Rydym am i fwy o bobl gerdded teithiau byr ond eto, rydyn ni’n fodlon goddef amodau sy’n ei gwneud hi’n anodd i gerddwyr; mae gormod o lwybrau’n llawn annibendod neu wedi’u blocio. Yn ôl arolwg diweddar, roedd 83% o bobl Cymru’n gweld hyn yn broblem go iawn” dywedodd Lee Waters.
“Rydyn ni’n cydnabod bod gormod o geir mewn rhai strydoedd o’u cymharu â’r lleoedd sydd ar gael a dydyn ni ddim am gosbi pobl sydd heb ddewis. Ond rydym am i Gynghorau allu canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae’r broblem yn fawr ac ymateb yn ôl yr amgylchiadau lleol”, meddai’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn deg argymhelliad Tasglu Cymru ar Barcio ar Balmentydd. Cafodd y panel annibynnol ei sefydlu yn yr haf o dan arweiniad Phil Jones, peiriannydd trafnidiaeth uchel ei barch, sydd hefyd yn gadeirydd y tasglu ar derfynau cyflymder lleol o 20mya. Ym mis Gorffennaf, pleidleisiodd y Senedd o blaid cynnig i sefydlu terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Bydd Llywodraeth Cymru wedi rhoi hynny mewn grym erbyn Ebrill 2023.
“O’u cymryd gyda’i gilydd, bydd gan y ddwy fenter y potensial i achub bywydau ac ailgydbwyso’r amgylchedd o blaid cerddwyr i greu cymunedau lle mae pobl yn bwysicach na cheir”, dywedodd Lee Waters.
Gwelwch yr Adroddiad Tasglu Parcio ar y Palmant yma.
Gwelwch yr ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion a wnaed yn Adroddiad Grŵp Tasglu Parcio ar y palmant Cymru.