Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i ysbrydoli pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed i deimlo’n hyderus ac i gael eu hysgogi gan eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ymgyrch ‘Bydd Bositif’, yn ceisio cyfleu Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc ac annog pobl ifanc Cymru i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymgyrch wedi’i datblygu mewn ymateb i effaith COVID-19 ar y cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol sy’n wynebu pobl ifanc. Roedd pobl dan 25 oed mewn tri o bob pum swydd a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19. Mae wedi cael ei ddylunio i fynd i’r afael â’r agweddau negyddol am ragolygon swyddi a’r heriau iechyd meddwl mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â nhw – ar gyfryngau cymdeithasol yn bennaf. Mae ‘Bydd Bositif’ yn hyrwyddo’r gefnogaeth a’r cyfleoedd cadarnhaol sydd ar gael ac yn annog pobl ifanc i ymgysylltu â’r hyn y gellir cael mynediad ato drwy’r gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â dylanwadwyr cymdeithasol a phartneriaid brand i rannu negeseuon cadarnhaol am y cymorth sydd ar gael. Mae’r ymgyrch farchnata yn cynnwys rhai o sêr cyfryngau cymdeithasol mwyaf Cymru, gan gynnwys Ellis Lloyd Jones a Catrin Williams, a fydd yn defnyddio eu harddulliau a’u llwyfannau unigryw i rannu negeseuon cadarnhaol am y Warant i Bobl Ifanc. Mae’r ymgyrch galonogol hon hefyd wedi  ffurfio partneriaethau gyda’r artist Niki Pilkington, a fydd yn creu gwaith celf cyfyngedig, tai coffi De Cymru, Coffi Co, y brand ffordd o fyw newydd, Fightwear Store, a llawer mwy.

Nod y Warant i Bobl Ifanc yw rhoi'r cyfle i bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru gael mynediad at addysg, hyfforddiant neu gefnogaeth fydd yn eu harwain at gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Bydd y Warant yn cefnogi pobl ifanc, yn enwedig y rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i lywio eu ffordd i fyd gwaith a thrwyddo.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau ystyried sut gallant chwarae eu rhan i gefnogi’r Warant i Bobl Ifanc drwy recriwtio drwy’r rhaglen Prentisiaeth, cynnig profiad gwaith i bobl ifanc drwy raglenni addysg a hyfforddiant amrywiol a rhoi cyngor ar sut i recriwtio person ifanc anabl.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau sydd wedi bodoli ar draws y farchnad lafur ers tro. Mae’r rheini sydd ar incwm isel a chontractau anniogel, sydd wedi bod yn fwy cyffredin ymysg pobl ifanc, wedi cael eu heffeithio waethaf, a byddant yn parhau i gael eu heffeithio.

“Mae ein neges i bobl ifanc yng Nghymru yn syml: rydym am i chi lwyddo a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch. Mae ‘Bydd Bositif’ yn cyfleu’r neges hon mewn ffordd hygyrch gan ddefnyddio’r sianeli sy’n taro tant gyda’n cynulleidfa ifanc.

“Yn ei hanfod, mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymwneud â chysylltu pobl ifanc â’r cyngor a’r arweiniad cywir, fel eu bod yn deall yr ystod o gyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd ar gael i’w cefnogi ac i’w helpu i symud ymlaen tuag at gyflogaeth neu hunangyflogaeth.”

I gael gwybod mwy am y Warant i Bobl Ifanc, ffoniwch Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i Cymru’n Gweithio.