Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr i sefydliadau addysg uwch Cymru – 27 o Fawrth, 2020

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Annwyl cydweithiwr

Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffordd y mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wedi bod yn ymdopi â her yr achosion o COVID-19 ac yn gweithio i liniaru'r effeithiau ar fyfyrwyr a staff.

Cymorth i fyfyrwyr

Er y bydd llawer o fyfyrwyr eisoes wedi teithio adref, rwy'n gwybod y bydd rhai yn eu llety yn ystod y tymor o hyd ac mae'n bosibl y byddant yn teimlo'n arbennig o agored i niwed. Wrth gwrs, dylai'r myfyrwyr sy'n dal i fod yn y brifysgol fod yn dilyn cyfyngiadau presennol y Llywodraeth ar deithio a gweithgareddau awyr agored. Dylid eu hannog i nodi'r cyngor sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Rwy'n gwybod bod prifysgolion yng Nghymru wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau â'r nod o gefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, gyda chymorth cyllid rwyf wedi'i ryddhau drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Hoffwn sicrhau'n benodol fod y cymorth hwn yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sy'n gorfod aros oddi cartref yn ystod y cyfnod anodd hwn ac sy'n debygol o deimlo'n ynysig. Dylai cymorth o'r fath gael ei estyn i fyfyrwyr sy'n byw oddi ar y campws, yn ogystal â'r rhai hynny mewn neuaddau preswyl prifysgolion.

Hoffwn bwysleisio'r angen i sefydliadau gyfathrebu'n glir â myfyrwyr preswyl ynghylch rhenti yn ystod y cyfnod hwn a defnyddio dull gweithredu teg a thryloyw wrth weinyddu darpariaeth llety. Mae'r penderfyniad gan rai sefydliadau i hepgor rhywfaint o'r costau llety, neu'r holl gostau, yn un rydym yn ei groesawu.

Rwy'n cydnabod bod prifysgolion yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno eu darpariaeth. Fodd bynnag, byddwn yn disgwyl iddynt ystyried anghenion myfyrwyr wrth ddarparu fformatau amgen a hygyrch ar gyfer addysgu ac asesu. Rwyf am i chi sicrhau y bydd myfyrwyr yn gallu gadael â chymwysterau sy'n adlewyrchiad teg o'u galluoedd, gan gynnal ansawdd a safonau ar yr un pryd. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr gael ei gosbi'n annheg am fod yn ei flwyddyn astudio olaf yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rwy'n gwybod bod Undebau Myfyrwyr ledled Cymru yn gweithio'n arbennig o galed – ar y cyd â'n prifysgolion – i gynnig cymorth, tawelwch meddwl a chyngor i fyfyrwyr a staff. Mae cymuned amrywiol a rhyngwladol o fyfyrwyr yng Nghymru, ac mae'r gwaith y mae Undebau Myfyrwyr yn ei wneud (gydag UCM Cymru) yn dangos ein bod yn parhau i fod yn gartref croesawgar a chefnogol i bob myfyriwr.

Er eglurder, mae'r Swyddfa Gartref wedi diweddaru ei chanllawiau ar fisâu er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i fyfyrwyr a staff addysg uwch rhyngwladol yn y DU nad ydynt yn gallu dychwelyd adref ar hyn o bryd oherwydd COVID-19. Mae'r canllawiau hyn yn cwmpasu tri phrif fater: estyniadau i fisâu, newid fisa o fewn gwlad a dysgu o bell.

Cyllid myfyrwyr

Rwy'n cydnabod y bydd gan fyfyrwyr a'u teuluoedd gwestiynau a phryderon wrth i'r digwyddiadau hynod heriol a digynsail hyn ddatblygu'n gyflym. Mewn ymateb, mae fy swyddogion yn adolygu'r holl bolisïau cymorth i fyfyrwyr ac yn gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, llywodraethau eraill y DU, rhanddeiliaid allweddol, yn ogystal â'n partner cyflawni, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC), er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a sefydliadau'n cael eu cefnogi'n briodol yn ystod y cyfnod hwn.

Hoffwn sicrhau myfyrwyr bod yr SLC yn bwriadu gwneud taliadau ffioedd dysgu Tymor 3 yn unol â'r amserlen ac y bydd myfyrwyr sy'n dysgu yn parhau i dderbyn taliadau cynhaliaeth ar y dyddiadau a drefnwyd, p'un a yw campysau ar agor ai peidio ac ni waeth a yw dysgu wedi symud ar-lein.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yn datblygu'n gyflym. Bydd tudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yn cael ei diweddaru er mwyn cynnig atebion mor gyflym â phosibl i fyfyrwyr a bydd y cwestiynau'n cael eu diweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cwmpasu'r sefyllfa a'r cyngor presennol.

Derbyniadau

Mae'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu i UCAS er mwyn mynegi fy mhryder am y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â chynnydd mewn cynigion diamod gan sefydliadau addysg uwch i ddarpar fyfyrwyr o ganlyniad i'r achosion presennol o goronafeirws. Rwyf wedi cadarnhau y bydd dysgwyr yng Nghymru a oedd i fod i sefyll eu harholiadau Safon Uwch yr haf hwn yn cael gradd deg er mwyn cydnabod eu gwaith, gan ddefnyddio ystod o wybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys canlyniadau'r myfyrwyr ar lefel UG.


Felly nid wyf yn credu bod unrhyw reswm da dros amharu ar y cylch derbyniadau arferol nac i brifysgolion ddechrau gwneud eu cynigion yn rhai diamod. Ni fyddai hyn er lles pennaf myfyrwyr na sefydliadau addysg uwch. Rwy'n gwerthfawrogi bod yn rhaid i'r llywodraeth yn Lloegr ymdrin â goblygiadau symud oddi wrth gymwysterau UG ac effaith hyn ar gynhyrchu graddau teg, ond y ffordd orau o ddatrys y broblem yw i'r pedair llywodraeth a'r pedwar rheoleiddiwr weithio gyda'i gilydd i gadw at y cylch derbyniadau arferol cyn belled ag y bo modd.


Rwy'n ymwybodol o'r rôl mae ein prifysgolion yn ei chwarae i gefnogi ein prosiect Parhad Dysgu. Mae hwn yn brosiect cynhwysfawr sydd â'r nod o leihau'r effaith ar ddysgu sy'n anochel, i raddau, dan yr amgylchiadau presennol. Rwy'n ddiolchgar am y gwaith rydych yn ei wneud i alluogi myfyrwyr Blwyddyn 13 i barhau i ddysgu a pharatoi ar gyfer y cam nesaf yn eu datblygiad academaidd a galwedigaethol. Ymysg yr heriau, mae hyn yn datblygu'n gyfle cadarnhaol i fyfyrwyr, ysgolion, y rhanbarthau a'r prifysgolion. Bydd fy swyddogion yn mynd ar drywydd y gwaith hwn gyda sefydliadau.

Gweithgareddau tramor

Rwy'n ymwybodol bod sefydliadau wedi gohirio eu teithiau tramor i staff a myfyrwyr yn unol â chyngor presennol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn erbyn pob taith ryngwladol nad yw'n hanfodol i wladolion Prydeinig. Caiff holl fyfyrwyr a staff y DU sy'n astudio ar gynlluniau cyfnewid ar hyn o bryd, gan gynnwys Erasmus+, neu sy'n gweithio dramor dros dro, eu cynghori i beidio â dychwelyd i'r DU nawr er bod llwybrau masnachol ar gael o hyd, yn unol â chyngor diweddaraf y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Fframwaith rheoleiddio

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau â CCAUC ynghylch y gofynion rheoliadol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghyrmu yn sgil y sefyllfa bresennol. Mae CCAUC yn adolygu'r gofynion hyn a bydd yn cysylltu â sefydliadau'n fuan er mwyn egluro'r sefyllfa.

Cymorth i staff

Rwy'n ymwybodol bod sefydliadau wedi bod yn adolygu ac yn gweithredu arferion gweithio ar gyfer staff sy'n eu galluogi i gynnal dyletswydd gofal, er enghraifft drwy gadw pellter cymdeithasol, gan sicrhau bod busnes hanfodol yn parhau. Byddwn yn eich annog i ddarparu cymorth i staff sy'n cefnogi eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn ystod y cyfnod hwn.

Cefnogi'r ymateb cenedlaethol i COVID-19

Rwyf wedi bod yn glir am fy mlaenoriaethau ar gyfer y sector addysg uwch o ran datblygu cenhadaeth ddinesig sefydliadau a'u cyfraniad at eu cymunedau lleol. Mae gan brifysgolion rôl bwysig i'w chwarae o ran mynd i'r afael â'r heriau sy'n deillio o COVID-19, drwy gefnogi eu staff a'u myfyrwyr eu hunain yn ogystal â chyfrannu at gamau gweithredu sydd â'r nod o ddelio â'r epidemig a gweithio gyda'r GIG. Gall hynny olygu cyfrannu cyfarpar, ymchwil neu gyfleusterau llety a chefnogi staff a myfyrwyr i wirfoddoli eu hamser a'u gwasanaethau. Gwn fod llawer o sefydliadau wedi bod yn gwneud hyn eisoes a hoffwn annog yr ysbryd dinesig hwnnw.

Diolch eto am y gwaith rydych yn ei wneud i ofalu am eich myfyrwyr a'ch staff, ac i gefnogi'r ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael â COVID-19.

Yn gywir
Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education