Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Yr adolygiad hwn yw’r cyntaf o’r adolygiadau teilwredig ar gyfer cyrff noddedig gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Adolygiad Teilwredig yn cymryd lle’r dulliau blaenorol o adolygu, er mwyn sicrhau ymdriniaeth mwy cytbwys, hyblyg a chydweithredol. Cyflwynir yr argymhellion a’r awgrymiadau yn yr adolygiad hwn at sylw y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i’w hystyried. Rhoddwyd sylw i’r arweiniad a’r fethodoleg a awgrymwyd gan Swyddfa Cabinet y DU yn ‘Tailored Reviews: Guidance on Reviews of Public Bodies’ wrth gynnal yr adolygiad.

Yn ystod trafodaethau gyda Chadeiryddion a Phrif Weithredwyr, fel rhan o lunio adroddiad ‘Cyflawni gyda’n Gilydd: Cryfhau nawdd Llywodraeth Cymru o Gyrff Hyd Braich’1, ceisiwyd eu barn ar yr egwyddor o ddefnyddio adolygiadau teilwredig. Rhoddwyd cefnogaeth gan y mwyafrif ar gyfer rhaglen o adolygiadau cyn belled bod yr adolygiadau wedi’u cynllunio a’u gweithredu ar sail asesiad risg, a’i fod yn gymesur â maint y corff dan sylw. Roedd cadeiryddion yn awyddus bod Llywodraeth Cymru yn symud i ffwrdd oddi wrth adolygiadau cul yn ymwneud gyda phynciau gymharol ansylweddol a dueddai i niweidio enw da y corff yn yr hir dymor. Yn ddieithriad, yr oeddent yn gefnogol i raglen o adolygiadau teilwredig lle roddid rhybudd rhagblaen o adolygiad, ac a roddai darlun clir o gryfderau a gwendidau y corff dan sylw.

Yn gyffredinol, croesawodd pawb y syniad o gael panel herio i ystyried unrhyw adroddiadau a theimlai’r Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr ei fod yn ymarferiad hunan- fyfyrdod da a chyfle i ddysgu gwersi.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw’r corff cyhoeddus hyd braich cyntaf i fod yn destun Adolygiad Teilwredig yng Nghymru. Mae cylch gorchwyl yr adolygiad, wedi cael ei gytuno ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a LlGC, ac mae Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru wedi hwyluso’r gwaith. Penodwyd panel annibynnol i ymgymryd â’r adolygiad gan Lywodraeth Cymru mewn cytundeb â LlGC, ac mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ei gasgliadau.

Mae’r adroddiad yn ystyried effeithiolrwydd fframwaith llywodraethiant y Llyfrgell, effeithlonrwydd ei wasanaethau, addasrwydd statws cyfansoddiadol a chyfreithiol y Llyfrgell, a sut ddylai baratoi ar gyfer yr heriau fydd yn ei wynebu dros y deng mlynedd nesaf.

Ystyrir effeithlonrwydd fframwaith llywodraethiant y Llyfrgell Genedlaethol, addasrwydd statws gyfansoddiadol a chyfreithiol presennol y Llyfrgell, a sut y dylai’r Llyfrgell baratoi ar gyfer yr heriau fydd yn ei hwynebu dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried swyddogaeth y Llyfrgell fel sefydliad cenedlaethol all gynnig arweiniad a gwasanaethau proffesiynol i lyfrgelloedd ac archifdai Cymru, ac yn ystyried ei statws fel llyfrgell genedlaethol o bwys ryngwladol. Cynhaliwyd y adolygiad rhwng mis Medi a Thachwedd 2019.

Comisiynwyd arolwg defnydd cyhoeddus o’r Llyfrgell hefyd, gan Gangen Ymchwil Gorfforaethol Llywodraeth Cymru, er mwyn mesur y disgwyliadau o wasanaethau’r Llyfrgell, a natur ymwneud y Llyfrgell gyda’r cyhoedd.

Cynhaliwyd tri gweithdy gyda rhanddeiliaid yng Nghaerdydd ac Aberystwyth. Aseswyd dogfennau allweddol, gan gynnwys adolygiadau blaenorol ar lywodraethiant a rheolaeth, ac fe gynhaliwyd 33 o gyfweliadau gyda staff ac aelodau o Fwrdd y Llyfrgell, gan gynnwys rheolwyr â chyfrifoldeb am reoli a chyllido y Llyfrgell, archifwyr a llyfrgellwyr yng Nghymru, yn ogystal â chynrychiolwyr cyrff celfyddydol a threftadaeth eraill (ceir rhestr lawn o’r sawl a gyfwelwyd yn Atodiad 3).

Aelodau y panel oedd Aled Eirug (Cadeirydd), Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Emyr Williams, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri a Rheon Tomos, cyfrifydd ac ymgynghorydd llywodraethiant.

Hoffai’r panel ddiolch i aelodau Bwrdd a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i staff Llywodraeth Cymru, a’r sawl roddodd o’u hamser i gyfrannu i’r adolygiad mewn cyfweliadau a thrwy ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig am eu cymorth parod.

2. Cefndir Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907, ar yr un pryd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru . Caniatawyd Siartrau Atodol a oedd yn cyflwyno mân newidiadau ym 1911 ac ym 1978. Ar 19 Gorffennaf 2006, caniatawyd Siarter Frenhinol Atodol a Statudau Newydd, a osododd strwythur llywodraethiant o un haenen o Fwrdd Ymddiriedolwyr, yn lle dwy haenen (Llys Llywodraethwyr a Chyngor). Bellach, rhennir penodiadau i’r Bwrdd gan Lywodraeth Cymru a’r Llyfrgell. Addaswyd y cyfansoddiad a’r llywodraethiant er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod llywodraethu ym maes diwylliant wedi’i datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn Elusen Gofrestredig, a reoleiddir gan y Comisiwn Elusennau. Mae’r Llyfrgell wedi ei dynodi yn un o‘r ‘cyrff noddedig’, sef cyrff an-adrannol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfraniad diwylliannol y Llyfrgell yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r cyfan o’r cyfran-ddeiliaid gymerodd ran yn ein ymgynghoriad. Mae’n cyflawni ei rôl a’i rhwymedigaethau drwy gydbwyso’r amcanion yn ei Siarter a’i statws Elusennol a’i hymrwymiad i ddarparu budd hirdymor i’r cyhoedd.

Yn ogystal â bod yn un o’r chwech llyfrgell adneuo cyfreithiol ym Mhrydain ac Iwerddon, mae’r Llyfrgell hefyd yn archif ac yn adnodd gwybodaeth enfawr. O dan y gyfraith, rhaid i gyhoeddwyr pob cyhoeddiad print yn y Deyrnas Unedig roi copi i’r Llyfrgell Brydeinig, ac i unrhyw un o’r pum llyfrgell adneuol arall sy’n gofyn amdano, a mae’r drefn yma yn cynnwys deunydd a gyhoeddir yn ddigidol ac ar-lein . Mae consensws barn ymhlith yr holl unigolion a ymgynghorwyd â hwy ar gyfer yr adroddiad bod y Llyfrgell yn gonglfaen etifeddiaeth diwylliannol a materol Cymru, a’r ffaith ei fod yn gartref i ddogfennau sydd wedi’u hadnabod gan UNESCO fel rhai o bwysigrwydd rhyngwladol ac ymhlith trysorau dogfennol pwysicaf y byd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd wedi ei leoli yn Aberystwyth, yw prif lyfrgell ac archif Cymru, ac mae’n drysorfa ar gyfer treftadaeth gofnodedig y genedl. Ei swyddogaeth graidd, fel a ddisgrifir yn ei Siarter Frenhinol, yw:

"i gasglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math o ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil addysg. 

Mae’r amcanion hyn yn cael eu gweithredu trwy gasglu deunyddiau drwy adnau cyfreithiol, prynu, rhoddion, cymynroddion, cyfnewid; gwarchod a gofalu am y casgliadau; rhoi mynediad a gwybodaeth i’r cyhoedd i gasgliadau a gwasanaethau’r Llyfrgell, ac i wybodaeth amdanynt; a codi ymwybyddiaeth o waith a chasgliadau’r llyfrgell a lledaenu gwybodaeth amdanynt.

Mae’r casgliadau yn cynnwys:

  • 7,000,000 troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 6,000,000 o lyfrau a phapurau newydd
  • 40,000 llawysgrif
  • 1,500,000 map
  • 150,000 awr o sain
  • 950,000 ffotograff
  • 60,000 gwaith celf
  • 1,900 metr ciwb o archifau - mae rhai casgliadau wedi eu digido a gellir eu gweld arlein.

Ers ei sefydlu, mae’r Llyfrgell wedi parhau i gasglu a diogelu treftadaeth ddogfennol Cymru, mewn ffurfiau a chyfryngau amrywiol. Hefyd mae hi wedi dehongli’r etifeddiaeth hanesyddol a diwylliannol trwy gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd, ac wedi ysgogi dysg ac ymchwil.

Mae’r Llyfrgell yn un o’r cyrff cyhoeddus hyd braich amlycaf ei defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng gweithredu o fewn a thu hwnt i’r sefydliad, a mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’i hunaniaeth a chymeriad. Mae’n gyflogwr rhagorol o ran ei waith yn roi cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle, a mae ei gyfraniad, fel model ar gyfer defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng yn y gweithle, yn eithriadol ymhlith cyrff hyd braich y Llywodraeth ac yn cyfrannu’n llawn at amcanion Strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.

Mae’r Llyfrgell yn wynebau heriau sylweddol i’r dyfodol, a’r her pennaf yw’r bygythiad cynyddol i’w hyfywedd cyllidol. Mae’r her yma’n cyd-ddigwydd gyda’r gofyn i barhau i gynnal adnoddau cyfalaf y Llyfrgell, gan gynnwys ei hisadeilaedd technoleg gwybodaeth a’i stâd, a’r angen i ddatblygu gwasanaethau digidol, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach ar gyfer ei gwasanaethau.

Clywsom werthfawrogiad cynnes o gyfraniad diwylliannol y Llyfrgell gan aelodau’r grwpiau trafod a’r sawl a gyfwelwyd, ac ni awgrymodd neb yn ystod yr adolygiad y dylid newid statws cyfreithiol a chyfansoddiadol y Llyfrgell.

Mae safle daearyddol y Llyfrgell yn Aberystwyth yn gryfder ac yn wendid. Elfen bwysig yn ei chyfraniad fel sefydliad cenedlaethol yw ei bod yn dangos nad oes angen cael lleoliad yng Nghaerdydd i fod yn gorff cenedlaethol sy’n profi gwerth ar gyfer pobl Cymru. Ond golyga hynny hefyd bod her arbennig gan y Llyfrgell i ymgyrraedd at drwch poblogaeth Cymru, a sicrhau bod ei gwasanaethau ar gael i gynifer o bobl ag sydd yn bosibl, gan gynnwys y sawl sydd yn methu, neu sydd yn ei chael yn anodd, i deithio i Aberystwyth. Tra bod argaeledd defnyddiau’r Llyfrgell yn ddigidol yn gymorth mawr i’r Llyfrgell fod yn fwy hygyrch, eto mae pellter Aberystwyth o brif canolfannau poblog Cymru yn golygu bod rhaid gwneud ymdrech arbennig i’r Llyfrgell gyrraedd cymunedau Chymru.

3. Darganfyddiadau, Sylwadau ac Argymhellion

3.1. Ffurf a swyddogaeth

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r panel ni ddylid newid statws gyfansoddiadol y Llyfrgell.

Ni welodd y panel wrthdaro mewn egwyddor rhwng amcanion y Llyfrgell fel corff elusennol, a'r dyletswyddau penodol sydd ynghlwm â bod yn gorff noddedig gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd am sylwadau ynglŷn â phriodoldeb y Siarter Brenhinol sydd gan y Llyfrgell, ac os yw hyn yn briodol ar gyfer corff cenedlaethol yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, ond barn y Llyfrgell a nifer o’r sawl a holwyd oedd bod y Siarter yn arwydd o bwysigrwydd unigryw y sefydliad, a’i fod yn fandad ddigamsyniol o ran statws cenedlaethol a rhyngwladol y Llyfrgell. Perchir annibyniaeth y Llyfrgell gan y Llywodraeth, a phe bai dymuniad i newid ei statws cyfansoddiadol byddai’n ofynnol sicrhau newidiadau yn y Cyfrin Gyngor, ac ni fedrem adnabod unrhyw fantais i’r Llyfrgell neu Lywodraeth Cymru o wneud hynny.

3.2 Perthynas Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'r Llywodraeth

Argymhellwn y dylid rhoi sylw brys i ofynion ariannol y Llyfrgell, ac y dylai’r Llyfrgell amlinellu ei awgrymiadau ar gyfer anghenion cyllidebol digonol dros y pum mlynedd nesaf i’r Dirprwy Weinidog am Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, er mwyn er mwyn esbonio sut fydd yn medru cyflawni ei swyddogaethau craidd. Argymhellwn fod y Llywodraeth Cymru yn adolygu anghenion cyllido y Llyfrgell ar sail yr adroddiad yma. Nid yw panel yr adolygiad hwn yn credu fod y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Credwn bod angen dealltwriaeth o’r anghenion cyfalaf ar gyfer gwarchod yr adeilad am gyfnod tymor hir, a bod angen cefnogi hyn gyda rhaglen wedi ei gostio o gynnal a chadw tymor hirach.

Credwn bod gan y Llyfrgell y potensial i gefnogi llawer mwy o amcanion polisi Llywodraeth Cymru, o gael y gyllideb angenrheidiol i weithredu. Yn ogystal ag ailedrych ar sefydlogi’r argymhellwn y dylai Adran Noddi’r Llywodraeth hwyluso trafodaethau gydag adrannau polisi eraill o fewn y Llywodraeth i ddenu ffynonellau o arian i gefnogi rhaglenni ychwanegol.

Argymhellwn bod y Llyfrgell yn datblygu ei hymateb i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel rhan o’i hamcanion corfforaethol, a’i bod yn manteisio ar rwydwaith Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus, er mwyn miniogi ei hymateb i’r ddeddf.

Credwn dylai’r Llyfrgell ddatblygu ymhellach y berthynas gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a phartneriaid eraill, gan sefydlu memorandwm o gyd-ddealltwriaeth a fydd yn rhoi sylw i bolisïau casglu, a rhannu arbenigeddau o ran codi arian, marchnata ac ymgysylltu.

Credwn dylai’r Llyfrgell barhau i ddatblygu perthynas gyda Cymru Hanesyddol er mwyn hyrwyddo cydweithio a rhannu arbenigedd.

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ddod â’r cyfranddeiliaid ynghyd i gytuno ar ddatblygu strategaeth casgliadau digidol ar gyfer archifau yng Nghymru, ac y dylid cynnwys ystyriaeth o gyfraniad y Llyfrgell Genedlaethol, a llyfrgelloedd ac archifau lleol ac addysg uwch fel ei gilydd.

3.3 Llywodraeth a Bwrdd y Llyfrgell

Argymhellwn y dylid cyflwyno cynlluniau busnes ar gyfer pob prosiect fydd yn golygu swm sylweddol o wariant, dyweder o fwy na 5% o wariant y Llyfrgell yn flynyddol, ac unrhyw ddatblygiad sydd ddim yn gynwysedig yng nghynllun busnes y Llyfrgell ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, fel mater o raid.

Argymhellwn dylai papurau’r Bwrdd ei gwneud yn gliriach pwy sydd â’r cyfrifoldeb o weithredu prosiect penodol, a’r amserlen ar ei gyfer, gyda chlirdeb ynglyn a chraffu ac adrodd yn ôl.

Argymhellwn y dylai’r drefn anwytho i ymddiriedolwyr gael ei weithredu o fewn chwech mis i gychwyn eu cyfnod o wasanaeth.

Dylid gweithredu y drefn o adolygu perfformiad yr ymddiriedolwyr yn flynyddol gan y Llywydd gan fanteisio ar adborth cyd-aelodau'r Bwrdd, ynghyd ag aelodau’r Tîm Gweithredol.

Dylai perfformiad y Llywydd gael ei adolygu yn flynyddol, gan ddefnyddio adborth aelodau’r Bwrdd ac aelodau o’r Tîm Gweithredol.

Dylai’r Llywydd a’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd gyfarfod yn ffurfiol gyda’r Dirprwy Weinidog, ynghyd â’r Cyfarwyddwr a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Adran, o leiaf bob chwe mis er mwyn rannu gwybodaeth, a thrafod datblygiad strategol y Llyfrgell.

Argymhellwn i’r Bwrdd i asesu ei effeithiolrwydd ei hunan, a’i bwyllgorau, bob tair blynedd. Ystyriwn y dylid cynnal asesiadau sgiliau a gwerthusiadau datblygu yn rheolaidd. Awgrymwn ymhellach y dylid manteisio ar arbenigedd allanol yn y maes er mwyn cynghori’r Bwrdd ar ddatblygiad sgiliau yr Ymddiriedolwyr. Awgrymwn y dylid datblygu cynlluniau mentora gydag aelodau o fyrddau eraill cyrff hyd braich yng Nghymru.

Argymhellir y dylid cyflwyno adolygiad o effeithiolrwydd fframwaith cofrestr sicrwydd y Bwrdd ddwywaith y flwyddyn, a’i fod yn eitem sefydlog ymhob cyfarfod o’r Bwrdd.

Awgrymwn y dylai Ymddiriedolwyr gael eu penodi am gyfnod o bedair mlynedd, gyda phroses o hysbysebu gorfodol ar gyfer penodiadau newydd ar ôl hynny, Dylid cynnal archwiliad sgiliau o flaen llaw er mwyn adnabod diffyg arbenigedd.

Credwn y dylai’r Llyfrgell ystyried talu aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell, yn rhannol er mwyn ceisio denu ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol, ond hefyd i gydnabod cyfrifoldebau sydd ar aeaelodau’r Bwrdd.

3.4 Effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd

Anogwn y Llyfrgell Genedlaethol i ganolbwyntio ar ddatblygu cynllun strategol sy’n rhoi sylw i’w hyfywedd fesul pum mlynedd, gan sicrhau bod pob prosiect newydd yn codi o’i chenhadaeth graidd.

Wrth i’r Llyfrgell ystyried ei Gynllun Strategol ar gyfer y cyfnod 2021-2026, dylid ystyried strwythur staffio y Llyfrgell er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu ei blaenoriaethau strategol. Gallai hyn gynnwys ystyried dargyfeirio staff o wasanaethau traddodiadol y Llyfrgell i weithio ar yr ochr ddigidol, er enghraifft.

Dylid ail-ystyried strwythur y Tîm Gweithredol presennol, i adlewyrchu yr angen am fwy o arbenigedd a chapasiti wrth ddatblygu rhaglen ymgysylltu allanol, ac arbenigedd mewn technoleg digidol. Awgrymwn bod y tîm Gweithredol hefyd yn ystyried sut gellid gwella amrywiaeth y Tîm Gweithredol a thîm Cyflawni y Llyfrgell.

Dylai’r Llyfrgell ystyried os oes potensial i rannu adnoddau storio i’r dyfodol gyda chyrff eraill megis yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae hyn hefyd yn fater strategol i’w ystyried ar gyfer corff noddi sector yr Amgueddfeydd, Celfyddydau, Archifau, a dylai’r Llyfrgell Genedlaethol ystyried beth fyddai ei chyfraniad i hyn.

Dylai’r Llyfrgell ystyried pa systemau sydd wedi cael eu mabwysiadu gan lyfrgelloedd adneuol eraill o ran codi tâl am wasanaethau, ac ystyried adfer costau ar gyfer gwaith sydd ddim yn rhan o weithgarwch craidd y Llyfrgell.

Dylid adolygu dyfodol y caffi a'r siop yng nghyd-destun gwerth am arian i'r cyhoedd. Dylid ystyried opsiynau eraill o ran cynnig darpariaeth o'r fath yn y dyfodol, gan gynnwys asesiad busnes o allanoli'r gwasanaeth presennol yn ogystal â gwerthiant cynnyrch ar-lein drwy asiantaethau neu bartneriaethau eraill.

3.5 Ymgysylltu allanol

Argymhellwn y dylid buddsoddi mewn cynlluniau ymgysylltu allanol ac ymestyn allan cynhwysfawr, gan gynnwys ailddatblygu gwefan ac is-adeiledd digidol y Llyfrgell.

Dylai’r Llyfrgell ystyried cynnal rhaglen o ymestyn arddangosfeydd o Aberystwyth ar draws Cymru, mewn cydweithrediad gydag orielau, archifau a llyfrgelloedd lleol.

Awgrymwn y dylai cefnogaeth a chyngor gael ei gynnig i’r Llyfrgell gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu’i harlwy masnachol, mewn partneriaeth â chyrff eraill sydd yn ymwneud â threftadaeth yng Nghymru.

Dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i’r gwaith gydag ysgolion a chwilio am adnoddau ychwanegol o du Llywodraeth Cymru er mwyn cyfrannu’n llawn at greu adnoddau i gynorthwyo athrawon i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd.

Argymhellwn y dylid ystyried ymhellach swyddogaeth y Llyfrgell Genedlaethol mewn perthynas â llyfrgelloedd ac archifau lleol Cymru yn benodol, gan ystyried sut gallai’r Llyfrgell ddatblygu ei rôl cydlynol ac arbenigol yn y sector.

Argymhellwn y dylai’r Llyfrgell ddatblygu partneriaeth ffurfiol gyda chyrff addysg ôl-16 addas er mwyn datblygu ceisiadau ariannol a phrosiectau ar y cyd, tebyg i’r ceisiadau diweddar. Gallai hyn gynnwys cael ei chydnabod fel corff ymchwil annibynnol, allai arwain at greu prosiectau mewn cydweithrediad gyda chyrff addysg uwch, i’r dyfodol.

Argymhellwn bod y Llyfrgell yn ystyried ymestyn y model o bresenoldeb adnau cyfreithiol electroneg ar sail model Llyfrgell Prifysgol Caerdydd i sefydliadau eraill er mwyn roi mynediad i ddeunydd adneuol di-brint y Llyfrgell, mewn cydweithrediad gyda llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch, llyfrgelloedd lleol, a chanolfannau celfyddydol.

Er mwyn cynorthwyo i’r Llyfrgell wireddu ei botensial fel cyrchfan ymwelwyr i Ganolbarth Cymru, dylid ystyried comisiynu adroddiad mewn cydweithrediad gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol, megis Cyngor Ceredigion, i ymchwilio i’r posibiliadau o ddatblygu yr Llyfrgell fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr. Awgrymwn, fel rhan o’r astudiaeth, y dylid ystyried ardrawiad newid oriau agor y Llyfrgell, fel ei fod yn fwy hygyrch i ymwelwyr ar y penwythnos.

Nodwn nad oes adolygiad wedi’i chynnal yn y degawd diwethaf i arwyddocâd economaidd y Llyfrgell. Awgrymwn y dylid cynnal astudiaeth debyg er mwyn asesu cyfraniad economaidd presennol y Llyfrgell a photensial ei chyfraniad economaidd yn y dyfodol.

4. Perthynas Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol

Y llythyr cylch gorchwyl yw’r sail blynyddol ar gyfer y berthynas rhwng y Llyfrgell a’r Llywodraeth.

Yn unol â’r argymhelliad a gafwyd yn adroddiad Llywodraeth Cymru, ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, mae’r Llywodraeth yn anelu at sefydlu cytundebau gyda chyrff cyhoeddus hyd braich dros gyfnod o bum mlynedd. Nod hyn yw rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer cynllunio ariannol cyllidol a chynllunio busnes ar draws blynyddoedd ariannol o fewn tymor y Cynulliad. Y bwriad ar ddechrau tymor Llywodraeth newydd yw y byddai Gweinidogion yn cadarnhau cyllid ar gyfer y flwyddyn gyntaf, ond hefyd lle’n bosibl, yn awgrymu maint y gyllideb ar gyfer y pedair blynedd sy’n weddill. Wrth gynnig ariannu dangosol, byddai’n glir y gallai lefel y cyllid leihau neu gynyddu yn ddibynnol ar flaenoriaethau’r Llywodraeth, neu newidiadau i bortffoliau Gweinidogion, amrywiadau cyllidebol, neu bryderon ynglŷn ag effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y corff cyhoeddus.

Nod y dull newydd yma o weithio yw crisialu atebolrwydd a meithrin dealltwriaeth ar y cyd o allbynnau a phwrpas cyrff cyhoeddus hyd braich. Hyderir bydd llai o faich gweinyddol ar gyrff hyd braich, swyddogion Llywodraeth Cymru, a Gweinidogion wrth ddileu yr angen i gynhyrchu a chytuno llythyrau cylch gorchwyl a chynlluniau busnes blynyddol.

Cydnabyddir annibyniaeth y Llyfrgell oddi wrth y Llywodraeth oherwydd y Siarter Brenhinol a’i statws elusennol. Ar gyfer 2020-21, ynghyd â gwaith craidd y Llyfrgell , gofynnir i’r Llyfrgell ystyried 7 blaenoriaeth, a atgoffir y Llyfrgell o gyfeiriad strategol y Llywodraeth fel ei amlinellir gan ‘Ffyniant i Bawb’ a’i strategaeth ryngwladol.

  • Cadw’r ffocws ar ddenu aelodau newydd a gwella profiadau’r ymwelydd a chynyddu incwm.
  • Cynllunio ar gyfer ailddatblygu mannau cyhoeddus y Llyfrgell.
  • Cynllunio ar gyfer Oriel Gregynog, gan gyrraedd y safonau ar gyfer cyrff cenedlaethol.
  • Chwilio am gyfleoedd i gryfhau gweithgarwch ymchwil a phartneriaethau ymchwil y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys partneriaethau a sefydliadau addysg uwch ac ol- 16.
  • Sicrhau a chynnal cynaladwyedd tymor hir yr Archif Ddarlledu Genedlaethol, yn unol a amodau a osodwyd gan y Gweinidog ym mis Chwefror 2019.
  • Cynnig ymateb proactif i weithgarwch cenedlaethol y sector Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, megis datblygu cynllun strategol ar gyfer llyfrgelloedd;
  • Cefnogi Blwyddyn Darganfod ac ymgyrchoedd thematig newydd Croeso Cymru.

Ymhellach, rhoddir cyfrifoldebau’r Llyfrgell yn nghyd-destun strategol y Llywodraeth, ar sail y ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’. Mae’r llythyr cylch gorchwyl yn gosod disgwyl i’r Llyfrgell gynyddu mynediad at gasgliadau, gwasanaethau ac adnoddau’r LlGC, a pharhau’r ymdrech i gynyddu cyfraniad, cynhwysiant a chysylltiad, er mwyn rhoi cyfleoedd diwylliannol i bobl o bob cefndir. Gweithredir hyn gan y Llyfrgell dan y cynllun Cyfuno sydd yn roi cyfle i annog a chynyddu ystod ehangach o gynulleidfaoedd amrywiol mewn dwy ardal a hyn o bryd, yn Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Gofynnir i’r Llyfrgell ddatblygu a chynnal rhaglenni dysgu ffurfiol yn unol â Chwricwlwm newydd Cymru; denu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil a gweithio mwn partneriaeth gyda sefydliadau’r sector addysg uwch; parhau i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb, chwilio am gyfleoedd i weithio gyda chynulleidfaoedd cymunedol ledled Cymru, gan gynyddu’r cyfleoedd i weithio â phobl ifainc. O ran iechyd, gofynnir i’r Llyfrgell barhau a’i Cynllun Gwirfoddoli a’i ehangu, ac i ymgysylltu ag agenda Unigrwydd a bod yn Ynysig Llywodraeth Cymru.

Gofynna’r Llywodraeth i’r Llyfrgell ymroi i strategaeth Cysylltiadau Rhyngwladol newydd y Llywodraeth fel rhan o gyfraniad y sector diwylliant a threftadaeth, ac i greu ardrawiad diwylliannol. Teimlwn bod cyfle i’r Llyfrgell fod yn rhan bwysig o apêl ryngwladol Cymru, gan ddefnyddio cyfoeth ei thrysorau i hyrwyddo cysylltiadau Llywodraeth Cymru, a chyrff rhyngwladol megis y Cyngor Brydeinig, mewn amrywiol leoliadau ar draws y byd. Mae eisoes wedi datblygu perthynas gyda phrifysgolion nodedig megis Prifysgolion Harvard a Stanford yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r adolygiad hwn yn ystyried natur ac effeithlonrwydd y berthynas rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Cododd pryderon difrifol ynglŷn â sefyllfa reolaeth y Llyfrgell yn ystod y cyfnod 2015-2016, ac fe gymerodd y Llywodraeth ddiddordeb byw yn llywodraethiant a rheolaeth ariannol y Llyfrgell.

Nodwn bod Llywodraeth Cymru bellach yn awyddus i roi mwy o annibyniaeth i’r Llyfrgell, ac y byddai’r Llyfrgell yn croesawu hynny. Mae’n anochel, gan ei fod yn gyfrifol am gyllido oddeutu 93% o’i incwm blynyddol, fod y Llywodraeth yn awyddus i fod ag elfen gref o drosolwg dros weithgarwch, gan gynnwys polisi buddsoddi ac adeiladu, a’r defnydd o arian.

Er i ni glywed pryder o du’r Llyfrgell bod y Llywodraeth yn ymyrryd yn ormodol ar brydiau, credwn bod diddordeb y Llywodraeth wrth ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi, cynlluniau cyfalaf a datblygiadau newydd y Llyfrgell yn ddisgwyliadwy. Mae’r enghraifft o ddatblygiad prosiect Archif Ddarlledu Genedlaethol y BBC yn arwyddocaol.

Mae’r prosiect o’i sefydlu, gan ddigido a rhoi mynediad i ddeunydd radio a theledu unigryw y BBC yng Nghymru, sydd yn dyddio nol i 1923, yn gyffrous a dychmygus. Mae’n cynnig mynediad i’r casgliad yn y Llyfrgell yn Aberystwyth, ac mewn 3 canolfan ‘Clip’ yng nghanolfan archifau sir Gaerfyrddin, Coleg Cambria yn Wrecsam, a Phrifysgol Caerdydd, yr adran Newyddiaduriaeth. Bydd y cyhoedd yn medru cael mynediad i  Archif y BBC a deunydd archif y Llyfrgell yn y canolfannau hyn, a bydd 1500 clip digidol yn cael eu rhoi i’w gweld ar safle we y Llyfrgell yn ogystal . Ariennir y fenter gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, y Llyfrgell a’r Llywodraeth, a rhoddir yr archif gan y BBC fel rhodd i’r Llyfrgell. Gellir dadlau mai dyma’r ymdrech fwyaf sylweddol gan y Llyfrgell i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn ystod y degawd diwethaf, a gobeithir bydd y prosiect ym medru parhau tu hwnt i 2024, pan ddaw y gyllideb o’r Gronfa Treftadaeth Loteri i ben. Mae’r Llyfrgell wedi datgan bydd yn sicrhau parhad y prosiect tu hwnt i 2024, a bydd yn cael ei integreiddio i waith craidd y Llyfrgell.

Daeth i’n sylw bod y drafodaeth am ariannu’r cynllun wedi 2024 yn heriol o ystyried cyd-destun ehangach sefyllfa ariannol y Llyfrgell. Mae’n anochel bod cynllun uchelgeisiol o’r fath yn cynrychioli elfen o risg ac yn wir fe fydd angen i Fwrdd y Llyfrgell fonitro’r datblygiad yn barhaol. Credwn bod ymdrech a chonsyrn y Llywodraeth wrth geisio deall yn well oblygiadau’r bwriad o sefydlu archif ddarlledu genedlaethol wedi bod yn briodol ac yn angenrheidiol, ac wedi ychwanegu gwerth gwirioneddol i hyfywedd y prosiect.

Gwelwyd tystiolaeth bod perthynas agos yn bodoli rhwng y Llywodraeth a’r Llyfrgell, ond teimlir y gellir parhau i adeiladu ar y berthynas. Ynghyd â phob corff cyhoeddus arall, nid yw'r Llyfrgell yn derbyn sicrwydd ar gyllidebau dros y cyfnod canolig, ac yn arferol dim ond am flwyddyn ar y tro. Mae gan y Llyfrgell heriau i ymdrin â nhw sy’n ymwneud â chostau staff, pensiynau, a lefelau cyflog sydd yn ychwanegu rhywfaint at gymhlethdod modelu eu cyllid. Mae ffactorau fel y rhain yn hanesyddol ac yn anodd i’w datrys, ond heb eu trin, gallai arwain at broblemau cynyddol i’r Llyfrgell, megis anawsterau cadw staff ym maes technoleg gwybodaeth yn enwedig.

Mae’n bwysig gosod LlGC ar drywydd sydd yn gyllidol gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell yn cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd yn y blynyddoedd diweddar, yn rhannol oherwydd y pwysau ariannol sydd wedi bod ar Lywodraeth Cymru, a diffyg gallu'r Llywodraeth i wneud ymrwymiadau tymor hirach na blwyddyn. Mae trafodaeth wedi digwydd am ddyhead y Llywodraeth i gynnig cymorth am hyd tymor y Llywodraeth, os yn bosibl.

Mae tensiwn wedi codi rhwng y Llyfrgell a Llywodraeth Cymru dros y dyraniad ariannol. Mae’n amlwg i'r panel fod rhwystredigaeth yn bodoli, ac mae angen cyfathrebu cliriach er mwyn gwella cyd-ddealltwriaeth. O wrando ar y sylwadau, mae’r panel o’r farn bod angen i'r ddau barti ystyried y canlynol:

  • yr angen am gytundeb rhwng y Llyfrgell a Llywodraeth Cymru ynglŷn â beth yw’r gwaith craidd y disgwylir i’r Llyfrgell ei gyflawni er gwarchod yr asedau treftadaeth y maent yn gofalu amdanynt ar ran y genedl;
  • yr angen i brisio'r gwaith craidd a gosod gwaelodlin cynaliadwy er mwyn cynnal y gwaith hwnnw. Hynny yw, gosod llawr i'r gwaith craidd ble mae'r ddwy ochr yn cytuno i’w gynnal.
  • Dylid deall beth yw’r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i ddiogelu a datblygu’r casgliadau digidol i’r dyfodol ac adnabod y cyfleoedd i rannu defnyddiau unigryw y Llyfrgell arlein. Credwn y dylai’r Adran Noddi weithio gyda’r Llyfrgell i sicrhau yr effaith mwyaf yng Nghymru a thu hwnt.
  • Yr angen i ddatblygu rhaglen ble mae'r Llyfrgell a’i phartneriaid perthnasol yn cyflawni gofynion polisi ehangach Llywodraeth Cymru a fyddai hefyd yn galluogi'r Llyfrgell i gyflawni yn erbyn ei hamcanion llesiant. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus bydd gofyn i Lywodraeth Cymru hwyluso cyfathrebu gydag adrannau ar draws y Llywodraeth i faterion polisi ar draws portffolios.
  • Yr angen i’r Llyfrgell ddangos i Lywodraeth Cymru beth sydd yn cael ei gyflawni gyda’r grant. Credwn bod angen i’r Llywodraeth a’r Llyfrgell gytuno ar ddeilliannau a sut dylid eu mesur. Dylai’r deilliannau hyn fod yn seiliedig ar y gyllideb sylfaenol wedi’u cytuno er mwyn cyflawni ei swyddogaethau dan ei Siarter, ac hefyd ar sail yr anghenion a amlinellir yn llythyr cylch gorchwyl y Llywodraeth.
  • Yr angen am ddealltwriaeth o anghenion cyfalaf am gyfnod dim llai na deng mlynedd, a bod angen cefnogi hyn gyda rhaglen wedi ei gostio o gynnal a chadw tymor hirach. Mae’r pwysau nid yn unig ar gynaladwyedd y grant refeniw, ond ar y diffygion yn y cyllido cyfalaf o ystyried yr her sydd yn eu wynebu o ran yr ystâd, technoleg gwybodaeth ac anghenion datblygu'r Llyfrgell.

Mae’r Llyfrgell yn gorff enwebedig dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gofynnir i’r Llyfrgell ei integreiddio i gynllun gweithredol y Llyfrgell. Barn swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol oedd bod y Llyfrgell wedi bod yn araf i ddechrau i ymateb i’w cais am hunan-asesiad o’u gwaith dan ofynion y Ddeddf. Argymhellwn bod y Llyfrgell yn datblygu ei hymateb i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel rhan o’i hamcanion corfforaethol, a’i bod yn manteisio ar y Fforwm Arweiniad Cyhoeddus, a’r tim Dyfodolion yn Llywodraeth Cymru er mwyn miniogi ei hymateb i’r ddeddf. Wrth edrych i'r dyfodol ystyriwn bod cyfle i'r Llyfrgell ddefnyddio gweithgarwch yn gysylltiedig gyda phrif amcanion6 y Ddeddf er mwyn hyrwyddo gwaith y Llyfrgell.

Sef Cymru lewyrchus; Cymru gwytnach; Cymru iachach; Cymru mwy cyfartal ; Cymru yn meddu ar gymunedau cydlynol; Cymru a diwylliant egnïol, a’r Gymraeg yn ffynnu; a Chymru gyfrifol yn ryngwladol

Mae’r Llyfrgell hefyd yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, ac fel un o’r ychydig gyrff sydd yn gweithredu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg mae’n esiampl bwysig i weddill sector cyhoeddus Cymru. Cydnabyddwn swyddogaeth arbennig y Llyfrgell fel hyrwyddydd y Gymraeg o fewn y sector, ac anogwn y Llyfrgell i weithio gyda chyrff eraill sydd yn dod o dan y safonau i gynorthwyo ddatblygu arbenigedd defnydd o’r iaith ymhlith cyrff cyhoeddus Cymru.

Credwn oherwydd natur swyddogaeth y Llyfrgell Genedlaethol, a’r angen i’r Llywydd allu cyfathrebu’n rhugl gyda chynulleidfaoedd yn Gymraeg a Saesneg, o’r cychwyn cyntaf.

Gallai penodi person nad sy’n medru cyfathrebu gyda chynulleidfaoedd y Llyfrgell yn y ddwy iaith beryglu enw da y Llyfrgell a Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn sgil arbennig o bwysig ar gyfer y swydd hon, ac argymhellwn felly dylai bod rheidrwydd ar yr ymgeisydd i fedru cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn.

Cyfeiriwyd at yr anhafaledd rhwng yr Amgueddfa Genedlaethol o’i gymharu â’r Llyfrgell, Derbyniwn fod yr Amgueddfa a’i saith safle wahanol a’i anghenion masnachol arbennig yn wahanol iawn o ran anian i’r Llyfrgell, ond mae’r cyferbyniad gyda’r Llyfrgell yn drawiadol wrth i’r un cyfrifoldebau syrthio ar ysgwyddau un person rhan-amser, ynghyd â’r Prif Weithredwr. Mae gan yr Amgueddfa 7.3 o staff yn gyfrifol am godi arian, aelodaeth, cefnogaeth corfforaethol; paratoi ceisiadau ar gyfer ymddiriedolaethau sefydliadau; cymynroddion a roddion unigol.

Daeth yn amlwg o‘n cyfweliadau bod cyfle i’r Llyfrgell fanteisio ar arbenigedd ei chyd- aelodau o rwydwaith Cymru Hanesyddol. Credwn yn benodol y dylai’r Llyfrgell ddatblygu ymhellach y berthynas gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gan sefydlu memorandwm o gyd-ddealltwriaeth a fydd yn cynnwys sylw i bolisïau casglu, datblygu gweledigaeth o ran arddangos celf gyfoes, a rhannu arbenigeddau o ran codi arian, marchnata ac ymgysylltu ac ymchwil.

Nodwyd pryder y Llyfrgell nad yw ei llais yn cael ei glywed yn ddigonol wrth ystyried chyfleoedd i ddenu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn benodol. Credwn felly y dylai’r Adran Diwylliant a Chwaraeon drafod gyda’r Llyfrgell ym mha fodd gellid gweithio gydag adrannau eraill megis adrannau Addysg a Sgiliau, Iechyd a Thai a Llywodraeth Leol er mwyn datblygu gwasanaethau’r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyd-destun polisïau ehangach y Llywodraeth. Mae gan yr Adran Noddi rôl allweddol ar gyfer sicrhau bod y cyrff hynny dan eu gofal megis CADW, yr Amgueddfa a Croeso Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd, ac hefyd yn gweithio gydag adrannau eraill er mwyn hyrwyddo gwasanaethau’r Llyfrgell.

Cydnabyddir bod y casgliad celf cyhoeddus cenedlaethol yn cael ei ddal yn bennaf gan Amgueddfa Cenedlaethol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol. Argymhellwn dylai Llywodraeth Cymru gydlynu datblygiad strategaeth, er mwyn roi cyfeiriad clir a’r cyllid angenrhediol ar gyfer cynnal ac ychwanegu at gasgliad celf Cymru, a’r gofodau storio angenrheidiol ar gyfer y casgliad cenedlaethol o gelf a phaentiadau ar gyfer yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol.

5. Llywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Rôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae trefniadau llywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adlewyrchu ei statws fel elusen, yn ogystal â’r canllawiau a osodir ar gyrff sydd yn derbyn arian cyhoeddus. Yn y ddogfen Fframwaith Llywodraethiant Corfforaethol (Chwefror 2017 a ddiweddarwyd yn Chwefror ac Awst 2018) gosodir cyfrifoldeb llywodraethiant y corff ar Fwrdd y Llyfrgell.

Nodir fod yr Ymddiriedolwyr sydd yn aelodau o’r Bwrdd, yn ôl ei Siarter, yn ‘gyfrifol am lywodraethiant, strategaeth, rheolaeth ariannol a rheoli asedau ar gyfer y Llyfrgell, ac mae’n cwrdd yn rheolaidd i drafod ei fusnes, naill ai fel Bwrdd llawn neu mewn pwyllgorau’.

Yn y ddogfen rhoddir sylw arbennig i swyddogaethau’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac ochr yn ochr â’r Fframwaith mae’r Rheoliadau (Chwefror 2017 a ddiwygiwyd yn Chwefror 2018) sydd yn gosod safonau llywodraethiant i’w dilyn yng ngwaith dyddiol y Bwrdd a’i bwyllgorau.

Yn ystod yr adolygiad gwelwyd tystiolaeth fod y Llyfrgell wedi rhoi sylw i ddatblygu’r Fframwaith Llywodraethiant, ac roedd cadarnhad fod dealltwriaeth glir o’r gofynion a’r canllawiau. Y drefn bresennol yw fod y Bwrdd yn cyfarfod pum gwaith y flwyddyn ac yn gofyn i’r pwyllgorau, yn unol â’u cylchoedd gorchwyl, gynull rhwng cyfarfodydd y Bwrdd.

Gwelir hyn fel ffordd effeithiol o roi amser penodol i faterion cyn adrodd nôl i’r Bwrdd, a’r Bwrdd sydd â’r gair olaf os nad yw awdurdod wedi ei ddirprwyo i’r pwyllgor.

Ar hyn o bryd mae tri pwyllgor sefydlog mewn bodolaeth: Archwilio a Risg; Cynllunio Ariannol; a Llywodraethiant a Pherfformiad. Crëwyd y ddau bwyllgor olaf yn sgil adolygiadau gan Price Waterhouse Coopers ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr (Mawrth 2015), a Swyddfa Archwilio Cymru (Chwefror 2016). Mae sefydlu’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn ofynnol gan statudau Siarter Brenhinol y Llyfrgell. Mae dau weithgor arall sydd yn cyfarfod yn achlysurol ac sydd â chynrychiolaeth Ymddiriedolwyr; un sydd yn delio â materion eiddo ac adeiladu, a’r llall yn trafod cynyddu incwm.

    1. Mae’r rheoliadau yn nodi fod yn rhaid i’r Pwyllgor Archwilio a Risg gyfarfod o leiaf

bedair gwaith y flwyddyn, ac i’r ddau bwyllgor arall gyfarfod o leiaf tair gwaith. Gwelwyd fod rhai cyfarfodydd wedi eu gohirio yn ystod 2018/19 oherwydd diffyg argaeledd aelodau, a

hyn er fod dyddiadau’r pwyllgorau wedi eu trefnu rhai misoedd ynghynt. Yn ogystal â hyn, mae staff wedi bod yn cael trafferthion wrth geisio cael gwybodaeth neu gadarnhad gan aelodau, sydd wedi creu rhwystredigaeth o ran trefniadau. Roedd bylchau o ran niferoedd yr ymddiriedolwyr yn ystod y cyfnod hwn. Serch hynny, mae llawer o gyrff cyhoeddus eraill yn gweithredu â llai o aelodau, ac nid yw’r gwaith pwyllgor yn ymddangos yn hynod o drwm.

Awgrymwn y dylid ystyried hwyluso cyfarfodydd trwy gyfrwng fideo-gynhadledd, er mwyn galluogi aelodau i fod ar gael heb orfod ymgymryd a’r daith i Aberystwyth bob tro ar gyfer cyfarfodydd. Deallwn bod hyn yn cael ei ganiatau gan y Siartr Frenhinol Atodol a’r Statudau diwygiedig (2013)10 ac awgrymwn y dylid manteisio ar y dechnoleg i sicrhau presenoldeb aelodau.

5.6.Yn dilyn trafodaethau,mae’r Llyfrgell wedi penderfynu peidio newid y drefn yma o bwyllgora tan ar ôl yr adolygiad hwn. Un o’r syniadau dan sylw yw dileu y Pwyllgor Llywodraethiant a Pherfformiad. Sefydlwyd y pwyllgor mewn ymateb i adolygiadau o fethiannau yn nhrefniadau’r corff, ac mae’r materion wedi bod yn cael sylw gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi hynny. Oherwydd fod y Llyfrgell Genedlaethol bellach wedi cyflawni’r mwyafrif o’r camau yn deillio o’r argymhellion a wnaethpwyd, teimla swyddogion bellach nad oes digon o waith i gyfiawnhau cadw’r pwyllgor hwn, a nad oes diben i’w gadw.

Argymhellwn y dylai Bwrdd y Llyfrgell ystyried yr elfennau canlynol cyn diddymu y Pwyllgor Llywodraethiant a Pherfformiad.

  • Dylid rhoi ystyriaeth gyflawn ar sut i adleoli gwaith ‘perfformiad’ y pwyllgor. Nodir, er enghraifft, fod gan y pwyllgor rôl yn adolygu perfformiad y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mater i’r Bwrdd cyfan yn hytrach na phwyllgor yw perfformiad y Bwrdd a’r sefydliad a dylid ystyried sut fydd hyn yn cael ei gynllunio a’i gwblhau heb fewnbwn y pwyllgor.
  • Dylid rhoi ystyriaeth i sut y bydd adolygiadau llywodraethiant yn cael eu cyflawni yn y dyfodol. Mae gan y Pwyllgor Archwilio a Risg rôl bwysig yn cefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu yn flynyddol, a thybiwn y dylid ystyried a oes cyfrifoldeb ychwanegol penodol arno yn codi o ddileu’r Pwyllgor.
  • Os oes unrhyw faterion a godwyd gan y pwyllgor sydd heb eu cyflawni, mae angen delio â’r materion hyn er mwyn sicrhau nad yw’r argymhellion sydd yn dal angen sylw, yn cael eu anghofio.
  • Mae angen ystyried oblygiadau’r newid o ran amserlen y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Bydd yn rhaid asesu goblygiadau’r newid yn ogystal â goblygiadau amserlenni yn deillio o’r adroddiad yma.

Mae’r Pwyllgor Cynllunio Ariannol yn rhoi cyfle i’r Ymddiriedolwyr roi sylw penodol i faterion cyfredol, ac hefyd yn y tymor canolig. Croesawn benderfyniad y pwyllgor i benodi aelodau allanol oherwydd eu harbenigedd.

Nodwn yn benodol nad yw papurau’r Bwrdd bob amser yn glir ynglŷn a chanlyniadau adroddiadau a gyflwynir gan swyddogion, nac ychwaith yn gosod adroddiadau swyddogion fel eitemau ar wahân i adroddiad y Llyfrgellydd/Prif Weithredwr. Awgrymwn y dylid parhau i dderbyn adroddiad gan y prif swyddog cyllid ymhob cyfarfod o’r Bwrdd, ac y dylid cynnwys adroddiad ar oblygiadau strategol, gan gynnwys ardrawiad cyllidol pob penderfyniad a wneir, a’r cost cyfle (opportunity cost) yn sgil unryw benderfyniad. Nid oes eglurdeb bob amser os oes angen penderfyniad gan y Bwrdd, neu ai testun trafodaeth, neu eitem i’w nodi, yw’r eitem dan sylw. Awgrymwn felly y dylid nodi yn agenda y Bwrdd beth yw natur yr eitem, phwy yn benodol sydd â’r cyfrifoldeb am weithredu ar yr eitem dan sylw, effaith ariannol hir-dymor, a sut mae yn cyfrannu at ddatblygu targedau strategol LlGC.

Er bod trefn yn ei le i hunanasesu a thrafod perfformiad yr Ymddiriedolwyr yn unigol, a sgwrs gyda’r Llywydd i ddilyn, ni gymerodd pawb ran yn y broses llynedd. Mae hefyd yn ymddangos fod y broses wedi bod yn gymharol anffurfiol. Mae hyn yn golygu colli cyfle nid yn unig o ran datblygiad yr unigolyn, ond hefyd o ran rhoi cyfle amserol i drafod materion yn ymwneud ag effeithiolrwydd y Bwrdd a’r Pwyllgorau, a gallai fod yn gyfle i ymateb i unrhyw bryderon neu argymhellion.

Deallwn fod cynllun hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu ar gyfer yr Ymddiriedolwyr eisoes, ond mae yma gyfle i ail-edrych ar y rhaglen o’r newydd. Argymhellwn y dylid creu trefn anwytho i ymddiriedolwyr, a’i weithredu o fewn chwech mis i gychwyn eu cyfnod o wasanaeth.Mae angen cefnogaeth i Ymddiriedolwyr newydd, ac yn enwedig i aelodau megis y Llywydd, Is-Lywydd a’r Trysorydd yn ystod y flwyddyn gyntaf, Awgrymwn y dylid sicrhau adolygiad blynyddol o anghenion hyfforddi a datblygu fel rhan o adolygiad perfformiad blynyddol gan y Llywydd.

Deallwn fod adolygiad perfformiad wedi digwydd rhwng y Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a’r Llywydd. Mewn cyrff eraill mae camau pellach yn aml mewn lle er mwyn datblygu’r broses asesu, ac yn cyplysu hyn gydag asesiad o effeithiolrwydd y Bwrdd a’r pwyllgorau. Fe all hyn gynnwys aelodau’r Tîm Gweithredol er mwyn gwneud asesiad 360˚. Argymhellwn y dylid gosod trefn mwy ffurfiol yn ei lle ar gyfer gwerthusiad o waith y Llywydd gan ddefnyddio adborth aelodau’r Bwrdd ac aelodau Tîm Gweithredol. Argymhellwn y dylai’r Llywydd hefyd gyfarfod yn ffurfiol gyda’r Gweinidog o leiaf bob chwech mis (yng nghwmni’r Cyfarwyddwr Diwylliant neu ei ddirprwy, a’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd) er mwyn trafod datblygiad strategol y Llyfrgell.

Fel a nodir uchod, mae rhaglen waith y Pwyllgor Llywodraethiant a Pherfformiad yn cynnwys adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr, er nad yw’r broses yma wedi digwydd hyd yn hyn. Mae nifer o gyrff eraill yn asesu effeithiolrwydd eu cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn cyplysu hyn gyda pherfformiad yr unigolion sydd yn rhoi mewnbwn i’r gwaith. Mae hefyd yn arfer da i wahodd adolygiad allanol pob rhyw dair blynedd. Argymhellwn y dylai’r Bwrdd Ymddiriedolwyr osod fframwaith asesu cyflawn gan roi ystyriaeth i’r canlynol:

Image

 

Mewn cyfarfod diweddar o’r Ymddiriedolwyr ym mis Tachwedd 2019, fe gytunwyd y dylai’r Bwrdd roi mwy o ffocws ar faterion strategol, a cheisio peidio treulio gormod o amser yn trafod glo mân gwaith y Llyfrgell o ddydd i ddydd. Croesawn y bwriad yma a hyderwn y bydd hyn yn cael effaith bositif ar drefniadau’r Bwrdd a’r pwyllgorau, ac y bydd sylw penodol yn cael ei roi i bwysigrwydd blaenoriaethu amser trafod. Mae llawer o gyrff cyhoeddus yn defnyddio’r dull o gynnal ‘diwrnodau i ffwrdd’ er mwyn rhoi amser hirach i drafod datblygiadau pwysig megis strategaeth. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cynnal sesiynau tebyg i hyn yn achlysurol, ond dylid ystyried neilltuo mwy o amser ‘datblygu’ penodol yn y dyfodol. Awgrymwn y dylid datblygu cynlluniau mentora gydag aelodau o fyrddau eraill cyrff hyd braich yng Nghymru. Argymhellwn bod archwiliad sgiliau blynyddol yn digwydd, a bod asesydd allanol yn cael ei g/chyflogi er mwyn cynghori’r Bwrdd ar ei anghenion sgiliau.

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad strategol gan y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd ym mis Tachwedd 2019 gan roi darlun o’r cynlluniau neu’r prosiectau sylweddol a ystyrid yn bwysig i ddatblygiad y Llyfrgell. Y cam nesaf ddylai fod i ddarparu cynlluniau busnes trwyadl ar gyfer y datblygiadau yma er mwyn gallu blaenoriaethu sut i fuddsoddi’n effeithiol i’r dyfodol. Credwn y dylid osgoi sefyllfa debyg i’r penderfyniad i ddatblygu Archif y BBC, lle ymddengys na chafodd y Bwrdd ddarlun clir o oblygiadau ariannol y cynllun ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir. Fe wnaethpwyd sawl sylw yn ystod yr adolygiad fod y ddogfennaeth ar gyfer y prosiect a baratowyd ar y pryd yn rhy optimistaidd ac arwynebol ac nad oedd y risgiau ariannol wedi cael eu cyflwyno’n effeithiol ac yn llwyr i aelodau’r Bwrdd.

Argymhellwn y dylid cyflwyno cynlluniau busnes ar gyfer pob prosiect fydd yn golygu swm sylweddol o wariant, dyweder o fwy na 5% o wariant y Llyfrgell yn flynyddol, neu unrhyw ddatblygiad sydd ddim yn gynwysedig yng nghynllun busnes y Llyfrgell ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, fel mater o raid.

Dylai Ymddiriedolwyr gwestiynu’n gadarnhaol ac adeiladol, yn ogystal ag asesu os yw’r hyn sydd o’u blaen yn ddigonol o safbwynt sicrwydd. Dros gyfnod mae’n bosib casglu cofrestr sicrwydd er mwyn asesu a oes tystiolaeth fod y corff yn effeithiol.

Fe adroddodd yr archwilwyr mewnol yn gynharach eleni nad oedd eglurder penodol o ran pwy oedd yn gyfrifol am reoli rhai risgiau, ac y gallai hynny amharu ar gyflawni amcanion strategol y Llyfrgell. Deallwn bellach fod hyn wedi derbyn sylw, er hyn rydym am bwysleisio pwysigrwydd rheoli risgiau nid yn unig i gynnig sicrwydd ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o welliannau neu gyfleon posib yn y dyfodol.

O ran cyflawni gofynion y Siarter ac hefyd Llywodraeth Cymru, mae gan aelodau'r Bwrdd ran bwysig i’w chwarae. Mae'r aelodau i’w weld yn medru cydbwyso’r ddwy agwedd hon, ond efallai er mwyn miniogi ystyriaethau ar lefel y Bwrdd dylent ystyried penodi mwy o’r aelodau fel pencampwyr ar gyfer gwahanol elfennau sydd rhaid eu hystyried e.e. codi arian, marchnata a datblygiad digidol. Rôl pencampwr ar y lefel yma yw bod yn gydwybod i'r maes yn yr holl drafodaethau ar lefel y Bwrdd a rydym yn ymwybodol bod sawl aelod eisoes yn cyflawni’r swyddogaeth yma. Anogwn Ymddiriedolwyr i ddatblygu’r wedd yma i’w gwaith.

Mae’r Siarter Brenhinol yn caniatáu i’r Bwrdd gynnwys rhwng 10 a 15 o aelodau. Ar hyn o bryd mae 15 aelod, a phenodwyd wyth o aelodau Bwrdd y Llyfrgell gan Lywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, a 7 gan y Llyfrgell Genedlaethol, mewn ymgynghoriad â’r Llywodraeth. Dilynir trefn penodi’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ymhob achlysur. Penodir y swyddi hyn am gyfnod o bedair blynedd, yn ddi-dâl. Penodir y Llywydd a’r Is-Lywydd gan y Llywodraeth, ond mewn ymgynghoriad â’r Ymddiriedolwyr. Penodir y Trysorydd gan y Llyfrgell mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Nid oes gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng swyddogaeth Ymddiriedolwr wedi’i benodi gan y Llywodraeth ac un wedi ei benodi gan y Llyfrgell. Credwn y dylai’r ddau sefydliad gydweithio gyda’i gilydd i wneud y broses apwyntio mor effeithiol â phosibl.

Mae penodiad tair aelod newydd o’r Bwrdd ym mis Ionawr, 2020, i’w groesawu ac wedi gwella cydbwysedd yr aelodau o ran rhywedd, fel bod yr aelodaeth yn 9 dyn a 6 menyw. Dylai’r sylw i amrywiaeth gynnwys sylw i fwy na rhywedd yn unig, a mae’r Llyfrgell a’r Ymddiriedolwyr fel ei gilydd yn cydnabod bod angen i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau amrediad o leoliadau daearyddol, a chynrychiolaeth o gymunedau difreintiedig. Awgrymwn y dylai Ymddiriedolwyr gael eu penodi am gyfnod o bedair mlynedd yn unig, gyda phroses o hysbysebu cyhoeddus ar ôl hynny, er mwyn sicrhau proses agored a chyson. Os yw Ymddiredolwr yn dymuno gwasanaethu am gyfnod ychwanegol, dylai ymgeisio ar gyfer y rôl mewn cystadleuaeth agored.

Hyd yma mae’r corff, fel llawer o gyrff cyhoeddus eraill, wedi ymwrthod â’r syniad o dalu ei hymddiriedolwyr am eu gwasanaeth. Mae’r Llyfrgell yn talu cydnabyddiaeth o ran costau wrth gyflawni eu dyletswyddau a mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys ystyriaeth o bwnc talu Ymddiriedolwyr. Dywedwyd wrthym bod nad yw talu aelodau o reidrwydd yn datrys y broblem o ddenu ymgeiswyr mwy amrywiol, ond ‘gallai fod o help’. Mae tueddiad mewn cyrff eraill i ail-edrych ar eu agwedd at dalu aelodau o fyrddau yn enwedig os ydyw hyn yn golygu fod cynnydd yn y dewis o geisiadau cryf sydd yn cefnogi amrywiaeth. Mae’n bryder i’r Llyfrgell a’r Llywodraeth fel ei gilydd bod cyn lleied o amrywiaeth yn perthyn i’r Bwrdd presennol, er gwaethaf ymdrechion i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol.

Mae rhyddid i’r Llyfrgell dalu Ymddiriedolwyr dan y Siarter Frenhinol, cyn belled ei fod wedi’i awdurdodi gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr.           Derbyniwn nad yw hyn yn fater syml a bod y farn ynglŷn â thalu aelodau o fyrddau yn rhanedig ond credwn byddai cynnig taliad yn fodd i ddenu ymgeiswyr na fyddai fel arall yn ystyried cynnig ar gyfer aelodaeth o’r Bwrdd.

6. Y Llyfrgell Genedlaethol: effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd

Mae’r Llyfrgell wedi dioddef cyfnod anodd yn ariannol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gydag incwm yn gostwng yn gyson rhwng 2007-2008 a 2018-2019, sef gostyngiad real o 40%. Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd cwymp sylweddol yn nifer staff y Llyfrgell o 23%:

  2007-2008 2018-2019
Grant mewn Cymorth £9.969m £9.585m
Nifer staff 290 224

Bu’r Llyfrgell hefyd trwy gyfnod anodd iawn yn 2014-2015, gydag achos tribiwnlys cyflogaeth, a ganfu bod dau aelod o staff wedi’u diswyddo yn annheg, tân difrifol yn yr adeilad, ac ymddiswyddiad y Llyfrgellydd ym mis Awst 2015. Ers hynny, mae’r Llyfrgell wedi’i sefydlogi o ran ei rheolaeth, ac wedi ymateb yn gadarnhaol i argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (Rhagfyr 2016) a phryder y Llywodraeth ynglŷn â’i rheolaeth. Bellach, mae wedi gweithredu y mwyafrif llethol o argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â llywodraethiant a rheolaeth gyllidol.

Serch hynny, mae byrdwn rhybudd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (2016) yn dal yn wir:

Yn benodol mae’r Llyfrgell yn cydnabod na fydd defnyddio cronfeydd wrth gefn i fantoli’r gyllideb yn gynaliadwy ac y bydd angen iddi gynhyrchu incwm ychwanegol neu barhau i gyflawni rhagor o arbedion.

Cydnabyddir bod y Llyfrgell yn cael ei gyfyngu gan agweddau ar drefniadau ariannol Llywodraeth Cymru, a chanlyniad y broses raddol o leihau adnoddau ariannol dros y deng mlynedd ddiwethaf yw i’r Llyfrgell ganolbwyntio fwyfwy ar ddarparu ei swyddogaeth graidd o gasglu a churadu deunydd, tra bo’r pwyslais ar gyrraedd pobl Cymru, a’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer marchnata ac ymgysylltu, wedi lleihau.

Mae gan y panel gryn gydymdeimlad gyda sefyllfa’r Llyfrgell Genedlaethol o ran ei gallu i fod yn strategol o ran ei heffeithiolrwydd. Mae’r mesurau effeithiolrwydd sydd wedi cael eu cyflawni dros y degawd diwethaf wedi digwydd mewn ymateb i doriadau blynyddol sylweddol mewn arian craidd,er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn galw neu ddyletswyddau, yn gysylltiedig a thwf adnoddau digidol.

Roedd thema gyson yn cael ei hail-adrodd yn ystod cyfweliadau’r panel gyda staff y Llyfrgell, sef bod y sefydliad wedi cyrraedd pwynt o ran ei gyllid craidd nad oes lle bellach i wneud arbedion sylweddol heb wneud penderfyniadau strategol o ran blaenoriaethu gwasanaethau. Yn wir barn llawer oedd eu bod o dan bwysau yn gynyddol i gyrraedd eu targedau gwaith a bod yna ddim sgôp i gynnal unrhyw ddatblygiadau pellach.

Cafwyd cadarnhad yn ystod ein hadolygiad fod y Llyfrgell wedi cynnal ymarferiad ychwanegol ddwy flynedd yn ôl er mwyn pwyso a mesur a oedd cyllidebau refeniw craidd ei adrannau yn ddigonol, a hefyd er mwyn rhagweld ble y byddai pwysau ariannol yn y dyfodol. Adroddwyd bod lle i bryderu, yn absenoldeb cynnydd cyffelyb mewn grant craidd y Llywodraeth, y byddai’r Llyfrgell yn ddibynnol ar ddefnyddio arian wrth-gefn i ariannu canran o’r gyllideb. Yn wir arweiniodd dyfarniad cyflog o 2017 at ddiffyg cyllidebol o £177,000, a mae hyn bellach wedi cyrraedd £777,000 o 2020/21. Yn ogystal â hyn fe adroddwyd y posibilrwydd y gallai costau pensiynau uwch gynyddu’r diffyg i £1.167 miliwn, a mae hyn yn debygol o ddiddymu’r gronfa arian wrth-gefn gyhoeddus yn gyfan gwbl.

Hyd yma mae Bwrdd y Llyfrgell wedi awdurdodi neilltuo rhan o’r arian wrth-gefn at ddibenion ariannu’r diffyg yn y gyllideb, gan gynnwys y gronfa gyhoeddus yn ogystal â chyfraniad o’r gronfa arian preifat. Penderfyniad arall a wnaeth y Bwrdd yn ystod 2019 oedd y byddai’n clustnodi £250,000 yn flynyddol i ariannu unrhyw gost refeniw ychwanegol i gynnal gwasanaeth Archif Ddarlledu Genedlaethol wedi 2023/24. Mae costau datblygu’r cynllun yma yn cael ei ariannu yn rhannol gan y BBC a grant Cronfa Treftadaeth y Loteri.

Ar hyn o bryd mae cronfa arian preifat wrth-gefn LlGC (dros £11 miliwn) yn sylweddol uwch na llyfrgelloedd adneuol eraill, gan gynnwys Llyfrgell yr Alban, ac yn ei sgil mae’r incwm o fuddsoddiadau yn deillio o’r gronfa yn hwb sylweddol i’r corff. Er hyn, fel y nodwyd eisoes, mae galwadau sylweddol yn debygol o ddod dros y tymor canolig a all olygu lleihad yng nghyfanswm y gronfa pe na byddai cymynroddion pellach. Yn ei adroddiad cyllid tymor canolig mae’r Llyfrgell yn rhagweld y gallai’r gostyngiad hyn fod rhwng £3.5 miliwn a £7.2 miliwn erbyn 2024. Mae’r Bwrdd wedi delio gyda heriau ariannol yn y gorffennol trwy dynnu arian allan o’r gronfa ariannol wrth gefn, ond ystyrir na fydd y ffynhonnell yma ar gael i’r un graddau o fewn 4-5 mlynedd.Dylai aelodau ‘r Bwrdd ystyried eu polisi cronfeydd yn rheolaidd.

Yn ogystal â’r pwysau ariannol refeniw cyfredol mae’r Llyfrgell yn rhagweld fod angen hyd at £26 miliwn o arian cyfalaf er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol, ychwanegu at ofod storio, datblygu‘r cwrt blaen, a gwella sustemau’r adeilad er mwyn lleihau cynnyrch carbon. Yn ogystal â hyn mae angen buddsoddi ar systemau isadeiledd digidol LlGC. Mae’r Llyfrgell wedi derbyn traean o’r swm angenrheidiol dros y phedair mlynedd diwethaf.

Noder: trosglwyddwyd £500,000 o ffigwr £605,000 TG yn 2017/18 o gyfalaf adeilad.

Flwyddyn Cyfalaf adeilad TG Cyfanswm
2017/18 1,800,000 605,000 2,405,000
2018/19 3,000,000 105,000 3,105,000
2019/20 1,000,000 - 1,000,000
2020/21 2,300,000 400,000 2,700,000

Un o bryderon LlGC, yn debyg i lawer o gyrff cyffelyb, yw ei bod yn anodd cynllunio yn yr hir dymor oherwydd fod cyllid yn cael ei ddyrannu yn flynyddol.Deallwn fod sawl rhwystr hanesyddol o ran y Llywodraeth i gynllunio am hirach na blwyddyn ariannol a croesawn y newidiadau sydd wedi’u awgrymu ar gyfer trefniant cylch gorchwyl gan y Llywodraeth ac sydd yn roi cyllideb blynyddol cadarn a chyllidebau mynegol ar gyfer y pedair mlynedd olynol. Rydym eisoes wedi sôn fod gan LlGC nifer o gynlluniau hefyd a all olygu newid agweddau o’i waith ac y bydd datblygiadau pellach yn yr hyn y mae yn gynnig. Mae yn gyfnod felly lle bydd rhaid ail-edrych ar holl strategaeth a chyllido’r Llyfrgell ac yn anochel ail-edrych ar ei flaenoriaethau. Dylid hefyd dderbyn pob cyfle i gynnal trafodaethau gyda’r Llywodraeth er mwyn egluro arwyddocâd unrhyw fuddsoddiad ychwanegol.

Cymharwyd perfformiad y Llyfrgell gyda llyfrgelloedd adneuol eraill, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a’r Llyfrgell Brydeinig. Mae’n anodd meincnodi rhwng y gwahanol lyfrgelloedd oherwydd y gwahanol lefelau o gyllido, gyda Llyfrgell yr Alban yn derbyn cyllideb o £15.280 miliwn (2017-18) y flwyddyn a’r Llyfrgell Brydeinig yn derbyn £97 miliwn (2020-21). Yn groes i Lyfrgell yr Alban a’r Llyfrgell Brydeinig, lle mae staff yn derbyn pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gyda chyfraniad o 20% o’r Llyfrgelloedd, mae LlGC yn gyfrifol am y cyfan o bensiwn ei staff, ac amcangyfrifir bydd cost ychwanegol cynllun pensiwn y Llyfrgell yn cynyddu i £390,000 y flwyddyn ar gyfer 2020/21.

Mae llawer o ddata’r ddau gorff yn seiliedig ar fesur allbynnau tebyg i’r nifer o ddogfennau wedi’u digido, yw mesur nifer y dogfennau yn hytrach na chanlyniad effaith y gwaith. Argymhellwn yn gryf y dylai’r `r Llyfrgelloedd cenedlaethol ddatblygu metrigau cyffredin ar gyfer meincnodi ystyriol.

Ystyriodd y panel agweddau mewnol ac allanol o effeithlonrwydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Mewnol

Oherwydd cyfres o doriadau cyllidol mae’r Llyfrgell wedi cwtogi’n sylweddol ar nifer eu staff. Yn gyfochrog â hyn, ers 2014, mae Tîm Gweithredol y Llyfrgell wedi crebachu o chwech i dri. Nid yw hyn ar ei ben ei hun yn broblem enfawr i gorff os ydi’r tîm ehangach sy’n cefnogi’r datblygiad strategol a llywodraethiant yn gweithio’n effeithiol. Ond fe wnaed y sylw fwy nag unwaith yn ystod yr arolwg fod pryder ynglŷn â chapasiti, ac arbenigedd y Tîm Gweithredol (ynghyd a’r grŵp cefnogol o reolwyr) i roi’r llawn sylw sydd ei angen i holl amrediad gwaith y Llyfrgell gan gynnwys hyrwyddo, datblygiadau digidol, gwaith marchnata a chodi arian. O gofio fod gan y Llyfrgell weledigaeth o geisio ymestyn ymhellach o ran ei chyrhaeddiad, mae hyn yn rhwystr os nad oes adnoddau digonol yn eu lle ar gyfer ehangu darpariaeth digidol. Credwn ei fod felly yn amserol i ail-ystyried y strwythur rheolaeth presennol, i ystyried yr angen am fwy o arbenigedd ynglŷn ag ymgysylltu, a datblygiadau digidol, fel mater o frys. Mae’n bryder nid yn unig fod y tîm Gweithredol yn fach ond hefyd nad yw’n cynnwys unigolion â phrofiad diweddar o weithio tu allan i’r Llyfrgell. Awgrymwn dylid hysbysebu swyddi newydd ar y Tîm Rheoli yn allanol. Awgrymwn hefyd dylai’r tîm Gweithredol ystyried sut gellid gwella amrywiaeth y Tîm Gweithredol a thîm Cyflawni y Llyfrgell.

Mae’r Llyfrgell wedi’i gorfodi, oherwydd pwysau ariannol dros y deng mlynedd ddiwethaf, i wella’i heffeithlonrwydd mewnol, ond fel a nodwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ym 2016, nid oedd y cynlluniau ariannol wedi’u hintegreiddio’n ddigonol â’r Cynllun Strategol bryd hynny, a mae’r pwysau ariannol wedi cynyddu ers hynny. Barn llawer yn y gweithdai a’r cyfweliadau oedd na ellid ymgymryd â llawer mwy yn nhermau effeithiolrwydd mewnol pellach. Mae hyn yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd y Llyfrgell yn parhau gyda'r gweithgaredd presennol. Serch hynny, teimla’r panel nad yw’r Llyfrgell wedi ystyried adolygu ei gweithgarwch yn ddigonol er mwyn ystyried os yw natur y gwasanaethau presennol yn addas ac yn briodol. Teimlwyd na fu dymuniad yn y gorffennol i ystyried swyddogaeth rhai o wasanaethau’r Llyfrgell, a bod elfennau o waith y Llyfrgell yn ymddangos yn gwbl ddi-gyfnewid. Er enghraifft, cedwir dwy ystafell ddarllen ar agor ar gyfer llawysgrifau a deunydd printiedig, er bod y niferoedd o ddefnyddwyr wedi lleihau dros gyfnod o saith mlynedd o 54%, o 31,189 ym 2012-13 i 14,240 ym 2018-19.

Ystadegau Defnyddwyr Ystafelloedd Darllen 2012-13 ymlaen

Image

 

Image

 

Image

 

Mae’r ystadegau ar gyfer mynediad trwy gyfryngau digidol i wasanaethau’r Llyfrgell yn cyferbynnu’n drawiadol â lefel defnydd yr ystafelloedd darllen. Cynyddodd y nifer o bobl a gysylltodd a safleoedd digidol y Llyfrgell o 1.26m ym 2015-16, i 1.65m ym 2018-19, sef cynnydd o 31% dros y cyfnod. Mae gan yr ystafelloedd darllen swyddogaeth gwbl allweddol, ond mae oblygiadau yr anghydbwysedd rhwng defnydd adnodd sydd yn lleihau, a’r elfen o wasanaeth digidol, sydd bellach y modd mwyaf hygyrch o ymgysylltu â’r Llyfrgell, yn amlwg. Mae’n ymddangos i’r panel fod o leiaf gyfle yma i ystyried dargyfeirio staff o wasanaethau’r ystafelloedd, i weithio ar y ochr ddigidol.

Mae’r Llyfrgell yn ceisio cyflawni popeth yr oedd yn ei wneud ar ddechrau'r cyfnod o lymder ariannol, ac yn ymateb i gofynion ychwanegol sydd yn codi trwy’r llythyr grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn galluogi i'r Llyfrgell i wir ystyried ei effeithiolrwydd, mae angen iddi cael gwell dealltwriaeth o’r cyfeiriad strategol a’r adnoddau sydd ar gael. Am fod y Llyfrgell wedi gorfod blaenoriaethu gwarchod ei gwasanaethau craidd, mae’n anochel ei bod wedi methu cynnal yr ystod o wasanaethau byddai’n dymuno. Teimlwn mai canlyniad anochel y pwysau ariannol yma fu i achosi'r Llyfrgell ffoctysu’n llai ar ei gwaith ymgysylltu.

Cydnabu aelodau o’r staff, y Tîm Gweithredol ac aelodau'r Bwrdd bod angen edrych ar strwythur y corff ac ystod ei gwasanaethau. Mae rhai meysydd penodol ble mae'r Llyfrgell bellach yn ei chael yn anodd i gyflawni ei dyheadau. Credwn mai’r meysydd hyn yn bennaf yw’r gwaith o ymgysylltu; datblygu’r gwasanaeth addysg; technoleg gwybodaeth; arbenigedd ystadau, y gallu i godi arian, a rhaglen barhaus o ddigido adnoddau.,

Cafwyd tystiolaeth hefyd bod rhaglenni gwaith prosiect sydd yn derbyn nawdd yn gallu llithro. Cafwyd adborth bod ansawdd uchel y gwaith yn cael ei gynnal ond bod amserlenni yn gallu amrywio. Goblygiadau hyn yw bod y Llyfrgell mewn sefyllfa ble mae adnoddau yn cael eu dargyfeirio am gyfnod er mwyn cwblhau prosiectau a chadw oddi mewn i amodau grant. Byddai gwella sgiliau rheoli prosiect ar draws y corff, a datblygu’r sgiliau i wneud ceisiadau mwy realistig, yn gwella gallu'r Llyfrgell i reoli ei hadnoddau yn fwy effeithiol, ac o ganlyniad ei gallu i flaenoriaethu.

Mae'r Llyfrgell wedi adolygu ei gostau cefn swyddfa. Mae capasiti cefn swyddfa wedi ei leihau trwy fesurau effeithiolrwydd ac mae’n galonogol bod safon y gwasanaeth wedi cael ei gynnal. Dylai'r Bwrdd ystyried effaith hyn ar staff yn nhermau eu cyfrifoldeb tuag at les staff, ond hefyd o ran gwydnwch y gwasanaethau oddi mewn i’r Llyfrgell, Mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru bellach wedi’i ail-leoli oddi fewn i’r Llyfrgell Genedlaethol, a darperir cefnogaeth cefn swyddfa yn ogystal â lleoliad.

Credwn mai yr her nawr i'r Bwrdd yw gosod cyfeiriad strategol, ac yna sicrhau bod adnoddau yn cael eu blaenoriaethu er mwyn cyflawni hyn. Mae’r Llyfrgell wedi dygymod â heriau ariannol cyson dros y deng mlynedd ddiwethaf. Ystyriwn nad mater o effeithiolrwydd yn nhermau cyflawni anghenion cyfredol sydd angen i’r Bwrdd edrych arno bellach, ond adolygiad fwy sylfaenol o’i strategaeth.

Yn ystod yr adolygiad roedd y Llyfrgell yn mynegi awydd i fod yn rhan o ddatblygu dau brosiect uchelgeisiol, sef yr angen i sefydlu archif genedlaethol i Gymru, yn hytrach nag anfon papurau Llywodraeth Cymru i’r Archif Genedlaethol yn Kew, ac i gyfrannu at greu oriel gelf gyfoes i Gymru Mae’r prosiect archif genedlaethol yn ddibynnol ar ddeddfwriaeth gynradd, a mae’r penderfyniad i greu Oriel Gelf Gyfoes yn gael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae’r ddau brosiect yn ansicr o ddigwydd, felly buasem yn annog y Llyfrgell Genedlaethol i flaenoriaethu datblygu strategaeth hyfywedd pump i ddeng mlynedd, yn hytrach na chanolbwyntio a cheisio sicrhau prosiectau sydd heb fod yn ganolog i’w chenhadaeth graidd.

Yn bennaf oherwydd y polisi o beidio gwneud diswyddiadau gorfodol yn ystod y degawd diwethaf o doriadau mewn cyllid, nid yw’r strwythur staffio a rheoli presennol yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Llyfrgell. Ar wahân i ddyfodol yr ystafelloedd darllen, mewn nifer o feysydd eraill, megis yr angen i gynyddu’r digido ar y casgliadau, denu incwm masnachol ychwanegol, a chynyddu apêl y Llyfrgell ar gyfer ymwelwyr, credwn fod angen ystyried ail-asesu strategaeth y Llyfrgell, a sut mae darparu gwasanaethau’r Llyfrgell, fel mater o fyrder.

Mae’r Llyfrgell wedi cytuno â chwmni ITV Cymru i ofalu am archif deledu y cwmni, ac wedi derbyn arian am wneud Fodd bynnag, fe’n synnwyd yn fawr gan y berthynas bresennol gydag ITV Cymru, lle deallwn bod disgwyl i ddau o staff o’r Llyfrgell wasanaethu’r cwmni i chwilio’r archif yn ddi-dal, ac argymhellwn bydd y Llyfrgell yn ail-negydu ei chytundeb gyda’r cwmni.

Allanol

Ers sawl blwyddyn bellach mae cyrff hanesyddol Cymru yn cyd-weithio o dan faner Cymru Hanesyddol. Rhaid canmol y cyd-weithredu sydd yn digwydd rhwng y cyrff. Mae grwpiau ‘cyfoedion’ i staff rhwng gwahanol gyrff cyhoeddus yn werthfawr. Mae rhaglenni hyfforddiant a phwrcasu ar y cyd i’w canmol. Awgrymwn y dylai hyn hefyd ymestyn i ddatblygu sgiliau aelodau ymddiriedolwyr sy’n gwasanaethu ar wahanol fyrddau ar faterion sydd ganddynt yn gyffredin. Nodwn bod yr Uned Cyrff Cyhoeddus yn bwriadu roi cefnogaeth i hyn hefyd.

Ym marn y panel mae cyfle i Cymru Hanesyddol wneud cyfraniad pwysig. Cawsom yr argraff cryf fod yna elfen o gystadleuaeth a rywfaint o ddrwgdybiaeth rhwng rhai o’r sefydliadau a chredwn fod lle i adeiladu ar y cydweithredu sydd rhwng y cyrff ar hyn o bryd. Nododd y panel benderfyniad y Llyfrgell i gael stondin (a chostau cysylltiedig) i’w hun yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 a pheidio a bod yn rhan o Y Lle Hanes. Bwriedir parhau i wneud hynny yn 2020. Tra’n deall cymhelliad y Llyfrgell i wneud hynny mewn lleoliad mor agos i’w chartref, credwn y dylid adolygu’r polisi hwn er mwyn archwilio a oes modd cydweithio mewn modd sy’n bodloni anghenion y Llyfrgell, yn ogystal â’r phartneriaid eraill.

Mae’r cyrff yma i gyd yn cyfrannu’n unigryw i warchod treftadaeth y genedl, a chredwn fod cyfle i integreiddio ymhellach ac i reoli'r asedau sydd yn eu gofal yn fwy dychmygus. Esiamplau o hyn ydy ystyried a ddylai un polisi casgliadau cael ei gytuno ar gyfer aelodau Cymru Hanesyddol, er mwyn sicrhau nad yw cyfleoedd yn cael eu colli, a darparu eglurdeb i'r cyrff ac i'r cyhoedd. Mae hyn hefyd yn fater strategol i Lywodraeth Cymru  fel noddwr ond anogwn y Llyfrgell a’i chyd-aelodau o Cymru Hanesyddol i drafod cynllun o’r fath.

Ar sawl achlysur derbyniwyd sylwadau ynghylch rhoi rôl estynedig i'r Llyfrgell ar lefel Cymru gyda llyfrgelloedd ac archifau lleol. Prydera’r Llyfrgell byddai hyn yn straen ychwanegol os byddai gofyn i’r Llyfrgell ofalu am fuddiannau llyfrgelloedd lleol, ond mae’r panel o’r farn bod yna le i'r Llyfrgell gael rôl sydd yn mentora Llyfrgelloedd ac Archifau rhanbarthol, ond nid yn eu rheoli. Credwn mai swyddogaeth y Llywodraeth yw i osod strategaeth ar gyfer datblygiad llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru, ond gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgelloedd ac archifau lleol fel elfennau allweddol o greu a gweithredu’r strategaeth. Anogwn y Llywodraeth i ddatblygu‘r strategaeth ar fyrder.

Cynhaliwyd arolwg o awdurdodau lleol Cymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Tachwedd 2019, er mwyn mesur ymateb archifau a llyfrgelloedd lleol i waith y Llyfrgell. Derbyniwyd ymateb oddi wrth 12 awdurdod lleol o bob rhan o Gymru gan gynnwys awdurdodau gwledig a threfol, a gofynnwyd iddynt:

  • eu ymwybyddiaeth o gyfraniad y Llyfrgell
  • pa fath o brosiectau roeddent yn ymwneud â hwy gyda’r Llyfrgell
  • enghreifftiau o weithgarwch ymgysylltu, a
  • awgrymiadau ar gyfer ymgysylltu pellach gyda’r Llyfrgell.

Roeddent oll yn ymwybodol o waith y Llyfrgell ac yn ymwneud â’r Llyfrgell ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys addysg, y celfyddydau, cymunedol, treftadaeth ac archif, a gwaith prosiect. Meysydd eraill oedd adnoddau digidol gan gynnwys mynediad i adnoddau electronig tebyg i e-lyfrau, e-gylchgronau, adnoddau ymchwilio am hel achau, arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol.

Ymhlith y gweithgarwch ymgysylltu a ddisgrifiwyd roedd y mynediad i erthyglau papurau newydd a chylchgronau, arddangosfeydd lleol mewn llyfrgelloedd, chynllun Cof Byw, sydd yn ymwneud â’r sawl sydd â dementia.

Nodwyd yn benodol y gwaith mae’r Llyfrgell wedi ei gyflawni i gynorthwyo gwaith cynghorau lleol o ddigido, a rhoddwyd enghreifftiau o gymorth i staff llyfrgelloedd lleol i ddigido tapiau, chasetiau a CDau. Canmolwyd y Llyfrgell hefyd am ei harweiniad wrth roi cyngor i archifau a llyfrgelloedd lleol ynglŷn â chadwraeth eu casgliadau, ac am gyd-lynu gwaith digidol yn y sector.

Image

(Arolwg Cymdeithas Cynghorau Lleol Cymru o adrannau llyfrgell cynghorau Cymru, Tachwedd 2019, sampl: 12)

Roedd cefnogaeth unfrydol i waith y Llyfrgell. Awgrymwyd nifer o syniadau i adeiladu ar y berthynas i’r dyfodol, ac i ddatblygu y berthynas:

  • cryfhau’r berthynas rhwng awdurdodau lleol a’r Llyfrgell, ac ystyrid byddai hyn yn fodd i leihau dyblygu gwaith o fewn y sector. Canmolwyd arbenigedd staff proffesiynol y Llyfrgell , yn enwedig am eu harweiniad wrth gynorthwyo ar brosiectau megis System Rheoli Llyfrgell Cymru (All Wales Management System), a gwella safonau ar draws y sector, trwy greu fframwaith genedlaethol.
  • lledaenu ymwybyddiaeth am gasgliad y Llyfrgell trwy gynyddu gweithgarwch marchnata a rhaglenni ymgysylltu. Gwerthfawrogir arbenigedd technegol a phroffesiynol staff y Llyfrgell, a dymunir bod gwell mynediad gan staff archifau a llyfrgelloedd lleol i arbenigedd, cyngor a chefnogaeth y Llyfrgell, yn enwedig ar gyfer sgiliau digideiddio a chadw a chynnal casgliadau arbenigol.
  • cael mwy o arddangosfeydd gan y Llyfrgell yn lleol, gan ddatblygu’r berthynas gydag arddangosfeydd ac adnoddau lleol. Nodwyd hefyd bod cyfle i’r Llyfrgell gefnogi’r gwaith angenrheidiol o greu adnoddau ar gyfer hanes a diwylliant Cymru ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru o 2022 ymlaen

Dywedwyd wrthym gan gynrychiolwyr archifau a llyfrgelloedd lleol, y byddent yn croesawu strategaeth fyddai’n galluogi’r Llyfrgell i rannu casgliadau, a meithrin a dysgu sgiliau digidol yn fwyaf arbennig. Anogir y Llyfrgell gan y Llywodraeth i ‘gynnig ymateb proactif i weithgarwch y sector...megis datblygu strategaeth ar gyfer llyfrgelloedd’. Nid oes amheuaeth am y gwaith allweddol mae’r Llyfrgell yn ei gyflawni a’r parch sydd at ei broffesiynoldeb a’i arbenigedd ym meysydd arbenigol cadwraeth a chynhyrchu deunydd digidol, chredwn fod y sector yn crefu am arweiniad. Credwn byddai’n gymorth i Lywodraeth Cymru ddod â’r cyfranddeiliaid ynghyd i gytuno ar ddatblygu strategaeth casgliadau digidol ar gyfer archifau yng Nghymru, ddylid cynnwys ystyriaeth o gyfraniad Cymru Hanesyddol, a archifau lleol fel ei gilydd.

Mae’r Llyfrgell yn draddodiadol wedi’i hystyried yn arweinydd ym maes archifau a llyfrgelloedd Cymru. Mae ganddi arbenigedd mewn digido deunydd print ac archifau, ac mewn dulliau o warchod archifau a chadwraeth. Mae’r rôl mentora a rhannu arbenigedd wedi pylu i raddau o fewn y sector, a dymuniad nifer o lyfrgellwyr ac archifwyr lleol a rhanbarthol oedd i’r Llyfrgell ail-gydio yn ei swyddogaeth o fod yn arweinydd o fewn y sector mewn cyfnod anodd i lyfrgelloedd ac archifau o fewn llywodraeth leol. Tra’n deall pryder y Llyfrgell nad yw’n dymuno ymgymryd â chyfrifoldebau llyfrgelloedd ac archifau lleol, argymhellwn y dylid ystyried ymhellach swyddogaeth y Llyfrgell Genedlaethol mewn perthynas â llyfrgelloedd ac archifau lleol Cymru yn benodol, a sut gallai’r Llyfrgell ddatblygu ei rôl arbenigol yn y sector. Argymhellwn y dylai adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ystyried swyddogaeth y Llyfrgell yng ngyswllt llyfrgelloedd ac archifau lleol a sut gallai’r Llyfrgell ddatblygu swyddogaeth cydweithredol yn y sector.

Credwn bod potensial gan y Llyfrgell i ymgysylltu ymhellach gyda sefydliadau Addysgu Uwch Cymru, a sefydliadau addysg uwch rhyngwladol gyda’r nod o fod yn rhan o brosiectau ymchwil sy’n gallu gwneud defnydd llawn o gasgliadau’r Llyfrgell. Gellir edrych ar gytundeb Llyfrgell Genedlaethol yr Alban gyda Phrifysgolion Caeredin a Glasgow er enghraifft, er mwyn deall y posibiliadau o gydweithio er budd y partneriaid. Nodwn nad oes statws ymchwil annibynnol gan y Llyfrgell (na chwaith gan Lyfrgell yr Alban)ar hyn o bryd, sydd yn golygu nad oes modd arwain neu roi ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau yn annibynnol o gyrff eraill. Enillwyd y cytundeb gwerthfawr i ddigideiddio papurau newydd hyd 1919 yng Nghymru trwy gynnig am yr arian ar y cyd gyda Phrifysgolion. Denodd y prosiect yma gannoedd ar filoedd i’w tudalennau we. Credwn dylai’r Llyfrgell ystyried datblygu cais i gael ei chydnabod fel corff ymchwil annibynnol, ac y dylid hefyd roi ystyriaeth i ddatblygu prosiectau tebyg i brosiect digideiddio papurau newydd 1914-18, fel rhan o brosiect ehangach ar gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae cais y Llyfrgell i’r UKRI (y Cyngor Cyllido Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) i ddatblygu cadwrfa ddigidol ddibynadwy a’r llu o fanteision a ddeillia o hynny yn arbennig o gyffrous a llawn potensial. Y bwriad yw datblygu storfa ddigidol fyddai’n storio yr holl ddata digidol sydd ar gael mewn prifysgolion yng Nghymru achyrff cyhoeddus, a’r nod yw i hyfforddi archifwyr proffesiynol ac eraill i ddefnyddio’r adnoddau digidol yma o fewn gwaith eu sefydliadau. Mae’r cais wedi ei roi ar y cyd gyda’r Gymdeithas Henebion a Phrifysgol Aberystwyth, ac os fydd yn llwyddiannus, bydd y Llyfrgell yn gweithio yn agos gyda’r Brifysgol er mwyn cynnig cyfle i ddatblygu ymchwil dwys, hyfforddiant er mwyn defnyddio’r dechnoleg o fewn maes y celfyddydau, y dynoliaethau a’r gwyddorau. Croesewir yr uchelgais a’r weledigaeth a datblygu’r arbenigedd yma gan y Llyfrgell.

Argymhellwn y dylai’r Llyfrgell ddatblygu partneriaeth ffurfiol gyda chyrff Addysg Bellach ac Addysg Uwch addas er mwyn datblygu ceisiadau ariannol a phrosiectau ar y cyd, tebyg i’r cais am gronfa ddata.

Model economaidd a chynaladwyedd

Mae pwyslais yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i gyrff cyhoeddus ymddwyn mewn modd mwy masnachol er mwyn gwarchod y gwasanaethau craidd. Mae gallu unrhyw gorff i wneud hyn yn ddibynnol ar y sgiliau perthnasol ac asedau addas ar gyfer denu incwm masnachol. Yn hyn o beth mae'r Llyfrgell dan anfantais o’i gymharu â chyrff eraill yn sector yma (e.e. CADW ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru) . Mae’r lleoliad yn Aberystwyth hefyd yn ffactor wrth ystyried y gallu i fod yn fwy masnachol, yn rhannol oherwydd poblogaeth cymharol isel y dalgylch.

Nid yw’r Llyfrgell yn credu ar hyn o bryd bod ganddi’r capasiti a’r profiad i ecsploetio cyfleoedd masnachol. Daw’r rhan fwyaf o’r gweithgaredd masnachol yn dod o dan adain adran gyllid y Llyfrgell. Mae’r panel o’r farn nad oes gan y Llyfrgell y potensial ar hyn o bryd i gynyddu’r incwm masnachol yn sylweddol, ond awgrymwn dylai’r Llyfrgell geisio sicrhau arbenigedd allanol i gynghori ar sut i ddatblygu cyfleoedd masnachol, ac i ymgynghori â chyrff profiadol yn y maes, megis Croeso Cymru. Dylai ystyried modelau eraill sydd wedi’u mabwysiadu gan gyrchfannau ymewlewyr diwylliannol, a dylai ystyried a ddylai sefydlu cwmni ar wahan er mwyn datblygu ei gweithgarwch masnachol.

Mae’r Llyfrgell o’r farn bod cael caffi a siop ar y safle yn adnodd gwerthfawr ac yn cyfoethogi profiad yr ymwelydd. Er bod y panel yn gweld fod rhinwedd i hyn rhaid hefyd edrych ar werth am arian o safbwynt y trethdalwr yn enwedig gan fod costau uniongyrchol y gwasanaethau hyn yn gynyddol uwch na'r incwm sydd yn cael ei gynhyrchu (dros £90k yn 2018/19). Nid yw’r Llyfrgell yn tybio bod potensial mawr i gynyddu incwm y siop, a chynnyrch gan eraill yn hytrach na eitemau sydd yn el eu cynhyrchu gan y Llyfrgell, sy’n cynhyrchu mwyafrif yr incwm presennol. Mae'r Llyfrgell hefyd yn ceisio denu incwm masnachol ychwanegol, e.e. trwy gynnal priodasau, ond hyd yma nid oes incwm sylweddol wedi dod o'r ffynonellau hyn.

Mae'r panel o'r farn fod yn rhaid edrych yn fanwl ar ddyfodol y caffi a'r siop yng nghyd- destun gwerth am arian i'r cyhoedd. Dylid ystyried opsiynau eraill o ran cynnig darpariaeth o'r fath yn y dyfodol, gan gynnwys asesiad busnes o allanoli'r gwasanaeth presennol yn ogystal â gwerthiant cynnyrch ar-lein drwy asiantaethau neu bartneriaethau eraill.

Un agwedd o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Llyfrgell, ac sydd yn anghyson â pholisïau llyfrgelloedd eraill, yw gwaith hel achau. Cafwyd adborth bod y gwasanaeth mae’r Llyfrgell yn ei gynnig o safon uchel, a defnyddwyr masnachol yn synnu bod y gwasanaeth yn dal i fod yn rhad ac am ddim. Dylai’r Llyfrgell ystyried pa systemau sydd wedi cael eu mabwysiadu mewn Llyfrgelloedd eraill o ran codi tâl am y gwasanaeth, ac ystyried strwythur ar gyfer adfer costau ar gyfer gwaith sydd ddim yn rhan o ddyletswyddau craidd y Llyfrgell.

Mae hel achau hefyd yn fodd i ddenu cynulleidfa ryngwladol i waith y Llyfrgell ac i ddiddori ymwelwyr rithiol a chorfforol yn nhrysorau’r Llyfrgell, gan greu cyfleoedd masnachol.

Cydnabyddir nad yw’r Llyfrgell wedi gallu ymestyn ei hapêl fel cyrchfan ymwelwyr, a nid oes cais wedi ei wneud gan y Llyfrgell am gymorth ariannol cyfalaf neu refeniw oddi wrth gronfa Croeso Cymru i ddatblygu‘r safle fel man ar gyfer denu ymwelwyr. Dywedwyd wrthym byddai croeso ar gyfer cais o’r fath, a phwysleisiwyd natur eiconaidd y Llyfrgell a’i photensial ar gyfer cynnig profiad diddorol a chyfoethog i ymwelwyr yng Nghanolbarth Cymru. Credwn nad yw’r potensial presennol wedi’i hastudio yn ddigon manwl ac awgrymwn y dylid ystyried comisiynu adroddiad ynglŷn a photensial y Llyfrgell fel cyrchfan ymwelwyr.

Awgrymwn, fel rhan o’r astudiaeth, y dylid ystyried ardrawiad newid oriau agor y Llyfrgell, fel ei fod yn fwy hygyrch i ymwelwyr ar y penwythnos.

Yn hanesyddol mae’r Llyfrgell wedi bod yn ffodus i dderbyn arian sylweddol mewn ewyllysiau a chymynroddion, sydd yn rhagori ar Lyfrgell yr Alban. Mae gan y Prif Weithredwr gynlluniau i wella cyfleoedd codi arian ac i ddenu mwy i lunio ewyllysiau er budd y Llyfrgell. Fodd bynnag, cydnabyddir nad oes arbenigedd ymhlith staff y Llyfrgell ynglŷn â chodi arian. Credwn fod angen i’r Llyfrgell benodi unigolyn arbenigol i gynorthwyo yn y gwaith o godi arian ar gyfer prosiectau penodol.

Ers blynyddoedd mae gan y Llyfrgell gymdeithas o Gyfeillion sydd wedi bod yn gefnogol iawn i waith ac amcanion yr elusen. Adroddwyd nad yw’r Cyfeillion wedi bod yn hynod weithgar o ran codi arian yn ddiweddar. Mae’r panel o’r farn bod angen cynyddu brwdfrydedd mewn cynllun tebyg i’r Cyfeillion, a’i fod yn cynnig cyfle i unigolion i gyfrannu heb fod yn ddaearyddol agos i'r Llyfrgell. Mae hefyd yn cynnig modd i annog cefnogwyr i ariannu prosiectau penodol, a’u annog i adael gwaddol i’r Llyfrgell. Nodwn bod nifer o’i haelodau yn byw yn Lloegr, ac ystyriwn bod cyfle i ymgysylltu a nhw er mwyn cynyddu ‘r cyfleoedd i ledaenu gwybodaeth am waith y Llyfrgell, ac i ddenu rhoddion ariannol.

7. Ymgysylltu Allanol: agwedd ei chynulleidfa tuag at y Llyfrgell Genedlaethol

Dyfyniad gan arweinydd corff diwylliannol mewn cyfweliad ar gyfer yr arolwg:

“Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cyfrinach orau Cymru.

Ystyrir y Llyfrgell Genedlaethol yn ‘gartref cof y genedl’ ac yn drysorfa ein treftadaeth chyfoethog. Caiff casgliadau’r Llyfrgell eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddefnyddwyr a cheir canmoliaeth uchel i lefelau gwasanaeth a chymorth staff y Llyfrgell i ymchwilwyr. Mae ymrwymiad a brwdfrydedd digamsyniol gan staff y Llyfrgell tuag at y casgliadau. Mae gwybodaeth ac arbenigedd amhrisiadwy gan staff y Llyfrgell am gof ein cenedl. Fel gyda phob sefydliad arall o’r fath ar draws y byd, mae potensial i wneud mwy i rannu gwybodaeth am y cyfoeth sydd yn cael ei gadw ar ein rhan.

Credwn fod y Llyfrgell yn parhau i wynebu her a ddisgrifiwyd ym 1957, ar achlysur hanner mlwyddiant y Llyfrgell, gan yr Is-Lywydd, Syr Ifan ab Owen Edwards:

"Onid anelir iddo anadl einioes ni ddaw fyth, fel y rhagwelodd ei sylfaenwyr, yn ganolfan byw diwylliant ein cenedl a hynny mewn cysylltiad agos a’n pobl, ac yn enwedig a’n pobl ieuainc. A chreu’r cysylltiad, debygwn i, a fydd gorchwyl pwysicaf hanner-canrif nesaf ein Llyfrgell.

Cydnabyddwyd felly yn 1957 yr her o ymestyn gwasanaethau’r Llyfrgell i gynulleidfaoedd amrywiol ac iau, a mae arweinyddiaeth y Llyfrgell yn cydnabod fod hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Mae dealltwriaeth o’i chynulleidfa, a chyfathrebu effeithiol gan y Llyfrgell yn greiddiol i lwyddiant a gwerthfawrogiad y sefydliad. Llongyfarchwn y Llyfrgell ar gadw ei statws Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid (a fonitrir yn annibynnol) ynghyd â’i statws Seren Aur Croeso Cymru (hefyd a fonitrir yn annibynnol).

Credwn y gallai’r Llyfrgell wneud mwy i ddeall anghenion ei chynulleidfa. Nid yw’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn comisiynu ymchwil cyson er mwyn adnabod anghenion a barn cwsmeriaid. Yn achlysurol, defnyddir Arolwg Omnibws Beaufort Cymru, arolwg omnibws wyneb-yn-wyneb â’r cyhoedd yng Nghymru, ac Arolwg Ymwelwyr Llywodraeth Cymru, ond mae’n aneglur bod gweithredu yn digwydd fel canlyniad i’r ymchwil. Awgrymwn felly bod y Llyfrgell yn comisiynu ymchwil cyson er mwyn mesur ymateb defnyddwyr ac eraill i wasanaethau’r Llyfrgell, a fyddai’n sail i weithredu ymhellach..

Nid oes defnydd wedi’u wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf o gynnal grwpiau ffocws ac ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn casglu barn ar unrhyw gynlluniau i’r dyfodol gan y Llyfrgell. Comisiynwyd gwaith ymchwil ar agweddau y cyhoedd tuag at y Llyfrgell Genedlaethol, sef yr adroddiad ‘Nodi Cynulleidfa Darged ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru’ (Chwefror 2018). Dadansoddwyd natur defnyddwyr y Llyfrgell Genedlaethol o ran eu diddordebau, ac adwaenwyd tri categori o ddefnyddwyr; myfyrwyr (fel arfer o Brifysgol Aberystwyth), ymchwilwyr (academaidd yn bennaf), ac ymwelwyr i’r llyfrgell sydd yn ymweld ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau’r Drwm, ac sydd gwneud defnydd o adnodau’r Llyfrgell, gan gynnwys y siop a’r caffi. Ond y cyfran helaethaf o ddigon yw’r defnyddwyr digidol o adnoddau’r Llyfrgell.

Mae’r ddelwedd o’r Llyfrgell, fel ei ddisgrifid gan yr adroddiad, yn gymysg. Mae defnyddwyr reolaidd adnoddau’r Llyfrgell yn ei ystyried ei fod yn fan pleserus a chroesawgar i weithio ynddo, ond ar y llaw arall, mae’n adrodd mai canfyddiad y sawl sydd heb ddefnyddio’r Llyfrgell yw ei fod yn le ‘stuffy’. ‘intimidating’ a ‘daunting’. Awgryma’r adroddiad fod y ddelwedd negyddol yma yn cael ei atgyfnerthu gan gyhoeddusrwydd y Llyfrgell pan ffocysir ar gynnwys casgliadau’r Llyfrgell yn hytrach nag ar yr adeilad a’r defnydd a wneir o’r gofod, gan gynnwys arddangosfeydd. Er gwaethaf yr argymhelliad y dylid ymchwilio’n ymhellach er mwyn monitro a datblygu dealltwriaeth dyfnach o ddealltwriaeth y cyhoedd o wasanaethau’r Llyfrgell, nid oes gwaith pellach wedi’i gomisiynu.

Tra bod ymateb cadarnhaol i lawer o arddangosfeydd y Llyfrgell, derbyniwyd sylwadau wrth gynnal yr Adolygiad y dylid i’r dyfodol ddefnyddio ardaloedd cyhoeddus y Llyfrgell i danio dychymyg y genhedlaeth nesaf drwy lunio arddangosfeydd cyffrous a chyfoes, allai gyd-fynd â chynigion digidol cyffrous ar yr un pryd.

Cynhaliodd cangen Ymchwil Corfforaethol Llywodraeth Cymru arolwg ar-lein rhwng 21 Awst ac 11 Medi 2019, ac ymatebodd 91 o bobl i gyd.

Roedd consensws fod y Llyfrgell yn gwneud cyfraniad allweddol i fywyd Cymru. Ymwelodd 84% o’r ymatebwyr a’r Llyfrgell o leiaf unwaith y flwyddyn, a ymwelodd 70% yn fwy na g unwaith y flwyddyn. Defnyddiodd 91% o’r ymatebwyr yr adnoddau digidol, a fe’u defnyddid gan 82% yn fwy nag unwaith y flwyddyn.

Roedd ymwybyddiaeth o rai o wasanaethau’r Llyfrgell yn uchel iawn, gyda gwasanaethau digidol isaf, ar 51%. Oi’r sawl a ofynnwyd os oeddent yn ymwybodol o’r gwasanaethau a restrwyd yn yr arolwg, defnyddiai 57% y gwasanaeth ymholiadau yn fwy nag unwaith y flwyddyn defnyddid y gwasanaeth atgynyrchu gan 54%, a sgoriodd y gwasanaeth Addysg y sgor isaf gyda 21%.

Ymhlith awgrymiadau a gyfer gwella‘r gwasanaeth oedd: lleihau’r gost ar gyfer digido ar alw; bod cynhyrchu reprograffeg yn cael ei wneud yn gyflymach; ac y dylid ei gwneud yn haws i gael mynediad i gopïau o ddefnyddiau’r Llyfrgell, ynghyd â mynediad digidol ar draws Cymru.

Canolbwyntiodd cwestiynau’r arolwg ar ymwybyddiaeth defnyddwyr a bodlonrwydd ynglyn a adnoddau’r Llyfrgell, gyda 71% o ymatebwyr ddim yn ymwybodol o’r cyfle i logi gofod, 44% o ymatebwyr ddim yn ymwybodol o fannau tawel, a 42% o ymatebwyr yn anymwybodol o ddigwyddiadau tymhorol yn y Llyfrgell..

Nodwyd y dylai’r Llyfrgell ehangu ei hapêl i gynulleidfaoedd newydd trwy gyfrwng gwell hyrwyddo a marchnata. Roedd ymateb gadarnhaol iawn i gyfoeth casgliadau’r Llyfrgell, ond nodwyd bod diffyg deunydd ar, neu gan, gymunedau hoyw a chefndiroedd ethnig amrywiol. Awgrymwyd y gallai’r Llyfrgell gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o gynnwys y casgliadau, ac y dylid cynyddu’r broses o ddigido adnoddau. Tra bod yr ymatebwyr yn gadarnhaol iawn ynglŷn â gwerth defnyddiau ar-lein, pwysleisiodd sylwadau ar y catalog ar-lein bod llawer o ardaloedd oedd angen eu gwella. Roedd hyn yn cynnwys rhwyddineb mynediad i wybodaeth, a mwy o glirdeb ynglyn a sut i chwilio am ddeunydd. Teimlid bod dod o hyd i ddeunydd ar safle’r we yn anodd, a chredid y gellid gwneud mwy i gyfathrebu i’r cyhoedd yn gyffredinol bod cymaint o adnoddau’r Llyfrgell ar gael ar-lein.

Credai’r mwyafrif mai blaenoriaethau mwyaf y Llyfrgell dylai fod i barhau i gadw’r casgliadau ar gyfer y cenedlaethau i dod (62%), a gwella mynediad i’r Llyfrgell trwy gyfrwng casgliadau wedi’u digido (56%).

Canmolwyd proffesiynoldeb staff y Llyfrgell, a’u parodrwydd i gynorthwyo darllenwyr (87%), ac roedd lefel y boddhad cyffredinol gyda gwasanaethau’r Llyfrgell yn uchel (86%).

Mae casgliadau'r adroddiad wedi gyrru gweithgaredd y Llyfrgell yn y maes cyfathrebu a marchnata ers 2018. Er enghraifft, gwnaethpwyd gwaith dilynol ar segmentau a cyflwynwyd strwythur ar gyfer gweithredu i'r Bwrdd yn mis Gorffennaf 2018. Ar y sail hwnnw, bu’r Uned Hyrwyddo a Marchnata yn cynllunio ymgyrchoedd ac mewn perthynas â darllenwyr yn benodol a mae gweithgaredd bwriadol wedi bod i dargedu myfyrwyr israddedig. Fodd bynnag, fel yr awgrymir gan y Llyfrgell, credir fod angen ystyried priodoledd 'y cynnig' neu'r cynnyrch yn ogystal â'r ffordd mae'r cyfathrebu a marchnata'n cael ei gyflawni.

Mae Cynllun Strategaeth y Llyfrgell (2017-21) yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu a defnyddwyr trwy gyfrwng ymestyn ‘strategaethau marchnata’, a gyda’r nod o gynyddu gweithgarwch masnachol, cynyddu rhoddion, a chwilio am grantiau, gan roi targed o £1 miliwn y flwyddyn i’w godi erbyn 2021. Un o amcanion craidd y Llyfrgell yw i ‘roi mynediad’ i wybodaeth gofnodedig y Llyfrgell, yn enwedig mewn perthynas â Chymru, ‘er budd y cyhoedd’. yn unol â’i Siarter. Crybwyllir targed ar gyfer dyblu defnydd digidol i 3 miliwn o ymweliadau erbyn 2021, a roddir nod i ddyblu nifer o eitemau digidol ar gael i 10 miliwn erbyn 2021. Gosodwyd cyfrifoldeb gan y Llywodraeth ar y Llyfrgell i adeiladu ar y rhaglen digideiddio bresennol fel ffordd o wella mynediad i gasgliadau, ac hefyd fel ffordd i helpu ac annog pobl i gymryd rhan ac i ymwneud.

Awgrymwn y dylid rhoi ystyriaeth i ddatblygu cynllun gweithredu ymgysylltu allanol ac ymestyn allan cynhwysfawr wedi ei ddiweddaru sy’n gwneud y mwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol a dulliau eraill i ‘adrodd stori’r Llyfrgell’. Gallai’r cynllun ymgysylltu allanol sicrhau bod y Llyfrgell yn ymestyn i gymunedau o bob math ar draws Cymru, yn ymwneud â rhanddeiliaid a phartneriaid mewn dull rhagweithiol, a datblygu partneriaethau buddiol gyda chyrff eraill, gan gynnwys llyfrgelloedd ac archifau lleol, Cymru Hanesyddol, ac amrywiaeth o gyrff celfyddydol a llenyddol gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru.

Dywedwyd wrthym gan rhanddeiliaid droeon bod cyfoeth o ddeunyddiau ar gael i’w rhannu gan y Llyfrgell, ond nad yw’r defnydd gorau yn cael ei wneud ohonynt ar hyn o bryd. Dywedwyd wrthym bod awydd gan y Tîm Gweithredol presennol i gynyddu gweithgarwch marchnata a hyrwyddo, ac i ddatblygu partneriaethau, ond nad oes capasiti digonol ar hyn o bryd i wneud hynny yn effeithiol, a bod angen cyfuniad o gynllunio ac adnoddau ychwanegol i wireddu hyn. Ar gyfer y cyfnod 2021-2026, credwn dyla’r her o wella ymgysylltu y Llyfrgell â’r cyhoedd fod yn flaenoriaeth clir.

Awgrymwn y dylid ailddatblygu cynnig digidol y Llyfrgell, yn arbennig y wefan, gan ei gwneud hi’n haws i bobl fynd o’i chwmpas a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gadw ymwelwyr ar y safle a’u cyflwyno i gynnwys newydd. Cydnabyddwn y bydd hyn yn galw am fuddsoddiad sylweddol ond angenrheidiol i’r wefan a’r is-adeiledd digidol. Trwy’r we a gwasanaethau digidol mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr y Llyfrgell yn dod i gysylltiad â’r sefydliad, ac ystyriwn ei fod yn anochel fod y maes digidol yn denu mwy o fuddsoddiad wrth i’r galw am y gwasanaethau sydd yn perthyn yn fwy traddodiadol i’r Llyfrgell leihau. Mae hyn hefyd yn ddatblygiad allweddol i’r Llyfrgell er mwyn delio a’r anawsterau i bobl gael mynediad pan bo casgliadau dim ond ar gael yn Aberystwyth.

Mae’r Llyfrgell wedi bod ar flaen datblygu sgiliau a gwasanaethau digidol ar gyfer archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol dros y degawd diwethaf cyn i effeithiau llymder amharu ar y gwaith hwn. Mae’n ddi-gwestiwn bod cadwraeth digidol lefen o’i chasgliadau, a’i arbenigedd technegol yn cael ei gydnabod yn eang. Yn ychwanegol, mae’r gwaith o ddigideiddio casgliadau yn gyfraniad pwysig i gynyddu mynediad i ddefnyddiau’r Llyfrgell.

Cytunwn y dylid parhau i ddigido cynnwys i’r safonau uchaf, ond y dylid blaenoriaethu deunydd i’w ddigido gan ystyried y gwerth mwyaf i ddefnyddwyr a darpar ddefnyddwyr i’r dyfodol. Dylid bod yn glir pa ddeunyddiau sydd i’w digido a phaham, a sut mae’n cyfrannu at ledaenu apêl y Llyfrgell. Mae’r deunydd digidol yma yn rhoi cyfle i ymgynghori ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd. Roedd yn galonogol gweld y gwaith cydweithio sy’n digwydd ar draws Llyfrgelloedd y DU a thu hwnt ar gynlluniau digidol a dylai hyn barhau, gan gynnwys datblygu cyd-ddealltwriaeth am y cofrestr digido byd-eang.

Ystyriwn y dylid rhoi sylw hefyd i ddatblygu profiad yr ymwelydd wrth ymweld â’r Llyfrgell yn gorfforol. Mae’r Llyfrgell yn un o’r ychydig sefydliadau yng Nghanolbarth Cymru o arwyddocâd ryngwladol, a gallai ddenu mwy o dwristiaid a’r cyhoedd lleol, gan gyfrannu i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r ardal o’i chwmpas fel man ymweld, ac fel hwb creadigol mewn partneriaeth ag eraill.

Mae gan y Llyfrgell amryw o bolisïau marchnata (gan gynnwys Strategaeth Farchnata 2017) sydd wedi eu datblygu dros y blynyddoedd, ond mae capasiti’r Llyfrgell i weithredu’r polisïau wedi cael ei leihau gan doriadau mewn adnoddau staffio a chyllideb dros y cyfnod diwethaf.

Mae’n drawiadol ystyried ymateb llyfrgelloedd eraill cyfatebol, sef y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, a Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, i’r her o ddenu a thargedu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer eu gwasanaethau.

Y Llyfrgell Brydeinig

Y Llyfrgell Brydeinig (LlB) yw’r brif llyfrgell ar gyfer y Deyrnas Unedig, yn dal dros 150 miliwn o eitemau. Mae’n lyfrgell adneuol, ac yn gorff cyhoeddus wedi’n noddi gan Adran Diwylliant, Chwaraeon a Chyfryngau Llywodraeth Prydain. Mae strategaeth y Llyfrgell yn adnabod nifer o’r heriau allweddol sydd yn wynebu pob llyfrgell adneuol. Mae yna ddisgwyliad bellach bod profiad y defnyddiwr o ymwneud â llyfrgell yn fwy soffistigedig. Ystyria’r LlB bydd eu gwasanaethau yn cael eu derbyn fwy fwy fel rhan o ‘Rhyngrwyd y Pethau’(Internet of Things’) gan ddefnyddio teclynnau ffôn personol a thechnoleg realiti rhithiol.

Ystyrir bod rhaniad digidol rhwng defnyddwyr iau, sydd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn defnyddio y cyfryngau yn helaethach, a defnyddwyr hŷn, sydd yn fwy traddodiadol yn eu defnydd o adnoddau llyfrgell. Mae’r nifer o ymwelwyr corfforol i’r LlB yn gostwng, ond mae’r nifer o ymwelwyr digidol ar gynnydd.

Mae defnyddwyr y Llyfrgell yn disgwyl ystod eang o ddefnyddiau ar gael ar eu cyfer, a mae nhw yn awyddus i brofi opsiynau dysgu fwy adloniadol, yn ffurf gemau cyfrifiadurol a efelychiadol. Credir hefyd bod cynnydd mewn dysgu gydol-oes yn gyfle i deilwra gwasanaethau at eu defnydd nhw. Mae’r LlB wedi adnabod anghenion gwahanol Prifysgolion hefyd, a’r pwyslais sydd arnynt i sicrhau cyllid ac i arddangos ardrawiad effeithiol. Mae’n awyddus i ddatblygu partneriaethau gyda chyrff addysg uwch er mwyn creu marchnadoedd newydd ar gyfer cynnwys. Ac o ran ymchwil Prifysgol, mae’n ystyried datblygu rôl fel storïwr a chrynhöwr data a gwybodaeth a gesglir gan ymchwilwyr. Mae’r LlB hefyd wedi datblygu arbenigedd busnes, a mae wedi creu partneriaeth ‘Knowledge Quarter’, sydd yn cynnig cymorth i fusnesau gydag adnoddau cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth mentro ar gyfer busnesau newydd. Mae’r prosiect wedi ei ledaenu bellach i 20 o ganolfannau, wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd lleol.

Llyfrgell yr Alban

Mae ymgysylltu allanol â’r cyhoedd wedi bod yn gongl-faen i strategaeth Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (LlGA) ers cyhoeddi ei strategaeth corfforaethol yn 2004, “Breaking through the Walls’, gafodd ei ddilyn gan ei ddogfen strategaeth ar gyfer y cyfnod 2008-2011, ‘Expanding our Horizons’. Mae’r LlGA wedi comisiynu cwmni i adrodd yn rheolaidd ar ddatblygiad cynulleidfa, cynnwys arddangosfeydd, marchnata a chyfathrebu, adolygu gwefannau, a datblygiad gwasanaethau eraill.

Mae’r LlGA wedi adnabod ymddygiad a disgwyliadau defnyddwyr y Llyfrgell ac yn gwahaniaethu rhwng ‘millenials’ (yn cyrraedd 18 erbyn 2000), a’r genhedlaeth ‘wedi’u geni ddigidol’ (wedi’u geni ar ôl 2001). Mae’r defnyddwyr hyn yn fwy tebygol o ddefnyddio cyfryngau digidol a heb awydd i ymweld yn bersonol. Mae’r rhain yn fwy tebygol o ymchwilio ar-lein, ac i fynnu adnoddau personol tebyg i ddalen-nodiadau a bwletinau gwybodaeth sydd wedi’y targedu ar y we. Credir bod defnyddwyr yn fwy tebygol o addasu casgliadau ac adnoddau LlGA i’w dibenion eu hunain. Mae’r defnyddwyr hyn hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio a rannu defnydd mewn modd aml-gyfryngol, ac i’w defnyddio ar gyfer dibenion personol a chymdeithasol. Ond i eraill, yn aml o’r genhedlaeth hŷn, mae’n well ganddynt fformat print, ac maent yn parhau i ymddwyn fel defnyddiwr traddodiadol o’r Llyfrgell.

Mae’r LlGA wedi adnabod ei gwasanaeth i ysgolion fel un o’r elfennau fydd yn cynyddu yn y dyfodol. Mae’n pwysleisio na fydd y cyhoedd yn ymweld â’r Llyfrgell i’r un graddau yn y dyfodol ond bydd y cyswllt yn cael ei wneud gan gyrff eraill, tebyg i gyrff addysgiadol, yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llyfrgell.

Ymhlith un o brosiectau mwyaf llwyddiannus LlGA mae creu’r platfform digidol ar gyfer mapiau o’r Alban mewn cydweithrediad â LLGC i gynnwys mapiau o Gymru fel rhan o’r prosiect. Mae’r Llyfrgell yn codi arian am gopïau o’r mapiau, a mae’n debyg bod cryn ofyn am gopïau oherwydd y diddordeb mewn ffiniau tir ac eiddo. Nid yw LlGC wedi ecsploetio y posibilrwydd masnachol yma hyd yn hyn.

Credwn hefyd bod gwerth i’r Llyfrgell ddyfnhau ei pherthynas gyda Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, yn enwedig wrth ystyried ei gwaith diweddar ar ymestyn allan a gwasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol, sydd wedi cynnwys gwahodd Albanwyr amlwg i guradu cyflwyniadau o ddeunydd o archif y Llyfrgell sydd yn bwysig iddyn nhw yn bersonol, ac yn syniad gellid ystyried ei efelychu yng Nghymru.

Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth

Mae datblygiad Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth (LlPA) yn adlewyrchu’r datblygiadau yn y modd mae myfyrwyr is-radd yn defnyddio adnoddau llyfrgell. Mae’r LlPA wedi’i lleoli o fewn tri chan llath i’r Llyfrgell Genedlaethol, a mae’r newidiadau sydd wedi’u wneud yno yn adlewyrchu rhai o’r beirniadaethau a wneir o LlGC gan fyfyrwyr. Sail yr ail-drefnu o’r LlPA yma yw mai fel profiad cymdeithasol y gwelir ymweliad â’r llyfrgell hwn. Mae’r gofod llyfrgell wedi’i wneud yn fwy hygyrch, ceir ardaloedd astudio cymunedol, cyswllt wifi ardderchog, a rhyddid i fwyta, yfed a siarad. Mae ardaloedd ‘tawel’ hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd am astudio mewn modd mwy traddodiadol. Mae’r LlPA wedi ail-frandio ei hun fel lle i gymdeithasu yn ogystal â lle i ymchwilio ym modd traddodiadol llyfrgelloedd. Mae’r oriau agor wedi’u hymestyn fel ei bod yn bosibl i fyfyrwyr ddefnyddio yr adnoddau am 24 awr y dydd , er bod oriau agor yn amrywio y ôl tymor coleg. Mae’r pwyslais ar astudio mewn grŵp, gan gynnig adnoddau digidol ar gyfer lawrlwytho cynnwys digidol ar-lein ar gyfer defnydd gwaith a hamdden.

Droeon wrth gynnal yr Adolygiad yma, codwyd mater lleoliad y LlGC yn Aberystwyth, gan ei nodi fel mantais ac anfantais. Yn yr oes sydd ohoni dylai’r cwestiwn hwn fod yn fwy amherthnasol nag erioed, wrth i ddulliau digidol o rannu gwybodaeth ddod yn haws ac yn fwy cyfarwydd. Mae’n gwbl briodol bod sylw i ardal Aberystwyth a Cheredigion fel rhan o gynllun ymgysylltu allanol y LlGC (ac mae’n deg nodi mai ysgolion o’r ardal gyfagos sy’n ymweld â Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn bennaf), ond credwn y dylid cefnogi hynny gydag ymwybyddiaeth a hyder bod y Llyfrgell yn ystyried ei hun fel corff gwirioneddol genedlaethol. Gan mai prin iawn yw presenoldeb y LlGW tu allan i Aberystwyth, a bod dim tebygrwydd bydd y Llyfrgell yn medru datblygu canolfannau sylweddol yn ardaloedd fwy poblog Cymru, mae’n hanfodol fod y Llyfrgell yn gorfod darganfod ffyrdd eraill o gyrraedd ei chynulleidfa ar draws Cymru. Mae’r nod o gyrraedd y rhelyw o bobl Cymru yn greiddiol i genhadaeth y Llyfrgell , ac mae angen strategaeth ddychmygus er mwyn cyfarfod a’r her o sicrhau bod adnoddau’r Llyfrgell ar gael ar draws Cymru a thu hwnt – mewn cydweithrediad gydag eraill, yn ddigidol, a thrwy gyfrwng archifau a llyfrgelloedd eraill Cymru, yn ogystal ag ysgolion a phrifysgolion.

Un enghraifft o botensial defnyddio technoleg digidol i gyrraedd cynulleidfa newydd yw presenoldeb ystafell fach yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, sydd wedi ‘i glustnodi fel ystafell ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol. Mae‘r ddau derfynell yno yn galluogi darllenwyr i gael mynediad i ddeunydd adnau ddigidol y Llyfrgell, sydd ond yn bosib am fod yr adnoddau wedi’u lleoli mewn ystafell sydd wedi glustnodi fel ystafell y Llyfrgell Genedlaethol. Ar sail yr un egwyddor cyfreithiol, gellid dyblygu’r model yma mewn llyfrgelloedd a archifdai eraill trwy Gymru, gan gynnwys y canolfannau ‘clip’ newydd, gan sicrhau bod mynediad i gynnwys electronig casgliadau’r Llyfrgell trwy’r wlad. Deallwn fod y Llyfrgell yn ystyried datblygu’r model yma o ganolnnau mynediad, a croesawn datblygiad o’r fath. Argymhellwn bod y Llyfrgell yn ystyried ymestyn y model yma mewn cydweithrediad gyda llyfrgelloedd addysg a phrif llyfrgelloedd lleol Cymru.

Gellid ystyried ehangu ar y cynlluniau ymestyn allan sydd yn eu lle i gyflwyno ‘canolfannau clip’ o gwmpas Cymru yn sgil prosiect Archif y BBC i gynnwys mynediad i ddeunyddiau ehangach gan y Llyfrgell. Ers mis Rhagfyr 2018 mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cynnal arddangosfeydd o rhai o’i chasgliadau mewn oriel yn Llyfrgell Glan-yr- Afon, Hwlffordd, fel rhan o bartneriaeth rhwng y Llyfrgell a Chyngor Sir Benfro. Mae’n cynnal rhaglen o arddangosfeydd thematig chwe mis o hyd, ac arddangosfa barhaol ar hanes, diwylliant a chwedlau Sir Benfro. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi darparu rhaglen o ddigwyddiadau a chyfres o weithdai addysgiadol yno i gyd-fynd â phob arddangosfa. Roedd y ddwy arddangosfa thematig gyntaf yng Nglan-yr-afon yn boblogaidd, gyda 4,628 o ymwelwyr i arddangosfa Kyffin Williams (Ebrill – Mehefin 2019) a 5,280 o ymwelwyr (Gorffennaf-Medi 2019) i arddangosfa Trysorau’r Llyfrgell.Dylid defnyddio’r bartneriaeth hon fel patrwm ar gyfer cynnal arddangosfeydd mewn mannau eraill o Gymru.

Mae’r Llyfrgell yn datblygu Oriel Gregynog fel gofod o’r safon priodol gyda safonau Cynllun Indemniti y Llywodraeth, a reolaeth amgylchyddol er mwyn arddangos lluniau, ond byddai’n ddymunol i ddatblygu arddangosfeydd ar draws Cymru trwy ddefnyddio cyfleusterau orielau priodol eraill. Ceir enghreifftiau da o ymgysylltu i ystyried eu hefelychu yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (a drefnodd arddangosfa deithiol sydd eisoes wedi ymweld â 60 canolfan ar draws y wlad dros gyfnod o dair blynedd), a gan y Llyfrgell Brydeinig (sydd wedi datblygu prosiectau ar y cyd gyda llyfrgelloedd lleol mewn 20 man yn Lloegr) dan gynllun y Living Knowledge Network, lle cydweithredir i gynnal dathliadau o awduron megis Jane Austen a Malorie Blackman er mwyn arddangos defnyddiau o’r Llyfrgell Brydeinig yn lleol.

Yn ystod cyfnod yr adolygiad, darganfuwyd bod y Llyfrgell yn rhan o sawl prosiect a chynllun hynod ddiddorol a gwerthfawr, ond nid oedd hynny wedi ei gyfathrebu yn allanol yn effeithiol.

Er enghraifft, ym Mhrosiect Unnos Gwerin BBC Radio Cymru, gosodwyd her i chwech o gerddorion i gyfansoddi trefniannau gwerin newydd, a hynny mewn llai na 12 awr. Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (CAGC), Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Radio Cymru. Ymwelodd y gyflwynwraig Lisa Gwilym a’r delynores Gwenan Gibbard, â’r Llyfrgell dros yr haf, ac wedi cael cyfle i weld archif Merêd (Meredydd Evans) a Phyllis Kinney, y sialens a wynebwyd oedd i greu a chyd-chwarae cerddoriaeth yn seiliedig ar yr archifau cerddorol. Cafodd y cerddorion brofiad arbennig yn darganfod cerddoriaeth newydd yn yr archif, ac aros dros nos yn yr adeilad er mwyn cydweithio ar y caneuon gyda cherddorion eraill.

Nodwyd bod y Llyfrgell yn pwyso’n drwm ar ei phresenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Credwn y dylai’r Llyfrgell ystyried yn ogystal ddatblygu perthynas gyda phartneriaid eraill, er enghraifft, Y Sioe Frenhinol a Llenyddiaeth Cymru, Gwyl y Gelli a digwyddiadau eraill, i ystyried potensial dathlu gwaith y Llyfrgell ar raddfa genedlaethol.

Mae LlGC’n darparu rhaglen o ddigwyddiadau llwyddiannus ar ei safle yn Aberystwyth. Tra’n cydnabod y costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fynd ag elfennau o’r rhaglen hon ar daith, credwn y dylid ymgeisio i ymestyn y rhaglen hon ar draws Cymru, gan gynllunio rhaglen ddifyr yn y Gymraeg a’r Saesneg, fydd yn apelio i gynulleidfaoedd amrywiol, ac mewn cydweithrediad gydag archifau a llyfrgelloedd lleol.

Cyflwynwyd nifer o syniadau yn ystod yr adolygiad, gan gynnwys mynd â ffilmiau sydd dan ofal y Llyfrgell ar daith, trefnu cyfres o arddangosfeydd symudol, sicrhau bod mwy o bobl yn gallu gweld y casgliadau (gan gynnwys casgliadau celf), a chynyddu proffil y Llyfrgell yn gyffredinol drwy weithredu cynllun ymestyn allan cyd-drefnus:

Tystiolaeth gan berson a gyfwelwyd wrth gynnal yr adolygiad

“Mae'n beth arbennig mynd â sdwff diwylliannol, sy'n lleol, allan i ardaloedd. i fod yn berthnasol i bawb yn Nghymru - mae angen bwrw'r muriau i lawr yn Aberystwyth.

Derbyniwn fod hyn yn digwydd i raddau yn barod ond teimlwyd gan nifer o’r sawl a gyfwelwyd bod archwaeth eang ar gyfer gweld trysorau’r Llyfrgell wedi cael eu arddangos yn y gymuned.

Dim ond dau swyddog addysg sydd gan y Llyfrgell ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth yn gofyn i’r Llyfrgell ddatblygu a chynnal rhaglenni dysgu ffurfiol yn unol â Chwricwlwm newydd Cymru, parhau i greu adnoddau dysgu ar gyfer Hwb, a denu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil a gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau’r sector addysg uwch. Mae’r disgwyl mawr yma ar y tîm yn afrealistig o ystyried lefel ei adnoddau. Dylid ystyried rhoi

mwy o flaenoriaeth i’r gwaith gydag ysgolion o fewn y Llyfrgell a chynnig am adnoddau ychwanegol o du Llywodraeth er mwyn cyflawni gofynion mor eang. Byddai modd rhoi mwy o bwyslais ar ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc. Credwn y gallai Tîm Addysg mwy gynnig modd arbennig i’r Llyfrgell ddod i adnabod anghenion a barn cwsmeriaid y dyfodol. Dylai’r Llyfrgell roi blaenoriaeth i ddarparu’r cyfle i bob un o blant Cymru gael cysylltiad gyda’r dreftadaeth sydd ar gael iddynt – boed hynny:

  • drwy ymweliad â’r Llyfrgell, neu arddangosfa deithiol i ganolfan gyfagos;
  • drwy ymweliad â’u hysgol;
  • drwy gydweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill sy’n dod i gysylltiad â nifer fawr o blant;
  • neu drwy ymgysylltu’n ddigidol â deunyddiau dysgu neu wrthrychau, gan gynnwys parhau i gyfrannu i HWB.

Mae gan Llyfrgell stori unigryw i'w hadrodd ynglŷn â phwysigrwydd ei chasgliadau a’i chyfraniad nodedig i ddiwylliant Cymru. Mae’n bwysig ei bod yn medru trosglwyddo ei neges ynglŷn â’i gwaith a’i ardrawiad i gynulleidfa dylanwadol gan gynnwys Aelodau Cynulliad, a Gweinidogion y Llywodraeth. Credwn bod cyfle i’r Llyfrgell, mewn cydweithrediad gyda thîm noddi y Llywodraeth, greu cyfleoedd i uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad i gael sesiynau ymwybyddiaeth ar waith y Llyfrgell. Soniwyd wrthym droeon yn ystod ein ymchwiliad am bwysigrwydd economaidd y Llyfrgell i economi. Nodwn nad oes adolygiad wedi’i chynnal yn y degawd diwethaf i arwyddocâd economaidd y Llyfrgell. Awgrymwn yn gryf dylid cynnal astudiaeth debyg er mwyn asesu cyfraniad economaidd presennol a chyfraniad posibl y Llyfrgell yn y dyfodol.