Llesiant Cymru, 2022: lles plant a phobl ifanc - Cymru iachach
Mae’r adroddiad atodol hwn wedi’i dynnu o’r dadansoddiad yn adroddiad Llesiant Cymru ynghylch llesiant plant. Nid yw’n cynnwys naratif na dadansoddiad ychwanegol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru iachach
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Babanod pwysau geni isel
Mae canran y babanod pwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%. Cofnodwyd y ffigurau isaf erioed yn 2014 a 2015, ac ers hynny gwelwyd cynnydd bychan, gyda'r nifer uchaf erioed yn 2020 (6.1%) cyn gostwng eto yn 2021 (5.8%).
Yn 2021, roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel (6.2%) o’i gymharu â babanod gwrywaidd (5.3%). Mae hyn yn weddol gyson â’r duedd dros dymor hirach.
Iechyd mamau
Yn 2021, cafodd 15% o fenywod beichiog eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae hyn yn cyflymu’r duedd ar i lawr ers i ddata gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016, ac mae’n ddau bwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod y ffaith bod bron yr holl ddata yn cael ei hunan-adrodd yn effeithio ar y gostyngiad mawr yn 2021, yn hytrach na bod carbon monocsid yn cael ei fonitro.
Roedd cyfran uwch o fenywod iau yn dweud eu bod yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu â menywod hŷn. Cofnodwyd bod traean o fenywod rhwng 16 a 19 oed yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu ag un o bob deg o fenywod 30 oed neu hŷn. Mae cyfraddau ysmygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ar gyfer pob grŵp oedran, (ac eithrio’r rhai o dan 16 oed, sy’n ddarostyngedig i anwadalrwydd oherwydd y nifer isel o fenywod yn y grŵp hwn).
Gwelwyd manteision iechyd i fabanod a’u mamau yn sgil bwydo ar y fron. Roedd y data blynyddol diweddaraf ynghylch canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg geni tua 64% yn 2021. Mae hyn 3 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Mae babanod mamau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na rhai mamau iau.
Roedd beichiogi yn yr arddegau wedi cyrraedd y lefel isaf erioed yn 2020, gyda 66.6 beichiogiad am bob 1,000 o fenywod. Mae Cymru hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol ers 2009, i lawr 11% o 74.7 beichiogiad am bob 1,000 o fenywod.
Ymddygiadau ffordd iach o fyw
Nod y garreg filltir genedlaethol ar ymddygiad iach plant yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050.
Dangosodd arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod canran y plant 11 i 16 oed sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn dal yn 88% yn 2019 ac mae wedi aros yn sefydlog ers dechrau casglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14.
Mae ymddygiadau fordd iach o fyw yn cynnwys peidio ag ysmygu, peidio ag yfed alcohol neu beidio â’i yfed yn aml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos.
Yn 2019, roedd 95% o’r rhai rhwng 11 i 16 oed yn dweud nad oeddent yn ysmygu a dywedodd 81% nad oeddent yn yfed alcohol neu nad oeddent yn ei yfed yn aml. Dywedodd 48% eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a nododd 18% eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy, saith diwrnod yr wythnos
Yn 2019, gostyngodd canran y plant â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd ac i raddau llai yn ôl golud teuluol is. Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaethau mawr rhwng menywod a bechgyn.
Roedd y lefelau gweithgarwch corfforol yr adroddwyd amdanynt yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Mae bechgyn a phlant sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy egnïol bob dydd.
Mae canran y plant sy'n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd hefyd yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, gyda menywod a phlant sy’n dod o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy tebygol o fwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.
Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt yn ysmygu yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd menywod a phlant o gefndir o olud teuluol uchel yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ysmygu.
Gostyngodd canran y plant sy'n dweud nad ydynt byth neu’n anaml yn yfed alcohol yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng bechgyn a menywod. Fodd bynnag, roedd y rhai o gefndir o olud teuluol isel yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent byth neu’n anaml yn yfed alcohol (o’i gymharu â golud teuluol uchel).
Yn 2019, roedd tua thraean o blant ysgol uwchradd yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol, gyda chyfran ychydig yn uwch o fechgyn na menywod yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol.
Mae rhaglen mesur plant 2018-19 yn dangos bod gan ychydig dros saith o bob deg plentyn yng Nghymru bwysau iach a bod plant oed derbyn yn llawer mwy tebygol na chyfartaledd Cymru o fod yn ordew os ydynt yn byw mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd. Mae bechgyn yn fwy tebygol o fod yn ordew neu dros bwysau yn yr ysgol, gyda’r bwlch yn ehangu yn ystod yr ysgol uwchradd.
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Mae canlyniadau astudiaeth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) Cymru yn dangos wrth gymharu pobl a ddioddefodd 4 neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â'r rhai na ddioddefodd ddim. Roedd y rhai a ddioddefodd yn fwy tebygol o brofi yfed risg uchel pan oedd yn oedolyn, o fod yn ysmygwr, i fod yn rhan o drais yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn fwy tebygol o fod wedi cael eu trin am salwch meddwl. Roedd cael rhai adnoddau gwytnwch yn fwy na haneru risgiau o salwch meddwl cyfredol yn y rhai sydd â phedwar neu fwy o ACE.
Iechyd meddwl a lles
Mae data dangosyddion cenedlaethol ar gyfer plant rhwng 10 a 15 oed a gasglwyd cyn y pandemig (blwyddyn academaidd 2019/20) yn dangos mai ychydig o newid sydd wedi bod yn sgôr gymedrig yr Holiadur Cryfderau ac Anawsterau ers blwyddyn academaidd 2013/14.
Fodd bynnag, mae data mwy diweddar o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sy’n cymharu canfyddiadau o’r cyfnod cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) wedi darganfod gostyngiad yn y lles meddyliol cyfartalog i bobl ifanc 11 i 16 oed, gan defnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh.
Roedd sgôr gyfartalog SWEMWBS ar gyfer plant rhwng 11 i 16 oed ychydig yn is yn 2021 (23.0) o’i gymharu â 2019 (23.7). Er ei fod yn ymddangos fel gostyngiad bach, o ystyried y sampl fawr mae’n ddirywiad arwyddocaol yn ystadegol mewn llesiant meddyliol.Mae tueddiadau yn ôl ethnigrwydd yn dangos gostyngiad cymharol llai mewn llesiant meddyliol rhwng 2019 a 2021 ymysg myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o’i gymharu â myfyrwyr Gwyn. Mae data o flwyddyn academaidd 2019/20 yn dangos bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus, ar gyfartaledd, yn cynyddu gydag oedran (o flwyddyn 7 i flwyddyn 10) a’i fod yn uwch ymysg merched na bechgyn.
Dywedodd cyfran gymharol fach o’r glasoed eu bod wedi bod yn rhan o seiberfwlio (tua un o bob deg). Fodd bynnag, dywedodd cyfran fwy eu bod wedi profi seiberfwlio (bron i un o bob pump). Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng y profiad o seiberfwlio yn ôl oedran, ond roedd merched yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi dweud eu bod yn cael eu seiberfwlio.