Llesiant Cymru, 2022 - Cymru lewyrchus
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod i Gymru lewyrchus
Awduron: Jonathan Price a Luned Jones
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae effeithiau’r pandemig, ac yn fwy diweddar, y rhyfel yn Wcráin, wedi bod yn flaenllaw mewn ffactorau eraill sy’n effeithio ar ganlyniadau economaidd, gan gynnwys y newid i berthynas fasnachu newydd â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae llawer o'r dangosyddion cenedlaethol sydd wedi'u cynnwys yn y bennod hon yn ymwneud â blynyddoedd cynharach ac nid ydynt eto'n adlewyrchu effeithiau mwy diweddar y ffactorau hyn. Fodd bynnag, mae ffynonellau data mwy amserol eraill yn dangos mai un o brif effeithiau’r pandemig a’r rhyfel oedd cynnydd sylweddol mewn chwyddiant, gyda chanlyniadau andwyol i safonau byw. Mae hyn wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel sy’n gwario mwy na’r cyfartaledd ar fwyd ac ynni.
Dengys y data diweddaraf ar gyfer y DU bod cyflogau gwirioneddol yn gostwng (gostyngodd tâl rheolaidd gweithwyr 2.8% dros y flwyddyn ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant). Mae ystadegau arbrofol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos bod grwpiau incwm is wedi profi cyfraddau chwyddiant uwch na’r cyfartaledd yn ddiweddar.
Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae esblygiad yr “argyfwng costau byw” yn ansicr iawn, gan ddibynnu’n drwm ar amgylchiadau allanol, ac yn enwedig y gwrthdaro yn Wcráin. Ar ben hynny, gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi rhagor o fesurau ar waith sy’n lliniaru rhai o’r effeithiau.
Mae gwaith ymchwil a dadansoddi diweddar, gan gynnwys gan Fanc Lloegr, wedi dangos bod modd gweld effeithiau negyddol ar weithgarwch economaidd yn sgil y newid i gysylltiadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd yn barod, er mai dros amser y daw llawer o’r canlyniadau yn amlwg.
Mae perfformiad economaidd sylfaenol Cymru yn parhau i fod yn wannach na’r Deyrnas Unedig drwyddi draw o ran cynnyrch economaidd (gwerth ychwanegol gros) ac incwm aelwydydd (incwm gwario gros aelwydydd ac incwm canolrifol aelwydydd), ond mae’n eithaf tebyg i’r rhannau hynny o’r Deyrnas Unedig sydd â nodweddion a phriodweddau tebyg.
Mae data’r farchnad lafur yn anwadal dros y tymor byr ac mae’n bwysig peidio â gor-ddehongli newidiadau diweddar, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig. Gyda’r rhybudd hwn, mae data’r farchnad lafur yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio ar berfformiad economaidd Cymru mewn ffordd sy’n debyg yn fras i’r Deyrnas Unedig (ac eithrio Llundain).
Er bod perfformiad Cymru o ran cyflogau a chynhyrchiant yn dal yn llai cadarnhaol na pherfformiad y farchnad lafur, mae data’n dangos gwelliannau cymedrol yng nghynhyrchiant cymharol Cymru dros y degawd diwethaf, gan wrthdroi’r dirywiad cyn dirwasgiad 2008.
Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau’r pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Gan ddibynnu ar effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sydd ar waith, gallai’r effeithiau niweidiol ddylanwadu ar y farchnad lafur dros y blynyddoedd neu hyd yn oed y degawdau nesaf.
Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol newydd ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi'i sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.
Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021 ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Roedd 57% o weithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2021, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn ychydig yn uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf.
Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed).
Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er y gwelwyd rhai newidiadau i dueddiadau tymor hwy yn 2021. Mae cyfran y bobl sydd wedi cymhwyso ar lefelau uwch yn dal i wella, ond roedd cynnydd hefyd yng nghyfran yr oedolion sydd heb unrhyw gymwysterau.
Mae deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fod yn waeth na grwpiau eraill. Mae merched yn dal i berfformio’n well na bechgyn.
Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?
Mae’r cynnydd tuag at y nod wedi bod yn gymysg, gyda gwelliannau mawr ym mherfformiad cyffredinol y farchnad lafur ond llai o gynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi, cynhyrchiant a thâl isel, a lefelau incwm isel. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran datgarboneiddio, ond bydd angen newid yn gyflymach yn y dyfodol er mwyn cyrraedd targedau.
Mae’r pandemig a’r rhyfel yn Wcráin wedi cael effaith amlwg ar y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hwy yn glir. Am y rheswm hwn, mae’r casgliadau canlynol yn cael eu llunio’n bennaf ar sail tystiolaeth cyn y pandemig.
Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf cynhyrchiant gwan. Dros y tymor hwy, ers 1999, mae Cymru wedi cadw i fyny’n fras â’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, ond mae ei pherfformiad yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â pherfformiad llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na’r gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, gyda gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd a chyda’r bwlch lleiaf pan asesir ar gyfer y cartref canolrifol.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Mae’r bylchau hanesyddol mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi lleihau, gyda Chymru’n perfformio’n well na rhai rhanbarthau yn Lloegr. Mae hyn yn newid sylweddol ers y cyfnod cyn datganoli yn y 1980au a’r 1990au.
Mae gan Gymru fwy o bobl mewn gwaith ar gyflogau isel na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ar agweddau eraill ar ansawdd gwaith yn awgrymu darlun cymysg yng Nghymru.
Mae proffil cymwysterau poblogaeth oedran gweithio Cymru wedi bod yn gwella dros amser. Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3. Mae hyn yn gynnydd o ychydig dros hanner yn 2011. Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2021, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau.
Cododd cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.
Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd a datblygu economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol mewn rhai sectorau.
Mae teithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio.
Mae’n ymddangos bod y pandemig wedi cyflymu’r duedd i ymgymryd â gweithgarwch economaidd o bell, gan gynnwys gweithio gartref. Mae’r canlyniadau tymor hwy yn ansicr. Mae’n bosibl y bydd mwy o weithio gartref a manwerthu ar y rhyngrwyd yn cynyddu’r heriau sy’n wynebu rhai canolfannau trefol. Mae tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig gyfan yn dangos y gallai’r cyfleoedd ychwanegol i weithio gartref fod wedi annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur.
Mae data’r Deyrnas Unedig yn dangos bod traffig ffyrdd wedi adfer i lefelau tebyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig (ond gyda gostyngiad bach mewn teithiau ceir sydd wedi’i wrthbwyso gan gynnydd mewn traffig nwyddau). Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gyhoeddus (trên a bws) yn parhau ar lefel sy’n is o lawer na’r hyn a welwyd cyn y pandemig.
Perfformiad economaidd
Fel sy’n wir ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae’r twf yn yr economi ac mewn incwm gwirioneddol wedi bod yn araf ers dirwasgiad 2008, gan adlewyrchu twf gwael mewn cynhyrchiant.
Mae’r rhagolygon ar unwaith hefyd yn ymddangos yn wael, gyda chwyddiant uchel yn lleihau incwm gwirioneddol a rhagolygon o arafu economaidd, a dirwasgiad o bosibl.
Dros y tymor hwy, ers 1999, a chymryd dangosyddion economaidd drwyddynt draw, mae Cymru wedi cadw’n weddol gyson â’r Deyrnas Unedig. Er bod y perfformiad economaidd yn parhau i fod yn wan o’i gymharu â llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae data cynhyrchiant dros y degawd diwethaf yn rhoi awgrym o obaith. Fodd bynnag, mae’r bwlch gyda’r Deyrnas Unedig gyfan yn dal yn fawr, ac nid yw’r Deyrnas Unedig ei hun yn perfformio’n gryf o’i chymharu â gladwriaethau eraill yn rhyngwladol.
Mae gwerth ychwanegol gros (GVA) yn cynrychioli gwerth yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Dyma ffynhonnell yr incwm gwirioneddol y mae pobl yn ei ennill a’r sylfaen y gellir codi trethi arni i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Er bod gwerth ychwanegol gros y pen poblogaeth Cymru wedi tyfu’n weddol debyg i’r gyfradd ledled y Deyrnas Unedig ers 1999, mae’n dal yn is na bron pob un o wledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.
Gan edrych ar y cynnydd yn fwy diweddar, disgynnodd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn gyflymach yn 2020 nag yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw. Gostyngodd 3.8%, o'i gymharu â 3.4% ar gyfer y Deyrnas Unedig (heb gyfrif am chwyddiant).
Mae amcangyfrifon cynnyrch domestig gros rhanbarthol arbrofol (GDP) yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn awgrymu twf o dros 8% ar gyfer chwarter olaf 2021 o'i gymharu â chwarter olaf y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 1.6% o'i gymharu â thrydydd chwarter 2021.
Nid yw data economaidd yn caniatáu asesiad diffiniol ar hyn o bryd o berfformiad economaidd cymharol Cymru yn ystod y pandemig. Yn gyffredinol, mae graddfa gymharol yr effaith yn edrych yn debyg yng Nghymru i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw. Mae perfformiad ar werth ychwanegol gros y pen yn adlewyrchiad yn bennaf o lefelau cynhyrchiant cymharol isel. Mae cynhyrchiant, a fesurir fel gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, yn parhau i fod yn is yng Nghymru na bron pob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Yn 2020 roedd yn 84.3% o ffigur y Deyrnas Unedig, cynnydd o 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
Mae data dros y degawd diwethaf yn cadarnhau gwelliannau cymedrol mewn cynhyrchiant cymharol (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithir), gan efallai wrthdroi tuedd o waethygu cyn y dirwasgiad.
Incwm aelwydydd
Mae incwm aelwydydd yn ddangosydd gwell o ffyniant a llesiant materol pobl na gwerth ychwanegol gros. Mae incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru yn llawer agosach at gyfartaledd y Deyrnas Unedig na gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen, ond mae gwahaniaethau yn dibynnu ar y mesur a ddefnyddiwyd, gyda’r bwlch lleiaf wrth ystyried yr incwm canolrifol. Dim ond hyd at 2019 y mae data ar gael ar hyn o bryd, felly mae’r adran hon yn canolbwyntio ar dueddiadau tymor hwy.
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar incwm yn defnyddio’r mesur incwm gwario gros aelwydydd (GDHI). O ran y mesur hwn, mae Cymru, yn ôl y data diweddaraf (2019), ar 81% o ffigur y Deyrnas Unedig, ar ôl gostwng o 88% pan oedd y ffigur uchaf yn 2003. Mae’r gostyngiad cymharol hwn wedi’i ysgogi’n rhannol gan gynnydd mawr yn incwm aelwydydd yn Llundain, sydd wedi helpu i godi cyfartaledd y Deyrnas Unedig.
Er mai Cymru sydd â’r ail incwm gwario gros aelwydydd isaf y pen o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig, mae’n cymharu’n fras ag ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â nodweddion tebyg.
Y farchnad lafur
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae effeithiau’r pandemig, a’r rhyfel yn Wcráin yn fwy diweddar, wedi ysgogi newidiadau yn y farchnad lafur yng Nghymru. Wrth edrych ar y tymor hwy, mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i berfformio’n gryf mewn termau cymharol, gyda’r bwlch rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfyng o’i gymharu â’r sefyllfa hanesyddol.
Yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yw’r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl mwy’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth, a dyma’r ffynhonnell ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig. Gan fod y rhan fwyaf o ddata’r farchnad lafur yn seiliedig ar arolwg ac yn anwadal, ni ddylid gor-ddehongli newidiadau tymor byr.
Yn gyffredinol, yn ôl yr LFS, dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r gyfradd anghyflogaeth wedi gostwng, gan ddangos rhywfaint o adferiad o effaith y pandemig. Fodd bynnag, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi gostwng ac mae anweithgarwch economaidd wedi cynyddu hefyd. Mae’r bylchau mewn cyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn dal yn gyfyng mewn cyd-destun hanesyddol, gyda Chymru’n perfformio’n well yn gyffredinol, na nifer o ranbarthau’r Deyrnas Unedig.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyflogaeth (sy'n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth) yw dileu’r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 73.1% yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2021, tra bo cyfradd y Deyrnas Unedig yn 74.7%. Ers 2001, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu 6.0 pwynt canran yng Nghymru a 2.4 pwynt canran yn y Deyrnas Unedig.
Mae COVID-19 wedi cael effeithiau niweidiol ar y farchnad lafur, ac mae hynny wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl mewn swyddi sy’n talu’n wael, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc, pobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywyd gwaith, a phobl mewn grwpiau amrywiol a oedd eisoes yn profi anghydraddoldebau yn y farchnad lafur. Mae dadansoddiad pellach o’r effaith ar anghydraddoldebau ar gael yn y bennod Cymru sy'n Fwy Cyfartal.
Mae data o ffynonellau gweinyddol mwy amserol yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn trywydd y Deyrnas Unedig yn gyffredinol ar y cyfan (ac eithrio Llundain) yn ystod y pandemig. Mae data o Wybodaeth Amser Real y Cynllun Talu Wrth Ennill yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ddiwedd 2020 ac mae nawr yn uwch na’r lefel cyn y pandemig. Nid yw’r set ddata hon yn cynnwys y rhai sy’n hunangyflogedig.
Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad llafur
Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol newydd ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.
Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020, gyda’r cyntaf yn cynnwys unrhyw gyfnod yn ystod y pandemig, yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi'i sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith hirdymor y pandemig ar y duedd hon.
Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu gostyngiad yn y grŵp oedran 16 i 18 ac 19 i 24 rhwng 2017 a 2019. Yna, cynyddodd y gyfran ar gyfer y ddau grŵp yn 2020. Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, roedd hyn yn dilyn cyfnod lle’r oedd y gyfran wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 89 i 90% rhwng 2012 a 2018.
Roedd y grŵp oedran 19 i 24 yn teimlo effaith dirwasgiad 2008 yn fwy amlwg. Ers hynny a hyd at 2017, mae’r gyfran mewn addysg neu’r farchnad lafur wedi cynyddu’n raddol. Ar ddiwedd 2020, y cynnydd cyntaf ers 2017, roedd y gyfradd yn 84.8%, tua 8 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.
Ar gyfer y grŵp oedran 16 i 24 yn gyffredinol, roedd 86% mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2020.
Mae ffigurau mwy diweddar am bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gael o ffynhonnell eilaidd, llai cadarn. Mae’r rhain yn awgrymu gostyngiad mewn cyfranogiad yn 2021, yn enwedig ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18.
Gwaith Teg ac Enillion
Cyflwynwyd dangosydd cenedlaethol newydd ar gyfran y gweithwyr y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio ym mis Rhagfyr 2021, ar sail data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Roedd tua 57% o swyddi gweithwyr yn dod o dan drefniadau cydfargeinio yn 2021, lle mae cyflog ac amodau’n cael eu negodi rhwng cyflogwr ac undeb llafur. Mae hyn yn uwch nag yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn uwch o lawer nag ar gyfer pob un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhanbarthau Lloegr, ac mae’n adlewyrchu’r gyfran gymharol uwch o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ym maes gweithgynhyrchu.
Cafodd un o’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer gwaith teg ac enillion ei ddiwygio ym mis Rhagfyr 2021 ac mae bellach yn ystyried canran y bobl sy’n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae’r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo gan y Living Wage Foundation sy'n pennu’r fethodoleg. Ei nod yw adlewyrchu costau byw.
Yn 2021, roedd 70% o’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn chwilio am waith parhaol) yn ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol, yr un gyfran ag yn 2020, ac yn uwch nag yn y chwe blynedd flaenorol. Mae hyn yn seiliedig ar y Cyflog Byw gwirioneddol ar gyfer 2021/22 fel y'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.
Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod canran y bobl sy’n fodlon ar eu swydd yr un fath fwy neu lai, sef 82% yn 2019-20. Mae bodlonrwydd mewn swydd yn tueddu i gynyddu gydag oedran.
Mae carreg filltir genedlaethol newydd wedi cael ei gosod er mwyn dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Dros y tymor hir, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (ar sail canolrif enillion amser llawn yr awr a heb gynnwys goramser) wedi lleihau. Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed). Roedd y bwlch wedi ehangu yn y Deyrnas Unedig i 7.9%.
Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer yr holl weithwyr yn parhau i fod yn llawer iawn uwch, sef 12.3%. Mae hyn oherwydd bod menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr.
Nid yw’r bylchau hyn yn ystyried gwahaniaethau mewn lefelau addysg a phrofiad, sy’n amrywio ar draws y rhywiau ac yn effeithio ar lefelau enillion.
Tlodi ac amddifadedd
Roedd COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data 2020-21 ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu’r Adran Gwaith a Phensiynau. Oherwydd hyn, mewn perthynas â llawer o waith dadansoddi amcangyfrifon tlodi incwm ac amddifadedd materol (gan gynnwys i Gymru) nid oes modd gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau. Felly, mae’r ystadegau tlodi ac amddifadedd materol diweddaraf ar gyfer 2020-21 yn ymwneud â’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn unig, ac yn destun mwy o ansicrwydd nag arfer.
Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif). Roedd gostyngiad yn incwm canolrifol aelwydydd y Deyrnas Unedig rhwng 2019-20 a 2020-21, ac roedd newidiadau yn incwm aelwydydd y Deyrnas Unedig (cyn costau tai) yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm.
- Roedd incwm aelwydydd unigolion yn chwarter isaf y dosbarthiad incwm wedi cofnodi twf incwm cadarnhaol mewn termau real.
- Roedd y rhai rhwng y 30fed a’r 80fed canradd wedi cofnodi gostyngiad mewn incwm gwirioneddol.
- Roedd y darlun yn fwy cymysg ar gyfer y cwintel incwm uchaf.
Mae canran unigolion y Deyrnas Unedig gydag incwm cymharol isel wedi disgyn cyn, ac ar ôl, costau tai yn 2020-21. Roedd y patrwm yn debyg i’r gwahanol grwpiau oedran o blant, oedolion o oedran gweithio, a phensiynwyr.
Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw a diffinnir bod person yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw ef neu hi yn gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rhai mae cyfanswm incwm yr aelwyd yn llai na 70% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig, cyn talu costau tai. Ledled y Deyrnas Unedig, yn ystod y flwyddyn hyd at 2020-21, cofnodwyd gostyngiad mewn amddifadedd materol ar gyfer pensiynwyr, ac mewn mesurau incwm isel ac amddifadedd materol cyfun ar gyfer plant. Fodd bynnag, roedd cyflwyno cyfyngiadau pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol, sy’n golygu nad oes modd cymharu’r lefelau a gofnodwyd yn uniongyrchol â’r blynyddoedd blaenorol.
Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 13%.
Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o incwm ar gostau tai (yn seiliedig ar ddata o'r Arolygon Adnoddau Teuluol) at y set o ddangosyddion cenedlaethol fis Rhagfyr 2021. Ar draws pob deiliadaeth, ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf y mae data ar gael ar eu cyfer (2017-2020) mae 19.4% o gartrefi yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai. Mae'r ganran hon wedi bod yn weddol gyson dros y cyfnod rhwng 2011-12 a 2019-20, ond mae'n amrywio yn ôl deiliadaeth tai.
Cymwysterau
Mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi bod yn gwella dros amser, er y gwelwyd rhai newidiadau i dueddiadau tymor hwy yn 2021.
Sgiliau a chymwysterau yw'r un dylanwad mwyaf ar siawns pobl o fod mewn gwaith ac ar eu hincwm.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cynnydd o hyd yn y gyfran o bobl sy’n meddu ar gymwysterau lefelau uwch. Yn 2021, roedd 41.6% o oedolion o oedran gweithio yn gymwys i lefel addysg uwch o leiaf (a elwir yn lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol), bron i 14 pwynt canran yn uwch na’r adeg y cafodd yr ystadegau eu cynhyrchu gyntaf ar y diffiniad o oedolion o oedran gweithio rhwng 18 a 64 oed yn 2008.
Un o’r cerrig milltir cenedlaethol ar gymwysterau yw y bydd 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i lefel 3 neu uwch erbyn 2050. Yn 2021, roedd 62.5% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys i drothwy lefel 3. Mae hyn yn gynnydd o 51.3% yn 2011.
Dros y degawd diwethaf, bu gostyngiadau mawr yng nghyfran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau, er bod y gyfran hon wedi cynyddu o 7.4% yn 2020 i 8.1% yn 2021. Roedd cyfran yr oedolion o oedran gweithio a oedd wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf (sy’n cyfateb i 5+ TGAU gradd A* i C) hefyd wedi gostwng yn 2021 i 80.1%, i lawr o 80.9% yn 2020.
Mae oedolion hŷn yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau nag oedolion iau.
Mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymwysterau ym mhob grŵp oedran bron. Mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau lefel 4 neu uwch.
Y garreg filltir genedlaethol arall ar gymwysterau yw y bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050. Yn 2021, roedd gan dri o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru 5% neu lai o oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau; Ceredigion (2.8%), Sir Fynwy (3.0%), a Bro Morgannwg (3.1%). Roedd y gyfran uchaf o oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau ym Merthyr Tudful (20.1%) a Blaenau Gwent (15.3%).
Cyrhaeddiad mewn ysgolion
Cododd cyrhaeddiad mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, er bod deilliannau plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal yn waeth.
Yn y flwyddyn academaidd 2021/22 roedd 54% o ddisgyblion 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad mewn mathemateg a fyddai'n gyson â'u hoedran yn ôl fframwaith y Cyfnod Sylfaen neu’n well, gydag 87% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg roedd 53% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam datblygiad a fyddai'n gyson â'u hoedran neu'n well, gydag 85% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Mae'r ffigyrau yma'n is nag yn 2019.
Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Gymraeg, lle’r oedd 27% o blant ar gam a oedd yn gyson â’u datblygiad. Mae hyn oherwydd bod plant o deuluoedd di-Gymraeg wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ar gyfer TGAU mae bwlch o hyd yng nghanlyniadau addysgol plant yn yr ysgol sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim. Mae'r bwlch yn y cofrestriadau gafodd graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y chwe blynedd diwethaf, gyda'r bwlch yn y cofrestriadau yn ennill graddau A* i C yn gymharol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos yng nghamau cynnar ysgol, bod y bwlch yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.
Yn 2020/21, ehangodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (FSM) a disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o ran graddau TGAU A* i A i 21.3 pwynt canran, o 17.8 pwynt canran yn 2019/20. Cyn hynny bu’r bwlch yn gymharol sefydlog ar tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn lledu yn ystod y 2 flynedd ddiweddaraf.
Yn 2020/21, ehangodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (FSM) a disgyblion sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim o ran graddau A* i C i 27.3 pwynt canran, gan ddychwelyd i fwlch tebyg yn ei faint i'r blynyddoedd a arweiniodd at y pandemig wedi gostyngiad i 24.7 pwynt canran yn 2019/20.
Ar ôl canslo arholiadau cyhoeddus yn ystod haf 2020 a 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi cael eu dyfarnu ar ôl arholiad eu disodli gan radd a aseswyd neu a bennwyd gan ganolfan.
Allyriadau nwyon tŷ gwydr o fusnesau
Mae rheoli’r rhyngweithio rhwng twf economaidd ac economi arloesol, carbon isel yn gymhleth ac yn arwain at heriau, ond mae arwyddion cadarnhaol.
At ei gilydd, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 39.2% ers y flwyddyn sylfaen (1990). Roedd yn cyfrif am dros chwarter o allyriadau Cymru (26%). Mae allyriadau o’r sector hwn wedi gostwng yn sylweddol ers 1990 (gostyngiad o 32%).
Yn hanesyddol, y sector busnes fu’r ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr (ar ôl y sector cyflenwi ynni). Fodd bynnag, yn 2020 y sector busnes oedd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau yn dilyn gostyngiad mewn allyriadau o’r sector cyflenwi ynni. Roedd wedi ei ysgogi gan ostyngiad mewn hylosgi nwy naturiol (yn bennaf yn sgil gostyngiad mewn allbwn o orsaf bŵer Penfro), llai o allyriadau o brosesau puro petrolewm a chau gorsaf bŵer Aberddawan yn 2020 sy’n nodi diwedd cynhyrchu ynni mewn gorsafoedd pŵer glo yng Nghymru.
Moddau teithio
Mae rhai dulliau o deithio’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau carbon, ond nid oes tystiolaeth eto o symud oddi wrth geir fel y prif ddull o deithio ar y ffyrdd.
Mae teithio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae data’r Deyrnas Unedig yn awgrymu bod hyn wedi effeithio ar bob dull ar wahân i gerdded a beicio. Roedd lefel y traffig ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng 23.4% yn 2020. Roedd nifer y teithiau a wnaed ar wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng 71.4%, a chyfanswm y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol yn 2020-21 wedi gostwng 36.0% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae data mwy amserol y Deyrnas Unedig yn dangos bod traffig ffyrdd wedi adfer i lefelau tebyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig (ond gyda gostyngiad bach mewn teithiau ceir sydd wedi’i wrthbwyso gan gynnydd mewn traffig nwyddau). Fodd bynnag, mae trafnidiaeth gyhoeddus (trên a bws) yn parhau ar lefel sy’n is o lawer na’r hyn a welwyd cyn y pandemig.
Cafodd dangosydd cenedlaethol ar ganran y teithiau sy'n cael ei gwneud ar droed, ar gefn beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ei ychwanegu at y set o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021. Daw’r data hwn o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y tymor byr, gellir ystyried data o’r Arolwg o’r Llafurlu ynghylch dulliau teithio arferol i’r gwaith.
Fel yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, trafnidiaeth ffyrdd breifat yw’r brif ffordd o deithio o hyd, ac mae’n cyfrif am y mwyafrif llethol o deithiau cymudo yng Nghymru. Yn 2020, defnyddiodd 83% o gymudwyr yng Nghymru gar fel eu dull arferol o deithio. Mae hyn fymryn yn uwch nag yn y 5 mlynedd flaenorol, ond mae’n debygol ei fod yn sgil COVID-19.
Yn Arolwg Cenedlaethol (arolwg ar-lein) 2020-21, gofynnwyd i bobl am ymddygiad amgylcheddol fel rhan o fywyd bob dydd. Roedd 30% o bobl yn osgoi teithio mewn awyren neu'n teithio mewn awyren yn llai aml; ac roedd 39% yn osgoi teithio mewn car neu’n teithio mewn car yn llai aml. O’r rhai a oedd yn teithio mewn car yn llai aml, dywedodd chwarter ohonynt mai pryderon am lygredd/cyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd oedd y prif reswm am hynny; a dywedodd chwarter ohonynt mai cadw’n heini oedd y prif reswm. Y gost oedd y prif reswm i 18% o bobl. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth eto o ymddygiad o’r fath sy’n arwain at newid amlwg yn y patrymau teithio cyffredinol.
Bu cynnydd sylweddol yn nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd newydd gael eu cofrestru yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r nifer wedi cynyddu bron bum gwaith rhwng 2019 a 2021, i dros 6,000. Ar ddiwedd 2021, roedd dros 14,000 o gerbydau allyriadau isel iawn wedi’u trwyddedu yng Nghymru.
Dros amser, gallai dibynnu llai ar gerbydau petrol a disel a defnyddio mwy o gerbydau allyriadau isel iawn gyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau.
Darllen pellach
Roedd fersiynau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o Tlodi incwm cymharol.
Mae Trosolwg o’r farchnad lafur yn rhoi diweddariad ar y farchnad lafur yng Nghymru bob mis.
Mae dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau yn dangos tueddiadau yn y canlyniadau economaidd allweddol i Gymru, o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.
Mae Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Yr Adran Drafnidiaeth) yn gasgliad blynyddol o ystadegau trafnidiaeth, gan gynnwys data ar gyfer Cymru ar nifer o bynciau.
Ffynonellau data
Perfformiad economaidd
Incwm aelwydydd
Incwm gwario gros aelwydydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Y farchnad lafur
Ystadegau’r farchnad lafur ranbarthol yn y DU: bwletinau ystadegol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Cyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur
Gwaith teg ac enillion
Cyfrifo’r Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)
Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)
Tlodi
Tlodi Incwm Cymharol (Adran Gwaith a Phensiynau)
Amddifadedd materol (Adran Gwaith a Phensiynau)
Tlodi parhaus, Deall cymdeithas (Adran Gwaith a Phensiynau)
Cymwysterau
Lefelau’r cymhwyster uchaf gan oedolion o oedran gweithio yn ôl blwyddyn a chymhwyster
Addysg
Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020
Busnesau
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn ôl Blwyddyn (StatsCymru)
Teithio
Ystadegau Trafnidiaeth: Prydain Fawr 2021 (Yr Adran Drafnidiaeth)
Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus, Ebrill 2020 i Fawrth 2021
Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (Yr Adran Drafnidiaeth)