Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ei rhoi ar waith ar 2 Mawrth 2020.

O 1 Hydref bydd yr isafbris am alcohol yn cynyddu o 50c yr uned i 65c.

Mae’r gyfraith hon yn berthnasol i bob busnes, sefydliad ac unigolyn y mae'n ofynnol iddynt ddal trwydded am alcohol.

Bydd unrhyw fanwerthwr sy’n gwerthu neu'n cyflenwi alcohol am bris is na’r isafbris, neu’n awdurdodi hynny, yn torri’r gyfraith a gallent gael eu dirwyo.  

Rydym wedi llunio canllawiau llawn ar sut i gyfrifo, gweithredu a gorfodi'r gyfraith ar Isafbris uned am alcohol.

Mae posteri, taflenni ac ymylon silffoedd argraffadwy ar gael i fanwerthwyr eu lawrlwytho.

Beth yw'r isafbris uned?

Rydym wedi ymgynghori ar barhau a chynyddu’r isafbris a chafodd hynny ei gymeradwyo gan y Senedd yn Chwefror 2026.

Sut i gyfrifo’r isafbris ar gyfer diod alcoholaidd

Mae'r Ddeddf yn cynnwys fformiwla y mae’n rhaid ei dilyn i gyfrifo'r isafbris perthnasol. Mae’r fformiwla yn cynnwys yr isafbris uned (MUP), sef 65c, canran cryfder yr alcohol, a’i gyfaint.
 
MUP (£0.65) x Cryfder (%) x Cyfaint (litrau) = yr isafbris y gellir ei werthu amdano.

Er engrhaifft, yr isafbris ar gyfer potel 1 litr fodca gyda gryfder ABV 40% fyddai:

  • 65c (MUP) x 40 (Cryfder) x 1 (Cyfaint): 0.65 X 40 X 1 = £18.20

Yr isafbris am y botel hon o fodca fyddai £18.20