Gwneud cwyn am Lywodraeth Cymru: canllaw syml
Canllawiau ar wneud cwyn neu roi adborth i Lywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eich barn a'n nod yw gwneud gwelliannau yn seiliedig ar y wybodaeth a'r adborth a gawn.
Rydym yn croesawu adborth cadarnhaol a negyddol.
Pryd y gallwch chi ddefnyddio’r broses gwynion
Mae'r polisi cwynion yn caniatáu i ni ystyried cwynion am ein gweithredoedd, gan gynnwys, er enghraifft:
- methu â darparu gwasanaeth yr oeddem yn bwriadu ei ddarparu neu y mae'n rhaid i ni ei ddarparu yn ôl y gyfraith;
- methu â darparu gwasanaeth sy’n cyrraedd ein safonau;
- rhoi cyngor sy'n gamarweiniol neu'n annigonol
Ni fyddwn yn ystyried:
- cwynion am benderfyniad ddim ond am nad ydych yn cytuno ag ef
- cwynion am bolisi a deddfwriaeth y llywodraeth
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau llawn ar gwynion.
Sut i wneud cwyn
Mae sawl ffordd o wneud cwyn:
Post
Gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol:
Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn
Gallwch gysylltu â’r Tîm Cynghori ar Gwynion ar 03000 251378.
E-bost
Gallwch anfon e-bost at cwynion@llyw.cymru.
Ffurflen ar-lein
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar LLYW.CYMRU.