Mae pobl sy’n gwella o COVID-19 yn dal i wynebu heriau wrth adfer eu hiechyd, ymhell wedi iddynt adael yr ysbyty.
Yn ffodus, nid ydynt ar eu pennau eu hunain gan fod tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr proffesiynol gwyddorau gofal iechyd o sawl disgyblaeth yno i’w cefnogi, gan fynd i’r afael ag ystod eang o anghenion adsefydlu a chadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Mae gadael yr ysbyty ar ôl cyfnod estynedig mewn gofal critigol yn foment arbennig i bobl sydd wedi’u heffeithio gan y feirws ofnadwy hwn, ond y cam cyntaf yn unig yw hwn ar y daith i wellhad llwyr.
“I ymdrin ag effeithiau corfforol, seicolegol ac emosiynol hirdymor y feirws mae angen arbenigedd gan weithwyr proffesiynol o sawl Proffesiwn Perthynol i Iechyd ac mae’r galw cynyddol am eu gwasanaethau, yn ogystal â’r angen i gadw pellter cymdeithasol, wedi arwain at newid mewn arferion gwaith a ffyrdd newydd o wneud pethau.
“Mae parodrwydd ein holl staff iechyd a gofal cymdeithasol i arloesi ac addasu yn ein helpu yn ein brwydr yn erbyn y pandemig ac yn cyfrannu at ein cynllun i sicrhau Cymru Iachach a darparu gofal yn nes at y cartref yn y gymuned ac yng nghartrefi pobl.”
Gall pobl gael mynediad i amrywiaeth o gyngor a thriniaethau adsefydlu gan ddietegwyr, orthoptyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion, seicolegwyr, orthotyddion a phrosthetyddion, therapyddion lleferydd ac iaith a therapyddion celf, cerdd a drama.
Pan fydd pobl yn gwella o COVID, gallant ddioddef problemau anadlol parhaus, blinder, problemau maeth, problemau llyncu a chyfathrebu, colli ffitrwydd cyffredinol a materion seicolegol.
Mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau lleol wedi cyflwyno amryw o fesurau sy’n bodloni’r galw a achoswyd gan y pandemig, yn ogystal â’r galw ar gyfer pobl â salwch nad yw’n ymwneud â COVID, fel strôc a chlefyd y galon.
Esboniodd Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynol Perthynol i Iechyd Llywodraeth Cymru:
“Rydym wedi gweld strategaethau cymorth, ymyrraeth ac asesiadau rhithwir yn cael eu cyflwyno, yn ogystal â’r defnydd o ymarfer newydd o bell.
“Mae hyn yn cynnwys defnyddio cyngor ac arweiniad dros y ffôn ac ymgyngoriadau fideo ‘attend anywhere’, sydd wedi arwain at bedair gwaith yn fwy o gysylltiadau rhithwir na chysylltiadau wyneb yn wyneb mewn timau strôc cymunedol a thimau anafiadau i’r ymennydd.
“Mae gwasanaethau dieteg, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd yn darparu mwy o wasanaethau yn y gymuned gan gynnwys defnyddio asesiadau a thriniaethau rhithwir i gefnogi pobl yn eu cartrefi neu mewn cartrefi gofal yn ogystal ag mewn unedau adsefydlu arbenigol.
“Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg maent wedi creu hyb rhithwir i frysbennu cleifion, canfod eu hanghenion a galluogi mynediad i ystod o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.”
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu pobl sy’n gwella o COVID ar ôl arhosiad yn yr ysbyty yw adennill gweithrediad a màs y cyhyrau a gollwyd drwy sicrhau’r maeth cywir.
Mae dietegwyr yn allweddol i’w helpu i oresgyn hyn ac fel y mae Zoe Paul Gough, Pennaeth Gwasanaeth Maeth a Dieteg Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn esbonio, nid adsefydlu yn unig yw eu rôl, ond atal ac addysgu hefyd.
Dywedodd Zoe:
“Mae’r tîm Maeth a Dieteg wedi ymateb i COVID-19 mewn sawl ffordd. Ein hymateb i ddechrau oedd i ddatblygu sgiliau ein tîm ehangach i fedru cefnogi ein tîm bychan o ddietegwyr acíwt gofal critigol gan ragweld mewnlif o gleifion difrifol wael.
“Gwyddom y gall yr ymateb llidiol sy’n gysylltiedig â COVID arwain at golli tua 20% o fàs y cyhyrau mewn 10 diwrnod.
“Yn aml mae’r cleifion hyn ar beiriant anadlu ac wedi’u tawelu neu mae ganddynt ofynion uchel iawn o ran maeth lle bydd angen arbenigedd a sgiliau’r dietegydd i sicrhau bod maeth yn cael ei roi yn y ffordd fwyaf diogel i wella canlyniadau a lleihau colli gweithrediad a màs y cyhyrau.
“Mae ein tîm hefyd wedi rhoi hyfforddiant ac addysg i ddatblygu sgiliau’r gweithlu ehangach i helpu i adnabod a rheoli’r nifer cynyddol o unigolion agored i niwed o ran maeth i’w cefnogi i aros yn iach gartref.”
Mae’r pandemig wedi golygu y bu’n rhaid i dîm Zoe adolygu eu harferion gwaith presennol.
Ychwanegodd:
“Rydym yn defnyddio dulliau amgen o asesu a chyfathrebu gyda’r cleifion yn ein gofal, fel y cleifion sy’n cael triniaeth am ganser ac sydd ag imiwnedd isel, ac mae hyn wedi cynnwys defnyddio ymgyngoriadau fideo neu rithwir.
“Mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn bositif ac rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ein defnyddwyr gwasanaethau gan gynnwys cynnal clinigau rhithwir, datblygu gwybodaeth i staff a’r cyhoedd, rhoi cymorth ar gyfryngau cymdeithasol, ac agor llinell gymorth, ynghyd ag adnoddau i gefnogi unigolion i reoli amryw o gyflyrau cronig, a hyrwyddo hunansgrinio ar gyfer Risg Maeth ar draws y Bwrdd Iechyd.
“Does dim amheuaeth y bydd y defnydd o blatfformau rhithwir a mynediad i dechnoleg yn ychwanegiadau gwerthfawr i’n gwasanaeth yn y dyfodol.