Gofal Iechyd Parhaus y GIG llyfryn gwybodaeth ar gyfer unigolion, teuluoedd a gofalwyr - Cymhwystra
Egluro beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG a phwy sydd yn gymwys a sut mae’n cael ei asesu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwy sy’n gymwys i gael GIP?
Rydych chi'n gymwys i gael GIP os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac mae asesiad wedi canfod fod gennych angen iechyd sylfaenol. Penderfynir a ydych yn gymwys i gael GIP ar sail eich anghenion gofal cyffredinol o ddydd i ddydd yn unig, ac nid ar sail unrhyw ddiagnosis neu gyflwr penodol.
Er mwyn penderfynu a yw eich anghenion gofal yn ymwneud ag iechyd yn bennaf, byddwch yn cael asesiad. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried pedair elfen:
1. Natur
Mae hyn yn ymwneud â’ch anghenion, eu heffaith arnoch chi, a’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnoch i’w rheoli.
2. Dwyster
Mae hyn yn ymwneud â faint o anghenion sydd gennych chi, pa mor aml rydych chi angen cymorth yn ogystal â lefel y cymorth a pha mor rheolaidd e.e. efallai y bydd angen 2 ofalwr.
3. Cymhlethdod
Mae hyn yn ymwneud â’ch holl anghenion, sut maen nhw’n rhyngweithio â’i gilydd a pha mor anodd ydyn nhw i’w cefnogi neu eu rheoli. Mae hyn yn ymwneud hefyd â'r hyfforddiant neu'r sgiliau sydd eu hangen ar staff iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr, aelodau o'r teulu ac ati i allu darparu gofal i chi. Y prif fater yma yw beth yw eich holl anghenion iechyd a gofal, yn hytrach na phwy allai fod yn darparu eich anghenion gofal.
4. Yr Annisgwyl
Mae hyn yn ymwneud â’r graddau y mae eich symptomau yn newid a pha mor anodd ydyn nhw i’w rheoli yn sgil hynny. Mae’n ymwneud hefyd â’r risg i’ch iechyd os nad ydych yn cael y gofal cywir yn ddigon cyflym.
Gall pob un o'r nodweddion hyn ddangos angen iechyd sylfaenol ar eu pen eu hunain neu ar y cyd.
Beth sy’n ysgogi asesiad Gofal Iechyd Personol?
Mae gennych hawl i asesiad trylwyr o’ch holl anghenion. Bydd yr asesiadau hyn yn helpu i nodi a oes gennych angen gofal iechyd sylfaenol.
Mae timau Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am asesu anghenion pobl ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol os ydyn nhw’n asesu rhywun sydd ag anghenion a fyddai’n perthyn i gylch gwaith y GIG, gan gynnwys pobl maen nhw’n meddwl sydd angen asesiad i gael Gofal Iechyd Personol.
Gallai asesiad cymhwystra GIP gael ei ysgogi oherwydd y rhesymau canlynol:
- Yn ddiweddar rydych wedi cael eich derbyn i’r ysbyty ac mae’n amlwg y bydd gennych anghenion gofal a chymorth parhaus unwaith y cewch eich rhyddhau.
- Mae eich anghenion gofal presennol yn cael eu hadolygu ac mae eich anghenion wedi newid.
- Mae eich iechyd corfforol neu eich iechyd meddwl wedi gwaethygu a dyw’r gofal a’r cymorth rydych chi’n eu cael ar hyn o bryd, naill ai gartref neu mewn cartref gofal, ddim yn ddigonol.
- Rydych chi'n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
- Mae gennych gyflwr sy’n gwaethygu’n gyflym ac mae'ch angen am ofal a chymorth yn cynyddu, e.e. efallai'ch bod yn nesáu at ddiwedd eich oes neu fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.
Os nad yw GIP wedi’i drafod â chi, ond eich bod chi’n credu y gallech fod yn gymwys i’w gael, dylech siarad â staff yr ysbyty sy’n ymwneud â’ch gofal, y gwasanaethau cymdeithasol neu eich meddyg teulu. Gallech wneud cais i gwblhau rhestr wirio GIP hefyd.
Y Rhestr Wirio
Er mwyn helpu staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi a ddylech symud i gael asesiad GIP llawn, gallant ddefnyddio’r hyn a elwir yn Rhestr Wirio. Does dim rhaid iddyn nhw ei defnyddio, ond mae ar gael i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir a sicrhau bod pawb sydd angen asesiad GIP llawn yn cael cyfle i gael un.
Os ydych chi mewn sefyllfa lle teimlwyd nad oedd defnyddio’r Rhestr Wirio yn angenrheidiol ac na fyddech yn cael eich atgyfeirio am asesiad GIP llawn, gallech ofyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol ailystyried y penderfyniad. Gallech gwyno hefyd os ydych chi'n credu nad yw eich anghenion wedi'u hystyried yn llawn.
Rhaid i staff iechyd a gofal cymdeithasol gael eich caniatâd cyn cwblhau eich rhestr wirio Adnodd Cymorth Penderfynu GIP.
Dylech gael rhybudd rhesymol o’r bwriad i gynnal rhestr wirio ar eich cyfer, ac fel arfer dylech gael cyfle i fod yn bresennol pan gaiff ei chwblhau, ynghyd ag unrhyw aelod o’r teulu/gofalwr neu eiriolwr sydd gennych chi. Dylai’r rhestr wirio gael ei chwblhau yn yr iaith neu ddull cyfathrebu o’ch dewis.
Mae’r rhestr wirio yn seiliedig ar yr un 12 'maes anghenion’ â’r Adnodd Cymorth Penderfynu: 'Rhagor o wybodaeth am sut yr asesir a yw rhywun yn gymwys'.
Y 12 maes yw:
- Anadlu
- Maeth
- Ymataliaeth
- Cyfanrwydd croen
- Symudedd
- Cyfathrebu
- Anghenion seicolegol ac emosiynol
- Gwybyddiaeth
- Ymddygiad
- Therapïau cyffuriau a rheoli symptomau
- Newid mewn cyflwr ymwybyddiaeth
- Anghenion gofal sylweddol eraill
Mae'n bwysig nodi nad yw'r rhestr wirio gychwynnol hon yn penderfynu a ydych chi'n gymwys i gael cyllid GIP. Mae'n nodi a ddylech chi symud ymlaen i asesiad GIP llawn gan ddefnyddio'r Adnodd Cymorth Penderfynu. Byddai angen asesiad GIP llawn os oedd y rhestr wirio’n dangos unrhyw un o’r canlynol:
- aseswyd bod 2 neu ragor o feysydd yn anghenion sylweddol
- aseswyd bod 5 neu ragor o feysydd yn anghenion canolig
- aseswyd bod 1 maes yn angen sylweddol a 4 maes yn anghenion canolig
- 1 o’r 4 maes â lefel ‘blaenoriaeth’ yn yr Adnodd Cymorth Penderfynu ac unrhyw lefel o angen yn y meysydd eraill
Byddai canlyniadau asesiad y rhestr wirio naill ai yn:
- ydy - mae lefel eich anghenion yn awgrymu y gallech fod yn gymwys i gael GIP felly dylid gwneud asesiad llawn; neu
- nac ydy – nid yw lefel eich anghenion i gael asesiad GIP llawn yn cael ei bodloni; yn hytrach mae angen gwneud penderfyniad ynghylch a allai gwasanaethau eraill yr Awdurdod Lleol neu’r GIG ddiwallu eich anghenion
Dylid egluro canlyniad yr adnodd rhestr wirio yn glir i chi, eich teulu/gofalwr neu eiriolwr a dylid ei roi i chi'n ysgrifenedig cyn gynted â phosibl yn dilyn yr asesiad rhestr wirio. Dylai'r llythyr sy'n cael ei anfon atoch fod yn eich dewis iaith a dylai gynnwys y rhesymau pam y daethpwyd i ganlyniad y rhestr wirio, fel arfer gyda chopi o'ch rhestr wirio gyflawn er gwybodaeth i chi.
Ni ddylech fod heb gymorth iechyd a gofal cymdeithasol priodol wrth ddisgwyl am ganlyniad eich asesiad GIP
Os yw canlyniad eich rhestr wirio yn golygu na fyddwch yn mynd ymlaen i asesiad GIP llawn, gallech ofyn i’r Bwrdd Iechyd Lleol ailystyried y canlyniad. Dylai’r Bwrdd ystyried eich cais, gan bwyso a mesur yr holl wybodaeth sydd ar gael, a/neu’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol gennych chi.
Does dim rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gwblhau rhestr wirio arall. Dylai ddarparu ymateb ysgrifenedig i chi sy’n cynnwys manylion eich hawliau dan Weithdrefn Cwynion y GIG os ydych chi'n dal yn anfodlon â’r penderfyniad. Os ydych chi’n dal yn anhapus am y penderfyniad hwn, cysylltwch â gwasanaeth cwynion a phryderon GIG Cymru: Gweithio i Wella.