Cylch ariannu cyffredinol Rhif 2 (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru): canllawiau
Mae'n esbonio'r cynllun a'r gofynion cymhwystra.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefnogi Sector y Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu
Mae Cynllun Mor a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.
Dylid ystyried y canllawiau a amlinellir yn y ddogfen hon ar y cyd â Chynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Canllawiau Perthnasol i Bob Rownd.
Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio rownd ariannu 2 Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru (WMFS) ar gyfer Cyllid Cyffredinol. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch yn teimlo wedyn y gallai eich prosiect fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn, darllenwch yr adran 'Sut i wneud cais' yn y Nodiadau Canllaw hyn a'r canllawiau cysylltiedig o'r enw Defnyddio RPW Ar-lein i Wneud Cais a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.
Adran A: cyflwyniad
Mae hon yn rownd ariannu gyffredinol i gefnogi amrediad eang o brosiectau o dan y categorïau ariannu a nodir yn Atodiad A.
Bydd y cyfnod ymgeisio’n agor ar 13 Ionawr 2025 ac yn dod i ben ar 24 Mawrth 2025.
Disgwylir i'r prosiectau cynharaf ddechrau'n ffurfiol ym mis Mehefin 2025 ar ôl derbyn llythyr dyfarnu grant gan Lywodraeth Cymru.
Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y rownd ariannu hon yw £1.4 miliwn, wedi'i rannu yn £700k o gyllid cyfalaf a £700k o gyllid refeniw.
Nodau ac amcanion strategol rownd ariannu gyffredinol 2 yw cefnogi prosiectau sy'n gwneud y canlynol:
- cyfrannu at sicrhau amgylchedd morol yng Nghymru sy'n gydnerth ac yn gynaliadwy yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.
- cyfrannu at sicrhau bod gan Gymru yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn sector Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu Cymru, o ddata ynghylch rhywogaethau i gydfodoli sectorau morol.
- cyfrannu at sicrhau amgylchedd morol bioamrywiol yng Nghymru ac ecosystem ffyniannus, gynaliadwy.
- cyfrannu at sector bwyd môr cynaliadwy, proffidiol ac amrywiol yng Nghymru sydd â marchnad ddomestig gref ynghyd â marchnad fyd-eang sy'n ehangu.
Mae’r rownd ariannu gyffredinol hon yn ddisgresiynol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i ganiatáu i’r buddsoddiadau fynd rhagddynt. Os dewisir eich prosiect, rhaid ichi allu cwblhau'r prosiect a hawlio am yr holl eitemau gwaith a gweithgareddau erbyn 31 Mawrth 2026.
Mae 11 categori sy'n cwmpasu cyfanswm o 36 is-gategori y gallech fod yn gymwys i wneud cais amdanynt i gefnogi un neu fwy o nodau'r rownd ariannu.
Diffiniadau:
Menter forol:
Menter sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd morol a/neu sy'n dibynnu'n gyfan gwbl neu'n rhannol ar yr amgylchedd morol ar gyfer ei dibenion a'i bodolaeth barhaus, neu sy'n gweithredu neu'n ymgymryd â gweithgareddau yn yr amgylchedd morol.
Menter dyframaethu:
Unigolion, busnesau neu fentrau sy'n ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol: dal cynhyrchion dyframaethu; gweithredu cychod sy'n dal neu’n prosesu cynhyrchion dyframaethu; ymgymryd â gweithgareddau dyframaethu; a phrosesu cynhyrchion dyframaethu o amgylcheddau morol a dŵr croyw. Hefyd, sefydliadau cymwys o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat sy'n ymgymryd ag ymchwil ac arloesi ac yn cefnogi datblygiad economaidd cadwyn gyflenwi dyframaethu.
Menter bwyd môr:
Unigolion neu fusnesau sy'n ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol: dal pysgod; gweithredu cychod sy'n dal neu'n prosesu pysgod; ymgymryd â gweithgareddau dyframaethu; cludo pysgod neu gynhyrchion pysgod; llwytho a dadlwytho pysgod neu gynhyrchion pysgod; prosesu pysgod o amgylcheddau morol a dŵr croyw. Hefyd, sefydliadau cymwys o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat sy'n ymgymryd ag ymchwil ac arloesi ac yn cefnogi datblygiad economaidd y gadwyn gyflenwi.
Cyd-fudd a chyd-fuddiolwr:
‘Cyd-fuddiolwr’ yw sefydliad y cydnabyddir ei fod yn cynrychioli budd ei aelodau, grŵp o randdeiliaid neu’r cyhoedd yn gyffredinol. Y sefydliad ei hun yn ei gyfanrwydd ddylai fod yn fuddiolwr prosiect ac nid ei aelodau.
Y diffiniad o ‘cyd-fudd’ yw camau gweithredu a gynhelir gan y sefydliad hwn sydd er cyd-fudd ei aelodau, grŵp o randdeiliaid neu’r cyhoedd. Dylai camau gweithredu o’r fath felly gwmpasu mwy na chyfanswm buddiannau unigol aelodau o’r cyd-fuddiolwr hwn.
Os nad yw prosiect yn cynnig budd ariannol uniongyrchol i’r ymgeisydd sy’n cyflawni’r prosiect neu i fuddiolwr y prosiect, a'i fod yn cynnig cyd-fudd a bod ganddo gyd-fuddiolwr (neu gyd-fuddiolwyr), yna gellir ei ystyried yn gyd-brosiect.
Os yw prosiect yn cynnig budd ariannol uniongyrchol i’r ymgeisydd sy’n cyflawni’r prosiect neu i fuddiolwr y prosiect yna ni ellir ei ystyried yn brosiect cyd-fudd.
Proseswyr pysgodfeydd a dyframaethu:
At ddibenion Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, y diffiniad o brosesydd cynhyrchion pysgodfeydd neu ddyframaethu yw busnes/gweithredwr sy'n cynnal prosesau ar gynhyrchion pysgodfeydd neu ddyframaethu sydd eisoes wedi'u dal/cynaeafu/caffael, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) golchi, oeri, blingo, torri tagellau a diberfeddu, ffiledu, tynnu o'r gragen, coginio, mygu, halltu, sychu, cadw, neu roi mewn caniau (yn dibynnu ar ba rywogaeth o fwyd môr sy'n cael ei phrosesu ac os yw'n cael ei werthu'n ffres neu wedi'i rewi), anfon neu gludo (ac eithrio o eiddo manwerthu i ddefnyddiwr neu mewn cerbyd y bydd y bwyd môr yn cael ei werthu ohono gan fanwerthwr).
Adran B: pwy sy'n gymwys
Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:
- Mae eich busnes/sefydliad wedi’i leoli yng Nghymru.
- Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
Ac rydych yn:
- Fenter forol, bwyd môr neu ddyframaethu yng Nghymru sydd naill ai’n:
o Fusnes bach neu ganolig sy’n endid micro,
o Busnes bach neu ganolig nad yw’n endid micro,
o Busnes nad yw’n fusnes bach neu ganolig,
o Sefydliadau neu grwpiau o sefydliadau sy’n gweithredu ar y cyd er budd sawl menter neu sector.
neu
- Gorff Sector Cyhoeddus (gan gynnwys Cyrff Cyfraith Cyhoeddus a Chyrff Academaidd)
- Corff Trydydd Sector – di-elusen
- Elusen
Pan fydd prosiectau’n seiliedig ar ymchwil, yn ymwneud â data tystiolaeth a dadansoddi, neu pan fyddant yn archwilio dichonoldeb technegol neu economaidd cynhyrchion a/neu brosesau arloesol, dylent gael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol a gydnabyddir gan Lywodraeth Cymru, neu mewn cydweithrediad â chorff o’r fath. Bydd y corff gwyddonol neu dechnegol yn dilysu canlyniadau prosiectau o’r fath.
Mae'n ofynnol i fusnesau sydd â chychod pysgota masnachol gael y cwch wedi'i gofrestru a'i drwyddedu yng Nghymru.
Mae'n ofynnol i fusnesau dyframaethu gofrestru ar y gofrestr o fusnesau cynhyrchu ym maes dyframaeth (APB) (CEFAS).
Bydd yn ofynnol i brosiectau sy’n ymwneud ag ymchwil, casglu tystiolaeth neu ddata a dadansoddi neu astudiaethau dichonoldeb lunio adroddiad gwerthuso terfynol i gadarnhau’r canlyniadau a’r gwersi wedi’u dysgu o’r prosiectau cyn derbyn y taliad terfynol. Mae’n bosibl y bydd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Nid ydych yn gymwys os ydych:
- wedi'ch cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall
- wedi torri mesurau cadwraeth neu reoli’n ddifrifol o fewn y 12 mis diwethaf
- yn gweithredu cwch sydd wedi cael ei restru am bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio gan y DU; neu Wladwriaeth Baner y cwch, neu Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol, neu Drefniant; neu wedi derbyn hysbysiad am bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio o dan gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgota.
- wedi derbyn euogfarn am drosedd sy’n cael ei hystyried yn ‘dor-cyfraith ddifrifol’ (gan gynnwys unrhyw bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi, heb ei reoleiddio neu dwyll), yn y 12 mis cyn gwneud cais.
Gweler Adran C: 'Categorïau ac is-gategorïau' a hefyd 'Atodiad A' ar gyfer gofynion cymhwysedd ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr sy'n berthnasol i Is-gategorïau penodol.
Adran C: categorïau ac is-gategorïau
Cewch gyflwyno mwy nag un cais, fodd bynnag, dim ond un cais a ganiateir fesul is-gategori. Sylwer bod gan bob is-gategori ofynion penodol ynghylch pwy all wneud cais a pha ddangosyddion y bydd angen eu bodloni. Dylid darllen yr wybodaeth ganlynol am y categorïau ar y cyd â'r manylion yn Atodiad A.
Y categorïau yw:
- Arloesi
- Gwasanaethau cynghori
- Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
- Iechyd, diogelwch a lles
- Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd
- Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu
- Mesurau marchnata
- Prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
- Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i ddiogelu rhywogaethau
- Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol
- Effeithlonrwydd ynni
1. Arloesi
Er mwyn ysgogi arloesedd yn yr amgylchedd morol, pysgodfeydd a maes dyframaethu, gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi prosiectau sydd â'r nod o wneud y canlynol:
1.1 Datblygu gwybodaeth dechnegol, wyddonol neu sefydliadol sydd, yn benodol, yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, yn meithrin defnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy, yn hwyluso cydleoli a/neu gydfodoli â gweithgareddau morol eraill, yn gwella lles anifeiliaid neu'n hwyluso dulliau cynhyrchu cynaliadwy newydd. Dylai gweithrediadau o dan yr is-gategori hwn gael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu mewn cydweithrediad â chorff o’r fath, a'r cyrff hyn fydd yn dilysu canlyniadau gweithrediadau o'r fath. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid refeniw yn unig.
1.2 Gwarchod adnoddau biolegol y môr. Dylai gweithrediadau o dan yr is-gategori hwn gael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu mewn cydweithrediad â chorff o’r fath, a'r cyrff hyn fydd yn dilysu canlyniadau gweithrediadau o'r fath. Gall cyllid o dan yr is-gategori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
1.3 Datblygu neu gyflwyno cynhyrchion newydd ar y farchnad sydd â photensial da yn y farchnad, cynhyrchion newydd neu welliannau sylweddol, prosesau newydd neu well. Bydd angen i'r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth, fel adroddiad marchnata annibynnol, i ddangos potensial da ar y farchnad. Gall cyllid o dan yr is-gategori hwn fod yn gyfalaf a/neu’n refeniw.
2. Gwasanaethau cynghori
Er mwyn gwella perfformiad cyffredinol a chystadleurwydd gweithredwyr ac i hyrwyddo arferion cynaliadwy, ac i leihau effaith amgylcheddol negyddol eu gweithrediadau, gallai Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi:
2.1 Mynediad at gyngor proffesiynol ar naill ai
o gynaliadwyedd yr amgylcheddol morol
o strategaethau busnes a marchnata
o cyngor technegol proffesiynol ar gynhyrchion a phrosesau.
Rhaid i'r holl gyngor a roddir gael ei ddarparu gan berson neu fusnes proffesiynol cymwys perthnasol.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn gyllid refeniw yn unig.
3. Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio
Er mwyn hyrwyddo cyfalaf dynol, rhwydweithio a deialog gymdeithasol a meithrin rhannu gwybodaeth rhwng gwyddonwyr, defnyddwyr y môr, pysgotwyr a busnesau dyframaethu a chymunedau lleol, gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi:
3.1 Cymryd rhan mewn hyfforddiant proffesiynol nad yw'n orfodol, dysgu gydol oes, a meithrin sgiliau proffesiynol newydd, yn enwedig mewn perthynas â rheoli ecosystemau morol yn gynaliadwy, cyrsiau ar arferion pysgota cynaliadwy a gwarchod cydfodolaeth adnoddau biolegol morol a/neu gydleoli â gweithgareddau morol eraill a gweithgareddau yn y sector morwrol gan gynnwys iechyd, diogelwch, hylendid a lles. Nid yw cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr penodol, fodd bynnag, rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys.
3.2 Creu neu ddatblygu rhwydweithiau. Gall cyrff gwyddonol/technegol annibynnol gymryd rhan hefyd. Y diben yw rhannu gwybodaeth, rhwydweithio, rhannu profiadau – gan gynnwys arferion gorau a deialog gymdeithasol ar lefel y DU, lefel Cymru, lefel ranbarthol neu lefel leol sy'n cynnwys defnyddwyr y môr, pysgotwyr a busnesau dyframaethu, partneriaid cymdeithasol, datblygiadau cymunedol arfordirol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng y rhywiau a rôl menywod yn y sector a'i gymunedau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Nid yw cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr penodol, fodd bynnag, rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys.
3.3 Hyrwyddo diogelwch galwedigaethol ac amodau gwell yn ychwanegol at y gofynion statudol sylfaenol. Nid yw cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr penodol, fodd bynnag, rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys.
3.4 Darparu, creu a datblygu hyfforddiant proffesiynol nad yw'n orfodol yn enwedig mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r canlynol:
o rheoli ecosystemau morol yn gynaliadwy,
o cydfodoli a/neu gydleoli â gweithgareddau morol eraill,
o iechyd, diogelwch a lles,
o gweithgareddau arloesi ac entrepreneuriaeth yn y sector morwrol.
Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i fusnesau sy'n gymwys i ddarparu hyfforddiant yn unig.
Gall y gweithgareddau y cyfeirir atynt uchod gynnwys gweithgareddau casglu a rheoli data nad ydynt yn orfodol, astudiaethau, prosiectau peilot, rhannu gwybodaeth a chanlyniadau ymchwil, seminarau ac arferion gorau.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn gyllid refeniw yn unig.
4. Iechyd, diogelwch a lles
Er mwyn gwella iechyd, diogelwch a lles ymhlith y sector, gall cymorth gynnwys y canlynol:
4.1 Ymchwil i gynyddu dealltwriaeth o anghenion iechyd, diogelwch a lles ymhlith y sector morol, pysgotwyr a'r sector dyframaethu a'u cymunedau. Mae ceisiadau o dan y categori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff cyhoeddus neu breifat cydnabyddedig sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol yn y maes hwn neu fusnesau/sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd â chorff o’r fath.
4.2 Hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, gan gynnwys mynd i'r afael ag unigedd a chymorth uniongyrchol ymhlith y sector morol, pysgotwyr a'r sector dyframaethu, gan gynnwys sefydliadau sy'n gweithio gyda'r rhain a'u teuluoedd. Mae ceisiadau o dan y categori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff cyhoeddus neu breifat cydnabyddedig sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol yn y maes hwn neu fusnesau/sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd â chorff o’r fath.
4.3 Eitemau cyfalaf anstatudol ac nad ydynt yn orfodol sydd â'r diben o wella iechyd, diogelwch a lles, ar gychod a/neu mewn safle morol dynodedig, pysgodfeydd, safle gwaith dyframaeth. Nid yw ceisiadau o dan y categori hwn yn cael eu cyfyngu i rai mathau o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr sydd â rheolaeth / sy’n berchen ar y cychod neu'r safleoedd, neu’n gyfrifol amdanynt.
Gall cyllid o dan y categori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
5. Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd
Gallai Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi buddsoddiadau i sefydlu seilwaith newydd neu wella'r seilwaith presennol, gan gynnwys porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd, cyfleusterau ar gyfer gwastraff a chasglu sbwriel môr er mwyn:
5.1 Cynyddu effeithlonrwydd ynni.
5.2 Cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd.
5.3 Gwella diogelwch ac amodau gwaith.
Byddai hyn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr sy'n rheoli neu'n berchen ar safle neu'n gyfrifol am safle.
Gall cyllid o dan y categori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
6. Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu
Er mwyn cyfrannu at ddatblygu safleoedd a seilwaith dyframaethu, ac i leihau unrhyw effeithiau amgylcheddol negyddol y gweithrediadau, gall y Cynllun gefnogi:
6.1 Gwella a datblygu'r cyfleusterau cymorth a'r seilwaith sydd eu hangen i gynyddu potensial safleoedd dyframaethu a lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol negyddol dyframaethu, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cydgrynhoi tir, cyflenwi ynni neu reoli dŵr. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid cyfalaf yn unig.
6.2 Prynu offer sydd â'r nod o amddiffyn y ffermydd rhag rhywogaethau ysglyfaethus gwyllt. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid cyfalaf yn unig.
6.3 Buddsoddiadau sy'n arwain at ostyngiad sylweddol yn effaith mentrau dyframaethu ar y defnydd o ddŵr ac ansawdd dŵr, yn enwedig drwy leihau faint o ddŵr neu gemegau a ddefnyddir, neu drwy wella ansawdd dŵr allbwn, gan gynnwys drwy ddefnyddio systemau dyframaethu aml-droffig. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid cyfalaf yn unig.
6.4 Buddsoddiadau neu archwiliadau ynni sydd â'r nod o gynyddu effeithlonrwydd ynni a ffynonellau ynni adnewyddadwy. Gall cyllid o dan yr is-gategori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn cael ei gyfyngu i fusnesau/sefydliadau dyframaethu yn unig.
7. Mesurau marchnata
Gall y Cynllun gefnogi mesurau marchnata ar gyfer brandiau o gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu nad ydynt yn frandiau masnachol a allai gynnwys y gweithgareddau cynhyrchu, prosesu a marchnata drwy gydol y gadwyn gyflenwi sydd â'r nod o wneud y canlynol:
7.1 Dod o hyd i farchnadoedd newydd, cynnal ymchwil i'r farchnad, arolygon ac astudiaethau a gwella'r amodau ar gyfer rhoi cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu ar y farchnad. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr nad ydynt yn Gorff Sector Cyhoeddus nac yn Gorff Trydydd Sector nad yw'r elusen.
7.2 Cynyddu ansawdd a gwerth ychwanegol drwy hwyluso ardystio, cofrestru a hyrwyddo cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchion o bysgota arfordirol ar raddfa fach, a dulliau prosesu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol.
7.3 Marchnata cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu yn uniongyrchol, gan gynnwys datblygu brand; deunyddiau marchnata cyfochrog; marchnata ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol; platfformau e-fasnach. Cyflwyno a phecynnu cynhyrchion; profi'r farchnad; grwpiau ffocws. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr nad ydynt yn Gorff Sector Cyhoeddus nac yn Gorff Trydydd Sector nad yw'r elusen.
7.4 Cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu a hyrwyddo rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol i hyrwyddo bwyd môr Cymru. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy, gan gynnwys, ond nid yn unig, mewn perthynas â chymorth i'r farchnad, megis digwyddiadau cwrdd â'r prynwyr; mynychu digwyddiadau masnach neu ddigwyddiadau tebyg. Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu ymgeiswyr penodol.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn gyllid refeniw yn unig.
8. Prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu er mwyn ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynhyrchion
Gall y Cynllun gefnogi buddsoddiadau wrth brosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu sy'n gwneud y canlynol:
8.1 Cyfrannu at arbed ynni neu leihau'r effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys trin gwastraff. Mae'r cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
8.2 Gwella diogelwch, iechyd ac amodau gwaith. Mae'r cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
8.3 Cefnogi prosesu dalfeydd o bysgod masnachol nad ydynt yn addas i'w bwyta gan bobl, gan gynnwys sgil-gynhyrchion sy'n deillio o'r prif weithgareddau prosesu. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
8.4 Buddsoddiadau sy'n ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd, yn benodol drwy ganiatáu i bysgotwyr brosesu, marchnata a gwerthu eu dalfeydd eu hunain yn uniongyrchol. Mae'r cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i bysgotwyr masnachol. Ni roddir cymorth oni bai bod y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato uchod yn cynnig gwelliant amlwg o ran didoli pysgod o wahanol feintiau, neu o ran lleihau'r effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'i gymharu â’r gêr safonol neu’r offer arall a ganiateir.
8.5 Buddsoddiadau arloesol ar gychod sy'n gwella ansawdd cynhyrchion pysgodfeydd. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i bysgotwyr masnachol.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn cael ei gyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'.
Gall cyllid o dan y categori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
9. Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol, ac addasu pysgota i ddiogelu rhywogaethau
Er mwyn lleihau effaith pysgota ar yr amgylchedd morol, meithrin arferion sy'n atal dalfeydd diangen a hwyluso manteisio ar adnoddau biolegol morol byw mewn ffordd gynaliadwy, gall y Cynllun gefnogi'r canlynol:
9.1 Buddsoddi mewn offer pysgota sy'n well o ran didoli maint neu rywogaethau pysgod.
9.2 Buddsoddi mewn offer ar gychod sy'n atal taflu pysgod drwy osgoi a lleihau dalfeydd diangen, neu sy'n delio â dalfeydd diangen sy'n cael eu glanio.
9.3 Buddsoddi mewn offer sy'n cyfyngu a, lle bo modd, yn dileu effeithiau ffisegol a biolegol pysgota ar yr ecosystem neu wely'r môr.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn cael ei gyfyngu i berchnogion cychod pysgota masnachol a pherchnogion cychod dyframaethu masnachol.
Ni roddir cymorth oni bai nad oes cynnydd yn yr ymdrech pysgota, a bod y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato uchod yn cynnig gwelliant amlwg o ran maint y pysgod sy'n cael eu dal neu o ran lleihau'r effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'i gymharu â'r gêr safonol neu'r offer eraill a ganiateir.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn gyllid cyfalaf yn unig.
10. Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol
Er mwyn diogelu ac adfer bioamrywiaeth ac ecosystemau morol, gall y Cynllun gefnogi'r gweithrediadau canlynol:
10.1 Cynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol, gan gynnwys ymhlith pysgotwyr a defnyddwyr morol eraill, o ran diogelu ac adfer bioamrywiaeth forol.
10.2 Camau gweithredu sydd â'r nod o gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, megis adfer cynefinoedd morol ac arfordirol penodol gan gynnwys eu paratoi a'u gwerthuso'n wyddonol.
10.3 Ymchwil i rywogaethau yr ystyrir bod diffyg data yn eu cylch a stoc nad oes ganddi gwota. Gan gynnwys casglu tystiolaeth dros ddefnyddio pysgodfeydd cynaliadwy.
Mae cyllid o dan y categori hwn yn cael ei gyfyngu i ymgeiswyr sy'n gorff cyhoeddus neu breifat sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol, neu ymgeiswyr sy'n gweithio ar y cyd â chorff o'r fath.
Gall cyllid o dan y categori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
11. Effeithlonrwydd ynni
Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cychod pysgota a chychod morol eraill, gall y Cynllun gefnogi:
11.1 Buddsoddiadau mewn offer ar gychod sydd â'r nod o leihau allyriadau llygryddion neu nwyon tŷ gwydr a chynyddu effeithlonrwydd ynni cychod pysgota a chychod morol eraill. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i berchnogion cychod pysgota masnachol a pherchnogion cychod dyframaethu masnachol. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid cyfalaf yn unig.
11.2 Archwiliadau effeithlonrwydd ynni. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn gyllid refeniw yn unig.
11.3 Astudiaethau i asesu cyfraniad systemau gyrru amgen a dyluniadau cyrff cychod at effeithlonrwydd ynni cychod pysgota. Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu i gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig neu berchnogion cychod pysgota masnachol/perchnogion cychod dyframaethu masnachol ar y cyd â chorff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig. Gall cyllid o dan yr is-gategori hwn fod yn gyllid cyfalaf a/neu'n gyllid refeniw.
Adran D: costau cymwys
Costau cymwys
Pob cost refeniw mewn perthynas â’r prosiect. Gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- gostau rhedeg y prosiect fel costau staff allweddol.
- ffioedd ymgynghori, ffioedd technegol a phroffesiynol eraill; ffioedd a ysgwyddir am ganiatadau statudol, trwyddedau a chydsyniadau. Nid cyn i'r Dyfarniad Grant gael ei gynnig.
- defnyddiau traul (eitemau sydd fel arfer yn cael eu dileu o fewn blwyddyn) sy’n angenrheidiol ar gyfer y prosiect ac yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni’r prosiect.
Yr holl eitemau cyfalaf sydd eu hangen yn uniongyrchol ar gyfer y prosiect ac eithrio'r rhai a restrir yn y costau anghymwys.
Costau anghymwys
Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad yw’n gymwys ar gyfer cymorth grant Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a bydd pob un o’r eitemau gwariant yn cael ei hystyried fesul achos:
- unrhyw offer wedi'i sicrhau o dan gytundeb hurbwrcasu neu logi ar brydles
- eitemau y mae’n ofynnol iddynt gyrraedd safonau rheoleiddio
- gweithgareddau sydd y tu allan i amserlen cyllido’r grant
- costau gweithredu, (busnes nid prosiect)
- TAW y gellir ei hadennill, (busnes nid prosiect)
- prynu stoc masnachu
- costau sy’n gysylltiedig â chwblhau ffurflenni cais Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, gan gynnwys talu ymgynghorwyr i ddarparu cymorth wrth gwblhau’r ffurflenni cais
- costau cynnal a chadw ataliol neu wedi’u trefnu ar gyfer cychod ac offer ac ar gyfer adeiladau, peiriannau neu offer presennol, gan gynnwys costau cynnal a chadw cerbydau
- eich costau cyfarpar a llafur eich hun
- cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd yr un fath
- cyfarpar hamdden (er efallai y gallai setiau teledu, taflunyddion etc at ddibenion addysgol neu fusnes fod yn gymwys)
- gwaith tirweddu, gwaith addurniadol, a darparu cyfleusterau hamdden
- cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol heblaw am ddesgiau, cadeiriau, cyfarpar ffôn, cyfrifiaduron a chyfarpar TG arall, meddalwedd a thele-argraffyddion, cyfarpar labordai a darlithfeydd sy’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r prosiect
- treuliau cyfarwyddwyr allanol
- costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw leswyr, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant
- costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill
- gorbenion sy’n cael eu dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau llawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a gyflawnir gan yr ymgeisydd
- gwariant tybiannol
- taliadau ar gyfer gweithgarwch o natur grefyddol a/neu wleidyddol,
- rhwymedigaethau digwyddiadol
- hapddigwyddiadau / darpariaethau
- elw a wneir gan yr ymgeisydd
- difidendau
- taliadau llog
- taliadau gwasanaeth sy’n codi ar brydlesau cyllid, llogi pryniant a threfniadau credyd
- costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr
- costau sy’n deillio o ddirwyn cwmni i ben
- taliadau am ddiswyddo annheg
- taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
- taliadau ar gyfer pensiynau sydd heb eu hariannu
- digollediad am golli swydd
- digollediad am gostau ychwanegol wedi’u hysgwyddo a/neu incwm wedi’i golli
- drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
- taliadau am anrhegion a rhoddion
- adloniant personol (yn cynnwys alcohol)
- costau yn gysylltiedig â’r gofynion sy’n deillio o gamau gorfodi statudol
- dirwyon a chosbau statudol
- trethi statudol (ac eithrio TAW na ellir ei hadennill)
- dirwyon ac iawndal troseddol
- treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha
- prynu cerbydau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n unig at ddibenion cyfrannu’n uniongyrchol i'r busnes a/neu'r prosiect
- gorbenion
Nid yw costau’n gymwys ar gyfer cymorth grant ond pan fydd y gost wedi cael ei thalu’n gywir gan yr hawlydd cyn cyflwyno hawliad.
Fel rhan o'ch cais, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno dadansoddiad o gyfalaf yn erbyn costau refeniw ar gyfer eich prosiect.
Teithio a chynhaliaeth
Dim ond costau teithio a chynhaliaeth sy’n ymwneud â chyflawni’r prosiect ac sy’n gyson â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gostau teithio busnes cyflogeion fydd yn gymwys.
Mae costau llety ac unrhyw gostau cynhaliaeth arall yn gymwys, fodd bynnag, nid yw costau cysylltiedig sy’n ymwneud ag eitemau fel diodydd alcoholig yn gymwys. Rhaid i’r holl gostau gael eu hystyried yn rhai rhesymol o ran natur a gwerth (h.y. ddim yn ormodol o ran nifer neu gost).
Rydych yn gyfrifol am sicrhau a dangos eich bod wedi defnyddio’r dull mwyaf effeithiol, economaidd a chynaliadwy o deithio gan ystyried:
- costau teithio,
- costau cynhaliaeth,
- arbed amser swyddogol,
- ymarferoldeb y daith, a’r
- llwybr byrraf i gyrraedd eich cyrchfan busnes.
Costau staff prosiect allweddol
Mae costau cyflogau staff ar gyfer pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect, ar sail llawnamser neu ran-amser, yn gymwys.
Bydd model cyfradd safonol yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu costau staff. Mae cyfraddau ar gyfer rolau prosiect cyffredin wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar gostau cyfeirio, a byddant ar gael i bob prosiect lle mae costau staff yn wariant prosiect cymwys.
Mae’r cyfraddau isod wedi cael eu darparu a’u cadarnhau gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar ddadansoddiadau gan ddefnyddio’r ‘Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion’ (ASHE). Am y costau a gyflwynir isod, cymerwyd data o ddata lefel Cymru a gyfrifwyd gan yr Is-adran Ystadegau Economaidd ar gyfer y flwyddyn 2020. Mae’r cyfraddau fesul awr wedi cael eu codi i dalu am gostau gorbenion.
Y Swydd
Cyfradd fesul awr
Gweithwyr Rheoli Busnes a Phrosiectau Ariannol
£37.76
Gweithwyr Busnes a Gweithwyr Proffesiynol Ymchwil perthnasol
£28.16
Galwedigaethau Gweinyddol Eraill
£17.02
Crefftau Elfennol, Gweinyddu a Galwedigaethau Gwasanaethu
£16.25
Mae'r cyfraddau a ddangosir uchod ar gyfradd ymyrryd o 100%. Byddai'r cyfraddau hyn yn cael eu gostwng yn unol â'r gyfradd ymyrryd a gymhwysir i'ch cais.
Nid yw'r cyfraddau uchod yn cynnwys nac yn cyfyngu ar wasanaethau arbenigol dan gontract.
Uchafswm ac isafswm cyfradd y grant
Uchafswm y grant a roddir yw £100,000 fesul prosiect a’r isafswm yw £500 fesul prosiect.
Gall y grant fod naill ai'n gyllid cyfalaf, yn gyllid refeniw neu'n gyfuniad o'r ddau.
Trothwy uchaf y grant
Mae uchafswm cyfradd Trothwy/Ymyrraeth Grant yn ddibynnol ar y math o ymgeisydd (gweler y bocs isod).
Ymgeisydd | Cyfradd ymyrryd uchaf | |
Preifat Trydydd Sector (nad yw'n elusen), Cymdeithas Gydweithredol, Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus neu Gymdeithas Gydfuddiannol | Busnes bach neu ganolig sy’n endid micro Mae endid micro’n fusnes sydd â llai na 10 o gyflogeion ar adeg gwneud y cais ac yn meddu ar un o'r nodweddion a ganlyn: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen.
|
80% |
Busnes bach neu ganolig nad yw'n endid micro Mae busnes bach neu ganolig yn fusnes sydd â llai na 250 o gyflogeion ar adeg gwneud y cais ac yn meddu ar un o'r nodweddion canlynol: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar ei fantolen. |
50% | |
Preifat (nad yw'n fusnes bach neu ganolig). | 30% | |
Sefydliad cyd-fudd neu gyd-fuddiolwr (e.e. sefydliadau cynhyrchwyr neu gymdeithasau pysgotwyr). | 100% | |
Sefydliadau'r sector cyhoeddus (gan gynnwys cyrff cyfraith cyhoeddus). | 100% | |
Elusennau. | 100% |
Gallwch wneud cais am swm sy’n fwy na’r uchafswm, ond os yw’n cael ei ddewis, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i’r uchafswm o £100,000.
Adran E: prif ofynion
Rhaid cwblhau’r gweithgaredd, talu'r gwariant a’i hawlio erbyn 31 Mawrth 2026.
Ni fyddai'r prosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth grant.
Mae allbynnau’r prosiect o fudd uniongyrchol i Gymru.
Caniatadau, cydsyniadau cynllunio a thrwyddedau
Os oes angen cydsyniad cynllunio ar eich buddsoddiad, rhaid ichi gael unrhyw gydsyniad cynllunio angenrheidiol a chadw at unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau nad yw eu cynigion yn torri unrhyw is-ddeddfau, yn rhwystro hawliau tramwy, yn effeithio ar bibau nwy neu olew etc, a rhaid iddynt osgoi peri unrhyw ddifrod i’r amgylchedd neu beri llygredd.
Mae Llywodraeth Cymru yn deall, mewn rhai achosion, na fydd modd i ymgeiswyr fod â'r rhain ar waith pan fyddant yn gwneud cais, felly, yn yr achos hwn, derbynnir ceisiadau cyn i'r cytundebau hyn fod ar waith. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol nodi’r cytundebau hyn yn y cais a bydd yn ofynnol eu cael cyn i’r prosiect ddechrau. Gall methu â sicrhau bod y trwyddedau a/neu'r cytundebau sydd eu hangen ar waith arwain at dynnu'r dyfarniad grant yn ôl.
Ni wneir unrhyw daliad grant nes y bydd y dogfennau cymeradwyo gwreiddiol ar gyfer trwydded a/neu gytundeb wedi dod i law ac wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru neu, os yw'r awdurdod cynllunio yn ystyried nad oes angen cydsyniad cynllunio ar y prosiect, bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio.
Adran F: Gwneud cais i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Rownd Ariannu Gyffredinol
RPW Ar-lein
Rhaid cwblhau Cais i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Rownd Ariannu Gyffredinol drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os nad yw’r cod hwn gennych, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (dydd Llun i ddydd Iau 8.30am – 5pm, dydd Gwener 8.30am – 4.30pm) a dweud wrth y cysylltydd beth yw’ch CRN. Bydd Cod Actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.
I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. I gael rhagor o fanylion cyfeiriwch at ganllawiau ar sut i gofrestru. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.
Ar ôl cofrestru, gallwch gael mynediad i'ch Cyfrif RPW Ar-lein Mae ffurflen gais Rownd Ariannu Gyffredinol Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru ar gael yn yr adran 'Ceisiadau a Hawliadau' yn eich cyfrif.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu rhoi cyngor ichi, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael ichi.
Mae rhagor o fanylion am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y broses asesu dau gam
Bydd dau gam i’r broses asesu. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd. Yn ystod Cam 1, bydd adrannau canlynol y cais yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf dethol:
- cydweddu strategol
- addasrwydd y buddsoddiad
- cynaliadwyedd hirdymor
Bydd y ceisiadau â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y rownd honno wedi’i ddyrannu.
Gan fod y rownd ariannu hon yn rownd cyllid cyfalaf yn bennaf, pan fydd yr holl gyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu dim ond prosiectau cyfalaf, nad oes angen cyllid refeniw arnynt, sydd wedi pasio'r cam cyntaf a fydd yn cael symud ymlaen i'r cam nesaf, a hynny yn ôl eu teilyngdod, nes bod yr holl gyllid cyfalaf wedi cael ei ddyrannu.
Byddwch yn cael gwybod a yw eich Cais wedi cael ei ddewis ai peidio drwy eich cyfrif RPW ar-lein.
Os yw eich cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau gwerthusiad llawn y cais.
- gwerth am arian
- cyflawni’r prosiect
- rheoli'r prosiect
- risg a rheoli risg.
- ariannol a chydymffurfio
- themâu trawsbynciol
- dangosyddion a chanlyniadau
Cyflwyno cais
Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich cais drwy RPW Ar-lein ar gael yma Cylch ariannu cyffredinol Rhif 2 (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru): defnyddio RPW ar-lein i wneud cais | LLYW.CYMRU.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei gwblhau'n gywir a bod yr wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect hefyd yn gywir.
Mae’n rhaid ichi gwblhau’r cais yn llawn a chyflwyno dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl wrth arfarnu eich cais.
Dogfennau ategol
Yn ogystal â chwblhau'r cais ar-lein, bydd angen ichi gyflwyno'r dogfennau ategol a ganlyn ar-lein i'w gwerthuso gan Lywodraeth Cymru:
- Cynllun Busnes Tair Blynedd (nid oes angen i Gyrff Cyfraith Cyhoeddus na Chyrff Academaidd wneud hyn)
- Cyfrifon Ardystiedig ar gyfer tair blynedd (nid oes angen i Gyrff Cyfraith Cyhoeddus na Chyrff Academaidd wneud hyn)
- Amcanestyniadau Ariannol ar gyfer tair blynedd (nid oes angen i Gyrff Cyfraith Cyhoeddus na Chyrff Academaidd wneud hyn)
- Tystiolaeth o'r arian cyfatebol sydd ar gael (benthyciad banc, gorddrafft ac ati) lle bo hynny’n berthnasol
- Caniatâd Cynllunio os yw hynny'n briodol ac unrhyw gymeradwyaethau/cydsyniadau eraill sy'n ofynnol o dan gyfraith y DU
Bydd gofyn i chi gyflwyno unrhyw ddyfynbrisiau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein newydd ar gyfer Cyflwyno Dyfynbrisiau os bydd eich cais yn llwyddiannus a’ch bod yn derbyn Llythyr Dyfarnu Grant.
Ar gyfer ceisiadau gan Fusnesau/Sefydliadau sy'n llai na thair blwydd oed nad ydynt wedi bod yn weithredol am o leiaf tair blynedd, bydd y cyfrifon sydd ar gael yn cael eu hystyried.
Cynllun busnes
Dylai'r cynllun busnes roi manylion llawn y busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu'r tair blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:
- manylion y busnes
- crynodeb gweithredol
- cynllun gweithgareddau
- cynlluniau ariannol
- rheoli risg.
Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r HOLL ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru. Cewch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi eich cais.
Cam 1 – Asesu Ceisiadau i’w Dewis
Wrth arfarnu Cam 1 Rownd Ariannu Gyffredinol Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn set o feini prawf dewis a'i sgorio gan ddefnyddio graddfa sgorio o 0 – 4. Bydd y sgôr wedyn yn cael ei lluosi gan y ffactor pwysoli cysylltiedig i roi cyfanswm sgôr.
Bydd y ceisiadau’n cael eu trefnu yn ôl eu teilyngdod. Dewisir prosiectau ar sail eu teilyngdod nes y bydd y cyllid refeniw a'r cyllid cyfalaf sydd ar gael wedi cael ei ddyrannu neu nes y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Ni allwn warantu y bydd yr holl arian yn cael ei neilltuo, na chwaith y bydd uchafswm nifer y prosiectau’n cael eu dewis ar gyfer Cam 2 y broses.
Mae'r meini prawf ar gyfer dewis ceisiadau isod.
Yr adran cynllun prosiect/busnes i’w asesu
- cydweddu strategol
sgôr: 0 i 4
pwysau: lluosi â 4
- addasrwydd y buddsoddiad
sgôr: 0 i 4
pwysau: lluosi â 5
- cynaliadwyedd hirdymor
sgôr: 0 i 4
pwysau: lluosi â 2
Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 22 o leiaf.
Byddai sgôr o 1 neu 0 (sero) mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried yng Ngham 2 y broses.
Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau wedi’u rhoi.
Rhoddir sgoriau uwch am esboniadau cynhwysfawr sy’n cael eu cefnogi gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig a manylion ynglŷn â sut bydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoli.
Rhoddir sgoriau is am esboniadau nad ydynt fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft 'byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd drwy gydol y prosiect'.
Cwestiynau a meini prawf asesu Cam 1:
Cydweddu Strategol
Er mwyn i brosiect fodloni gofynion Cyweddu Strategol y cynllun, bydd angen ichi ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at y nod/amcan rydych wedi'i ddewis a dangos pam mae angen y buddsoddiad.
Sgôr 4:
Roedd yr ymateb yn rhoi cryn dystiolaeth glir y byddai’r nod/amcan a ddewiswyd yn cael ei gyflawni, ynghyd â chyfiawnhad clir bod angen y buddsoddiad. Nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 3:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth glir y byddai’r nod/amcan a ddewiswyd yn cael ei gyflawni, ynghyd â chyfiawnhad clir i ddangos pam mae angen y buddsoddiad. Nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 2:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth foddhaol y byddai'r nod/amcan a ddewiswyd yn cael ei gyflawni, ac yn rhoi cyfiawnhad boddhaol bod angen y buddsoddiad. Roedd rhai mân wendidau neu bryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 1:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth gyfyngedig y byddai'r nod/amcan a ddewiswyd yn cael ei gyflawni, gyda chyfiawnhad cyfyngedig i ddangos bod angen y buddsoddiad. Roedd gwendidau neu bryderon mawr ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 0:
Roedd yr ymateb yn anghyflawn ac nid oedd yn dangos y byddai’r nod/amcan a ddewiswyd yn cael ei gyflawni, nac yn rhoi cyfiawnhad bod angen y buddsoddiad.
Addasrwydd y buddsoddiad
Bydd angen ichi ddangos pam mae eich cynnig yn addas ar gyfer buddsoddiad grant. Mae angen ystyried risgiau a manteision y cynnig ac a yw natur y buddsoddiad yn cyd-fynd â Saith Nod Llesiant Llywodraeth Cymru, sef:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion.
Sgôr 4:
Roedd yr ymateb yn rhoi cryn dystiolaeth glir bod y risgiau a’r manteision wedi cael eu hystyried, ac y byddai o leiaf un o Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflawni. Roedd y cynnig a’r ymgeisydd yn addas ar gyfer buddsoddiad ac nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 3:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth glir bod y risgiau a’r manteision wedi cael eu hystyried, ac y byddai o leiaf un o Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflawni. Roedd y cynnig a’r ymgeisydd yn addas ar gyfer buddsoddiad ac nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 2:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth foddhaol bod y risgiau a’r manteision wedi cael eu hystyried, ac y byddai o leiaf un o Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflawni. Roedd y cynnig a’r ymgeisydd yn addas ar gyfer buddsoddiad ond roedd rhai mân wendidau neu bryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 1:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth gyfyngedig bod y risgiau a’r manteision wedi cael eu hystyried, ac y byddai o leiaf un o Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflawni. Roedd y cynnig a’r ymgeisydd yn addas ar gyfer buddsoddiad ond roedd gwendidau neu bryderon mawr ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 0:
Roedd yr ymateb yn anghyflawn ac nid oedd yn dangos bod y risgiau a’r manteision wedi cael eu hystyried nac y byddai unrhyw rai o Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni, na bod y cais na’r ymgeisydd yn addas ar gyfer y buddsoddiad.
Cynaliadwyedd hirdymor
Bydd angen ichi ddangos yr effaith hirdymor a ragwelir y bydd eich prosiect yn ei chael ar ôl diwedd cyfnod y prosiect arfaethedig.
Er enghraifft, gall hyn gael effaith hirdymor economaidd neu amgylcheddol gadarnhaol.
Sgôr 4:
Roedd yr ymateb yn rhoi cryn dystiolaeth glir y byddai effaith gadarnhaol hirdymor ar ôl i gyfnod y prosiect arfaethedig ddod i ben. Nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 3:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth glir y byddai effaith gadarnhaol hirdymor ar ôl i gyfnod y prosiect arfaethedig ddod i ben. Nid oedd unrhyw wendidau na phryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 2:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth foddhaol y byddai effaith gadarnhaol hirdymor ar ôl i gyfnod y prosiect arfaethedig ddod i ben. Roedd rhai mân wendidau neu bryderon ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 1:
Roedd yr ymateb yn rhoi tystiolaeth gyfyngedig y byddai effaith gadarnhaol hirdymor ar ôl i gyfnod y prosiect arfaethedig ddod i ben. Roedd gwendidau neu bryderon mawr ynghylch cynnwys y cais.
Sgôr 0:
Roedd yr ymateb yn anghyflawn ac nid oedd yn dangos y byddai effaith gadarnhaol hirdymor ar ôl i gyfnod y prosiect arfaethedig ddod i ben.
Mae tri chanlyniad posibl i Asesiad Cam 1:
1. Nid yw eich cais yn gymwys ar gyfer grant
2. Nid yw eich cais wedi cael ei ddewis ar gyfer Cam 2 y broses ymgeisio
3. Mae’ch cais wedi llwyddo yng Ngham 1 a chaiff fynd yn ei flaen i’r arfarniad llawn
Os nad ydych yn cael eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy sylfaenol, byddwn yn eich hysbysu drwy eich cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis, ond bydd eich cais yn cael ei gadw wrth gefn.
Cais sy’n llwyddiannus yng Ngham 1
Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael gwybod drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid ichi naill ai dderbyn neu wrthod y cynnig drwy lenwi Atodiad y Cais a fydd wedi’i gynnwys gyda’r llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis, a’i anfon at Lywodraeth Cymru drwy’ch cyfrif ar-lein erbyn y dyddiad wedi’i nodi yn eich llythyr.
Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa ichi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.
Os byddwch yn derbyn cael eich dewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2 y broses arfarnu.
Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y prosiect. Ni ddylech ddechrau unrhyw waith nes eich bod yn derbyn Llythyr Cynnig Grant drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried am gymorth.
Os na fyddwch wedi derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich cais fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.
Os na fydd eich cais yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na fydd yn cael ei ddewis, rhoddir gwybod ichi drwy’ch cyfrif ar-lein.
Cam 2 – Arfarniad llawn o’r cais ar ôl ei ddewis
Os bydd y cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2, a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau’r broses o werthuso’r cais ac ystyried cynnig grant.
- gwerth am arian
- cyflawni’r prosiect
- rheoli'r prosiect
- risg a rheoli risg
- ariannol a chydymffurfio
- themâu trawsbynciol
- dangosyddion a chanlyniadau
Dangosyddion canlyniadau
Ar gyfer dangosyddion canlyniadau sy'n berthnasol i bob is-gategori, gweler Atodiad A.
Bydd y dangosyddion a fydd yn cael eu monitro o ganlyniad i'r buddsoddiad yn dibynnu ar yr is-gategori. Bydd angen ichi ddewis o leiaf un dangosydd (mae'r manylion yn Atodiad A) fel rhan o'r cais.
Disgwylir ichi gyfiawnhau eich sail resymegol dros gyflawni’r targedau hyn yn rhan o'r prosiect. Mae angen ffigurau llinell sylfaen ar gyfer rhai dangosyddion fel y gellir eu mesur dros gyfnod y cytunwyd arno. Bydd llinell sylfaen o sero, pan fo hynny'n berthnasol, yn cael ei derbyn. Os na roddir y llinell sylfaen hon, yna gellir gwrthod y cais.
Sylwer mai’r targed y dylech ei roi yw’r targed y byddwch yn ei gyflawni dair blynedd ar ôl y buddsoddiad neu ynghynt pan fydd hynny’n berthnasol, e.e. byddai dangosydd adroddiad/astudiaeth yn cael ei gwblhau cyn y targed hwn.
Bydd angen monitro'r dangosyddion a'r canlyniadau, ac efallai y bydd yn ofynnol ichi gyflwyno gwybodaeth i gadarnhau lefel presennol y dangosyddion sy'n cael ei chyflawni yn ogystal â chadarnhau'r lefel wedi'i chyflawni dair blynedd i ddiwedd eich Dyfarniad Grant.
Themâu trawsbynciol
Hefyd, bydd y cais yn gofyn ichi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at un neu fwy o themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:
- Y Gymraeg
- Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
- Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
Sgorio asesiadau cam 2
Ar gyfer yr arfarniad Cam 2, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y pum adran arall yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol a fydd yn llywio’r penderfyniad i roi cymorth grant i’r prosiect neu beidio:
- uchel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl yn erbyn yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani.
- canolig: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl yn erbyn y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani.
- isel: mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol yn erbyn un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani.
Y trothwy ansawdd yw sgôr ganolig ym mhob un o’r deg categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyniad hwn, mae’n bosibl y gofynnir ichi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os nad yw'r cais yn ennill sgôr foddhaol, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.
Bydd eich cais yn cael ei arfarnu yn unol â Chanllawiau'r Rownd Ariannu a'r rheolau cymhwysedd Bydd gwiriad diwydrwydd dyledus (pan fydd angen), arfarniad a gwiriadau cymhwystra llawn yn cael eu cynnal, a dim ond y pryd hynny y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i gynnig cyllid grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y bydd cynnig prosiect yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i ddyddiad olaf y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os nad ydych yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth bydd hyn yn estyn yr amser mae’n ei gymryd i arfarnu eich cais.
Sylwer, rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau’n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani gyda’r cais.
Mae tri chanlyniad posibl i'r arfarniad Cam 2:
- Nid yw eich prosiect wedi bod yn llwyddiannus ac nid yw wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno), ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
- Mae’ch prosiect wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad grant. Bydd llythyr dyfarnu grant yn cael ei gyflwyno ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r dyfarniad grant. Gofynnir ichi dderbyn y llythyr o fewn 30 diwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau ynddo. Bydd y llythyr dyfarnu grant hefyd yn rhoi'r awdurdod ichi ddechrau eich ar y gwaith. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y dyfarniad grant o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y dyfarniad grant o fewn y 30 diwrnod, bydd y contract yn cael ei dynnu’n ôl.
Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.
Bydd manylion llawn ynghylch pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y dyfarniad grant a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu’r eitemau a’u hawlio yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant.
Os ydych yn derbyn y dyfarniad grant, bydd yn ofynnol ichi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd y byddwch yn gwneud eich hawliadau a gwerth yr hawliadau hynny.
Ar ôl ichi dderbyn llythyr dyfarnu grant, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’ch dyfarniad grant, neu os na fyddwch yn derbyn y dyfarniad grant a gynigir o fewn yr amser a ganiateir, mae’n bosibl na chewch wneud cais o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl o'r dyfarniad grant cyn cwblhau’r gwaith neu os na fyddwch yn cwblhau’r holl waith wedi’i gymeradwyo yn llythyr dyfarnu grant, mae’n bosibl na chewch wneud cais mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall.
Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant wedi’i ddyfarnu ichi a chrynodeb o’ch prosiect.
Dechrau gwaith
Adran G: amodau’r grant
Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.
Mae grant Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn cael ei gynnig yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich dyfarniad grant. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn cynnwys y rheini a nodir isod. Bydd hyd y dyfarniad grant yn dibynnu ar y rownd ariannu a bydd yn dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y llythyr dyfarnu grant. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad grant arwain at ganslo’r dyfarniad grant a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.
Amodau:
1. Mae’r dyfarniad grant yn cael ei wneud ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol. Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
2. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y dyfarniad grant o fewn 30 diwrnod iddo gael ei gynnig.
3. Ni ddylech ddechrau gweithio ar y prosiect hyd nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ichi fod wedi prynu’r offer (os yw hynny’n berthnasol) a chysylltu ag RPW drwy RPW Ar-lein neu drwy’r post erbyn y dyddiad cau hawlio yn y llythyr dyfarnu grant.
4. Rhaid ichi gyflawni unrhyw rwymedigaethau gyfreithiol a roddir o dan gyfraith y DU, gan gynnwys iechyd a diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu’r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu iechyd cnydau sy’n berthnasol yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
5. Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.
6. Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.
7. Os gwelir bod gwaith wedi’i ddechrau cyn i'r llythyr dyfarnu grant Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Rownd Ariannu Gyffredinol gael ei gyhoeddi, bydd Llywodraeth Cymru naill ai’n gwrthod y gwaith a ddechreuwyd ac yn caniatáu i’r ymgeisydd barhau â rhan gymwys y cais neu wrthod y cais cyfan ynghyd ag unrhyw gymeradwyaethau a roddwyd.
8. Dyma enghreifftiau o waith sydd wedi’i ddechrau:
i. Ymrwymo i gontract sy’n gyfreithiol rwymol (h.y. gyda chyflenwyr, etc)
ii. Prynu neu dderbyn offer/deunyddiau
iii. Bydd talu blaendaliadau/ysgwyddo gwariant mewn perthynas â’r cais arfaethedig i gyd yn cael ei weld gan Lywodraeth Cymru fel dechrau ar y gwaith cyn i’r grant gael ei gymeradwyo.
9. Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW o fewn yr adeg honno, bydd y dyfarniad grant a gynigiwyd yn cael ei dynnu’n ôl yn awtomatig.
10. Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
11. Ni chaniateir trosglwyddo cychod pysgota o Gymru i wladwriaethau eraill, gan gynnwys drwy greu mentrau ar y cyd.
12. Rhaid ichi gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Canllaw'r Cynllun.
13. Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
14. Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen gais hawlio grantiau RPW Ar-lein, a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau y mae angen eu cyflwyno o dan y cynllun.
15. Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y llythyr dyfarnu grant. Ni chaniateir ichi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
16. Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi’i dalu y gellir rhoi’r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.
17. Rhaid prynu pob eitem a gwasanaeth yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
18. Rhaid ichi gadarnhau nad oes unrhyw rai o’r eitemau neu'r gwasanaethau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
19. Rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall ar gyfer y prosiect hwn (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r DU). Os bydd yn dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.
20. Fel rhan o’ch cais, bydd angen ichi ddarparu manylion am unrhyw arian cyhoeddus y mae eich menter wedi’i dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol.
21. Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad hwn am ddyfarniad grant, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.
22. Rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid ichi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.
23. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 2018.
24. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.
25. Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
26. Os byddwch yn cael euogfarn am drosedd a ystyrir yn ‘ddor-cyfraith ddifrifol’ (Gan gynnwys unrhyw bysgota anghyfreithlon heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio, neu dwyll), o fewn 12 mis i dderbyn y taliad grant terfynol, yna mae’n bosib y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.
27. Os ydych chi, neu gwch rydych yn ei weithredu, wedi cael ei restru am bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio gan y DU; neu Wladwriaeth Baner y cwch; neu Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol, neu Drefniant; neu wedi derbyn hysbysiad am bysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio o dan gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgota o fewn 12 mis i dderbyn taliad terfynol y grant, mae'n bosibl y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.
28. Os byddwch wedi cael euogfarn am dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall o fewn 12 mis i dderbyn taliad terfynol y grant, yna efallai y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.
29. Os gwelir eich bod wedi torri mesurau cadwraeth neu reoli yn ddifrifol o fewn y 12 mis blaenorol cyn derbyn taliad terfynol y grant, yna efallai y byddwn yn ceisio adennill y taliadau a wnaed.
Mae'r ddogfen 'Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy’n derbyn grant' yn rhoi rhagor o wybodaeth ac eglurhad ar y mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu ‘gwireddu’ gan y sawl sy'n cael grantiau ganddi. Mae hefyd yn amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru fel cyllidwr ei wneud, pe bai'r sawl sy'n derbyn grant yn methu â chynnal y gwerthoedd a'r ymddygiadau craidd hyn.
Adran H: tendro cystadleuol a chaffael
Rhaid ichi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Caffael Cyhoeddus a Thendro Cystadleuol drwy’r canlynol:
Adran I: taliadau
Hawliadau
Dim ond drwy dudalen ffurflen Hawlio’r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein y gellir hawlio o dan y Cynllun hwn; bydd taliadau’n cael eu gwneud ar ôl i'ch cais gael ei ddilysu. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi ei gwblhau yn ôl y cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael ei wneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.
Gallwch gyflwyno sawl hawliad yn ystod eich prosiect, fesul cam, wrth i’ch prosiect fynd yn ei flaen.
Er mwyn cael eich talu o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru rhaid ichi:
- fod wedi derbyn dyfarniad grant o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a chadw at yr holl ofynion
- sicrhau mai dim ond yr eitemau sydd wedi’u rhestru yn eich llythyr dyfarnu grant y byddwch yn eu prynu, a hynny dim ond ar ôl i’r dyfarniad grant gael ei gynnig ichi
- sicrhau eich bod wedi prynu’r holl eitemau neu wasanaethau yn unol â gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a bod dyfynbrisiau wedi’u cyflwyno a’u gwirio
- dylid cyflwyno ceisiadau terfynol am dalu grant trwy dudalen ffurflen Hawlio’r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gwaith ar y prosiect gael ei gwblhau. Rhaid i bob hawliad terfynol ddod i law erbyn 31 Mawrth 2026 er mwyn i Lywodraeth Cymru allu gwneud y taliad. Os byddwch yn methu â chyflwyno hawliadau, efallai y bydd y grant a dalwyd hyd yma yn cael ei adennill
- byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
- cyflwyno anfonebau ar gyfer yr holl eitemau neu wasanaethau sy’n cael eu hawlio
- cyflwyno tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem neu wasanaeth sy’n destun hawliad
- cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio os oes angen
Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Grantiau ynghyd â’r holl ddogfennau ategol.
Dogfennau ategol
Rhaid ichi gyflwyno anfoneb ar gyfer pob eitem neu wasanaeth yn eich llythyr dyfarnu contract.
Rhaid ichi gyflwyno cyfriflenni banc i ddangos bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem neu wasanaeth a restrir yn eich llythyr dyfarnu grant.
Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc drwy eu sganio a’u hanfon drwy ‘Fy Negeseuon’ yn eich cyfrif RPW Ar-lein.
Ni fydd taliad yn cael ei wneud os oes tystiolaeth annigonol yn cael ei darparu.
Hawliadau anghywir a chosbau
Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.
Rhaid i’r holl fuddsoddiadau wedi'u cymeradwyo fod wedi eu cwblhau ar ôl i’r dyfarniad grant gael ei gynnig.
Bydd eich hawliad yn anghywir:
- os ydych wedi prynu eitemau cyn i’r dyfarniad grant gael ei dderbyn
- os nad ydych wedi cyflwyno cais na dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny.
Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth a fydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o’i gymhwystra cyn ichi ysgwyddo’r costau.
Adran J: newidiadau i reolau’r cynllun
Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newid Dehongliad)
Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.
Newidiadau i reolau’r cynllun neu i’r dyfarniad grant
Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich dyfarniad grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y rhaglen. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os bydd angen.
Adran K: rheoli, monitro a chadw cofnodion
Mesurau rheoli
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru.
Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.
Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.
Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.
Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.
Monitro a gwerthuso
Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.
Rhaid ichi ganiatáu i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau (lle bo hynny’n berthnasol) a brynwyd o fewn y cyfnod o bum mlynedd hwn a chael mynediad at waith papur cysylltiedig e.e., anfonebau, tystysgrifau, caniatâd etc.
Bydd ymweliadau safle’n cael eu gwneud ar ganran o’r prosiectau gafodd eu cymeradwyo o fewn pum mlynedd ar ôl talu’r hawliad terfynol i sicrhau bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl lle bo hynny’n berthnasol.
Os byddwch yn cyflwyno cais, p'un ai'n llwyddiannus ai peidio, rydych yn cytuno i gydweithredu ag unrhyw werthusiad o'r cynllun yn ei gyfanrwydd, ac i ymgeiswyr llwyddiannus hefyd unrhyw werthusiad ar ôl gweithredu'ch prosiectau.
Cadw cofnodion
Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am chwe blynedd.
Bydd yn ofynnol ichi hefyd:
- gyflwyno unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich dyfarniad grant Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru
- cyflwyno cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch dyfarniad grant Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid
- caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd â dogfennau neu gofnodion neu wneud copïau ohonynt neu ddarnau ohonynt
Adran L: Y drefn apelio a chwyno
Y drefn apelio
Nid oes unrhyw sail i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch Asesu ar gyfer Dewis yn ystod Cam 1.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad mewn perthynas â’ch cais llawn, yna rhaid cyflwyno apeliadau yn cynnwys tystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-lein cyn pen 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn amlinellu’r penderfyniad yr ydych am apelio yn ei erbyn.
Ni fydd amgylchiadau arbennig nac anghytuno ag unrhyw agwedd ar feini prawf cymhwystra’r cynllun yn sail i apelio.
Bydd swyddog apêl sy’n annibynnol o’r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl. Yna bydd y swyddog apêl yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn hysbysu’r apelydd ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
Rydym ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg os mai dyna’ch dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
Yr weithdrefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
E-bost: complaints@llyw.cymru
Gwefan : Cwyn am Lywodraeth Cymru
Cewch hefyd ddewis gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pen-coed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan : Ombwdsmon
Adran M: hysbysiad preifatrwydd: cymorth ariannol Llywodraeth Cymru
Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych yn ei roi mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrediad eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid a gweinyddu’r grant.
Cyn inni roi cyllid ichi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol inni brosesu data personol amdanoch drwy asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod rhoi’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych eisoes yn ei gael.
Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a gallai hyn olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.
Er mwyn asesu eich cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru;
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA
- Y Sefydliad Rheoli Morol
- Gweinyddiaethau Morol a Physgodfeydd eraill Llywodraeth y DU
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.
Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y sawl sy’n derbyn grantiau, symiau ac enw’r busnes ar gofrestr dryloywder os bydd rhaid rhaid inni wneud hynny, er enghraifft, o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl ichi eu darparu.
Mae’n bosibl y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys pan fo Llywodraeth Cymru yn comisiynu contractwr annibynnol a allai gysylltu â chi i asesu eich barn a'ch profiadau o'r cynllun.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol)
- gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Neu i gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://ico.org.uk/
Adran N: y ddeddfwriaeth
Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal
Ers gadael awdurdodaeth reoleiddio’r UE, mae gwariant ar bysgodfeydd a’r rhan fwyaf o bynciau cysylltiedig wedi gorfod cydymffurfio â chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar gymorthdaliadau a mesurau gwrthweithio (ASCM) a rhwymedigaethau’r DU o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE (TCA).
Derbyniodd Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 y Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022, a ddaeth i rym ar 4 Ionawr 2023.
Mae’r egwyddorion rheoli cymorthdaliadau yng Nghytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau a Mesurau Gwrthbwyso ac yn y Cytundebau Masnach Rydd y dylai Llywodraeth y DU yn negodi â gwledydd yn dilyn ymadael â’r UE (Cytundebau Masnach y DU sydd mewn grym) yn berthnasol ar hyn o bryd i Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Rownd Ariannu Gyffredinol.
Yn y cyd-destun hwn mae ‘cymhorthdal’ yn gymorth ariannol a roddir gan awdurdod cyhoeddus; mae’n benodol ac mae’n rhoi mantais economaidd i un neu ragor o fentrau, ac mae’n cael, neu’n gallu cael effaith ar gystadleuaeth neu fuddsoddi o fewn y DU, neu ar fasnach neu fuddsoddiadau rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth arall. Ni fydd pob grant a ddyfernir o dan Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru: Rownd Ariannu Gyffredinol yn dod o dan y categori ‘cymhorthdal’. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoli cymorthdaliadau’n rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gymhorthdal a beth mae rheoli cymorthdaliadau’n ei olygu.
Efallai y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o’r sawl sy’n derbyn cyllid cyhoeddus os yw’r cyllid yn bodloni’r meini prawf i’w datgelu i’r cyhoedd.
Adran O: cysylltiadau
Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein
Gallwch gyflwyno ymholiadau drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.
Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig
Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i ddiwallu eich anghenion.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Môr a Physgodfeydd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
ATODIAD A: tabl o gategorïau
Categori | Is-gategori | Cafeatau | Dangosyddion Penodol | Cyfalaf neu Refeniw |
1. Arloesedd Er mwyn ysgogi arloesedd yn yr amgylchedd morol, pysgodfeydd a maes dyframaethu, gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi prosiectau sydd â'r nod o wneud y canlynol: | 1.1 Datblygu gwybodaeth dechnegol, wyddonol neu sefydliadol sydd, yn benodol, yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, yn meithrin defnyddio adnoddau mewn ffordd gynaliadwy, yn hwyluso cydleoli a/neu gydfodoli â gweithgareddau morol eraill, yn gwella lles anifeiliaid neu'n hwyluso dulliau cynhyrchu cynaliadwy newydd. | Dylai gweithrediadau o dan yr is-gategori hwn gael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu mewn cydweithrediad â chorff o’r fath, a'r cyrff hyn a fydd yn dilysu canlyniadau gweithrediadau o'r fath. | Nifer yr astudiaethau/adroddiadau wedi’u cyhoeddi. | Refeniw yn unig |
1.2 Gwarchod adnoddau biolegol y môr. | Dylai gweithrediadau o dan yr is-gategori hwn gael eu cynnal gan gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu mewn cydweithrediad â chorff o’r fath, a'r cyrff hyn a fydd yn dilysu canlyniadau gweithrediadau o'r fath. | Nifer yr astudiaethau/adroddiadau wedi’u cyhoeddi.
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
1.3 Datblygu neu gyflwyno cynhyrchion newydd ar y farchnad sydd â photensial da yn y farchnad, cynhyrchion newydd neu welliannau sylweddol, prosesau newydd neu well. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol. | Nifer y cynhyrchion newydd wedi’u datblygu.
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
2. Gwasanaethau cynghori Er mwyn gwella perfformiad cyffredinol a chystadleurwydd gweithredwyr ac i hyrwyddo arferion cynaliadwy, ac i leihau effaith amgylcheddol negyddol eu gweithrediadau, gallai Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi: | 2.1 Mynediad i gyngor proffesiynol ar naill ai: cynaliadwyedd yr amgylcheddol morol, strategaethau busnes a marchnata, a chyngor technegol proffesiynol ar gynhyrchion a phrosesau. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr nad ydynt yn Gorff Sector Cyhoeddus nac yn Gorff Trydydd Sector nad yw’n elusen.
Rhaid i'r holl gyngor a roddir gael ei ddarparu gan berson neu fusnes proffesiynol cymwys perthnasol. | Nifer yr adroddiadau proffesiynol wedi’u cynhyrchu (amgylcheddol, busnes/marchnata ac ati). | Refeniw yn unig |
3. Hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio Er mwyn hyrwyddo cyfalaf dynol, rhwydweithio a deialog gymdeithasol a meithrin rhannu gwybodaeth rhwng gwyddonwyr, defnyddwyr y môr, pysgotwyr a busnesau dyframaethu a chymunedau lleol, gall y Cynllun gefnogi: (Gall y gweithgareddau y cyfeirir atynt gynnwys gweithgareddau casglu a rheoli data nad ydynt yn orfodol, astudiaethau, prosiectau peilot, rhannu gwybodaeth a chanlyniadau ymchwil, seminarau ac arferion gorau). | 3.1 Cymryd rhan mewn hyfforddiant proffesiynol nad yw'n orfodol, dysgu gydol oes, a meithrin sgiliau proffesiynol newydd, yn enwedig mewn perthynas â rheoli ecosystemau morol yn gynaliadwy, cyrsiau ar arferion pysgota cynaliadwy a gwarchod adnoddau biolegol morol, cydfodoli a/neu gydleoli â gweithgareddau morol eraill a gweithgareddau yn y sector morwrol gan gynnwys iechyd, diogelwch, hylendid a lles. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol, ond rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys. | Nifer y cyrsiau/digwyddiadau wedi’u cwblhau. | Refeniw yn unig |
3.2 Creu neu ddatblygu rhwydweithiau, prosiectau ar y cyd, cytundebau partneriaeth neu gymdeithasau rhwng un neu fwy o grwpiau cymunedol arfordirol a defnyddwyr morol. Caiff cyrff gwyddonol/technegol annibynnol gymryd rhan hefyd. Y diben yw rhannu gwybodaeth, rhwydweithio, rhannu profiadau – gan gynnwys arferion gorau a deialog gymdeithasol ar lefel y DU, lefel Cymru, lefel ranbarthol neu lefel leol sy'n cynnwys defnyddwyr y môr, pysgotwyr a busnesau dyframaethu, partneriaid cymdeithasol, datblygiadau cymunedol arfordirol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng y rhywiau a rôl menywod yn y sector a'i gymunedau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol, ond rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys. | Nifer y rhwydweithiau wedi’u creu neu eu datblygu er mwyn rhannu gwybodaeth.
Nifer y cytundebau partneriaeth, cymdeithasau neu brosiectau ar y cyd wedi’u creu er mwyn rhannu gwybodaeth. | Refeniw yn unig | |
3.3 Hyrwyddo diogelwch galwedigaethol ac amodau gwell yn ychwanegol at y gofynion statudol sylfaenol. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol, ond rhaid i unrhyw hyfforddiant a ddarperir gael ei gynnal gan gorff cymwys. | Gostyngiad yn nifer yr anafiadau neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â gwaith (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Refeniw yn unig | |
3.4 Darparu, creu a datblygu hyfforddiant proffesiynol nad yw'n orfodol, yn enwedig hyfforddiant sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r canlynol: rheoli ecosystemau morol yn gynaliadwy, cydfodoli a/neu gydleoli â gweithgareddau morol eraill, diogelwch, iechyd a lles, a gweithgareddau arloesol ac entrepreneuriaeth yn y sector morwrol. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i fusnesau sy'n gymwys i ddarparu hyfforddiant. | Nifer y mynychwyr mewn cyrsiau/digwyddiadau ymwybyddiaeth.
| Refeniw yn unig | |
4. Iechyd, diogelwch a lles Er mwyn gwella iechyd, diogelwch a lles ymhlith y sector, gall cymorth gynnwys y canlynol: | 4.1 Ymchwil i gynyddu dealltwriaeth o anghenion iechyd, diogelwch a lles ymhlith y sector morol, pysgotwyr a'r sector dyframaethu a'u cymunedau. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol yn y maes hwn, neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o’r fath. | Nifer yr astudiaethau/adroddiadau wedi’u cyhoeddi. | Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw |
4.2 Hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, gan gynnwys mynd i'r afael ag unigedd a chymorth uniongyrchol ymhlith y sector morol, pysgotwyr a'r sector dyframaethu, gan gynnwys sefydliadau sy'n gweithio gyda'r rhain a'u teuluoedd. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff cydnabyddedig yn y sector cyhoeddus neu breifat sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol yn y maes hwn, neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o’r fath. | Nifer y digwyddiadau wedi’u darparu.
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
4.3 Prynu eitemau cyfalaf anstatudol ac nad ydynt yn orfodol sydd â'r diben o wella iechyd, diogelwch a lles, ar gychod a/neu mewn safle morol dynodedig, pysgodfeydd, safle gwaith dyframaeth. | Nid yw ceisiadau o dan y categori hwn yn cael eu cyfyngu i rai mathau o ymgeiswyr. Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr sydd â rheolaeth / sy’n berchen ar y cychod neu'r safleoedd, neu’n gyfrifol amdanynt.
| Gostyngiad yn nifer yr anafiadau a'r damweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Nifer y gwelliannau i ddiogelwch, iechyd ac amodau gwaith. | Cyfalaf | |
5. Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd Gallai Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi buddsoddiadau i sefydlu seilwaith newydd neu wella'r seilwaith presennol, gan gynnwys porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio a chysgodfeydd, cyfleusterau ar gyfer gwastraff a chasglu sbwriel môr: | 5.1 Cynyddu effeithlonrwydd ynni. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr sy'n rheoli neu'n berchen ar safle neu'n gyfrifol am safle. | Newid mewn effeithlonrwydd ynni (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). Newid mewn effeithlonrwydd tanwydd (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw |
5.2 Cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr sy'n rheoli neu'n berchen ar safle neu'n gyfrifol am safle. | Gostyngiad mewn dalfeydd diangen (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
5.3 Gwella diogelwch ac amodau gwaith. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr sy'n rheoli neu'n berchen ar safle neu'n gyfrifol am safle. | Gostyngiad yn nifer yr anafiadau neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â'r gwaith (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
6. Cynyddu potensial safleoedd dyframaethu Er mwyn cyfrannu at ddatblygu safleoedd a seilwaith dyframaethu, ac i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol y gweithrediadau, gall y Cynllun gefnogi: | 6.1 Gwella a datblygu'r cyfleusterau cymorth a'r seilwaith sydd eu hangen i gynyddu potensial safleoedd dyframaethu a lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol dyframaethu, gan gynnwys buddsoddiadau mewn cydgrynhoi tir, cyflenwi ynni neu reoli dŵr. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i fusnesau dyframaethu’n unig. | Newid mewn effeithlonrwydd ynni (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Cynnydd yng ngwerth gwerthiannau (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Cynnydd mewn lefelau cynhyrchu (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Cyfalaf |
6.2 Prynu offer sydd â'r nod o amddiffyn y ffermydd rhag rhywogaethau ysglyfaethus gwyllt. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i fusnesau dyframaethu neu fusnesau sy'n gweithio ar y cyd â busnes dyframaethu. | Gostyngiad mewn marwolaethau stoc o ganlyniad i rywogaethau ysglyfaethus gwyllt (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Cyfalaf | |
6.3 Buddsoddiadau sy'n arwain at ostyngiad sylweddol yn effaith mentrau dyframaethu ar y defnydd o ddŵr ac ansawdd dŵr, yn enwedig drwy leihau faint o ddŵr neu gemegau a ddefnyddir, neu drwy wella ansawdd dŵr allbwn, gan gynnwys drwy ddefnyddio systemau dyframaethu aml-droffig. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i fusnesau dyframaethu neu fusnesau sy'n gweithio ar y cyd â busnes dyframaethu. | Gostyngiad yn y dŵr a ddefnyddir (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Cyfalaf | |
6.4 Buddsoddiadau neu archwiliadau ynni sydd â'r nod o gynyddu effeithlonrwydd ynni a ffynonellau ynni adnewyddadwy. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i fusnesau dyframaethu neu fusnesau sy'n gweithio ar y cyd â busnes dyframaethu. | Newid mewn effeithlonrwydd ynni (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Nifer yr archwiliadau wedi’u cynnal.
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
7. Mesurau marchnata
| 7.1 Dod o hyd i farchnadoedd newydd, cynnal ymchwil i'r farchnad, arolygon ac astudiaethau a gwella'r amodau ar gyfer rhoi cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu ar y farchnad. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr nad ydynt yn Gorff Sector Cyhoeddus nac yn Gorff Trydydd Sector nad yw’n elusen. | Cynnydd mewn elw net (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Refeniw |
7.2 Cynyddu ansawdd a gwerth ychwanegol drwy hwyluso, ardystio, cofrestru a hyrwyddo cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchion o bysgota arfordirol ar raddfa fach, a dulliau prosesu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol. | Nifer y cynhyrchion newydd wedi'u hardystio.
| Refeniw | |
7.3 Marchnata cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu yn uniongyrchol, gan gynnwys: datblygu brandiau; deunyddiau marchnata cyfochrog; marchnata ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol, platfformau e-fasnach, cyflwyno a phecynnu cynhyrchion; profi'r farchnad; grwpiau ffocws. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr nad ydynt yn Gorff Sector Cyhoeddus nac yn Gorff Trydydd Sector nad yw’n elusen. | Cynnydd yng ngwerth gwerthiannau (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Refeniw | |
7.4 Cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu a hyrwyddo rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol i hyrwyddo bwyd môr Cymru. • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy, gan gynnwys, ond nid yn unig, mewn digwyddiadau cwrdd â'r prynwyr. • Mynychu digwyddiadau masnach neu ddigwyddiadau tebyg. | Nid yw ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i ymgeiswyr penodol. | Nifer yr ymgyrchoedd hyrwyddo wedi'u cynnal.
| Refeniw | |
08. Prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu i ychwanegu gwerth a gwella ansawdd y cynnyrch Gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi buddsoddiadau wrth brosesu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu sy'n gwneud y canlynol: | 8.1 Cyfrannu at arbed ynni neu leihau'r effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys trin gwastraff. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
Mae gweithgareddau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'. | Newid mewn effeithlonrwydd ynni (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw |
8.2 Gwella diogelwch, iechyd ac amodau gwaith. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
Mae gweithgareddau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'. | Gostyngiad yn nifer yr anafiadau neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â'r gwaith (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
8.3 Cefnogi prosesu dalfeydd o bysgod masnachol nad ydynt yn addas i'w bwyta gan bobl, gan gynnwys sgil-gynhyrchion sy'n deillio o'r prif weithgareddau prosesu. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i broseswyr cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.
Mae gweithgareddau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'. | Gostyngiad mewn dalfeydd diangen (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Gostyngiad mewn costau gweithredu (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
8.4 Buddsoddiadau sy'n ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd, yn benodol drwy ganiatáu i bysgotwyr brosesu, marchnata a gwerthu eu dalfeydd eu hunain yn uniongyrchol. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i bysgotwyr masnachol, a dim ond os bydd y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato'n cynnig gwelliant amlwg o ran didoli maint pysgod neu o ran yr effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'u cymharu â gêr safonol neu'r offer eraill a ganiateir, y rhoddir cymorth.
Mae gweithgareddau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'. | Cynnydd yng ngwerth gwerthiannau (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
8.5 Buddsoddiadau arloesol ar gychod sy'n gwella ansawdd cynhyrchion pysgodfeydd. | Mae cyllid o dan yr is-gategori hwn yn cael ei gyfyngu ibysgotwyr masnachol.
Mae gweithgareddau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i weithgareddau hyd at, ond heb gynnwys, yr adeg manwerthu a ddiffinir fel 'prynu nwyddau i'w hailwerthu neu ddarparu gwasanaeth gwerth ychwanegol ar adeg eu cynnal fel bwytai, caffis a siopau bwyd brys, gan gynnwys siopau symudol'. | Cynnydd mewn elw net (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
09. Cyfyngu ar effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol ac addasu pysgota i ddiogelu rhywogaethau Er mwyn lleihau effaith pysgota ar yr amgylchedd morol, meithrin arferion sy'n atal dalfeydd diangen a hwyluso manteisio ar adnoddau biolegol morol byw mewn ffordd gynaliadwy, gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi'r canlynol: | 9.1 Buddsoddi mewn offer pysgota sy'n well o ran didoli maint neu rywogaethau. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod sy'n bysgotwyr masnachol neu sy’n dyframaethu'n fasnachol. Dim ond pan na fydd cynnydd yn yr ymdrech pysgota a bydd y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato'n cynnig gwelliant amlwg o ran didoli maint pysgod neu o ran yr effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'u cymharu â’r gêr safonol neu'r offer arall a ganiateir, y rhoddir cymorth. | Newid mewn effeithlonrwydd tanwydd wrth ddal pysgod (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
| Cyfalaf |
9.2 Buddsoddi mewn offer ar gychod sy'n atal taflu pysgod drwy osgoi a lleihau dalfeydd diangen o stociau masnachol, neu sy'n delio â dalfeydd diangen sy'n cael eu glanio. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod sy'n bysgotwyr masnachol neu sy’n dyframaethu'n fasnachol. Dim ond pan na fydd cynnydd yn yr ymdrech pysgota a bydd y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato'n cynnig gwelliant amlwg o ran didoli maint pysgod neu o ran yr effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'u cymharu â’r gêr safonol neu'r offer arall a ganiateir, y rhoddir cymorth. | Gostyngiad mewn dalfeydd diangen (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Cyfalaf | |
9.3 Buddsoddi mewn offer sy'n cyfyngu a, lle bo modd, yn dileu effeithiau ffisegol a biolegol pysgota ar yr ecosystem neu wely'r môr. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod sy'n bysgotwyr masnachol neu sy’n dyframaethu'n fasnachol. Dim ond pan na fydd cynnydd yn yr ymdrech pysgota a bydd y gêr neu'r offer arall y cyfeirir ato'n cynnig gwelliant amlwg o ran didoli maint pysgod neu o ran yr effaith ar yr ecosystem ac ar rywogaethau nad ydynt yn darged, o'u cymharu â’r gêr safonol neu'r offer arall a ganiateir, y rhoddir cymorth. | Gostyngiad mewn dalfeydd diangen (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Cyfalaf | |
10. Diogelu, adfer a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau morol Gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi'r gweithrediadau canlynol: | 10.1 Cynyddu ymwybyddiaeth amgylcheddol, gan gynnwys ymhlith pysgotwyr a defnyddwyr morol eraill, o ran diogelu ac adfer bioamrywiaeth forol. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o'r fath. | Nifer y mynychwyr mewn cyrsiau/digwyddiadau ymwybyddiaeth.
| Refeniw |
10.2 Camau gweithredu gyda'r nod o gynnal a gwella bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem, megis adfer cynefinoedd morol ac arfordirol penodol gan gynnwys eu paratoi a'u gwerthuso’n wyddonol. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff gwyddonol neu dechnegol cydnabyddedig neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o'r fath. | Nifer y cynefinoedd morol ac arfordirol wedi'u hadfer.
| Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
10.3 Ymchwil i rywogaethau yr ystyrir bod diffyg data yn eu cylch a stoc nad oes ganddi gwota, gan gynnwys casglu tystiolaeth dros ddefnyddio pysgodfeydd cynaliadwy. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i gyrff yn y sector cyhoeddus neu breifat sydd ag arbenigedd gwyddonol neu dechnegol, neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o’r fath. | Nifer yr astudiaethau/adroddiadau wedi’u cyhoeddi. | Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw | |
11 Effeithlonrwydd ynni Er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cychod pysgota a chychod morol eraill, gall Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru gefnogi: | 11.1 Buddsoddiadau mewn offer ar gychod sydd â'r nod o leihau allyriadau llygryddion neu nwyon tŷ gwydr a chynyddu effeithlonrwydd ynni cychod pysgota a chychod morol eraill. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod sy'n bysgotwyr masnachol neu sy’n dyframaethu'n fasnachol. | Newid mewn effeithlonrwydd ynni (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol).
Newid mewn effeithlonrwydd tanwydd (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Cyfalaf |
11.2 Archwiliadau effeithlonrwydd ynni. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod sy'n bysgotwyr masnachol neu sy’n dyframaethu'n fasnachol. | Nifer yr archwiliadau wedi’u cyflawni.
| Refeniw | |
11.3 Astudiaethau i asesu cyfraniad systemau gyrru amgen a dyluniadau cyrff cychod at effeithlonrwydd ynni cychod pysgota. | Mae ceisiadau o dan yr is-gategori hwn yn cael eu cyfyngu i berchnogion cychod pysgota / dyframaethu masnachol gan gorff gwyddonol/technegol (preifat neu gyhoeddus) neu fusnesau sy’n gweithio ar y cyd â chorff o'r fath. | Nifer yr astudiaethau wedi'u cyhoeddi.
Newid mewn effeithlonrwydd tanwydd (tystiolaeth llinell sylfaen yn ofynnol). | Gall fod yn gyfalaf a/neu'n refeniw |