Yn dilyn y dechrau tawel disgwyliedig i’r Flwyddyn Newydd ym Mhorthladd Caergybi a’r disgwyl i lefelau cludo llwythi godi dros y dyddiau nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa cludwyr i fod yn barod ar gyfer y newidiadau sydd bellach ar waith.
Er mwyn cludo nwyddau o Brydain Fawr i Iwerddon, gan gynnwys o borthladdoedd Cymru, mae angen Hysbysiad Cyn Byrddio (PBN) ar gludwyr oddi wrth Gyllid Iwerddon. Hebddo ni fyddant yn gallu mynd i mewn i’r porthladd i fynd ar y fferi, a byddant yn cael eu gwrthod.
Ers 1 Ionawr mae oddeutu 20% o Gerbydau Nwyddau Trwm wedi cael eu gwrthod ym Mhorthladd Caergybi am nad oes ganddynt y gwaith papur cywir. Gyda’r disgwyl i’r traffig cludo llwythi gynyddu, gallai mwy o gludwyr gael eu gwrthod. Mae rhagolygon gan Lywodraeth y DU wedi rhag-weld y gallai rhwng 40% a 70% o gludwyr gael eu gwrthod mewn porthladdoedd.
Mae cynlluniau wrth gefn ar waith yng Nghaergybi i leihau unrhyw broblemau posibl i’r porthladd, y dref a’r gymuned o ganlyniad i Gerbydau Nwyddau Trwm yn cael eu gwrthod. Bydd cludwyr heb y gwaith papur cywir yn cael eu hailgyfeirio ar hyd y gwrthlif ar yr A55 i gyffordd 4 lle y byddant yn troi i ffwrdd ac yn ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin. Byddant yna naill ai’n cael eu gosod mewn rhes tra y byddant yn rhoi trefn ar eu gwaith papur, neu’n cael eu hailgyfeirio i Barc Cybi.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Wrth gyhoeddi ein cynlluniau wrth gefn ar gyfer Porthladd Caergybi gwnaethom ddweud bod disgwyl i gyfnod y Flwyddyn Newydd fod yn dawel, ar ôl gweld lefel uchel iawn o lwythi’n cael eu cludo drwy’r porthladd cyn y Nadolig. Mae disgwyl i ganol mis Ionawr fod yn gyfnod brig ar gyfer gwrthod Cerbydau Nwyddau Trwm.
“Mae llawer o gludwyr yn barod ar gyfer y newidiadau sydd bellach ar waith o ganlyniad i ddiwedd cyfnod pontio’r UE. Ond, fel y dengys profiadau’r dyddiau cyntaf, yn ôl y disgwyl, nid oedd nifer ohonynt yn barod. Rwy’n annog yr holl gludwyr a chwmnïau sy’n cludo nwyddau o borthladdoedd Cymru i Iwerddon ymgyfarwyddo â’r broses. Dylent sicrhau bod ganddynt Rif Adnabod Hysbysiad Cyn Byrddio cyn iddynt gyrraedd y porthladd.
“Mae ein cynlluniau wrth gefn yno i leihau problemau i’r porthladd ei hun a’r gymuned ehangach. Maent ar waith ac yn barod i gael eu defnyddio yn ôl y galw. Wrth inni nesáu at ganol mis Ionawr byddwn yn cyrraedd adeg brysurach ar gyfer cludo llwythi yn y porthladd. Byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi:
“Rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod y Porthladd a phartneriaid allweddol eraill er mwyn sicrhau symudiadau masnach a thraffig diogel ac effeithlon drwy Borthladd Caergybi, tra’n amddiffyn ein cymunedau lleol.
“O ystyried y cynnydd yn lefelau’r nwyddau a ddisgwylir i gael eu cludo dros yr wythnosau nesaf, rwy’n ategu galwad y Gweinidog i gludwyr baratoi cyn cyrraedd Porthladd Caergybi. Er bod mesurau wrth gefn yn eu lle, rwy’n gofyn i drigolion a busnesau lleol ystyried yr effaith y gallai unrhyw dagfeydd traffig yn ardal Caergybi neu ar yr A55 eu cael ar eu bywydau a’u harferion dyddiol ac iddynt ystyried hyn wrth gynllunio unrhyw deithiau hanfodol.
Mae manylion am sut i greu Rhif Adnabod Hysbysiad Cyn Byrddio ar wefan Cyllid Iwerddon.