Trafnidiaeth

Yn yr adran hon

Sut y caiff hyn effaith ar drafnidiaeth
Teithio
Masnach
Trafnidiaeth Cymru

Sut y caiff hyn effaith ar drafnidiaeth

Mae effeithiau dim cytundeb yn bellgyrhaeddol a bydd pob rhanbarth a gwlad yn y DU yn teimlo’r effeithiau hyn. Gallai amharu’n ddifrifol ar y rhwydwaith trafnidiaeth ac ar wasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Rydym yn cymryd pob cam cymesur i warchod integriti ein system drafnidiaeth os cawn Brexit heb gytundeb gan sicrhau bod ein system drafnidiaeth yn dal i weithredu’n llwyddiannus.

Teithio

Gyrru

Os na chawn gytundeb, bydd gyrwyr o’r DU angen dogfennau ychwanegol i yrru yn yr UE ac AEE . Bydd trwyddedau gyrru’r DU yn dal yn cael eu cydnabod, ond mae’n bosibl y bydd gofyn i rai sy’n rhan o’r cytundeb hwn feddu ar hawlen yrru ryngwladol os ydynt yn gyrru ar y cyfandir i’r dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys cofrestru ôl-gerbydau penodol â’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a chario tystysgrif cofrestru ôl-gerbyd.

Cofrestru ôl-gerbydau ar GOV.UK

Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, mae’n bosibl y bydd angen i yrwyr y DU hefyd gael hawlen yrru ryngwladol (IDP) i yrru yn yr UE ac AEE.

Rhagor o wybodaeth

Gofynion i holl ddinasyddion y DU sy'n gyrru dramor ar GOV.UK
Gofynion ar gyfer gyrwyr masnachol y DU sy'n gyrru dramor ar GOV.UK
Gyrru dramor ar GOV.UK
Hawlenni gyrru rhyngwladol i yrwyr y DU ar GOV.UK
Paratoi i yrru yn yr UE ar ôl Brexit: gyrwyr bws a choets ar GOV.UK
Gyrru yn yr UE ar ôl Brexit: cyfnewid trwydded yrru ar GOV.UK
Gyrru yn yr UE ar ôl Brexit: gyrwyr lorïau a cherbydau nwyddau ar GOV.UK
Cynnal gwasanaethau bws neu goets rhyngwladol ar ôl Brexit ar GOV.UK

O ran yswiriant moduron, mae cyfraith yr UE yn caniatáu i unrhyw gerbydau sydd wedi’u hyswirio mewn un aelod-wladwriaeth gael eu gyrru mewn aelod-wladwriaeth arall. Fodd bynnag, mae angen i gerbydau a leolir fel arfer mewn trydedd wlad – sef yr hyn fydd y DU ar ôl Brexit dim cytundeb - gael “cerdyn gwyrdd” dilys er mwyn i’r yswiriant eu gwarchod.

Er bod y DU yn cyfranogi yn y system hon, bydd yn golygu biwrocratiaeth ychwanegol i yrwyr sydd eisiau gyrru i’r UE ac ynddi; bydd yn rhaid iddynt gario cardiau gwyrdd yswiriant moduron i brofi bod ganddynt yswiriant dilys.

Porthladdoedd

Byddai porthladdoedd mewn sefyllfa fregus iawn os ceir Brexit dim cytundeb.

Mae’r porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’n heconomi, yn anad dim drwy ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i’n cymunedau lleol. Mae unrhyw risg i’w rhedeg yn effeithlon yn peri cryn risg i Gymru gyfan. Mae’r rhan fwyaf o’r risgiau’n ymwneud â’r trefniadau ar gyfer ffiniau – ag archwiliadau diogelwch a thollau. Rhaid i Lywodraeth y DU roi sicrhad y bydd pob cam yn cael ei gymryd i liniaru’r risgiau hyn.

Rydym yn gweithio’n agos â gweithredwyr porthladdoedd, gweithredwyr fferïau, awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU. Yn dilyn y trafodaethau hyn, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gwneud dim archwiliadau ychwanegol ar nwyddau a ddaw drwy borthladdoedd rholio ymlaen rholio ffwrdd o wledydd yr UE mewn senario dim cytundeb yn y tymor byr.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i liniaru effeithiau posibl eraill ar fasnach yng Nghymru, gan gynnwys ystod o ddewisiadau ar gyfer delio ag amhariadau posibl ar gerbydau cludo nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru, yn benodol Caergybi fel y porthladd rholio ymlaen rholio ffwrdd ail brysuraf yn y DU, ar ôl Dyfnaint.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud asesiad o’r senario gwaethaf rhesymol o ran oedi i Gerbydau Nwyddau Trwm, ac mae hwn yn berthnasol i’r holl borthladdoedd fferïau ar draws y DU. Mae nifer o dybiaethau traws-lywodraethol a thrawsadrannol yn sail i’r asesiad hwn, megis yr archwiliadau y gellid eu pennu a pha seilwaith a allai fod wedi’i sefydlu.

Mae’r gwaith modelu yn dangos bod y traffig a gaiff ei oedi yng Nghaergybi yn debygol o gael ei ddal o fewn ffiniau’r porthladd ac mai annhebygol a fyddai’r traffig o orlifo i’r A55.

Fodd bynnag, mae’r gwaith modelu yn seiliedig ar lu o dybiaethau cyffredin y mae cryn ansicrwydd yn eu cylch o hyd, ac maent yn cael eu hadolygu’n gyson. Rydyn ni felly’n sefydlu cynlluniau wrth gefn fel rhan o Grŵp Ymgynghori Strategol Porthladd Caergybi a sefydlwyd y llynedd.

Dewiswyd ac aseswyd safleoedd posibl ar Ynys Môn, gan gynnwys y cyfleuster stopio i loriau, Roadking, sydd mewn lleoliad da, nid oes yno ddim problemau cynllunio ac mae yno eisoes seilwaith addas wedi’i sefydlu. Rydym wrthi’n trafod y manylion â Roadking.

Mae Parc Cybi yn ddewis arall – safle datblygu sy’n eiddo i’r Llywodraeth Cymru yw hwn ac mae yno ddigon o le i 40 o gerbydau HGV.

Fel dewis arall i syrthio’n ôl arno, gellid defnyddio’r A55. Ar draws Ynys Môn, mae gwaith ffordd yn mynd rhagddo pan gaiff lonydd eu cau yn ystod y dydd gan effeithio ychydig iawn ar y traffig. Gellid defnyddio mesurau tebyg, pe byddai hynny’n angenrheidiol er nad yw’n debygol, ac i ddelio â nwyddau cludo sy’n cael eu hoedi yn y porthladd.

Cynlluniau i leihau problemau ym Mhorthladd Caergybi os na fydd cytundeb ar Brexit

Dim ond os na fydd cytundeb y byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Os bydd cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ac os llwyddir i ymadael â'r UE mewn ffordd drefnus, ni fydd angen y cynlluniau hyn.

Os na fydd cytundeb, bydd nwyddau o'r DU yn cael eu trin fel pe baent yn dod o “drydedd wlad” wrth iddynt fynd i mewn i'r UE, a bydd archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal arnynt yn Iwerddon. Gallai hynny arwain at oedi cyn i fferïau fedru hwylio ac at sefyllfa lle bydd cerbydau’n cronni yng Nghaergybi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn ystod y misoedd diwethaf i geisio sicrhau y bydd cyn lleied o broblemau â phosibl yn y porthladd os na fydd cytundeb. Fodd bynnag, mae yna risg o hyd y bydd rhai problemau wrth symud nwyddau yn y ffordd arferol.

Bydd y cynlluniau yn sicrhau bod lle diogel i gerbydau nwyddau trwm barcio a bod pobl a busnesau lleol yn wynebu cyn lleied o drafferth â phosibl wrth barhau â'u bywydau bob dydd. Byddant hefyd yn sicrhau bod gan yrwyr lorïau le diogel a chroesawgar i fynd iddo ac y bydd cyfleusterau ar gael ar eu cyfer.

Yn ôl dadansoddiad yr Adran Drafnidiaeth, awgrymir nad yw’n debygol y bydd gormod o gerbydau nwyddau trwm yn teithio yn yr ardaloedd o gwmpas y porthladd oherwydd capasiti’r cyfleusterau presennol ym Mhorthladd Caergybi. Fodd bynnag, mae cynlluniau wrth gefn wedi’u paratoi rhag ofn y bydd mwy o oedi yn datblygu.

Mae lle eisoes i 660 o gerbydau nwyddau trwm ym Mhorthladd Caergybi; bydd y cynllun yn darparu mwy o le ar gyfer rhagor o'r cerbydau hynny os bydd angen. Bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael eu cyfeirio i safle gwasanaethau Roadking ym Mharc Cybi, yn agos i fynedfa'r porthladd lle y bydd lle i 175 ohonynt a chyfleusterau lles ar gyfer gyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu parcio di-dâl ar gyfer traffig cludo nwyddau a fydd yn teithio i Ddulyn, a bydd trefniadau rheoli traffig yn eu lle er mwyn cyfeirio'r cerbydau i'r safle heb unrhyw oedi.  Bydd Swyddogion Traffig ychwanegol ar gael unrhyw adeg o'r dydd a'r nos.

Hefyd, bydd modd defnyddio'r ffyrdd o amgylch Parc Cybi os bydd angen, gyda lle ar gyfer 30 o gerbydau nwyddau trwm ychwanegol. Os na fydd yr holl leoedd hyn yn ddigon, mae mesurau wrth gefn ychwanegol wedi'u datblygu - bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael parcio ar gerbytffordd tua'r gorllewin yr A55 yng Nghaergybi (Cyffyrdd Dau i Dri). Dyma'r rhan fwyaf tawel o'r A55 a disgwylir mai ychydig iawn o effaith y bydd yn ei chael ar y cyhoedd wrth iddynt deithio.

O dan amodau ymadael heb gytundeb, bydd opsiynau Roadking a Pharc Cybi ar gael o 12 Ebrill ymlaen a gall opsiwn yr A55 fod ar gael o 3 Tachwedd ymlaen.

O safbwynt Doc Penfro ac Abergwaun, porthladdoedd fferïau eraill Cymru, mae’r gwaith dadansoddi yn dangos y gellid cadw a rheoli cerbydau sy’n cael eu hoedi oherwydd tagfeydd yn Rosslare o fewn ffiniau’r porthladd ac na fyddai unrhyw dagfeydd cynyddol ar ffyrdd cyhoeddus yn sylweddol.  Felly, ni fyddai dim angen am drefniadau wrth gefn ychwanegol. Fodd bynnag, mae’r tybiaethau sy’n sail i’r gwaith dadansoddi unwaith eto’n union gytbwys a chânt eu hadolygu’n barhaus er mwyn ymateb yn gyflym os oes angen i sefydlu mesurau wrth gefn ychwanegol a sicrhau bod nwyddau’n llifo mor ddidrafferth â phosibl rhwng porthladdoedd Cymru ac Iwerddon.

Mae porthladdoedd cynwysyddion, megis Caerdydd, Port Talbot a Casnewydd, eisoes yn delio â chludo nwyddau’n rhyngwladol ac mae’r sefyllfa’n llai tebygol o amharu’n sylweddol arnynt.

Rhagor o wybodaeth

Sut i baratoi os yw’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar GOV.UK
Symud nwyddau i'r UE ac oddi yno drwy borthladdoedd rholio ymlaen rholio ffwrdd neu Dwnnel y Sianel ar GOV.UK
Pecyn cyfathrebu: porthladdoedd llongau cludo cerbydau ac Eurotunnel os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb (Saesneg yn unig) ar GOV.UK - mae deunyddiau i helpu rhanddeiliaid i hysbysu eu cwsmeriaid ynghylch newidiadau mewn porthladdoedd llongau cludo cerbydau ac Eurotunnel os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb.
Cynlluniau porthladd Caergybi ar gyfer Brexit heb gytundeb: cwestiynau cyffredin

Gwasanaethau awyr

Mae’r UE wedi cynnig rheoliadau i barhau â’r hediadau uniongyrchol presennol rhwng yr UE a’r DU am 12 mis ar ôl y diwrnod gadael. Fodd bynnag, mesur i gau bwlch yw hwn a chytundeb elfennol iawn ydyw. Gallai gweithredwyr y DU golli’r gallu i weithredu hediadau i’r UE ymlaen i gyrchfan arall, boed honno yn Ewrop ai peidio, ac ni fyddant yn gallu sefydlu llwybrau newydd na chynyddu eu gwasanaethau ar y llwybrau sy’n bodoli eisoes.

Gallai hyn gael effeithiau pwysig a negyddol ar deithwyr busnes a hamdden o Gymru a’r DU ni waeth o lle maent yn teithio.

Mae’r maes awyr yn barod ar gyfer yr holl bosibiliadau, a bydd yn dal i wasanaethu cwsmeriaid drwy gynnig gwasanaethau pleserus, effeithlon i gwsmeriaid ynghyd â rhwydwaith llwybrau eang. Bydd yn dal i gefnogi cwmnïau awyrennau sy’n bartneriaid, gweithio ag asiantaethau gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth, Llu Ffiniau’r DU a Llywodraeth Cymru i geisio cyfleoedd newydd i ddatblygu busnes y maes awyr drwy gydol yr amser ansicr hwn.

O ran effaith Brexit heb gytundeb ar Faes Awyr Caerdydd, gellid gweld newidiadau sylweddol yn y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar waith, yn enwedig y ffordd y caiff teithwyr sy’n cyrraedd i mewn i Gymru eu prosesu wrth ffin y DU. Gallai’r newidiadau hyn arwain at gryn oedi wrth ddesgiau archwilio pasbortau ac effeithio ar brofiad cwsmeriaid drwyddo draw.

I liniaru’r posibilrwydd hwn mae’r Maes Awyr wedi gweithio â Llywodraeth Cymru i gaffael e-Gatiau Pasbort â’r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn caniatáu i deithwyr sydd â phasbortau DU biometrig gael eu prosesu’n awtomatig. Bydd y prosiect hwn yn arwain at wneud Ffin y DU yn llawer cadarnach.

Rhagor o wybodaeth

Hediadau i'r DU ac oddi yma os ceir Brexit heb gytundeb ar GOV.UK

Gwasanaethau awyr o’r UE i’r DU mewn sefyllfa o ddim cytundeb ar GOV.UK

Teithio gyda’ch Anifail Anwes

Os ydych am fynd â’ch anifail anwes dramor, bydd gofynion a dogfennau iechyd ychwanegol os bydd Brexit heb gytundeb. Bydd rhaid trafod y paratoadau hyn o leiaf bedwar mis cyn ichi deithio. Mae’r gofynion ychwanegol yn cynnwys:

  • prawf gwaed a brechiad rhag y gynddaredd
  • tystysgrif iechyd
Rhagor o wybodaeth

Teithio i Ewrop gydag anifeiliaid anwes ar ôl Brexit (Saesneg yn unig) ar GOV.UK

Masnach

Gweithdrefnau tollau

Gweithdrefnau tollau os yw’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb (Seasneg yn unig) ar GOV.UK - prosesau tollau symlach ar gyfer busnesau’r DU sy’n masnachu â’r UE os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.
Cludo nwyddau allan o’r DU ar y ffyrdd: cam wrth gam (Saesneg yn unig) ar GOV.UK - sut i gludo nwyddau yn fasnachol os ydych yn gyrru o’r DU neu drwy Ewrop.

Cludo nwydda

Mae Brexit heb gytundeb yn peri risgiau ychwanegol i gludo nwyddau ar y ffyrdd, oherwydd y gallai cwympo’n ôl ar y system hawlenni rhyngwladol roi cyfyngiadau difrifol ar weithredwyr sy’n symud nwyddau ar draws y ffin rhwng y DU a’r UE oherwydd bod y galw yn debygol o fod yn fwy na’r cyflenwad. Gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y diwydiant yng Nghymru a’r busnesau a wasanaethant. Fodd bynnag, mae’r UE a’r DU yn cytuno i atal dros dro (am 9 mis) yr angen i gael hawlen er mwyn gallu trafod cytundebau dwyochrog. Bydd cwmnïau cludo a leolir yng Nghymru felly yn gallu gweithredu yn y UE tan o leiaf y flwyddyn nesaf pa un a oes ganddynt hawlenni ai peidio.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio drwy’r Cymdeithasau Trafnidiaeth Cludo Nwyddau a Chludo Nwyddau ar Loriau i sicrhau ein bod yn deall pryderon ac anghenion cwmnïau cludo Cymreig a sut gallwn helpu i roi sylw i’r rhain y tu hwnt i’r flwyddyn hon os oes angen.

Rhagor o wybodaeth

Mewnforio ac allforio os yw'r DU yn gadael yr UE heb fargen ar GOV.UK
Cludo nwyddau allan o'r DU ar y ffyrdd os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb: rhestr wirio i gludwyr ar GOV.UK
Cludo nwyddau yn rhyngwladol ar y ffyrdd ar ôl Brexit ar GOV.UK
Trwyddedau cludo nwyddau rhyngwladol ECMT ar GOV.UK

Trafnidiaeth Cymru

Os ceir Brexit heb gytundeb, mae gan ein rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru gynlluniau ar waith i weithredu fel arfer o’r diwrnod cyntaf, gyda llawer o gynlluniau eisoes ar waith i leihau’r effeithiau posibl. Yn yr un modd, rydym yn gweithio’n agos â phartneriaid eraill, megis porthladdoedd fferïau a gwasanaethau cyhoeddus eraill i sicrhau bod unrhyw effaith bosibl yn cael ei chyfyngu cyn belled â bo modd. Rydym yn cyfranogi’n llawn yn holl weithgareddau cynllunio a chydlynu perthnasol y llywodraeth i sicrhau ein bod yn hollol barod.

Fel llawer o gyflogwyr, rydym yn ystyried yr effaith bosibl a gaiff senario Brexit heb gytundeb ar ein pobl, ac er bod y mwyafrif helaeth o weithwyr Trafnidiaeth Cymru a’i gyflenwyr yn breswylwyr yn y DU, rydym yn dal i weithio i sicrhau’r gweithwyr nad ydynt yn byw yn y DU, y gallai’r newidiadau posibl effeithio arnynt.

Rydym yn gweithio’n agos â’n cadwyn gyflenwi i ddeall yr effaith bosibl ar fewnforio rhannau ac yn benodol sut gallai hyn effeithio ar y gwaith o gynnal a chadw ein trenau. Er bod y rhan fwyaf o’n fflyd bresennol yn hanu o’r DU ac ychydig iawn o rannau sydd angen eu mewnforio, mae angen mewnforio rhannau o Ewrop ar gyfer elfennau o’n fflyd, a nod ein cynlluniau paratoi yw lleihau effaith unrhyw oedi yn y broses bresennol hon. Heblaw am gerbydau trên, mae rhai cyflenwyr eraill yn cyrchu o Ewrop ac rydym yn gweithio i leihau effaith newidiadau yn y broses fewnforio ar y cyflenwyr llai hyn sy’n dal yn bwysig er hynny.

Cydweithredu â gweithredwyr fferïau

Mae gan Trafnidiaeth Cymru eisoes drefniadau ar waith i sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau fferïau yr amherir arnynt yn teimlo cyn lleied o effaith â phosibl. Os bydd teithwyr yn methu cysylltiadau fferïau oherwydd oedi ar y rheilffyrdd, byddwn yn gwneud trefniadau amgen addas, gan gynnwys lletyau dros nos posibl a chyfleusterau lles priodol. Os caiff unrhyw oedi i fferïau ei hysbysu drwy ein prosesau sefydledig, byddwn yn gweithio â gweithredwyr fferïau i ddarparu gwybodaeth i deithwyr trenau cyn ac yn ystod siwrneiau trenau, drwy gyfrwng sianelau amryfal, gan gynnwys platfformau ar-lein, cyhoeddiadau ar y trên a drwy gyfrwng staff gorsafoedd.

Os rhoddir digon o rybudd ymlaen llaw, byddwn yn cynghori teithwyr trenau i beidio â theithio, gan roi iddynt y cyfle i wneud trefniadau eraill gyda’r gweithredwyr fferïau. Os amherir ar wasanaethau fferïau a bod y cysylltiadau trên yn cael eu methu, byddwn yn gweithio ar y cyd â’r gweithredwyr fferïau i sicrhau bod trefniadau teithio ymlaen y maent yn gyfrifol am eu trefnu, yn cysylltu â gwasanaethau trên amgen mewn lleoliadau megis Abertawe a Chaergybi.

Nesaf: diogelu data >