Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn annog rhieni a gofalwyr i gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael gwybod a ydynt yn gymwys am Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cronfa Llywodraeth Cymru, sydd wedi dyblu i dros £5 miliwn eleni, yn cefnogi teuluoedd â chostau gwisg ysgol a chit chwaraeon, a chyfarpar gweithgareddau a gynhelir yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

Mae'r grant yn ganolog i ymrwymiad y Gweinidog i gael gwared â rhwystrau i ddysgu a sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bob plentyn a pherson ifanc. Drwy dargedu plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, y nod yw helpu'r teuluoedd hynny sydd angen y cymorth mwyaf gyda'r costau hyn.

Mae datganiad y Gweinidog yn cyd-daro â chyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch polisïau gwisg ysgol ac edrychiad; rhan o gynlluniau ehangach i leihau cost y diwrnod ysgol.

Dywedodd Kirsty Williams,

"Ni ddylai unrhyw ddisgybl golli cyfleoedd o achos ei amgylchiadau a'i gefndir personol. Fe ddylai pob dysgwr gael ei annog i anelu'n uchel a chael ei gefnogi i gyflawni ei amcanion.

"Nod y gronfa yma yw helpu i fynd i'r afael â'r anfantais fwy y mae dysgwyr yn ei hwynebu, yn syml iawn am nad ydyn nhw mewn sefyllfa ariannol i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgwricwlar, cyfoethogi ac ar ôl ysgol."

I gael gwybod mwy am gymhwysedd a sut i wneud cais am y grant hwn, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.