Heddiw, cefais gyfarfod â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Michael Gove, o Lywodraeth y DU, i drafod yr wybodaeth ddiweddaraf am y straen newydd o’r coronafeirws.
Rydym yn gwybod bellach bod y straen newydd hwn yn llawer mwy heintus ac yn lledaenu'n gyflymach na'r un gwreiddiol.
Bydd llawer ohonoch chi wedi clywed y Prif Weinidog y prynhawn yma yn nodi'r patrwm trosglwyddo yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr, sydd wedi'i gysylltu â'r amrywiad newydd hwn ar y coronafeirws.
Mae hyn yn hynod gyson â’r cynnydd cyflym yn y trosglwyddo yng Nghymru a'r cyfraddau uchel o achosion rydym wedi’u gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod y straen newydd yma’n bresennol ledled Cymru.
Drwy gydol yr argyfwng iechyd y cyhoedd, bu'n rhaid i ni ymateb ar frys i'r newidiadau cyflym, sydd wedi bod mor nodweddiadol o’r coronafeirws.
Mae heddiw wedi bod yn un o'r dyddiau hynny lle mae gwybodaeth newydd wedi gofyn am ymateb ar unwaith.
Y prynhawn yma, cyfarfu'r Cabinet i drafod y datblygiad newydd pryderus hwn yn y pandemig ac i glywed y cyngor diweddaraf gan ein huwch gynghorwyr meddygol a gwyddonol, gan gynnwys yr effaith ar ein GIG.
Mae'r sefyllfa'n eithriadol ddifrifol. Ni allaf orbwysleisio hyn.
Felly, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd i gyflwyno'r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar yn gynt yng Nghymru, yn unol â'r camau sy'n cael eu cymryd yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr.
Daw'r cyfyngiadau newydd hyn i rym o hanner nos heno yn hytrach nag yn ystod cyfnod y Nadolig.
Bydd hyn yn golygu y bydd manwerthu nad yw'n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden a lletygarwch yn cau wrth orffen masnachu heddiw.
Bydd cyfyngiadau aros gartref yn dod i rym hefyd o hanner nos ymlaen.
Yn anffodus, mae'n rhaid i ni hefyd edrych eto ar y trefniadau ar gyfer y Nadolig – ni allwn adael i bobl ddod i gysylltiad â'r risg o'r math newydd, mwy ffyrnig hwn o’r coronafeirws.
Byddwn felly'n newid y rheolau presennol, sy'n caniatáu i ddwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig dros gyfnod o bum niwrnod, fel mai dim ond ar ddydd Nadolig y byddant yn berthnasol.
Drwy gydol y cyfnod lefel rhybudd pedwar, bydd aelwyd un person yn gallu ymuno ag un aelwyd arall.
Er ein bod ni i gyd eisiau osgoi tarfu pellach ar fusnesau a chynlluniau ar gyfer y Nadolig, ein prif ddyletswydd ni yw diogelu bywydau yma yng Nghymru.
Rydym yn gwybod y bydd 2021 yn flwyddyn wahanol a gwell.
Bydd ein heconomi'n adfer.
Bydd y Nadolig yn dod eto.
Ond mae bywydau sy'n cael eu colli’n cael eu colli am byth.
Mae'r straen newydd yma o'r feirws yn elfen annisgwyl a difrifol arall yn y pandemig hirdymor hwn.
Bellach mae gennym ni bandemig o fewn pandemig, argyfwng o fewn argyfwng.
Mae'n her arall y mae'n rhaid i ni ei goresgyn. Ond un y byddwn yn ei goresgyn gyda'n gilydd.
Byddwn yn parhau i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid a, gyda'n gilydd, byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch yn fawr iawn i chi gyd.